Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
You can Save Five Pounds per Minute by Reading this Advertisement, and by then placing your order for a Pianoforte or Organ in the hands of this well-known old-established Firm, for as they are not solely dependent upon the Sale of ftisical Instruments, they can supply you far and away below the usual music-warehouse prices!! Every Piano is warranted Ten Years Hundreds of Testimonials Cash or generous arrangements for Credit! Delivery Free 200 miles Catalogues gratis & po: free BEVAN & Co., Ltd., Pontypridd, Cardiff, Swansea, &c.  11 A Splendid Overstrun g ii Magnificent "The Marvel Handsome "alnut "The PrincipaHty, Hund.reds Sold. "The Brighton 9 A. Splendid Overtrung "The K)na" Magnifi.cent Case, 15 GUineas. 28 GUineas. PIano. 35 GUineas. 40 GUineas. -=-=- -.1- -=.=: Furniture for the Million at rock-bottom prices! BEVAfl & Co., Ltd., Wales' Largest Furnishers, Pianoforte & Organ Ijercljants.
Beirniadaeth.I
Beirniadaeth. I EISTEDDFOD Y DDRAMA YM I MERTHYR. Gan y Parch. D. Bassett, Aberdar. PARTI TRECYNON. I Eluned Gwyn Owen." Agoriad eithriadol dda. Yr am- gylchion yn brydferth, a'r brad natur- ioled ag anadlu. Actiai Ifan, Scriw a Stowt y Tafarnwr yn rhagorol. Nid oes hafal i gan, pill, ystum, a goslef yr Hen Grwydryn. Golygfa'r Heol yn fyw o ysbryd y drama. Tyner oedd stori'r ty, a dwys oedd yr ymadaw- iad. Dywedodd y Crwydryn frawdd- eg wrth gyfarch Owen gyda'r fath arddeliad nes gyru aeth i galonau'r dyrfa-" Bydd wedi ysbeilio'r diafol o hanner ei deyrnas cyn ben wythnos ar ol iddo fyned i uffern." Dyma ergyd gore i'r dramodwr. Golvgfa i'w chofio oedd Owen yn nhy Thomas Scriw. Nid llai diddorol ac apeliadol oedd y newydd o faes y gwaed am gwymp Ifan, a syrthiad Eluned yn y ty, ac Owen a'i galon ddwys yn dal anadl yr amgylchiadau, a threfnu diogelwch Myfanwy fach. Hwyrach y gallasai'r cynllun am ddyogelu Myfanwy gael ei weithio allan yn well. Yr oedd Thomas Scriw a'i fab yn dal anadl y dorf wrth ffugio marw, a newid yr enw, a'r seiri yn fyw o yspryd y ddrama. Gwnaed golygfa'r ffarm yn ar- dderchog, a Wil a Gruff yn coroni'r cwbl. Ceid pob ystum, goslef, a symudiad yn berffaith, a'r olygfa yn fyw o naturioldeb drwyddi. Eitha naturiol oedd Myfanwy, a'i safiad dros burdeb a gonestrwydd yn y Siop, a Wil yn actiwr penigamp wrth hawlio'r newid. Nid Ilai ei allu oedd y Siopwr, pan gofiom anhawsder y cymeriad gwael a gynrychiolid gan- ddo. Gwnaed y rhanau cynhyrfus hyn gydag.aroetiad teilwng o yspryd drama'r cyfnod. Llednais a byw yw cyfarfyddiad y Crwydryn a Myfanwy. Yn wir y mae Myfanwy lawned o ys- pryd y drama, nes y gogleisia serch a chalon y dorf a'i