Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Y GOLOFN AMAETHYDDOL I
Y GOLOFN AMAETHYDDOL I GAN BRYNFAB. I Mae gennyf ddafad gyrnig, Ag arni bwys o wlan, Yn pori brig yr eithin Ym mysg y cerrig man." Fel y gwyddoch, mae Bwrdd Amaeth- yddiaeth y Deyrnas Gyfunol yn gofyn am gyfrif pob math o anifail, a phob math o gnydau ar y pedwerydd o Fe- hefin, bob blwyddyn. Dyna sut mae y Llywodraeth yn medru deall sefyllfa y wlad. Trwy gyfrwng yr hysbysrwydd a geir felly y gwelir pa un ai lleihau neu gynyddu y bydd y da corniog, a'r defaid gwlanog, ac ni anghofir yr anifail gwrychellog. Mae efe wedi bod yn un arbennig i'w gyfrif yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, am nad oedd creadur mewn ystabl na beudy mor brisfawroag ef, fel y gwyr pob un sydd yn gorfod prynu y Chwiwgi brwnt, ham a chig bras." Ond dyna oeddwn yn mynd i'w ddweyd wrth son am y "ddafad gyrnig "—mae yr awdurdodau yn awr yn gofyn pa faint o wlan a gynyrchodd pob diadell Wyl Ifan diweddaf. Gofynir beth oedd cyfartaledd pwysau y cneifiau, yng nghyd a'r prisiau am y gwahanol fath- au o wlan. Mae yn llawn mor bwysig i'r Llywodr- aeth gael many lion fel hyn ag oedd iddi gael y cyfrifon a ofynid yn flaenorol. Yr ydym yn prynu cannoedd o dynnelli o wlan bob blwyddyn, ac yn ei ddarifon drachefn wedi ei weithio yn frethynau a gwlaneni. Trwy y daflen newydd a ofynir y ceir gweld i ba raddau y mae y wlad hon yn ymddibynnu ar wledydd ,eraill am ddefnyddiau i'n cadw yn glyd. Trwy gyfrwng y cyfrifiad newydd, bydd y ffermwr yn medru proffwydo yn lied sicr beth fydd pris y gwlan yr haf nesaf. Mae y gwlan wedi bod yn druenus o isel yn ei bris yn ystod y deng mlynedd diweddaf, ond mae wedi' dyblu yn ei werth yn ystod y blynyddau sydd newydd fynd heibio, a hynny heb gymhorth Bwrdd Cymmodol. Gofaled pob amaethwr am lanw ei daflen, fel y geill y Llywodraeth gyfrannu gwybod- aeth fydd yn fuddiol pan yn cneifio y tro nesaf. Bu rhai yn hwyrfrydig iawn i roi cyfrif cywir yn y tafleni Jblynyddol, rhag ofn y buasai perchen y nenbren, neu fwgan y Dreth yn cymeryd mantais i grafangu gormod arnynt. Gellir ym- ddiried pobpeth yn y cyfeiriad hwn, a gobeithio na fydd neb yn esgeuluso y daflen ddaeth i law diwedd y flwyddyn. Profwch Bob Peth. I F, ystyrir yr amaethwyr yn ddos- parth o ddynion llygadog, ac yn medru gwneud y goreu o bob bargen. Ond rhyngoch chwi a minnau, nid oes nemawr ddosparth mor esgeulus o fuddianau eu hunain wrth, beynif pob ,math o nwyddau y gwyddant fod cryn lawer o gyfrinion yn eu gwneuthuriad. Nid oes ond ychydig yn cymeryd y dra- fferth i ystyried beth yw y sylweddau sydd yn y gwahanol nwyddau a brynir i dewhau pob math o anifeiliaid. Mae y gwahanol fathau o flawd a theisienau sydd yn y farchnad yn cynnwys ychydig o bobpeth nas gwyddom beth yw eu defnydd na'u gwerth. Cymysgir y gwahanol ddefnyddiau gan ddynion sydd yn gwbod y ffordd i wneud arian, a phrynir y cyfryw ar air y gwerthwr, heh ystyried yn amI nad ydynt yn werth yr arian a delir am danynt. Mae y Gyfraith yn gorfodi y gwneuthurwr i