Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNIJVYSIAD.I

Yo Fan yn Amal.

IAr Lannau'r Tawe.I

Y Lleddf a'r Lion ar LanauI…

Aberdar..I

Advertising

COLOFN LLAFUR. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN LLAFUR. I GAN PEREDUR. t Achos o Lawenydd. I Y brawf o ragoroldeb glo Cymru ac yn wystl rhanol o lwyddiant y flwyddyn newydd, cawn fod cytundeb wedi ei wneyd rhwng Llywodraeth Italy a rhai glo-berchenogion Cymreig am gyflenwad o dros dri chwarter miliwn o dynelli o lo at cfwrpas relwes y Llywodraeth. Gwelir oddiwrth enghreifftiau o'r natur hyn fod glo Cymru o hyd yn dal yn uchel yn ei werth yn ngolwg y byd. Dyfarniad Arglwydd St. Aldwyn. I s Yn mis Awst diweddaf rhoddwyd rhybudd gan y glo-feistri a chynrychiol- wyr y gweithwyr yn Neheudir Cymru eu bod yn anfoddlawn i ddyfarniad Ar- glwydd St. Aldwyn, ar safon yr hiriau, a wnaethpwyd ganddo yn Ngorphenhaf, 1912. Felly cynaliwyd cyfarfod o'r ddwy blaid o dan lywyddiaeth Ar- glwydd St. Aldwyn i ddadleu y gwa- hanol achwyniadau a cheisiadau, a sefyllfa pethau yn gyffredinol mewn cysylltiad a rhestr y Minimum Wage. Codiadau yn Deilwng. I Wedi gwrando ar y dadleuon, pender- fynodd y llywydd yn rhinwedd ei awdur- dod deddfol, i roddi codiad bron yn yr oil o'r achosion a ystyriwyd, ond nid i'r graddau a ofynwyd gan y gweithwyr. Cafodd y colliers, coedwyr, reparwyr, a ripwyr godiad o un geiniog yn eu safon, a'r holl weithwyr yn y safonau iselaf, godiad o ddwy geiniog y dydd. Haliers a Bechgyn 14-2 L Oed. I Yr oedd yr haliers nos a thramwrs i gael codiad o geiniog y twrn, a bechgyn o dan 141 oed i gael dwy geiniog yn llai nag oedd yn cael ei ganiatau yn y dy- farniad hlatmorof. Peivderfynwyd hefyd ar safonau i amryw ddosbarthiad- au na phenderfynwyd arnynt o'r blaen. Gwnawd hefyd ychydig welliant ar delerau talu y minimum mewn achosion o golli gwaith. 0 hyn allan, os bydd gan weithiwr wythnos lawn o waith, bydd ganddo hawl i un diwrnod o seib- iant yr wythnos ddilynol, heb berygl o golli y minimum wage rate am yr amser y bydd wedi ei weithio. Y mae y dy- farniad yn ffafriol i raddau i'r gweith- wyr. A Oes Achos Diolch? I Ond o gymharu taliad a chodiad y gweithwyr a chynydd derbyniadau y perchenogion mewn dividends, nid oes achos diolch o gwbl am ddyfarniad Ar- glwydd St. Aldwyn, ond yn hytrach gweddio ar Dduw am ledaeniad mwy cyffredinol o egwyddorion cyfiawnder a brawdgarweh, fel y gall y gweithwyr dderfcyn yr hyn a gynyrchant yn onest, heb fod yna law gyfalafol yn dwyn mwy na haner eu cynrch, a hwythau yn gor- fod derbyn yr ychydig a gant yn fwy fel cardod nag enillion gwirioneddol eu llafur eu hunain. Swm y Codiadau. I Dywed ysgrifenydd yn un o'r papurau hwyrol fod nifer y gweithwyr sydd yn cael dwy-geiniog o godiad yn fwy lluos- og o lawer na'r rhai sy'n cael dim ond ceiniog. Golyga'r