Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNIJVYSIAD.I

Yo Fan yn Amal.

IAr Lannau'r Tawe.I

Y Lleddf a'r Lion ar LanauI…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Lleddf a'r Lion ar Lanau I y Cynon. GAN COCH Y BERLLAN." I ———— ) Y Nos Olaf. i Lliw'r helyg dros y lloer hwyliai.—oerni I Tew yr hwyrnos ledai, Ac henaint blwyddyn gwynai, ofid trwm am fyd trai. f. Y pegynau pellaf y? m :'Ofiadau bywyd yw y lleddf a'r lion. A tine I lleddf sydd i'r syniad fod y Flwyddyn yn marw," ac yn myned heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd." A nid ysgafn yw y prudd-der i weled ambell un, a llyfr ei fywyd yn cau dan sel yma, ac yntau yn disgwyl yn ddiffael roi ei law ar lyfr blwyddyn newydd, a dechreu troi y dail glan fel arfer. Felly y bu gyda John Lewis, hen Y sgrifenydd y Dosbarth yn y cylch hwn am flynyddoedd pan oedd Dafydd Mor- gan o'r Nant yma yn ei rwysg unplyg. Bu farw bore Llun, Rhagfyr 29ains a dim ond cysgod cystudd, fel tarawiad gwenol gwheydd. Un o arwyr y dyfn- der fu ef am dri ugain mlynedd namyn dwy neu dair, a bu lliw gwaed ar ei brofiad filwaith yn ystod y term yna, gan ofyn gyda yr hen Dom Hood anwyl "0! Dduw, paham mae bara mor ddrud, a chnawd a gwaed mor rhad?" Ond daeth hyd at gareg filldir olaf ei einioes yn fab deng mlynedd a thri ugain ag un. A nid symlyn o lenor oedd ef yn ol ceinder deall, a gallai adrodd wmbredd o len a barddas, a deallai yr athrawiaeth yn ol Dafydd ab Emwnt yn lied glir. Yr oedd yn y llin- ach Iforaidd er blynyddoedd ei ieu- enctyd ,ac aeth un o frodorion hynaf Aberaman dros y gorwel pan gwympodd John Lewis. Rhoed gweddillion y tabernacl y bu ef yn byw ynddo yn y pridd gyda'r cyfnos nawn Sadwrn. Y Parch W. T. Francis, Gwawr, ym- adroddodd ar lan ei fedd fel gwlith ar flwellt a chaftodyejd ai. i)tevvellt. Ilun fw.vn iddo. Y Lion, a Blwyddyn Newydd. I Rhyfedd fel y mae llanw bywyd yn dod i fewn i draethau meddwl y do ieuanc. Ymddigrifai y canoedd yn y cylch yma ar y nos olaf o'r flwyddyn, ac yn cario bore a blwyddyn newydd dda ar eu parabl hyd awr anterth y dydd cyntaf. Yn nghlyw swn yr asbri, yr ymadrodd- ion, a'r canu, agorais lyfr fy adgofion, a synwn wrth. daflu trem yn ol, y cyf- newidiad oedd yn llafar y werin a'u har- ferion. A bu yma gawod o adar boch- goch Cymreig eu greddfau yn gofyn a chael rhyw hatling o galenig i gyd. Ond Seisnig oedd yr ymbiliadau yn ddiball, a bum i yn dysgu rhai o honynt I pa fodd i ofyn am galenig yn Gymraeg. Adgofiwn n dda flynyddoedd gofyn calenig fy hunain, a nos a dydd fflamych- ol disprad oedd hi y dwthwn hwnw ond yr oedd y Gymraeg mor lan ac mor hyawdl a ffrwd y pistyll sydd yn cyfan- eddu rhwng y brwyn a'r rhedyn ar Goedcae Cwmdu. A di-rif oedd y troi- on difyr y bum i yn dilyn yr hen Fari Lwyd" anwyl, ac yn llyncu y doniolwch fel