nodi y gwahanol sylweddau cynnwysed- ig yn y nwyddau yn ddigon amlwg. ,Ond nid ydym yn gwybod y peth nesaf 1 ddim am y ffigyrau sydd yn dangos .cyfansoddiad y nwyddau. Rhaid bod yn dipyn o ysgolhaig i bwyso a mesur gwerth y gwahanol nwyddau; a phan yn medru gwneud hynny, ni wyddom beth yw gwerth y sylweddau hynny cyn .eu cymmysgu at wasanaeth yr amaeth- wr. Gwyr Hyfforddwr Amaethyddol pob Sir beth yw gwerth masnachol pob awydd ar ei ben ei hun, felly gwyr beth ddylai gwerth bwyd yr anifail fod wedi el gymmysgu. Byddai yn ddoeth i bawb anfon y manylion a geir oddiwrth y gwerthwr i Hyfforddwr Amaethyddol y Sir, a byddai y wybodaeth a geid gan- ddo yn foddion i'w hamddiffvn rhag cael eu plua gan yr heidiau o 'agents' sydd ar hyd y wlad. Twyllolr Tir. Mae yr un anwybodaeth a'r dibrisdod ;ar ein rhan yn cael ei ddangos yn v modd yr ydym yn prynu pob math o wrteithiau fferyllol. Yr ydym yn ami iawn yn talu am sothach y byddai eu taflu i'r afon mor llesiol a'u hau ar wyne.b y tir. Nid ydym yn ystyried fod llwch a lludw yn rhatach na'r nwyddau fferyllol a ddylai fod yn y gwrtaith, a thrwy hynny yn talu am gymeryd ein twyllo. Nid ydym hefyd yn ystyried mai nid yr un sylweddau sydd yn taro pob math o dir, a phob math o gnwd. Mae y meddyg yn ceisio darganfod beth yw y clefyd cyn cymhwyso ei feddygin- laeth. Felly y dylai pob amaethwr ei wneud hefyd. Wedi gwneud hyny, dylai ofalu fod y moddion a ddefnyddir i geisio gwella yr hen ddaear, y moddion iawn, ac yn werth yr arian a delir am ano. Mae digon o gyfleusderau bell- ach i gael gwybod sut mae cadw y tir rhag cael ei dwyllo, a chadw llawer o arian yn y llogell yn y fargen. Gonest Pob Lleidr nes ei Ddal. I Yr oedd rhyw ddyn yn gwerthu oSer- ynau ntfx 1 ^^chnaJ Pontypridd y ddoe, ac wrth wthio bethau i syl ^61 hau 1 s^lw- dywed? y dylainovTr) un o honynt dyn ^d,ynes brynu siopwr, pwyaw? ???? au 01 eich Pwyswch?n? ?,? h cigydd, "oherwyddJdo? ?? meddai, wahaniaeth rhwng ruasnachwr goneso ° ma.snachwr t a'r un anonest heddyw." "Cheap Jack" oedd yn dywedyd felly; ond, yn wir, nid oedd ei bregeth mor rated, chwaith. Pe byddai pob un yn pwyso yr hyn a bryno yn ystod y flwyddyn byddai y I swm a arbedid n fwy nag y meddylir. Cymerwch Fantais o'r Gyfraith. I Mae y Gyfraith yn gwasgu ar war y ffertnwr yn ddigon ami, ond gadewch i ni gymeryd mantais trwyddi yn amlach i amddiffyn ein hunain. Mae y gyfraith yn barod i'n cynorthwyo pan mae mas- nachwyr am fynd yn rhy ddwfn i'n llogellau. 0 dan y Food and Drug Act, ac o dan y Fertilizer's Act," gelilr galw ar yr heddgeidwad agosaf, a cheisio ganddo roi spigot y gyfraith ar waith trwy gymeryd cyfran o unrhyw nwydd i'w brofi gan Ddadansoddydd y Sir, ac os na fydd y nwydd i fyny a'r sicrwydd amheus a roddir ini ar bapyr, ca y sawl sydd am ein pluo dalu yn ddrud am ei lafur. Mae y peth yn ddigon didrafferth, ac ni chyst y diogel- iad hwn i ni yr un geiniog. Rhown chwareu teg i'r gyfraith i'n hamddiffyn. Os profir ein bod yn prynu gan fasnach- wyr gonest, goreu i gyd. "Ni waeth y gwir o'i chwilio."
