Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Thompson & Shackell, Ltd. PIANOS AND PIANOS AND ORGANS. Cheapest House in the Trade. ORGANS. ESTEYBORGAN AGENCY, 24, Queeri-street, Cardiff. BRANCH ADDRESSES:- SWANSEA 33, Castle-atreet. PONTYPRIDD 6, Taff-street. NEWPORT .i3, Commeroial-street. GLOUCESTER 42, Eaatgafce-street. UiANELLY .60, Stepney-street. BRISTOL.142, Newfoundland-road. MERTHYR 114, High-street. BRIDGEND .1, Wyndham-etreet. Terms i Hire System, from 10/- Monthly. IS" Large Discount for Cash. OLD PIANOS TAKEN IN EXCHANGE. LIST FREE ON APPLICATION. N.B.—ALL GOODS DELIVERED FREE TO ANY ADDRESS. Mi P E. GANE (?r'), L? Po E. GANE (1,,aIe nd Cane BEST HOUSE IN WALES FOR VALUE IN SUl FURNITURE, CARPETS, s: FLOOR COVERINGS. I REMOVAL CONTRACTORS. I jM!??? J ESTIMATES FREE. £ *3^ 38 & 41 QUEEN ST., CARDIFF. DO YOU SUFFER FROf4 EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Carmarthen Dairy, Seymour St. a Whitcombe St., ABERDAR. Cynyrch Llaethdy o'r Fath Oreu, yn cynwya Hufen Ceuledig Ammrwd a Devonshire, yn newydd bob dydd. Wyau Newydd Ddodwy-Gwarantedig. "IDarperir ar gyfer Partion To. Anfonir Llaeth ddwywaith y dydd. BOON TO THE LAME. ———— J. J. STUBBS, Maker of ARTIFICIAL LIMBS, with RUBBER FEET. Are the most Natural, most Efficient, most Comfortable. Absolutely noiseless. Fitted with Ball Bearing Joints. All bolts, springs, catguts abolished. Over 2000 iimbs in use. Hundreds of Testimonials. Every limb guaranteed. Trusses, Belts, and aU kinds of Surgical Goods kept in stook. RUBBER SPECIALITIES. Write for Catalogue. 51 CITY ROAD, CARDIFF. ———— Hanes Llanwyno. Gan y Diweddar GLANFFRWD. Dygir allanj AIL-ARGRAFFIAD o'r Llyfr dyddorol uchod gan Mr. Erbin Glanffrwd Thomas, mab yr awdwr. Dan Olygiaeth y Parch. R. WILLIAMS, Aberdar. Vn awr yn Barod. Argraffwyd yn Swyddfa'r "Darian," Aberdar. Anfoner pob archebion i MR. ERBIN GLANFFRWD THOMAS, Glanffrwd, Graigwen, Pontypridd. Pius :SAmlen, is.^drwy y Post, is. id. Llian, is. 6d., drwy y Post, is. 7d. NEUADD GYHOEDDUS, PONTARDAWE. Y DRYDEDD Eisteddfod Gadeiriol FLYMYDDO i DYDD SADWRN, MEHEFIN 20, 1914. PRIF FEIRNIAID: CERDDORIAETH- D. VAUGHAN THOMAS, Yaw., M.A., Mus. Doc., Abertawe. j E. T. DAVIES, Yaw., F.R.C.O,, Merthyr. LLENYDDIAETH: SARNICOL, Merthyr. CYSTADLEUAETH CORAU MEIBrON:-(&) "The Assyrians came down" (Cyril Jenkins); (b) "Y Oariad Gollwyd (D. Vaughan Thomas). Gwobr J640. COR CYMYSG: Yr Hafaidd Nos (D. Vaughan Thomas). Gwobr X15. COR PLANT: Autumn Days (E. T. Davies). Gwobr X8. Unawdau (Agored ac i Novices), Cystadleuaethau ar y Berdoneg a'r Crwth, &c. PRYDDEST Bach dy lwyth wrth y ser." Gwobr JE3 3cJ. a Cbadair Hardd. Cyfansoddi Cywydd, Telynegion, Englynion, a Drama, Adroddiadau, etc etc. Rhagleni yn barod yn fuan (drwy y post lie.), oddiwrth yr Ysgrifenyddion- MORGAN JONES. W. THOMPSON DAVIES. THE CYMMER C.M. SIXTH ANNUAL CHAIR EISTEDDFOD will be held at ST. JOHN'S HALL, CYMMER, PORTH, ON SATURDAY, FEBRUARY 28th, 1914. PRESIDENT THE HON. ROLAND E. PHILIPPS, LONDON. CHIEF EVENTS: I Mixed Choirs, We never will bow down," £15, and a Challenge Cup, value £6 6/ Present holders of the Cup: Mardy United Choir. Male Voice, The Pilgrims," £ 15. 