Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNIJVYSIAD.I

Yo Fan yn Amal.

IAr Lannau'r Tawe.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Ar Lannau'r Tawe. I Treuliodd aelodau Cymdeithas y Bobl Ieuainc, Hebron, amser pleserus a llawen mewn cyfarfod o wledd a chan yn yr Ysgoldy, Clydach, ar noson gyntaf y Flwyddyn Newydd. Daeth lluaws mawr o bobi ieuaint: vnghyd, a gwnaeth y Parch. D Eiddig Jones (gweinidog) gadeirytld hapus. Cyfrannwyd tuag at y rhag- len ddiddorol gan y Meistresai Myfanwy Evans, Maggie Morgan Hannah Williams, a Mri. W. Davit Davies, Richard Jones, Emry:, Thomas, J. Lewis Jenkins, Llewelyn Williams v Edwin Davies, Henry Lewis, Arthur Deer, Arthur Morgan. Brynmor Thomas, D. O. Dees, a* Arthur Davies, a Pharti Hebron. Cynhaliwyd "coffee supper" i aelodau y Cor (arweinir gan y Brawd George Davies) yn Festri Calfaria, Clydach, ar nos y Flwyddyn New- ydd. Dyma'r cyntaf o'r fath, ond hyderwn nad dyma'r olaf, canys da vw cael aelodau'r Cor yn nghyd am auUA-'il noson o fwyn|?.iU y Parch. T. Valentine Evans (gweinidog) y gadair yrty cyfarfod a ddilynodd, a chyfrannodd Mri. David James, David Roderick, James Davies, D. Emrys Davies (ceinion), ac Ivor Jones (adroddiad), a Willie Rees a'i gyfeillion tuag at raglen amrywiaethol. Gwasanaethodd y brawd Willie Rees fel cyfeilydd. Noson hapus iawn oedd. Ar ol oddeutu saith mlynedd o was- anaeth da a theg yn y pentref, cych- wynnodd Police-sergeant Preece o Glydach i Reynoldstone y dydd Gwener diweddaf. Blinder calon oedd gan y bobl ei ollwng ymaith, oher- wydd nas gwelodd Clydach well swyddog hedd yn ystod ei hanes. Ciwnaethom ymdrech deg i'w gadw yn eu plith, ond ofer fu yng ngwyneb penderfyniad Cadben Lindsay, prif heddgeidwad Sir Forganwg. Pa resymau oedd gan y Cadben dros ei symud, nis gwyddom, a hyn sydd yn gwneud y symudiad mor anodd i'w deall ac i'w sylweddoli. Dymunai Jpobl Clydach y goreu i Sergeant Preece, eu hen gyfaill cynes, ar ei ymadawiad o'r cylch lie treuliodd nifer o flynyddau hapus. Darllenwyd bapur diddorol ac han- esyddol ar y testyn, Williams Panty- celyn," gan y Parch. J. Vincent Thomas (Salem, Fardre) yn nghyfar- fod Cymdeithas y Bobl leuainc, Cal- faria, Clydach, a gynhaliwyd yn y Festri nos Fawrth diweddaf. Llywydd y cyfarfod oedd y Parch. T. Valen- tine Evans, a siaradwyd ychydig eiriau o ganmoliaeth gan dau neu dri o'r brodyr oedd yn bresenol. Diolch i Mr Thomas am ei garedigrwydd a'i barodrwydd. Yn Festri Moriah, Ynvstawe, nos Ferchcr diweddaf i gynulleidfa luosog o bobl ieuainc, darllenwyd bapur galluog ac addysgiadol gan y brawd William Phillpott ar y testyn diddor- ol, "Digwyddiadau'r Ganrif." Cym- erwyd y gadair gan y Parch. Thomas Thomas (gweinidog), a dangosodd y brodyr D. H. Lewis ac E. J. Hugh- son eu dawn arferol mewn ychydig sylwadau ar y testyn. Yng nghyfarfod Cymdeithas Ddiw- ylliadol Pobl Ieuainc, Carmel, Clyd- acn, gynhaliwyd yn yr Ysgoldy nos Fawrth diweddaf, darllenwyd papur- au gwerthfawr gan y genethod ieu- ainc Maggie Thomas ar y testyn, "Mair y Forwyn Elsie Reeves ar "Mair o Bethania," a Carrie Rogers ar "Martha o Bethania." Llywyddodd y Parch. J. M. Williams, gweinidog. Canodd y brawd ieuainc Ivor Deer gân swynoI a phriodol. LLEW. LLEW.

Y Lleddf a'r Lion ar LanauI…

Aberdar..I

Advertising

COLOFN LLAFUR. I

Advertising