beirniaid, ac nid gwaith hawdd yw hyny weithiau. Doniol oedd Wil a Gruff gyda'r "llythyr glas," a Gruff yn smart gyda'r trie direidus. Rhagorol oedd y garwriaeth. Doniol oedd tact Myfanwy, yn ogystal a min ei gwatwareg a'i symudiadau di- reidus. Er caletad oedd gwaith Jenkin daeth allan yn rhagorol, yn arbennig pan ddadguddiodd yspryd y filain at yr Hen Grwydryn ar y ffordd. Daeth pwynt y ddrama i'r golwg yn yr ysgarmes yn nhy Thomas Scriw, y br&d yn cael ei ddadguddio, y gyfraith yn dal y troseddwr, a'r trysorau a gollwyd yn cael eu had- feryd, trwv wroldeb a gonestrwydd Mrs Scriw yn tystiolaethu i'r gwir- ionedd a'r anfarwol Grwydryn. Perfformiad arddcrchog o un o'r dramodau caletaf yn y gystadleuaeth. PARTI SILOA ABERDAR. I Ystori'r Streic. Agoriad gogleisiol. Pob cymeriad a'i lond o hud, ond mewn tymheredd wahanol. Egyr y digri'n dda ac i bwynt y drama. ACT I.— Golyfa'r I. I Ymsynia Mavis yn dda, ac edrydd Mari ei stori yn ddwys, gydag acen deilwng o natur ei ffydd, a dylanwad ei chrefydd. Gwnaed y digri yn gryf ac awgrymiadol. Golygfa'r 2. Ceir dau gymeriad hollol wahanol yn hon, a gwna'r ddau eu gwaith yn deilwng. Caed yma olwg ar onest- trwydd a diniweidrwydd y naill, a dichell y Hall. Anodd cael gwell por- tread. Daeth y ddirprwyaeth i fewn yn naturiol, a Gruffydd Elias yn cyfleu ei feddwl felnieistr ar ei waith. Dichon y buasai tipyn bach mwy o foneddigrwvdd a thact yn y gweddill vn fwv effeithiol, ond mater o chwaith yw hynny. Rhagorol oedd y digri a chyhoeddi "Cwrdd y Streicwyr." Dyma gaffael- iad i'r ddrama, a disgwyliwn am dano. Hawdd gwella ar gyfansoddwyr, hyd yn oed ein dramodau gore. Derbynir yr awgrym. Golygfa'r 3. Cwrdd teilwng o weithwyr-ysbryd y streic ac yspryd y ddrama yn gyn- hyrfus. Bai'r cwrdd, os bai hefyd, oedd gormod o godi dvrnau, a rhy fach o agor ac estyn Haw, ond rhaid eofio mai "Cwrdd Gweithwyr" ar y Streic" ydoedd. ø Golygfa'r 4. Yr oedd Mavis a'r ddirprwyaeth yn dda, a'r babi yn ardderchog. Lled- nais a byw i'r amgylchiadau oedd William Thomas, a Mari yn taflu heul- wen i'r caddug yr amgylchiadau. Cryf a byw oedd dadl Gwilym Goch a Dafydd Jones. Dichon y gallasai Dafydd daflu mwy o ysprydiaeth i'r amgylchiadau gyda'r frawddeg, "Dyna brawf i chi, Mavis," fod y plentyn yn deall y cwbwl." Gwnaeth Gruffydd Elias y cyflwyniad yn odidog. i ACTH.