21/ for Soloist, and a Silver mounted = United Choir. sented to the successful conductor by MtSMB. Dale, Forty & Co., Ltd., Piano and Orga Merchants, Cardiff. Second Male Voice, In the Sweet By-and-bye," 95. Children's Choirs, (a) Song of Truth," (b) Lullaby," e5, and a Gold Medal presented by Mrs. Morgan Hicks, Cymmer Solos, 21/- (open Novice), Trio (open), Solo for Children, two Pianoforte Solos, Penillion Singing, Englyn, Essay. Prize Bags, Recitation 21/, Mining Subject, Chair Poem-21/- and a Solid Oak Chair, suitably carved, value X4 4.1-, presented by the Roath Furnishing Co., Taft Street, Pontypridd. Programmes, Id. each; lid. post free. Winning Compositions of the last Eisteddfod can be obtained from the Secretary in book form, 6d. eaoh post free 7d. Hon. Secretary-Tom EVANS Gwalia Cafe, Cymmer, Porth. TELEGRAMS: INTERCEPTOR," CARDIFF. TEL. NO. 461. Geo. Couzens & Sons, Ltd. COMPLETE SHOP-FITTERS FOR ALL TRADES, & SHOP-FRONT BUILDERS. ESTIMATES AAD DESIGNS FREE. • CITY ROAD WORKS, CARDIFF. At y CyHoedd yn Abordar. Parthed Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Jlos Lui), y 12fed o Ionawr, 1914, am 7 o'r gloch, yn Ysgol y Saforaau Uwch, Heol y Cadlys, BYDD Cyfarfod Oyoeddus, Pryd yr anerchir y Cyfarfod gan Syr EDWARD ANWYL A D. LLEUFER THOMAS, Ysw., Ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru. R. H. MILES, Uwch Gwnstabi Miscin Uchaf. Williams & Co., Supply Stores, Aberdare, Hold a Large Stock of Barley Meal, Ityaize, White Oats, Bran, Sharps, Indian Meal, &cM &c. Which we are clearing at Creatly Reduced Prices Supply Stores, 2 Cardiff St., Aberdare.
[No title]
SYLWER: Anfoner Llyfrau, &c., i'w hadolygu i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," a gofelir am wyr cymwys i roddi barn arnynt. Ni chyhoeddir I adolygiadau o hyn allan, oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolyg- iad.
I Nodiadau'r Golygydd.I i
I Nodiadau'r Golygydd. I Dyma flwyddyn newydd eto wedi gwawrio arnom. Pwy a wyr beth a'i erys cyn ei diwedd? Dyma dymor yr addunedau a'r penderfyniadau—llawer o honynt i'w hanghofio'n fuan. Ein perygl efallai yw mesur ein hamser yn flynyddoedd ac nid yn ddyddiau ac yn oriau. Nid beth a wnawn yn ystod blwyddyn ddylasai fod yn gwestiwn i ni, ond beth a wnawn yn ystod y dydd—yn awr. Y mae'r flwyddyn yn hir i edrych ymlaen ati, ac yn ein tueddu i oedi, gan gysuro ein hunain fod gennym ddigon o amser at ein gwasanaetli. Bydd,oedi a diogi yn golled, yn ein hanghymwyso i ddal ar gyfleusderau, ac yn peri ein { bod ar ddiwedd y flwyddyn yn siomedig. Priodol ar ddechreu blwyddyn fyddai troi i'r Hen Lyfr ac at ddameg y gweis- ion a chofio tynged y gwas drwg a ddy- wedai yn ei galon—Y mae fy Arglwydd yn oedi dyfod. j Diolchwn am y llongyfarchiadau a gawsom ar ymddangosiad ein rhifyn cyntaf o'r Darian. Y mae arnom angen cynorthwy yn ogystal a llongyfarchiad- au. Y mae rhai eisioes wedi gwneud yn rhagorol, ac yr ydym yn diolch o galon iddynt. Amcanwn at wneud y Darian yn Bapur yr Aelwyd Gymreig-yn bapur i'r plant a'r bobl ieuainc. Ar