Cymry Cymreig AbertridwrI
Cymry Cymreig Abertridwr I Cyfarfu'r Cymry hyn nos Sadwrn, Rhaf. 27ain. Cafwyd amser diddan gyda'r delyn, a'r telynor Eli Davies, Nantgarw, a'i fysedd ar ei thannau. Yr oedd y berdoneg hefyd mewn hwyl, a chyda'r telynor bu B. Williams, Heol- y-brenin, a Morris Lewis, Bryn Gelli, yn trin yr offer cerdd. Y gwr yn y gadair oedd E. G. Davies, gweinidog Eglwys Abertridwr; efe yw Esgob y Cymry Cymreig, ac y mae yn aiddgar dros ei iaith, ei genedl, a'i wlad. Cafwyd am- rywiaeth mewn canu penhillion ac un- awdau. Rees Thomas, yr Aber; Bryn- alaw, Caerffili; a T. Griffiths, Aber- tridwr, a swynent y cyfarfod gyda'r pethau hyn. Papur cynhwysfawr gafwyd gan G. Roberts, Salem, ar Senghenydd Hynafol." Cynhulliad o lowyr gan mwyaf wrandawent arno, ond yr oedd yn deilwng o gynhulliad o ddysgedigion. Yn ystod" y cwrdd siaradodd Miss Ilda James, Senghenydd, un o Gymry gwladgar yr ysgol ddyddiol, a sel dros ei hiaith yn fflam. Daw ein hysgolion yn y man yn feithrinfa gwladgarwch pur. Codwn ein calon, mae'r Gym- raeg i gael ei lie. Cerdd ymlaen wlad- garol dan, cymer yma feddiant glan- hyn, ni a gredwn, oedd arwyddair y cyf- arfod. Cafwyd gair hefyd gan Tom Day, Morgan Davies, Dan Davies, a Mrs. Margam, Abertridwr. Dyma'r ffordd i godi'n hen wlad. Gwran- dawer beth ddywed yr Archdderwydd am y delyn Dychwelwch hen delyn fy ngwlad yn 01, I ddysgu caniadau angylion Paham y bu gwladgar awenau mor ffol A'i gollwng i grwydro'n afradlon ? Dychwelwch y delyn i fri a mawrhad, Gwaherddwch i neb ei bychanu, Dychwelwch hi'n ol i aelwydydd y gwlad A dysgwch y plant i'w chanu." DEWI AUR. I
Soar, Aberdar.I I- I
Soar, Aberdar. I I Dydd Sul diweddaf cynaliodd yr Ysgol Sabbothol ei chyfarfodydd haner-blynyddol. Llywyddwyd yn nghyfarfod y prydnawn gan Mr. John Rees (Glan Cynon). Rhaglen: Adroddiad, Lizzie Frost; can, Marian T. Gray; adroddiad, Bobi Frost; can, Idwal Gray; can, Elwyn Gray; ad- roddiad, Sammy Jones; deuawd, Dorothy Evans a Marian T. Gray; adroddiad, Gwennie Abraham; araeth, Mr. Daniel Jones; can, Mr. W. Lewis; adroddiad, May Williams; can, Miss Annie Evans; adroddiad, Mr. John Thomas; cor dosbarth, Mr. W. J. Jones. Yn yr hwyr Mr. Daniel Jones oedd y llywydd. Awd trwy y rhaglen ganlynol:—Unawd ar y berdoneg, Mr. W. M. Lewis, A.V.C.M.; adroddiad, May Wil- liams; can, Mrs. Abel; adroddiad, Robert: Jones; can, Marian T. Gray; unawd ar y crwth, Mr. D. A. Lewis; adroddiad, Ellen Jones; can, Maggie Abraham; darlleniad, Mr. E. Lewis Evans; can, Miss Annie Evans. un- awd ar y crwth, Marian T. Gray; araeth, Mr. John Rees (Glan Cynon); cor dosbarth Mr. W. J. Jones; ad- roddiad, Sammy Jones; can, Mr. John Lewis. Cyfeilydd y ddau gyfarfod oedd Mr. W. M. Lewis, A.V.C.M. Gwnawd y trefniadau gan Mri. R. W. Gray (arolygwr) a W. Wil- liams (ysgrifenydd). Cafwyd cyn- hulliadau da.
Advertising
I "S AHZINIE" BLOOD MIXTURE. Croen lach a Gwaed Pur. Dyna yr hyn y mae y "Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines; ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvy, doluriau, pen- ddynod, &c., yn tarddu o waed drwg ac ammhur, mynwch botelaid o "Sarzine Blood Mixture," gan y Druggist nesaf atoch, 1/1 i a 2/9 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn chwanegol, oddi wrth y Perchenog, HUGH DA VIES, Chemist, Machynlleth.
