Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNBWYSlAD.

Yn Fan ac yn Ami.

Plasmarl.

0119TEDDFODAU DYFODOL.

I __COLOFN LLAFUH. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I COLOFN LLAFUH. I I GAN PEREDUR. I Parhau yn eu chwerwder y mae y streics yn Dublin, Leeds a Wycombe. Elfenau cymysglyd a thrafferthus iawn sydd yn nodweddu amgylchiadau y ddau le blaenaf. Y mae yn syndod fod y werin weithgar Brydeinig wedi cynorth- wyo mor sylweddol a brwdfrydig y streicwyr uchod pan gofiwn am weith- rediadau a dywediadau annoeth rhai o'r arweinwyr. I Larkin. ¡ 1 I Y mae yn anodd goddef a chaniatau I rhai o'r pethau a wnaethpwyd gan Mr. Larkin, er fod y pethau hyny, meddir, yn cael eu cynyrchu a'u symbylu gan gydwybod sydd yn fyw i deimladau cref- yddol. Y mae brwdfrydedd gor-gref- yddol o hyd fel yn hanes Saul o Tarsis yn foddion i ladd a dinystrio achosion sydd yn dda a bendithiol yn eu hanfod. Ni wad neb wirioneddolrwydd teimlad I brwdfrydig ac aberth angerddol Jim Larkin dros gyflwr gwasaidd a gorth- rymedig y gweithwyr Gwyddelig ond y mae yr angerddoldeb personol hwn, heb gael ei gydbwyso gyda Jbarn a phrofiad cydswyddogion a gweithwyr profiadol a dysgedig eraill, bron bob amser yn mynd ar gyfeiliorn, ac yn arwain i ddyryswch nas gellir yn rhwydd ymryddhau o hono. I Y Clerigwyr. I Gyda'r un priodoldeb y gellir con- demnio rhagfarn grefyddol eithaiol ar- weinwyr Pabyddol y ddinas Wyddelig. Cynhygiai dinasyddion twymgalon gy- meryd plant bychain diniwed allan o ddylanwadau'r drafodaeth, a'u cynal mewn digonedd o fwyd a .dillad hyd nes y deuid i ben a'r streic. Ond syned y nefoedd, dyma ddynion sydd yu honi pregethu brawdgarwch a ffyddlondeb cymdeithasol, yn protestio, ac yri rwrtbod i'r rhai I-ivehalti hyn J&Kfo, odd i Lioegr,- rhag en troi at Brotenean* iaeth. Dywedwn eto, y syndod yw o dan yr amgylchiadau, fod y werin wedi cyfranu cymaint tuag at streicwyr Dublin. I Leeds. I Dyma streic sydd yn rhoddi bodol- aeth i amgylchiadau cymharol newydd a diethr yn myd llafur. Yma y ceir rhai miloedd o weithwyr trefol yn sefyll allan am godiad'mewn cyflog. Y meis- tri yn yr achos hwn ydyw y trethdalwyr fel Corfforiaeth. Gellir edrych ar y berthynas rhwng meistri a gweithwyr yn ffurf o werin lywodraeth, mewn am- gylchiadau gweithfaol a diwydianol. Cawn fod mwyafrif aelodau y Cynghor Trefol yn Doriaid neu Ryddfrydwyr, a bod y rhai hyn wedi eu hethol gan fwyafrif o'r dineswyr. Felly y mae yr hyn a wnant yn gymeradwy gan y mwy- afrif. Os na, gwylied y gweithwyr pwy a osodant i'w cynrhychiolu ar y Cyng- hor Trefol yn yr etholiadau nesaf. I Cais am Godiad. I Yr oedd cais y gweithwyr i bob ym- ddangosiad yn eithaf rhesymol-codiad o ddau swllt yr wythnos-pan gofiwn taw dim ond un swllt ar ugain a phed- war ar ugain pr wythnos oedd cyflog y mwyafrif, ni all neb wadu rhesymoldeb y cais. Ond heth yw yr amgylchiadau? Iseled ydyw syniadau, hyd yn od athrawon y colegau, am hawliau llafur, fel y cymeradwyant ymddygiad myfyr- wyr annystyriol yn cynyg eu hunain i gymeryd lleoedd y gweithwyr oeddynt allan ar streic. Dywedant