gyfrif hyn gwelir ein bod yn ceisio tawelu'r ystormydd a'r ymrafaelion. Ymdrecher ar i bob dadleuaeth fod yn foneddig- aidd ac yn adeiladol. Ymdrecher am y I gwir ac nid y gair ola mewn dadl. j Blwyddyn gofiadwy fu'r un a'n gadawodd am ei haneswythdra, ei rhyfeloedd a'i thrychinebau. Y peth goreu, yn ddiau, ynglyn a'r amseroedd diweddaf yw anesmwythdra'r bobl. Yn hyn v mae gobaith y byd. Nid da yw fod y bobl yn cysgu yn en darostyngiad. Pe cysgent. cysgu gaent, a rhywrai yn effro iawn yn manteisio ar eu difater- wch. Dichon y gwnant gamgymeriadau wrth ddeffro a pheri anghyfleustra i lawer a chodi rhagfarn. Ond cofier eu bod wedi cael cam yn eu cwsg. Deffro- ant i sylweddoli eu bod yn bur dlawd ac eraill wedi manteisio yn annheg arnynt. Edrychwn yn ojbeithiol ar ddeffroad y werin am y credwn mai crefydd, addysg, a diwylliant sydd yn ei achosi. Am- mhosibl yw i ddylanwad y pethau hyn fod er drwg. Crefydd yn bennaf—meddwl Iesu o Nazareth sy'n deffro'r bobloedd. Nid yw addysg a diwylliant ond ffrwyth y Deyrnas sydd megis lefain yn y blawd. Gwyddom fod addysg a diwylliant uchel ymysg cenhedloedd nas clywsant am Grist, ond y mae'r addysg a'r diwylliant a ffynnant lie mae adnabyddiaeth o hono Ef o nodwedd uwch a gwahanol i'r addysg a'r diwylliant a gynhyrcha, unrhyw grefydd arall. Diddorol i ni yw perthynas eglwysi'r wlad a deffroad cymdeithasol y bobl- oedd. Gwyddis fod condemnio lawer wedi bod arnynt ar y naill du, ac am- ddiffyn dewr o'r tu arall. Yn mwg a than y frwydr methai llawer a dirnad beth oedd yn digwydd. Proffwydai rhai fod dyddiau'r eglwysi wedi eu rhifo; daliai eraill fod oes euraidd eu dylanwad a'u llwyddiant eto ymlaen, ac yr oeddem ninnau o nifer y rhai hyn. Bydd raid i'r byd wrth eglwys. Gall yr eglwys ddirywio a mynd yn anheilwng o'i galwedigaeth, ond nis gellir gwneud i ffwrdd a hi. Ymhob chwalfa ar yr hen, eglwys newydd gyfyd, a honno ryw raddau yn uwch ar Iwybr cynnydd, ac y mae yr hen hefyd yn well o'r chwalfa. Nid oes dim arall fedr gymeryd lie eglwys. Y mae ymlyniad y bobloedd wrthi yn broffwydoliaeth mai o'r y&- brydol a'r anweledig y daw'r gallu a wna ddynion yn un frawdoliaeth fawr. Er mor fendithiol waith yr Undebau Celf, ni wnant yn lie eglwys. Nid hir y Jboddlona dynion heb addoli, a thyn addoli hwynt 6 angenrheidrwydd ynghyd. Ar y tir hwn yr adwaenant eu gilydd yn frodyr a chyfyd eglwys. Ein barn yw fod yr eglwysi wedi gwneud mwy nag a dybiasant a'u bod yn hwyrfrydig i adnabod, i arddel nac i weled posiblrwydd eu gwaith a'u llafur eu hunain. Pwy fu mor egniol o blaid addysg, diwylliant, a thegwch a chyf- iawnder a hen bregethwyr Cymru? Pwy gyhoeddodd mor groew urddas ddynoliaeth? Bu llawer, ysywaeth, yn hwyrfrydig i adnabod ffrwyth eu Ilafur yn y deffroad. Diau i gyndynrwydd ac arafweh rhai eglwysi suro a digio llawer. Erbyn heddyw y duedd yw cydnabod llafur yr eglwysi ac apelio atynt. Y mae yr eglwysi eu hunain hefyd ar y cyfan yn .cael eu traed o danynt. Ymddengys y bydd llu o'n gweinidogion ieuainc yn y man yn olynwyr teilwng i'r tadau gynt mewn brwydrau o blaid rhyddid y werin a'i dyrchafiad.
Bwrdd y Golygydd.