mel. A byddai athrylith y Triban- wyr yn llifo dros yr ymylon, a dawns y Gaseg dan ei rhibanau ar y palmant yn danllyd; ond cyn cyrhaedd drws y Ty Tafarn yr oedd o dan glo caled. Ac wedi mynd trwy dipyn o seremoni crygwrus, dymunid yn daer am aggriad drwy ganu: Yn nawr ini'n darfod canu, Agorwch y drws ini; Mae'n oer i mas i'r Gaseg las, A'i sodlau bron a rhewi." Ond anaml oedd yr agoriad yn rhad iawn, a byddai y twr tu fewn yn gyfartal fel Tribanwyr i'r Marchogion tu allan. A phan y byddai un pistyll yn sychu, byddai pistyll arall yn dechreu rhedeg, ac felly bob yn ail, a hyny am awr Ion lan yn fynych, yn nigrifwch 'Cymru Fu.' Ond y mae y ffurf yna ar athrylith wedi darfod bron o'r tir, a'r mwngreleidd- iwch mwyaf di-esgus a glywais i yn y mywyd wedi blaguro yn ei lie. Aeth ysmaldod digri'r Fari Lwyd yn fud Ond daeth twyll a rhagrith yn ei lie i'r byd; Faint gaiff Cymru ganu maswedd llwythau ffol j Cyn daw deffroadau newydd can yn ol ? Hen Gastelli Cymru—fy N ghaerffili hen, I A'r hen Forlais anwyl a'i fwsoglyd wen Adfail yr hen Fuallt, beth ddywedi di ? A gaiff brad Llywelyn farw gyda ni 1 I Ble mae Cleddyf Arthur 1 Ble mae llais fy nirawd 1 Ble mae ol ei gamrau a'i flodeuog rawd? A gaiff cri dy genedl hollti'r pedwar gwynt ? j Ac i fyw galarnad Morfa Rhuddlan gynt 1 Clywaf ysbryd Arthur yn nramodau'm gwlad, Clywaf dine ei "Darian" yn dod nol i'r gad; Daw ei ysbrydoliaeth eto gyda rhwysg 0 binaclau'r Wyddfa, lawr hyd lanau'r Wysg. Cafwyd phiolaid o lawenydd Eistedd- fodol hwyr y flwyddyn newydd yn Neu- add Aberaman. Y Cynghorwr Sirol Mr Treharne oedd a gofal y gadair, a'r Cynghorwr Dosbarthol Mr. Evan Jones oedd yr arweinydd. Mr. Philyp Rhys, Abercwmboy, yn tafoli y cerddorion, a Mr James Phillips yn tafoli yr adrodd- wyr. Gwladys Jones oedd wrth y ber- doneg, a T. J. Phillips yn ysgrifenydd. Cystadleuaeth benigamp fu ar y canu I a'r adrodd. Rhanwyd y pres rhwng Lizzie Ann James a Mary Phillips ar yr unawd; a D. P. Howells aeth a'r cwpan i'r Porth dan ganu. A. F. Leach a'i gyfeillion aeth a'r prif ddarn. Madog Fycban, Aberhonddu, aeth a'r gadair I am adrodd dan chwiban, a bydd ef yn I cysgodi yma yn fynych i binco ei athrylith ar lanau y Cynon. Cystad- leuydd ysol yw Madog Fychan. Clywch MADOG FYCHAN. I arno yn cerdded i'r lan yn ei rwysg o blith y lladdedigion yn Edom yr Eis- teddfodau y Nadolig "Y r Aelwyd Gym- reig" yn Nghaerdydd, cadair dderw a deugain yn gelain. "A'r llanc oedd yn Jberchen bwa" Llanarthney, cadair dderw, darn adrodd, ac englyn y bradwr a'r tyrchwr, Llanidloes. "Can yr Afon Ithon." Llandrindod. Englyn, Capel Horeb" y Pump Heol, Llanelli. Llin- ellau Coffa, rhanedig, Pontfaen, Bry- cheiniog. Yn ddios gyda fe mae y plufyn perta' yn y Cylch Eisteddfodol am y Nadolig.

Aberdar..I

Advertising

COLOFN LLAFUR. I

Advertising