Drama Gwyl Ddewi i'r Plant.
Drama Gwyl Ddewi i'r Plant. Dewi Sant.—Seiliedig ar yr hanes fel y'i rhoddir gan Owen Rhoscomyl yn ei lyfr bach, Saint David." Act 1. Golygfa: Cartref Ceredig a Nonn, tad a mam Dewi. Gweslan, yr ewythr, yn eistedd ar ystol, ac yn diwyd naddu lledwad neu lwy bren. Dewi, yn fach- gen bach 10 i 12 oed, yn sefyll ar ei bwys, ac yn naddu. Dewi: Dywedwch i mi, fy ewythr, pa- ham y mae nhad yn myned oddicartref mor ami? Gweslan: Ha, fy machgen i, y mae dy dad yn hoff o ymladd. Dewi: Ymladd 1 Gweslan: Ie, Dewi bach. Efe yw'r brenin, a rhaid i'r brenin ymladd yn ddewr, i arwain ac amddiffyn ei bobl. Dewi: Pwy sydd yn ymladd ag ef, newythr ? Am ba beth y maent yn ym- ladd 1 Gweslan Yr yspryd drwg 'sydd yn myned i galonau dynion o hyd, fy mach- gen i, ac yn gwneyd iddynt gasau eu gilydd a thrachwantu yn eiddo eu gil- ydd. Dewi: A yw fy nhad i yn gas a thrach- wantus '1 Gweslan: Drwy ymladd a chongcwest y daeth dy dad i feddiant o'r tir hwn, a thrwy ymladd y ceidw ef. Dewi: Pe gwrthodai ymladd, beth a ddeuai o honom ni? Gweslan: Ha, fy machgen, dyna sydd yn ddrwg. Efallai y cymerid ni yn gar- charorion a'n lladd. Dewi: Ai ni allai y Duw Mawr y dysg mam i mi am dano, ein ddiogelu a'n hamddiffyn 1 Gweslan: 0, gallai, fy machgen i. Efe sydd yn rhoddi bywyd ac iechyd i ni yn awr. Efe roddodd fam dda i ti. Ac y mae yn sicr ei fod am i ti dyfu i fyny yn was teilwng iddo Ef, i wella dynion a'u dysgu i garu eu gilydd, a rhoddi diwedd ar frwydro a lladd. Dewi: 0, f'ewythr anwyl, y mae mam yn dweyd o hyd y caf fi fod yn fynach, ac yn was i Iesu Grist. Gweslan: Y mae genyt fam dda. Dewi: 0, mi hoffwn weld yr amser yn dod i mi gael mynd at yr hen Fyn- ach Paulinus i ddysgu pob peth am Dduw a Iesu Grist. Gweslan: Amen, 'y machgen I. Os gallaf fi berswadio dy fam, ti gei fynd yn fuan. Ond beth a wna dy golomen wen big felyn hebot ti? Dewi 0 !'r anwyl, caiff hi gario neges bob dydd i mam, a chwi, tra fyddaf fi yn dysgu gyda'r Mynach anwyl. Gweslan: Da iawn, 'y machgen i. Dyma dy fam yn dod gyda'r gair. (N onn yn dyfod i fewn.) Dewi: Mam anwyl, pryd y caf fi fynd i ysgol y Mynach 1 Yr ydych wedi dweyd lawer gwaith y carech i mi fod yn was ac yn Fynach i Iesu Grist. Nonn: 0, fy machgen bach anwyl, beth wnawn ni hebot ti yma 1 Pa fodd y gallaf dy adael i fynd o'm golwg? Gweslan: Nonn, Nonn, cofia dy addewidion. Ni ddylet adael i'th deim- lad mamol gael y goreu ar dy addewid i Dduw. Addewaist er's blynyddau y cai dy fachgen wasanaethu Duw y Nef- oedd. Nonn Digon gwir, Gweslan. Ond yn awr pan mae yr adeg wedi dod, mor anodd yw boddloni gadael i'm bach- gen fyned o'm golwg. Dewi: 0, mam, caiff fy ngholomen wen big felyn gario neges i chwi bob dydd, ac fe ofala Duw am dana i, a chwithau, a newythr, am tad bob dydd. Dywedwch eich bod yn foddlon i mi fynd. Nonn: Ti gei fyned, 'y