—Golygfa i. Actiai Symonds y filain yn rhagorol, ond collai Davies ambell air gyda'r scamp oedd yn ei ddal yn y fagl; etto, dichon mai rhagoriaeth ydoedd hynny i lawn bortread o'r cymeriad. Dal- iodd William Thomas ei dir yn y pridd, a gwelwyd ynddo'r gwron aeth yn ferthyr i nwyd a dialedd y filain. Gwnaed y digri yn ddigri iawn, ond i bwrpas. Golygfa'r 2. Byw a theimladwy iawn. Golygfa'r 3. Ystafell ranedig dda. Pob peth yn ei le i'r fantais ore. Gwr llawn o hunanfeddiant yw Dr. Rees. Gellid gwnaed hon yn angherddolach, pe na ruthrid cymaint. Cawsid gwell man- tais felly i daflu mwy o enaid iddi, a dal anadl y dorf. Golygfa'r 4. Rhagorol iawn. Dr. Rees yn ar- ardderchog. Ei hunanfeddiant yw grym yr olygfa. Golygfa'r 5. Mae gwisg ac ymddangosiad Mr. a Mrs. Wynn yn deilwng o'r am- gylchiadau, a Master Tom yn chwareu a'i dois bach naturioled a'r un plentyn fu wrth fwrdd erioed. Mae'r ymgom yn naturiol, a Mrs Wynn yn taro nodyn ucha'r drama wrth ddifyru'r plentyn a chofleidio ei phriod. Golygfa'r 6. Naturiol, dwys, ac awgrymiadol iawn drwyddi. Daeth y .digri wedi prudd-der yr angladd yn ardderchog, ac yn drobwynt newydd i'r ddrama. Rhagorol, fechgyn. Dyma arwyddion meddylgarwch. Golygfa'r 7. Carwriaeth ragorol, a chusan gysegrediced, nes herio nwyd ac arfer gwerin. Tybed na ddylasai gwisg y gariadferch fod yn deilyngach o safle ac urddas perchennog gwaith, yn arbennig gan ei bod yn myn' d allan i'r Pare a "Master Tom" yn y perambulator? Meddylier am un felly yn troi allan nawn haf i Bare Aberdar heb ddim am ei phen. "Peth bach," meddai rhywun. Digon gwir. Ond gwylier. Hoffasem fwy o angherddol- deb yn yr ymadawiad a Master Tom ar goll. ACT III.-Gol)-gfa i. I Arweinivvyd i fewn gyda'r digri yn odidog, nes daeth dwysder ac angherddoldeb y stage i'r golwg. Bechgyn y Streic yn actio yn dda, ac yn taflu yspryd y Streic i'r ddrama. Daeth Mr Wynn i fewn fel arwr ei gyfnod, a gwr wedi cael gole newydd ar amgylchiadau'r Streic, a diangodd fel dyn wedi sylweddoli ei sefyllfa. Gwnaed yr ysgarmes yn ardderchog, a Mr Wynn a Symonds yn feistriaid. Gall Symonds wneud a fynno gyda'r filain. Dyma ei gryfder, ond cofied gadw ei hunanfeddiant. Er caleted oedd yr olygfa hon iddo ef, aeth drwy- ddi'n deilwng, ac y mae hynny'n ddyweud llawer o safle beirniad. (I'w barhau.)
Advertising
MM!M !!(!!)Ss?!'t J.?..?.?.?.??.?.?.? <X??S S 'm?? HAYMANsI t?i?t c? ? tm B?! BALSAM m WELLHA ||| BESWCH ac ANWYD H Amhrisiadwy gyda phlant. Poteli 1/- a 2/6 GAN OLL FFERYLLWYR A GROSERS KM
Eisteddfod Bodringallt Nadolig,…
Eisteddfod Bodringallt Nadolig, 1913. BEIRNIADAETH BODFAN. DICTESION CYMRAEG. Er yr holl ddwli siaredir am farw'r Iaith Gymraeg, derbyniais wyth cynnyg o un eglwys mewn bro Seisnig- aidd. Genethod yw saith o honynt, a sillebant oil yn well na'r cyffredin o ddynion, ag eithrio ein llenorion pro- ffesedig. Rhagora'r goreuon ar ein pre- gethwyr anllenorol. Synnais weled cyrraedd safon mor uchel. Bydd y fam- iaith yn famiaith mewn gwirionedd o hyn allan. Ceir gwell cystadleuaeth fyth