Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNBWYSlAD.

Yn Fan ac yn Ami.

Plasmarl.

0119TEDDFODAU DYFODOL.

I __COLOFN LLAFUH. I

Glais. I

Ar Lannau'r Tawe.

t I ! Hirwaun.j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Hirwaun. j Bu glowyr yr ardal hon yn croesawu dau atal-bwyswr newydd i'w plith nos Iau diweddaf yn Festri Ramoth. Ar ol bod am flynyddau allan o Un- deb y Glowyr, ymunodd gweithwyr (yr ardal hon ag ef yn ddiweddar. j Gwnaethant hyn yn wyneb bygythion chwerw o eiddo rhai a honent yr: adwaenent berchenog y gwaith. Caf- wyd y flwyddyn oreu yng ngh6f heb; sy'n fyw mewn ystyr fasnachol yn yr j ardal hon y flwyddyn ddiweddaf, a bellach bydd yr atal-bvyswyr yn gofalu am hawliau'r gweithwyr. Y ddau wr a ddewiswyd i'r swydd hon allan o nifer fawr ydoedd Mr. Goodall, o Ebbw Vale, a Mr Rich- ards, o Flaengarw. Y maent yn ymddangos yn wyr doeth a phwyllog, ac er nad yw Mr Goodall yn deall Cymraeg hyd yn hyn, da gennym gael ar ddeall ganddo ei fod wedi trefnu i gael gwersi yn yr hen iaith gan athraw cymwys o'r ardal, ac hydera allu annerch y gweithwyr yn Gymraeg yn fuan. A ni yn son am yr hen iaith, llaw- enydd yw meddwl am ei chyflwr iach yn y gymdogaeth hon. Yn Gymraeg yr addola mwyaf'f mawr gwyr Hir- waun, ac hyderwn y bydd i "Darian y Gweithiwr" gael croeso brwd i lawer aelwyd yma. Deallwn mai gwan yw cefnogaeth Eglwyswvr yr ardal i'r hen iaith, er fod y Ficer, y Parch. Dewi Williams, B.A., yn Gymro pybyr. Cafwyd rhagor nag un bregeth Gymraeg yn yr Ystafell Blwyf yn ystod y flwyddyn ddiweddaf heb ond un neu ddau yn ei gwrando, ac yn Saesneg y dygir ymlaen y rhan fwyaf o ii-4th Eglwys Loegr yn Hir- waun. Pasiodd Cyngor Eglwysi Rhydd- ion yr ardal hon yn ddiweddar i anfon gwrthdystiad cryf i Gyngor Dosbarth Aberdai, vn erbyn caniatau cais Ficer y plwyf hwn am ran o'r Gladdfa Newydd i'w chysegru at wasanaeth yr Eglwys. Apelid gydag unfrydedd I mawr at y Cyngor i beidio a gwaddoli I un sect grefyddol trwy gyflwyno I eiddo'r trethdalwyr iddi, heb ofyn yn gyntaf farn y trethdalwyr ar y cwesti- wn. Hysbysid y Cyngor hefyd mai un o bob ugain o'r ardalwyr sy'n Eglwyswr, tra y mae un o bob ped- war yn Ymneilltuwr. Poenir yn fawr y rhai a barchant f ddydd yr Arglwydd yn yr ardal gan y ducdd i'w sarnu sydd yn mynd ar j gynnydd parhaus yma. Agorir am- ryw o'r siopau bach am ran o'r Dydd Sanctaidd, ac yn ddiweddar agorir un masnachdy drwy y dydd, a thyrra (-in pobl ieuanc yno. DeaUwn fod i hybudd wedi ei roi yn un o Eglwysi Y mneilltuol y cylch y bydd unrhyw, aelod a welir yn myned i fasnachdy I ar Ddydd yr Arglwydd yn cael ei ddiarddel, ac y diarddelir unrhyw aelod a egyr ei fasnachdv ar y Sabboth. Gofid calon i garwyr y Sabboth oedd gweled y gorymdeithio diystyr drwy heolydd Hirwaun y Sul diwedd- af. Cerddai clwb svdd vn arfer a dwvn ei weithrediadau ymlaen yn un o dafarndai yr ardal yn cael ei flaen- ori gan y Seindorf drwy y gymdog- aeth, ac wedi dangos digon arnynt eu hunain aethant i'r Eglwys. Blin gennym weled rhai Ymneilltuwvr yn ymostwng i blentyneiddiwch fel hyn. Y mae mwy o adeiladu tai yn yr ardal hon nag a gofia neb sydd yn lyw. Arwydd dda yw hon, a chredir fod dyfodol gwych o flaen Hirwaun. Dioddefodd gweithwyr yr ardal lawer mewn blynyddau a fu, ond dywed y rhai a adwaenant arwyddion yr am- eroedd v gwelir Hirwaun eto yn ,yrchfan llaweroedd. PANT-Y-G^\rCW.

Advertising

pontycymmer.