Bwrdd y Golygydd. Ap Rhidian. Cydnabyddwch eich camarwain gan frawd o Dreherbert parthed y cyfeiriad wnaed mewn pre- geth at Ole Coch, ond gwell peidio cy- hoeddi eich llythyr. Tybed, gan fod y brawd hwnnw wedi darllen eich llyfr, nad oedd yn bosibl iddo yntau fod dan gamargraff ar y pryd gyda golwg ar y defnydd wnaeth Mr James o'r frawddeg. Gwell gadael y mater bellach. Aronfa Griffiths.-DioIch. Carem gael ychwaneg gennych ar y cwestiwn hwn a chwestiynau tebyg. Y mae gan lawer o honom, er hynny, adgofion melus am yr hen wely gwellt yn y "bing" rhwng pennau y gwartheg. Treuliwyd llawer awr yn ddifyr yn y lleoedd hyn gyda chymdeithion llawen. Pwy rydd i ni ychydig ar ochr oleu yr amser hwnnw? Cysgodd Gol. Darian mewn amryw o'r gwelyau gwellt hyn, a chysgodd wedi hynny mewn lleoedd gwychach ond llai cysurus. D. Arthen Evans.—Bydd y Darian at wasanaeth Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Galwch sylw'r plant at lith "Moelona" yn y rhifyn hwn. H.G.-Yr oedd breuddwyd Gole Coch yr Iwerddon yn ddiddorol iawn i ni er nad oeddem yn credu nemor ddim o hono. Gadewch lonydd iddo gresyn fyddai ei chwalu. Yr oedd yn well o lawer na'ch beirniadaeth chwi. Gwyliwr: Ni chaniatawn ar un cyfrif ymosodiadau o dan ffugenwau ar oheb- wyr cyson ac adnabyddus y Darian. Nid yw'r un yr ymosodwch arno yn elyn i grefydd; y mae yn weithiwr egniol gyda hi. Ai ni ellwch weled fod cryn wahaniaeth rhwng condemnio crefydd a chondemnio llawer o bethau a wneir yn ei henw? D. E. Evans, Gwernogle.—Nid nyni oedd gyfrifol am y Darian pan ym- ddanghosodd gohebiaeth Aronfa Grif- fiths ynddi. Gwelwch ein bod eisioes wedi bod yn Darian i chwi rhag ymosod- iad un arall. Gwell gennym beidio cy- hoeddi eich llith chwithau. Gadawer i'r ystormydd dawelu gyda gwawr y flwyddyn newydd. Mae eich llith hefyd yn rhy faith. Bydd croeso i lithiau byr- ion o'r eiddoch ar unrhyw bwnc. I Law: Beirniadaethau Caerfyrddin, Caerdydd a Bodringallt; Oswal, Dal Signo. Darn Adrodd, Fforestfach: Daw hwn yn y "Darian" nesaf. D.8.: Carem i'n gohebwyr beidio anfon, o hyn allan, ddarnau o farddon- iaeth gyda'u gohebiaethau. Anfoner y cyfryw i'r gwr o'r Hendre.
iHWNT AC YMA. !
HWNT AC YMA. GAN LYWELYN." Cyhoeddiad misol newydd ydyw y. "Welsh Outlook ei olwg yn dden- iadol a'i gynnwys yn ddiddorol. Ceir ef am dair ceiniog. Saesneg yw ei iaith. Ceir ynddo ysgrifau diddorol ar "Ragolygon Crefydd yng Nghymru," Llenyddiaeth Gymreig Ddiweddar," "Y Ddrama," a llu o bethau eraill. Y mae amrywiaeth y rhifyn hwn yn atyniadol, a'r darluniau geir ynddo yn wir dda. Daeth chweched adroddiad blyn- yddol Amgueddfa Genedlaethol Cymru i law. Bydd yn yr amguedd- fa hon le iawn i gael cipdrem ar y gorffennol. Ceir yma ddarluniau da o rai o'r cywreinion, ymhlith y rhai y mae crochan, er y "late bronze age," a glodaiwyd i fyny yn Llynfawr. Am ddeng mlynedd a rhagor, y mae gan Urdd y Graddedigion mewn bwriad gyhoeddi geiriadur safonol a chyflawn o'r Gymraeg. Yn ystod yr wythnosau diweddaf cyhoeddodd y Western Mail" golofnau ar y mater yn rhoi gwahanol opiniynau ar yr anturiaeth fwriadedig. Tybiwn y gall- ,,wn roi'r mater i gyd mewn paragraff rhesymegol. Y mae gan y mwyafrif o'r graddedigion ymenydd, ond dim arian. Y mae gan rai