y tro nesaf, ond ymarfer y plant ambell waith, .a dysgu tipyn iddynt Hyderaf y bydd fy Ngeiriadur newydd allan ymhell cyn hynny; yna bydd safon i apelio ati pan fo amheuaeth. Ond wrth feirniadu y rhai hyn nid wyf wedi cyfrif yn wallau ddim a gydna- byddir yn gywir gan un ysgol. Y pech- odau mawr yw anwybyddu'r sillgoll, cymysgu'r i a'r u," a rhoi ei yn lie eu." Pethau yw y rhai hyn y gall pob plentyn eu dysgu ond eu dysgu iddo. Y tro hwn, ni wyr hyd yn oed yr oreu fod rhagor rhwng yr unigol a'r Iluosog. Awgrymwn iddi hefyd mai gwell peidio dyblu'r "m" un amser. Ni wneir mohono gan ein llen- orion goreu. Haedda Mabon yr ail ganmoliaeth am gynnvg. Y mae Mary a Maud ac Annie a May i'w llongyfarch ar wneud cystal, ac i'w hannog i ddyfalbarhau. Am Ethel, Margaret, a Rhoda, y mae pob un o'r tair yn hen ddigon da i ennill, ond y mae rhai damweiniau blinion wedi digwydd i ddwy o honynt. Bu Rhoda mor anffodus a rhoi a'm yn lie am," ac ar foment wan newid- iodd cynefino i "cynefuno." Y mae hul ganddi yn lie hil hefyd. Hawdd iawn y gallasai Margaret fod wedi ennill. Hen dro fu iddi faglu ar draws y gair "cynefino," a rhcrY'dyfol" am ddynol." Camp fu i Ethel ennill ar ddwy mor dda, ond hi sydd wedi ennill, serch hynny. Y DARN ADRODDIADOL I RAI I DROS UN-AR-BYMTHEG OED. Derbyniwyd tri-ar-hugain o gyfan- soddiadau ar y testyn hwn, a phrin y dywedwn ormod pe dywedwn eu bod oIl yn rhagori ar y cyffredin o adroddiad- au a glywn yn fy nydd. Y mae'r mwy- afrif mawr yn rhagorol, ac amryw o honynt yn benigamp. Nid wyf yn tyfried v bu beirniad mewn mwy o ben- bleth erioed i wybod pwy i'w wobrwyo. Bu'r temtiwr yn sibrwd fwy nag un- waith am rannu'r wobr, ond deliais yn ddiysgog; oblegid pa reswm fyddai mewn rhannu gwobr rhwng dwsin, a pha werth fyddai mewn ffon ar ol ei thorri i gynifer o gatiau? Ni wn pa gynifer fu'n fuddugol gennyf yn eu tro, a theimlwn ar yr un pryd y byddai cynifer arall a gwahanol pe ceid beirniad arall. Felly, os oedd buddug- wr i fod o gwbl, teiinlwn nad oedd dim am dani ond i mi foddio fy chwaeth fy hun, a dyfarnu'r wobr i'r un a garwn oreu. Erbyn dyfod i'r penderfyniad yna, cefais fy ngwared o bob petruster. Gwna ba un yw"r goreu yn fy marn bersonol i fy hun, ac y mae'n gwella o hyd wrth gynefino ag ef. Na chyfrifed un cystadleuydd iddo gael cam, oblegid yn y gystadleuaeth ragorol hon, gall y mwyafrif mawr gyfrif iddynt ennill mewn ystyr foesol; rhennir yr anrhyd- edd rhyngddynt oil, er mai i un ohon- ynt y dyfernir y wobr. Byddwn yn llawer sicrach o wneuthur cam pe ceisiwn feddwl beth ddylwn ei hoffi vn hytrach na dywedyd yn onest beth wyf yn ei hoffi. Prin y rhaid i mi ddywedyd i mi gadw mewn golwg yn wastad