machgen i, a bendith Duw fo arnat ti a ninau. Dewi: Ha, dacw y Mynach yn dad, mam. Y mae yn sicr i Dduw ddweyd wrtho eich bod yn boddlon i mi fyned. (Dewi yn rhedeg allan i gwrdd a'r hen Fynach.) I N onn: 0, Gweslan anwyl, dyma yr awr a'r brofedigaeth a ofnwn wedi dod. Pa fodd y gallwn ymfoddloni heb lais a chwerthiniad iachus Dewi bach yn y ty ? Beth a wnai di heb ei gwmni difyr a melus 1 A'i dad ? Aiff yntau yn wylltach nag erioed heb bresenoldeb y bachgen yn y ty. Gweslan Y mae y bachgen i ddod yn fawr, Nonn. Try ein gofid a'n hiraeth ni yn llawenydd a bendith i lawer. (Dewi a'r Mynach yn dod i fewn.) Dewi: Dyma fe, mam. Y mae yr hen Fynach anwyl wedi dod o'r diwedd. Nonn: Dydd da i chwi, Fynach. Paulinus: Dydd da i chwi, fy mhlant, dydd da. A yw y nefoedd yn gwenu arnoch ? Gweslan: Y mae pob peth yn dda yn y ty hwn, Fynach anwyl, ac y mae yn dda genyf ddweyd fod y bachgen yn disgwyl yn hyderus am dderbyniad atoch i'r Mynachdy. Paulinus: Ha, diolch. Cawsoch ras i ollwng eich gafael o hono. I'w geisio ef y daethum heddyw. Nonn: 0! Fynach anwyl, chwi ofal- wch am dano i mi, oni wnewch chwi? Oblegyd fy machgen anwyl, anwyl i ydyw. Paulinus: Bydd nawdd y Duw Mawr o'i amgylch trwy ei holl fywyd; bydd son am dano am oesoedd lawer, a daw bendith Duw ar y teulu hwn am byth. (Wrth Dewi) Tyrd, fy mab bychan, mi a geisiaf dy wneyd yn was teilwng i'r Duw Goruchaf. (Ei ewythr yn ei gusaou, a'i fam yn ei gofleidio, a'r Myn- ach yn gafael yn ei law i'w arwain ymaith.) (Y Lien i Lawr.) (I barhau.) JOHN DAVIES, « Aberdar. Attendance Officer.
ILlythyrra Sion Sana.I
Llythyrra Sion Sana. 01 Trad yn yr Eira. Mishdir Golycudd,— Mi ges i achos i gofio bora dydd Llun diwetha nag on i ddim wedi ewnni'n fora ys blynydda. Cofiwch chi, wi ddim yn un o rheiny sy'n ddicon digwiddyl i aros yn y gwely hyd hannar dydd. 'Dyw wyth o'r gloch byth yn dala Sion yn i wely. Wi ddim yn cal bias ar y gwely ar ol saith o'r gloch, a ddylsa neb arall sy'n iach gal bias arno chwaith. Fyswn i'n cwnni'n gynt, ond fysa fa ddim dipan i fi waeddi "Sana" lawer cyn deg o'r gloch. A wir, golwg ddicon comon sy ar amball un yn dwad i'r hewl yr amsar hynny. Wi'n cretu bysa rhai yn achwyn llai ar yr hen fyd yma tysan nhw yn gwpod shwd i neud gwell defnydd o'r bora. Odd raid i fi gwni'n fora dydd Llun i fynd i daith bell. Pan agoras i'r drws am bump o'r gloch, rodd y byd yn wyn gan eira! WPn hoff o eira er pan on i'n blentyn, a rodd yn dda gen i weld e unwaith yto. Ma fa'n dod ag adgofion melus i fi am y dyddia gynt-dyddia diniweidrwydd a whara. Ma atgof am gyfnod ar fywyd sy mor wyn a fynta yn dwad gyda'r eira. Alia i ddim pido meddwl am dano fa fel rhyw gennad dros yr hyn sy'n bur a glan. Tra ma fa'n ein cofio ni am baratws dechra'r daith ma fa'n cwnni awydd ynon ni am baratws ar i diwadd hi hefyd. Ma fa'n broffwydoliath o wlad