Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Colofn y Plant. I

! "Y Darian " mewn Cylch j…

Advertising

Siop Dafydd Ap Huw. I

Y diweddar Mr Thomas | Roderick,…

Seven Sisters.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Seven Sisters. I Wyddwn i ddim hyd yn ddiweddar mai gwin enw'r lie uchod yw Blaen- dulais. Gresyn fod enw arall wedi disodli hen enw mor dlws a phersain. Gelwir y pwll glo yn Seven Sisters am mai saith chwaer, merched i'r di- weddar Mr Be van, y perchennog, o Gastell Nedd, dorrodd y dywarchen gyntaf pan yn dechreu cloddio'r pwll. Tybed nad allai Cymry gwlad- gar Blaendulais adfer yr hen enw eto ar y lie. Cryn son sydd am y Co-op. yma'r dyddiau hyn. Sicrhâwyd tir i adeiladu ychvdig allan o'r lie. Y mae tipyn o amheuaeth yn codi yn fy meddwl i parthed doethineb y symudiad hwn. Wrth gwrs, y mae'r egwyddor gyd- weithredol yn iawn, ond beth am fas- nachwyr y lie ? Gallai llawer o honynt hwyn ddioddef yn dost, ac ni ddaw iawn iddynt am y golled o unlle, er nad yw yn rhy dda arnynt yn barod, fe ddichon. Y mae cystadleuaeth yn eu gorfodi i werthu'n bur rad, ac y mae talwyr drwg yn eu colledu'n drwm. Pan gymerir ymaith drwydded tafarn digolledir y perchennog a'r tafarnwr a phawb. Y mae colli trwydd- ed yn ennill i'r rhai hyn yn ami iawn. Ond os cyll un fu fasnachwr gonest a pharchus ar hyd ei oes ei fusnes trwy fod siop gydweithredol wedi ei hagor, I ni ddaw iawn iddo ef o unlle am y golled. Y mae'r cwestiwn, o leiaf, yn deilwng o sylw rhai sydd yn son am iawnderau a thegwch.

Advertising

Gohebiaethan. I

Marwolaeth Americanaidd.

Advertising