gym- hwyster y darnau i'r diben mewn gol- wg, a da gennyf ddywedyd fod y cyfan- soddiadau yn hynod lan o ddim tramgwyddus. Gresyn nad ellid ar- graffu'r goreuon yn llyfr gyda'u gilydd, er mwyn mantais i'r adroddwr gael digon o ddewis o ddarnau da a chym- wys. Yn wyneb rhagoriaeth y eyfansodd- iadau, tybiais mai'r ffordd rwyddaf fyddai pigo allan yn gyntaf y rhai y cyfrifwn nad oedd siawns iddynt ennill, am fod eu gwell yn ddiamheuol i'w cael. Y mae rhyw ragoriaethau yn yr ychydig hyn, ond y mae ynddynt ddi- ffygion llenyddol sydd yn eu gosod dan anfantais lie mae'r safon mor uchel. Gellid adrodd llawer ohonynt yn effeithiol er hynny. Un felly yw ad- roddiad Gwynfryn ar Y Ddaear- gryn." Addysg dda a theimlad dwys sydd ym Merthyr yr Oes Amos. Purion, ond undonog, yw "Glowr Annychwel Helygen. Adroddiad da, ond wedi ei weithio allan yn amher- ffaith, ac yn myned yn feinach tua'r bon sydd gan Swn y Don i"Arwres Abergarw. Dywedaf "Amen" gydag I fyny fo'r Nod a'i "Dring I Fyny," ond nid wyf yn meddwl y deuai yn boblog- aidd gydag adroddwyr, ac y mae arnaf eisieu i'r darn buddugol fyw ar ol ei wobrwyo. Y mae mwy o osgo adroddiad ar "Suddiad y Titanic" gan Hen Adroddwr. Y mae ynddo rai llinellau da, ond gwanha tua'r diwedd. Bellach dechreua'r ymryson o ddifrif. Nid wyf yn amcanu rhestru'r cyfan- soddiadau yn ol eu teilyngdod cym- harol. Lie y mae cynifer yn ymarferol gyfartal, amhosibl yw hynny. Yr wyf o'r un farn a'r Cadgloddiwr yn ei sylwadau ar "Gymru Fydd," ond heb gael clywed adrodd ei adroddiad, ni allaf farnu pa faint o fynd a fyddai ynddo. Y mae'n gystal darn, sut bynnag, a'r darn cystadleuol, ac y mae yn ei ddiwedd gan dlos odiaeth. Dylid cyfansoddi cerddoriaeth fachog iddi yn ddioed. Y mae'n ychwanegiad gwir" bwysig at ein llenyddiaeth wladgarol. Llongyfarchaf yr awdwr a'r Eisteddfod ar y fath gyfansoddiad. AnamI y gwelir gwell adroddiad na "Galwad y Mor gan Llwvdfab. Y mae ynddo fywyd a theimlad dwys. Adroddiad da i bobl feddylgar a chre- fyddgar yw Petr a loan Gerbron y Cynghor gan Galilead. Dileer y forychau. Gellid gwefreiddio cynulleid- fa a'r "Carcharor gan leuan. Darn dwys iawn ydyw. Cywired yntau ei wallau. Gwareder ni rhag byw na marw yn gybyddion" yw'm teimlad wrth ddarllen am "Y Cybydd yn Marw" gan y Soflyn Sych, ac mae'r ffaith iddo allu gyrru ias drwy'r beirni- ad, ac yntau wedi ei galedi gan gynifer o ddarnau cyffrous, yn ganmoliaeth iddo. Y mae grym yn y darn i "Danch- wa Senghenydd" gan Ap Galar, a diwedda yn benigamp. Y mae rhagor- iaethau neilltuol iawn yn perthyn i'r darn hwn, ac nid y lleiaf yw ei gyn- llun. Cyffwrdd hwn a'r teimlad i'r byw. Cywirer y gwallau. Llwyddianus nodedig fu Hen