sy'n wen a glan i gyd-gwlad sy'n wyn- nach a glanach na'r eira. Otich chi wedi sylwi mor hardd yw'r coed, a'r rhetin a'r glaswallt a phopath mwn gwisg o eira. Ma nhw fel rhyw ffurfia ar farmor, ond u bod nhw'n wynnach na'r marmor ag yn geinach Ita dim alia llaw dyn i gerfio. Wi ddim hejb gofio nag yw pawb ddim yn gallu croesawu eira fel fi. Ma fa'n peri oerni ag anghysur i lawar. Nid ar yr eira ma'r bai am hynny. Fe ofynnir i rywrai ryw ddydd-Pam oech chi'n i gneud hi'n amhosib i'ch brotyr i fwyn- hau eira? Fe wetir hefyd wrth rai- bysach chi wedi gofalu am danoch ych hunen yn well, fysa arnoch chi ddim of an eira. Pan es i mas i'r eira, on i'n meddwl taw fi fyse'r cynta i fynd trwyddo fa, ond wir odd llawar wedi bod o mlaen i. Ma rhai'n mynd a dod pan fydd y lleill yn cysgu. Odd crots wedi mynd i'r gwaith, a ol u trad nhw'n gwed u bod nhw'n ifanc a chwareus. Odd lot o stori u bywyd nhw yn yr eira. Dysgwch wers, mechgyn i, orwth i wyndra fa. Pidwch a gatal i ddrwg y byd lych- wino'ch cymeriata chi fel bydd yr eira wedi i dduo gan lwch a llaid yn fuan iawn. On i'n gweld of trad un odd yn gryf a hoyw'i gamra; gobitho fod i fywyd a'n wyn yn gystal ag yn gryf, a bydd a'n leico gweld eira pan fydd a wedi mynd yn hen fel fi. Odd un dyn cloff wedi cered trw'r eira. Odd y byd ddim wedi bod yn wyn i gyd iddo fe dan anfantas fawr odd a wedi cerad trwyddo. Gobitho fod yr eira yn gneud iddo ddishgwl ymlan am fyd lie gall ynta gerad heb gloffi. On i'n gweld ol trad arall, wi'n suwr fod perchan y trad hyn yn hen ag yn diodda orwth ddiffyg anal hefyd. Odd i gam a'n fyr, a rodd a'n sefyll witha i gal i wynt. On i'n timlo'n flin fod yn rhaid iddo fa fynd mas i'r eira am whech o'r gloch y bora. Mae'n rhyfadd gen i os na fydd yr eira wedi helpu hwn i ben i daith yn gynt. Gobitho fod gwyndra'r eira yn cwnni gobeithion gwyn yn i fyn- was ynta. Alia i ddim llai na meddwl fod yr eira wynnodd ddiwadd a dechra blwyddyn yn arwydd er daioni. Blwyddyn wen fo'r flwyddyn newydd, a'r Darian yn loeyw a glan ar i hyd.—Yr eiddoch yn gywir, I SION SANA. j
Bethesda, Abercwmboi.
Bethesda, Abercwmboi. Cynhaliwyd cyfarfodydd chwarterol yr Ysgol Sul Rhagfyr 28, 1913. Llyw- yddwyd gan Mr. Jenkins (gweinidog). Cymerodd y rhai canlynol ran mewn adrodd a chann W. R. Ward Lizzie Ellen Grant, A. E. Evans, Dt J. Lam- bert, H. M. Evans, Sydney Hill, Maur- ice Ward, Lizzie M. Rees, D. M. Rees, A. Morris, A. E. Evans, Maggie M. Neal, M. Maud Jones, W. R. Ward, Lizzie M. Lambert, Sarah Morris, Joseph Ward, H. M. Jones, M. M. Neal, M. M. Jones, Bella Wills, J. Mor L. J. James, W. R. Ward. Parti W. Evans. Chwareuwyd yr offeryn gan Mrs. M. A. Richards, A. C. Canodd plant y gobeithlu dan arweiniad Mr. W. Evans. Gwiiaed y trefniadau gan Mri. T. Ward, yr arolygwr, a W. Evans, yr ysgrifennydd. Holwyd y plant gan Mr W. C. Edmunds.
