Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BOBL IEUAINC. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BOBL IEUAINC. Anfoner defnyddiau ar gyfer y golofn hon i'r Parch. J. Dyfnallt Owen, Caer- fyrddin. Y Llyfrau Ddarllennodd Ben Bowen Pan yn Lowr. GAN MYFYR HEFIK. Y llyfr diwinyddol cyntaf a nodir yn y llyfr du yw "Studies in Theology" (Denny). Ysgrifennodd ei nodiadau arno yn Gymraeg gan mwyaf, a gwelir iddo ei ddarllen yn fanwl. Yn nesaf daw Self Culture (Rev. W. Uns- worth). Ysgrifennodd ar hwn amryw dudalennau o nodiadau Saesneg. Cy- merer un frawddeg ar antur—" Many doubts are born of impurity. Breathe on a glass and you cannot see through it." Yna daw The Theology of the Old Testament" gan W. H. Bennet, M.A Ysgrifennodd yn helaeth ar hwn eto yn y Saesneg. Dau lyfr Cymraeg ddaw nesaf, sef "Yr lawn" a "Chysondeb y Ffydd," gan Dr. Edwards, y Bala. Mae'r nodiadau ar y rhai hyn yn Gymraeg, ac yn dangos cryn feistrolaeth ar lyfrau anodd. Yn nesaf daw'r "Natural Law in the Spiritual World" (Drummond), a nod- iadau Saesneg helaeth arno. Llyfr y cofiaf ef yn ei ganmol yn fawr yw. Is God Knowable," gan J. Iverach, M.A. bu darllen hwn yn gadarnhad i'w feddwl. Helps to the Ministry (Rouse, M.A., India) sydd yn dilyn. Y mae'r nodiadau yn Gymraeg. Daeth y llyfr hwn i'w law drwy y Parch. T. E. Waters, Mount Elim, Pontardawe, oedd yn ddyn ieuanc yn y Rhondda ar y pryd. Yna daw "Athroniaeth Trefn Iach- awdwriaeth," gyda nodiadau manwl yn Gymraeg. A'r llyfr olaf a nodwn yn awr yw The Mind of the Master (Ian Maclaren). Ceir ar hwn eto nodiadau manwl yn Saesneg yn dangos craffder mawr. Dyna i ti, ddarllenydd ieuanc, enwau ychydig o ysgrifau cyntaf Ben Bowen ac enwau rhai o'r llyfrau diwinyddol a ddarllenodd ac a fyfyriodd yn fanwl pan yn grwt ieuanc, ac yn gweithio yn galed fel glowr ar y pryd. Ysgrifennodd unwaith ar lyfr o'm heiddo ddihareb Saesneg mewn llaw- ysgrif fras—" Spare moments are the gold dust of time." A hynny oeddent iddo ef mewn gwirionedd. Unwaith y cydiai Ben Bowen mewn llyfr, nis gollyngai ef hyd nes y byddai wedi ei feistroli ac argraffu ei gynnwys ar ei gof. Hoffai lyfr y byddai ymylon y dail heb eu torri, fel y gallai gael trem ar ei gynnwys wrth eu torri un ac un. Dar- llennai lawer yn y cyfnod hwn. Ym- ataliaf rhag enw'r llyfrau barddoniaeth a ddarllenodd. Ni ymhelaethaf ych- waith ar yr awydd llosgedig oedd ynddo am bregethu. Diddorol, er hynny, i lawer fydd gwybod mai'r un a adnabu Ben Bowen fel bardd, ac a broffwydodd yn eglur am y cynnydd a fyddai iddo, oedd y gwr o'r Hendre. Dywedai ef wrthyf ar gae Eisteddfod y Fenni ei fod o hyd yn cael cymaint bias ar ei bre- gethau cyhoeddedig fel nad oedd Sabath yn mynd heibio nad oedd cyfrol "Rhyddiaith Ben Bowen" yn dod i'r bwrdd. Da fyddai gennyf fi yn bersonol pe mynnai llawer Hendre y gyfrol. Dyna beth o gynnwys y "llyfr du." Ai nid yw yn dangos yn eglur y llwybr gwyn i bobl ieuainc ?

Horeb, Pump Heol.

ARQRAFFWAITH.

IAdolygiaeth.I

Treharris ar Cylch. I

I I Bethania, Aberdar.I

Advertising

! Trefforest a'r Cylch.