Ad- roddwr gyda "Gorlifiad Glofa Car- adog Vale." Braidd yn anwastad yw ei gelfyddyd, ond nid oes amheuaeth am ei rym a'i ddwyster. Teimla dyn gyw- ilydd o losgi tan glo ar ol darllen darn cyffrous fel hwn. Sicrha Tra Mor Tra Brython ni mai darn i'w adrodd sydd ganddo i'r Ddadl Fawr," sef leuan Gwynedd yn ei lesgedd. Dichon hynny. I mi, pryddest brydferth a barddonol dros ben yw. Hoffaf y meddyliau, yr iaith, a'r my dr, ond teimlaf mai o'i dar- llen yn bwyllog ac ystyriol, yn hytrach nag o'i hadrodd y mae oreu. Felly, dyna ddarn buddugol arall wedi colli'r dydd! "Nid da lie ceir gwell" yw'r cwbl a allaf ei ddywedyd am Y Crwydryn, Newynog ar Ddydd Nadol- ig" gan Yr Alltud Prudd. Darn da iawn, wedi ei gyfansoddi yn dda, ac yn meddtj apel dda sydd gan Ystyriol i Danchwa Waftstown." Darn Saes- neg sydd gan Asser i "The Pit-shaft Hero." Ni welaf fod dim yn ei erbyn yn ol yr amodau, ond y mae Cymraeg mor ragoral gan yr ymgeiswyr eraill fel mai da gennyf mai dyma'r unig un yn Saesneg. Y mae ring adroddiad Seisnig gan hwn i'r dim, ond gresyn fod ynddo wallau. "Besought" a ddylai "beseeched fod, ac "abyss yw'r acen i fod ac nid "abyss." Gwell fyddai gennyf iddo beidio galw ar y Mawredd. Ni ddylid rhoddi llwon yng ngeneuau adroddwyr. Felly, dyna ym- gais lew arall wedi methu. Gyr "Oriau Ola'r Bradwr" gan Caiaphas iasau drwom. Darn grymus yw hwn, ond yn arogli braidd o frwms- tan. Adroddiad crefyddol o nodwedd dra gwahanol sydd gan Andreas i "Y storm Tiberias." Braidd yn aml- eiriog a thrwm yw gennyf fi, a phe gwo,brwvwn ef, amheus gennyf a geid llawer o adrodd arno; ond cymeradwy- af ef at gyfarfodydd ysgolion. Y mae gennyf gryn ffansi at "Y Cybydd gan Morgannwg. Diwedda yn ddymunol iawn. Gwir adroddiad, ond wedi ei weithio allan yn anghyfartal, sydd gan I Afaon i "Suddiad y Titanic." Lied wan y gorffenna. Dyma gyfansoddiad y teimlwn yn euog braidd am beidio ei wobrwyo. Ni erys bellach ond un cyfansoddiad, sef "Ysbryd y Danchwa" gan Cenydd Sant. Y mae sangiad cadarn gan hwn o'i ddechreu i'w ddiwedd. Nid oesdim yn wan nac yn anghyfartal ynddo. Un mesur, a hwnnw braidd yn undonog, sydd ganddo, ond y mae rhyw wefr a hyawdledd annisgrifiadwy yn y darn. Nid oes un yn y gystadleuaeth yn meddu'r un gyfaredd, ac ni welais er- ioed ei hafal yn ei ffordd ei hun. Gwobrwyer Cenydd Sant gan hynny. I (I barhau.)
Advertising
ARTIFICIAL LIMBS, Crutches, Eyes, Deformity Boots, Flat-Foot Supports, Steelless Easifit Trusses, etc.; lady attendant; Belts, Belt- j Corsets, Elastic Stockings, Trusses, ■ etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-2. List free. Tel 1282.-Allon Pearce, 28 Charles Street. Cardiff.
IDosbarthwyr y 'Darfan.'