Bethlehem, M.C.j Mountain…
Bethlehem, M.C.j Mountain Ash. j Eleni eto, fel arffcr, bu y foneddiges I hawddgar Mrs; (Dr.) Davies-J ones, Bryncerdyn, yn garedig iawn tuag at blant yr Ysgol Sul uclhod. Y mae y thai bach er's rhai blynyddau bellach wedi dod i edrych ar roddion Mrs. Jones fel rhan o'r gwyliau. Rhoddodd ffrwythau a chardiau i bob uti o'r plant. Bu yn Ysgol y Plant yn rhoddi anerchiad iddynt a chafodd .dderbyniad gwresog. Cyflwynwyd Llyfr Hymnau hatdd iddi gan y Parch. J. R; Evans, B. A., B.D., ar ran yr Ysgol. Siaradwyd h6fyd gan Mri. D. Thomas a W. Davids, arolygwr. Y mae dyIed yr eglwys yn fawr iawn i Mrs. Jones am ei haelioni tuag at yr achos.
Advertising
        _?  ?.?_  ?__ GWAED! GWAEDf i GWAED! j MAE IECHYD A BYWYD YN i DIBYNU AR WAED PUR CRYF, IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills: Mae "Hughes's Blood Pills" yn tiynod effeithioi at Creu Cwaed Newydd, Pur a Chryf, felly yn dylanwadu ar holl Organau y Corn, drwy hyny yn laohau Dolur Pen, Diflyg Traul, Biliousness, Afu DdrwI, Tarddiantau a? y Cnawd, Cornwydon, Scurvy, Plies Fits, Nerv- ousnesa, C w y n t Cwynegon (neu Cymal- wst), Poen Cefn, Lum- bago, Corti- rwymedd, Neuralgia, Anhwylder- au yr Aren- au, Iselder Yspryd,1 S u r n I y Cylla. BENYWOD! At Anhwylderau tueddol i bob Gwraig, Mam a Merch o bob oedraa mae II ughes's Blood Pills" yn nodedig o effeithioi. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pills hyn gofaler rhag gael eich twyllo. Mynwch weled y Trade Mark, sef llun Calon fel hyn— I8r at  t?? '?MH?BNr ar bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemist a Stores am 1/11, 2/9, 4/8. Neu danfonwoh ei Gwerth mewn Stamps neu P.O. at y Perchenog- i JACOB HUGHES. MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L D.S Penarth, Cardiff. Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYSXRD). Prifathraw—T. F. ROBERTS; M.A., LL.D. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadaa Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaethan (rhai o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Am fanylion pellaoh, ymofyner a— J. H. DAVIES, M.A., Cofrettrydd. Pregeth "WII Bryan." Yn gyntaf, y gwrtbddrych a nodir-"Davies's Cough Mixture." Yn ail, y ddyledawydd a gymmhellir Ei gymmeryd a'i recom- mendio." Yn drydydd, y wobr a addewir- Rhyddhad oddi wrth Beswch ao Anwyd." DAVIES'S COUGH MIXTURE, at Beswch, Anwyd. DAVIES'S COUGH MIXTURE, at Asthma, Crygni. DAVIES'S COUGH MIXTURE, at Pas, Bronchitis. DAVIES'S COUGH MIXTURE, at Influenza. Nid rhaid i DAVIES'S COUGH MIXTURE wrth ganmoliaeth—y mae wedi bod o flaen y cyhoedd er's blynyddoedd; ac y mae y per- chenog, drwy draul a llafar di-ildio, wedi ei berffeithio yn y lath fodd fel y mae yn cael ei gydnabod fel darganfyddiad gwerthfawr at yr anhwylderan, 1$" Nid ydyw DAVIES'S COUGH MIXTURE yn mhlith y darpariaethau hyny sydd yn cael en hargymmhell at bob Afiechyd, ond yn unig at anhwylderau y Frest, megys Anwyd, Peswch, Asthma, Pas, Crygni, Bronchitis, Caethdra, a Diffyg Anadl, Mewn Poteli la a 2/9 gan bob Druggist. HUGH DAVIES Chemist, Machynlleth. LADIES BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities, &0.. they speedily afford relief and never fail to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple, &o. fcianchard's are the Best of all Pills for Women." Sold in boxes, 111 J. by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free, same price, from ESLIE MARTYN Ltd., Chemists, 3 DALSTON LANE, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id, stamp EVERY MAN, i To those who feufier from any Skin or r DJood Disease, Nervous Breakdown, Kidney, Bladder Troubles, or any chronic complaint or weakness, Scientific treatment can effect a complete cure. Write