dyfarniad godiad uniongyrchol o 117 yr wythnos i dros 12,000 o weithwyr, a symiau llai o god- iad i tua 10,000 arall. Y dosbarth o weithwyr a enilla fwyaf yn y dyfarniad ydynt y labrwyr. Swllt a Saith. I Dyna fodd i bob ysmociwr i gael un chwarter o dybaco yn fwy, ond iddo weithio bob dydd. A'r sawl nad yw yn smocio, wel, gall osod y swllt a saith yn y Post Office, ac yn mhen chwe' mis, yn nhymor yr haf, bydd ganddo y swm ardderchog o 21 18s. i'w helpu i dreulio pythefnos neu fis yn nwr y mor. Pris y Clo. I Dywedir fod pris y glo a werthir i Italy i fod yn 16/6 y dynell ar fwrdd llong, yr hyn sydd ychydig yn llai na'r pris sydd wedi ei dalu am yr un math o lo yn y tymor diweddaf o werthu. Yn awr, dyweder fod y colier yn cael 4s. am bob tynell a dorir, dyna 12/6 ar ol i ofynion eraill. Beth yw y gofynion hyny ? Y cludiad i'r porthladd dros y relwe, trafodiad y docks, etc. Pwy ydyw perchenogion y relwes ? Pwy ydynt berchenogion y docks 1 Yr un rhai ag sydd yn berchenogion ar y gweithfeydd glo. Felly y mae eu elw yn cael ei fedi oddiar lafur y glowr, y gweithiwr relwe, a'r gweithiwr ar y dock. I'r hwn y mae ganddo y rhoddir iddo o bob cyfeiriad, tra nad oes gan y gweithiwr druan ddim ond llafur ei gorph ei hun yn gyfrwng i enill angen- rheidiau bywyd iddo ef a'i deulu. Ac er taw ei lafur ei hunan yn unig sydd ganddo i'w gynyg, nid oes sicrwydd. iddo y ca ddefnyddio hwnw, heb fod yn ddarostyngedig i ryw gyfalafwr sydd mewn angen am ddwylaw i weithio ar ryw waith yn debyg o ddwy 11 elw. Anrhvdeddusiau y Flwyddyn Newydd. Nid oes enw yr un o'r gwroniaid fu yn anturio eu bywydau yn yr olosgfa yn Senghenydd ar y rhestr newydd o'r dyn- ion y mae y Brenin wedi gweled yn dda eu hanrhydeddu gyda theitlau ar ddech- reu y flwyddyn newydd yma. Beth ydynt y cymhwysderau angenrheidiol er cael cydnabyddiaeth fel hyn gan y Brenin ? Dyddorol iawn, yn ddiamheu, fyddai edrych i mewn i deilyngdod Y mwyafrif o'r dynion hyn, a barnu odùi- wrth hyny, syniadau a thueddiadau yr awdurdodau sydd wedi eu cymeradwyo i'r dyrchafiad. Nid yw y Brenin, dru- an, yn gwybod nemawr i ddim am neb o honynt, ond fel y maent wedi eu cymer- adwyo iddo. Fy nghydweithwyr, prof- wch yr ysprydion. Ai o —— y niaent, neu o -—1 Agent y Minimum Wage. Da gennym weled fod Gweithwyr Glofeydd Cwmaman, Aberdar, yn trefnu i apwyntio swyddog neillduol i'w gwas- anaethu fel "exaniiner" yn unol a'r hawl roddir o dan y Mines Regulation Act, ac i weithredu hefyd ar eu rhan ff-I Minimum Wage Agent. Dyma yr ail swyddog o'r fath (ar ol yr apwyntiad hwn) fydd yn Aberdar, ac o ran hynny. drwy y wlad i gyd. Y mae apwyntiad y Cynghorwr E. Stonelake yng nglofeydd y BwUfa wedi troi allan yn llwyddiant mawr i'r gweithwyr mewn amryw ag- weddau yn arianol a iechydol. Dymun- wn yr unrhyw lwyddiant eto i weithwyr Cwmaman,

Advertising