gwladgarwyr lawer o arian ond ychydig o ymen- ydd (ieithegol). Elai cyhoeddi geiriadur cenedlaethol a phris dau neu dri motor- car da, neu bedair neu bump o giniawau. Cymrodorion. Y mae Syr Ivor Herbert yn iawn mater o arian ydyw. Yn y cyfamser y mae'r ym- ennydd yn disgwyl-yn Aberystwyth, —O'r "Welsh Outlook." Ar derfyn gwyliau llawen y Nadolig N sy'n coffa geni Tywysog Tangnefedd, ac ar wawr y flwyddyn newydd, gwnaeth rhywrai ddarganfyddiad sydd yn deilwng fyth o honynt eu hun- ain. Hysbys yw fod y draul aruthrol ar y Llynges yn fater sydd yn pwyso yn drwm ar feddwl Mr. Lloyd George. Cyfeiria yn ami at y gystadleuaeth mewn darpar arfau rhyfel fel gwall- gofrwydd. Datganodd ei farn yn bur groew yn ddiweddar i'r un cyfeiriad. Synned nefoedd a daear Gwelodd y Toriaid yn sylwadau Mr. Lloyd George fater y gellid apelio at y wlad arno. Credant ond iddynt allu ar- graffu ar y bobl ei fod yn "liitle Navy man," na fyddant yn hir cyn cael y Llywodraeth i'r llawr. Gresyn na adawsent i ganiadau'r Nadolig ddis- tewi cyn bytheirio cymaint yn y fath ysbryd rhyfelgar. Dalied Lloyd George ati. Y mae nnym amhniacth- nacl i'n hamddiffyn y gwerir y fath swm anferth ar y Fyddin a'r Llynges. Ca rhywrai fyd da yn helaethwch beunydd ar draul y bobl..10 Pan ddaw yr amser, wedi cael pethau eraill o'r ffordd, bydd y wlad yn disgwyl wrth Lloyd George ar iddo ddweyd yr hyn a wyr am y modd y gwerir yr arian.
IAt Gymry'r Cyngrair.
I At Gymry'r Cyngrair. Adran Gorliewinbarth Morgannwg. Mr. D. Rhys Phillips, Y Llyfrgell Gymraeg, Aber Tawe, yw cynhullydd yr adran hon o Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, a dymunir ar i ysgrifenyddion Cymdeithasau ohebu ag ef. Cynhelir cyfarfod yn y Guild Hall Jbrynhawn Sadwrn, Ionawr 31, am 2.30 o'r gloch. Trefna Maer y Dref i roesawu o 35 i 40 o gynrychiolwyr. Ceir te a lluniaeth am bump o'r gloch. Anfoner yn ddioed at Mr. Phillips fel y gallo wneud y trefniadau angenrheidiol.
Nodiadau am y Sydd.
Nodiadau am y Sydd. Blwyddyn newydd dda i chwi, A blwyddyn hapus iawn Y nefoedd a'ch bendithio chwi, A'r cwpbwrdd bwyd yn llawn. Dyna nymuniad i i bawb perthynol i'r "Darian," hyd yn nod i'r "Gwr Bach Du" sydd bob amser yn y Swyddfa. I Cymreigyddion Rhondda. Nos Wener ddiweddaf, y 3ydd cyfisol, cynaliwyd y cyfarfod misol yn Festri Hebron (B.), Ton. Prif waith y noson oedd dadleu y pwnc o "Ymgorfforaeth y Rhondda." Agorwyd yr ochr gadarn- haol mewn araeth bwyllog a gofalus gan y Cynghorwr Iago Pen Rhys, yn cae l ei eilio gan Ben Devonald ac Arthur J. Timothy. Atebwyd gan y cyn-Gynghorwr Iorwerth Jones mewn beirniadaeth bwyllog a threidd-lym, yn cael ei eilio yn ddigrifol feistrolgar gan D. Griffiths (Tomos Bartley Cwm Rhon- dda). Treuliwyd noson ddifyr tan lywyddiaeth fedrus y Parch. E. W. Davies, Hebron. Canwyd yn ystod y cyfarfod gil-neuon Cymraeg, Gwlad y Delyn a Cwm Llewelyn gan B. Devonald, a'r "Hyn a garaf fi" gan Miss Olwen Lewis, Pentre. Yr oedd yr ystafell eang yn llawn o bobl foddhaus iawn eu golwg, beth bynag. Galwyd sylw at nifer o bethau pwysig yn eu perthynas a'r Gymraeg ar ddi- wedd y cyfarfod, ac yn eu plith at y "Darian" yn ei diwyg a'i harolygiaeth newydd, gan annog Gymreigyddion y cylch i roddi iddi'r gefnogaeth a haedda.