or, if possible, call. I FTTBATMFTNT BY POST. DR. TTtJXLET Medicine Company, XI Telephone 1228 Cardifl. MILL LANE, ST. MARY ST., CARDIFF. EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how aU hvegulazities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recom- 1 mended by eminent Physicians, as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. Thousands of Testimonials. Established 1862. Q1_ MR PAUL BLANCHARD, 1 ™ Olarwnont Bouse. Dalaton Lane, London. h FFORESTFACH near Swansea. THE THIRD ANNUAL Chair Eisteddfod will be held on Whit-Tuesday June 2nd, 1914. g-alo Voice Competition, The Assyrian came down" (Cyril Jenkins) J620 and 10/G to each unsuccessful conductor. Mixed Choral My Love is like the Red, Red Rose" temlyn Evans) £10 and 10/6 to each unsuccessful oonductor. Children's Choral, "Sweet and Low (Barnby) 1st £ o., 2nd JE2. Conductor, Ben Jones, Esq., Fforestfaoh. Music Adjudicators: Cyril Jenkins, Esq., London; Dr Tbos. R. Mayne, B.A., Mus. Doc., Llandrindod; Jno. Phillips, Esq., Aberavon. Literary, Gwili, Ammanford. Preliminary Programmes now ready, may be obtained from the General Secretary, David Jemkins, Gendros, Fforestfach Do you want M 0 N E Y ? for extending your business, entering into a new business, or for any good purpose what- soever ? Apply THE SOUTH WALES EQUITABLE MONEY SOCIETY Registered under Friendly Societies Act) ALBERT CHAMBERS, HIGH STREET, CARDIFF Branches SWANSEA—10 High Street Arcade. NEWPORT-J. R. Rowlands, 11, Skinner St. PENTRE-E. T. Davies, Victoria Chambers. FERNDALE—W. J. Jones, Tudor Chambers. i TREDEGArl-Temperance Hall. PONTYPOOL-J. R. Rowlands, 20 Crone St. MERTHYR—A. T. Smith, 4, Castle St AGENTS WANTED where unrepresented. £6 10s for Is 2d per week, £13 for 2s 3d per week, and so on up to f32 10a for 5s 2d per week. Assets nearly £ 50,000. Ask for Balanoe Sheet and prospectus. THE Aberaman & fountain Ash Billposting and Advertising Co. Proprietors of the most prominent stations a Aberaman, Cwmaman, Cwmbach, Abercwmboi, Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. All communications and parcels should b. addressed to the MANAGER, Public Hall & Institute, Aberaman, Aberdare Tel. P.O. 12, Aberaman. Send your Orders for PljlNTIflG TO THB Leader&Tarian Office Cardiff Street, Aberdare. Posters, Handbills, Circulars, Tickets, Programmes, Balance Sheets, Church Reports, and all kinds of Printing done in up-to-date Style, combined with ifrst-class Workmanship. SATISFACTION PROMPT GUARANTEED. DESPATCH. 5' Hysbysiad o Bwys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosbarthwyr. Teimlwn mai angenrhaid yw gwnepf yn hysbys y cyhoeddir y Darian bod dydd Mawrth, ac y danfonir hi i'r holl ddosbarthwyr brydnawn yr UB dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonant hysbysiadau neu newyddion urgent ofaJu eu bod yn cyrhaedd y swyddfa heb fod yn ddiweddarach na bore Mawrth. Carem gael bob gohebiaetfc arall mor gynar ag sydd bosiblt Anfoner pob gohebiaeth a phob ttt, fodaeth yn dal perthynas a'r "Daria«" i'r cyfeiriad a ganlyn YN UNIG SWYDDFA'R DARIAN,* ABERDAR. MPAGB Book about Herba and how to use them Post Free. Send for one.-MmneM. Tbg 144, Obrdiff- B.?t<?< HerboPUIstX, ASIM NOTE THE ADgDKgdMfflaB Tba is". TO prevent fraud see that jov get Esiablishik 1879 on every label and wrapper of MY prepara lions, without which none Are genuine. -Trimnell,, Tb Herbalist, 144, Richmond-road, Cardiff. TRIMNELL'S PILLS AND POWDERS have aura Thousands Why not you? See that younl 'Established i dig on every label,—Trimnell, ft. Herbalist, 144. Richmond road, Cardiff, Agaat an ted. g pacialitiea, ladiarubber Appliances. Boiai &s. Best and Cheapest, List on apptieatlea riimaell, Riahmoii raai Cacdifl