I Dosbarthwyr y 'Darfan.' Wele restr o "newsagents" ydynt yn gwerthu y "Darian" yn rheolaidd. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllenwyr gael y "Darian" oddiwrth ddosbarthwr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lic. yr wythnos, 6ch. am fis, 1/7i y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post. Aberdare Valley. Mr. Ed. Parr, Canon Street, Aberdare. Mr. T. W. Thomas, Cardiff Street, Aberdare. Mr. W. Cable, Canon Street, Aberdare. Messrs. W. H. Smith & Son, Duke St., Aberdare. Mr. Gwyddonwy Evans, Gadlys. Mr. Evan Hopkins, Trecynon. Mr. Peter Davies, Cwmdare. Mr. David Evans, Llwydcoed. Mr. E. M. Evans, Abernant. Mrs. Norman, Aberaman. Mrs. Williams, Aberaman. Mr. M. Lewis, Aberaman. Mr. Joseph Griffiths, Cwmaman. Mr. W. R. Griffiths, 38 Bronallt, Aber- cwmboi. Mr. W. Peters, Mountain Ash. Mrs. Grier, Mountain Ash. Mrs. Davies, Mountain Ash. Mr. W. Badham, Mountain Ash. Mr. Chris. Evans, Mountain Alh. Mr. W. Magor, Penrhiwcelber. Mr. J. Powell, Penrhiwceiber. Mr. Ed. James, Penrhiwceiber. Mrs. Davies, Ynysboeth, Penrhiwceiber Mrs. Field, Abercynon. Mr E. R. James, Abercynon. Mr. D. Edmunds, Abercynon. Mr. D. T. Theophilus, Abercynon. Ammanford-Mr. J. John. Birchgrove, Liansamiet- Mrs. M. A. Richards. Burry Port-Mr. C. Snook, Station Rd. Brynamman—Mr. D. W. Lewis. JBIaoqgarw—Mrs. Clements. Bridgend-Messrs. Wyman & Sons, G.W.R. Bookstall. Messrs. W. H. Smith & Son. Barry Dock-Mr. D. Jones, Pyke Street Post Office. Blaengwynfi-Mr. W. Edwards. Bedlinog-Mr. S. Williams. Cilfynydd-Mrs. Lewis, Richard Street. Cwmllynfell-Mr. D. Williams, Goleu- fryn House. Cockett—Mr. D. Mainwaring, Fforest- fach Mr. W. Davies, Fforestfach. Cardigan: Messrs. T. C. Roberts and Son, 10 High Strbet. Carmarthen- Mr. W. G. Lewis, Jackson's Lane. Mr. W. Picton Davies, King Street. Messrs. Wyman and Sons, G.W.R. Bookstall. Cross Hands-Mr. Richard Jones. Mr. D. Roderick. Caerau-Mr. G. Thomas. Clydach on Tawe—Mr. W. J. Davies. Olydach Vale-Mr. T. C. Davies. Caerphilly-Mr. R. J. Price. uardiff- Messrs. W. H. Smith & Son, Penarth Road. Messrs. Joyce & Co., The Hayes. Mr. Dyer, 95 Queen Street. Messrs. Wyman and Sons, St. Mary Street. Crynant-Mr. Thomas Jeffreys. Oowlais- Mr. Howells. Mr. T. Jones, Gellifaelog. Mr. M. Jones, Burry Square. Deri-Mr. W. Jones. Ebbw Vale-Mr. W. H. Prole. Ferndale- Mr. D. Davies. Mr. Burrell. Glyn.Neath- Mr. A. G. Price, High Street. Mr. T. Hazell, Cwmgwrach. Gorseinon—Mr. W. Llewelyn. Gwaencaegurwen—Mr. M. Thomas. Garnant-Mr. Dl. Williams. Gilfachgoch-Mr. W. Rosser. Glais-Mr. G. Jenkins. Hirwain- Mr. H. Jones, High Street. Mr John Davies, Bethel Place. Mrs. Tweeny Mrs. Davies, High Street. Trehafod—Mrs. Edwards. Lianally- Mr. Brinley R. Jones. Mr. Meudwy Davies. Mr. T. Eurwedd Williams. Messrs. Wyman and Sons, G. W.R. Bookstall. Mr. J. Thomas, 38 Thomas Street. Morriston— Mr. R. Roberti Mr. Hughes. Mr. D. Thoma. Merthyr- Mr. LI. Daviet, Hith Street. Mr. D. Bowen.Higi Street. Mardy-Mr. E. 1. Jeemiah. Nantyffyllon-Mr J. 1. Jones. Neath- Mr. W. Rosser Messrs. Wyman aid Sons, G.W.IL. Bookstall. Newport-Messrs. B Joyce and Co. Newcastle Emlyn-Nt. Joshua Eynon. New Trod egar-lit. Maurice Jones. Pantyffynon-D. li(wis, Fron Haul, Tycroes. Patagonia-Camp Mercantile, Tre- lew, Chubut Penygraig— Mrs. Williams, Hacelyn Shop. Miss L. M. Evan Port Talbot-Mesls. Wyman & 80. G.W.R. Bokstall. Pontardulaia- Mr. J. Thomas. Mr. D. Thomas- Pontycymmer-Mi J. Fox. Pontardawe— Mr. J. L. WilLms, Gwalia House, Mr. D. J. Philbs, Alltwen. Mr. W. Jones, Jltwen. Mr. Owen Jenins, Herbert Street. Mr. Emlyn Thmas, Trebanos. Pontlottyn—Mrs Jordan. Pontypridd-Melrs. Morgan Bros. Pentrebach—MrB. Jenkins. Porth- Mr. W. Thoms. Mr. W. Fudg< Rhymney-Mr. rr. W. Davies. Songhenydd-10. D. Williams. Swansea- Messrs. W. S. Smith and Bon. Messrs. Wjnan and Sons, G. W.R- Bookstall. Mr. G. Wiiams, High Street. Skewen— Mr. E. EVlls. Mr. Lloyd Birhowy-JIL Cartwright. St. Clears: Ir. T. H. Thomas, Pleasant* View. Seven Sistes: Miss E. Harris. Treboeth, bandore: D. Roberts, Posf Office Treharris- Mr. JaLue Jones. Miss Jons. Tredegar-ilr. E. G. Bowen. Treforest-Mr. Hill. Treherbert- Mr. Dayd Evans. Mr. Ed. Lewis. Treorchy- Mr. Protiero, High Street. Mr. L. Morgan, Bute Street. Mr. M. Villiams, High Street. Miss Pa ies, High Street. Tonypa..d Mr. J. Hotrells. Mr. Riclards, The Square. Mrs. vViiiams, Post Office. TylorstOwl- Mr. T. Ihomas. Mr. C. ioWell. VnYlhir-Ær. D. B. Davies. Ynysyowl-Mr. D. Rogers. Yttatyfers-Mr. S. Baker Yatrad Rtondda— Mr. Darid Jones, William Street. Mr. LI. Phillips, Ton. Mr. T. rhomas. Mr. W. Davies. Os oes rhyw ddosbarthwr o'r Dar- ian heb fod yn y rhestr uchod, bydded cystal a'i hysbysu, er mwyn dodi « enw i mewn. prepaid Small Advertisements Inserted at the following specially low rates: One week 4 wks. 13 wki. a. d. a. d. a. d. 20 wordfl 0 6 1 6 a IP 28 0 9 51 3 » 36 „ 1 0 3 0 7 If TbeBe charges apply only to the follow- ing classes of advertisements :-Apart- mente, Situations (Vacant or Wanted), To be Let or Sold, Lost or Found, Md Miscellaneous Wants. Remittances may be made by PostaP Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will be charged. Advertising and Publishing Ofieei. Cardiff Street, Aberdare.
ARGRAFFWAITH.
ARGRAFFWAITH. Am bob math o Argraffwaith ymofyner yn Swyddfa'r LEADER a'r DARIAN, CardiffStreet, Aberdar.