fel esgus- awd, bod yn ddyledswydd arnynt am- ddiffyn llesiant y llusaws dineswyr. I Efrydwyr yn Actio Coesau Duon. I Os yw llesiant y mwyafrif unrhyw amser yn cael ei enill ar draul gorth- rymuy gweithwyr nis gall y cyfryw well- iant fod yn welliant gwirioneddol. Yn sicr y mae egwyddorion gwirionedd a chytiawnder yn pallu yn eu grym, ac yn ddiffygiol yn eu hanfod, os nad yw eu dylanwad yn gyson fydweithredol (uni- versal). Beth bynag y mae yr am- gylchiadau yn ddyddorol bruddaidd, ac yn wers bwysig mewn llywodraeth gym- deithasol. Gobeithio na chollir y wers gan y gweithwyr. I Trengholiad Senghenydd. I Dechreuwyd y trengholiad i achos y danchwa uchod yr wythnos ddiweddaf. Ciwylir buddiannau y meistri. y gweith- wyr a'r perthynasau gan ddynion o allu a chymwysterau neillduol. Gwel- wn fod y goruchwyliwr a'r is-swyddog- ion eraill wedi cael myned trwy oruch- wyliaeth lem yn ystod y croesholi. Dengys Mri. W. Brace a Tom Richards allu neillduol ac ymarferol yn y gwaith o holi. Mor belled, y mae cyfaddef- iadau y swyddogion yn ddiddorol iawn. Buddiol fydd i'r gweithwyr i sylwi yn fanwl ar gwrs yr ymchwiliadau hyn i amgylchiadau y danchwa ofnadwy hon. Ymchwiliad Aral.1 Y mae yr ymchwiliad i amgylchiadau y cynwrf (riots) a ddigwyddodd yn Dublin Sadwrn, y 30 o Awst diweddaf, wedi dechreu yr wythnos ddiweddaf. Anfoddhaol iawn yw ymddygiad y Twrne Powell-yr hwn sydd dros y Cwnstabliaid. Dywedir yn y papurau llafurawl nad oes gobaith cael ym- chwiliad clir a diduedd i'r amgylchiad- au, o herwydd y modd trahaus a thram- gwyddus gyda pha un yr ymddygir tuag at y tystion sydd yn wrthwynebol i'r Cwnstabliaid. Galwodd y Twrne hwn 'blackguard' ar Mr. Handel Booth, j A. S., ac fel protest yn erbyn y sarhad a'r tramgwydd gwrthododd dystiolaeth pellach, ac ymadawodd a'r llys. Par- j hau yn ei erchylldra poenus y mae y streic yn y ddinas hon, ac yn sicr y mae y dibddefaint yn ofnadwy. Pa cyhyd, O! Arglwydd, pa cyhyd." j Arferion Americanaidd. Oddiwrth gylchlythyr anfonir i Gym- deithasau Llafurawl y dyddiau hyn, cawn fod Swyddfa wedi ei sefydlu yn y wlad yma sydd yn cynyg gwasanaeth swyddogion, yn meddu ar gymhwys- derau neillduol, i sylw perchenogion a goruchwylwyr gweithfeydd. Oynyg- iant wneyd ymchwiliad cuddiedig i hanes a gweithrediadau pob dyn sydd yn gyflogedig ganddynt, ac i roddi many lion o'u dywediadau a'u gweith- rediadau yn y cyfarfodydd a'r pwyll- gorau y byddant yn mynychu iddynt, a'r oil gyda'r bwriad o gospi y gweith- iwr a'i gwneyd yn bosijbl i'r meistri i chwynu allan bawb sydd yn ddigon gwrol i ymladd dros ac amddiffyn ei iawnderau. Ysbiwyr cysylltiedig a'r swyddfa hon yn yr Amerig aydd yn gwneyd y fath ddistryw yn rhengoedd llafurawl undebol y wlad hono. Y Piokerton Police fu yn cynorthwyo y Cawnegie Trust yn Pittsburgh flynydd- au ol a pherthynasau i'r rhai hyny yw y giwaid hyn sydd yn cynyg eu hunain i gyfalafwyr y wlad hon yn bresenol. Yn ngwyneb yr amgylchiadau hyn, han- fodol ydyw i'r gweithwyr berffeithio eu hundeb. Cynghor Celf a Llafur. I Gwelwn fod Cynghor Celf a Llafur Aberdar yn bwriadu cynal gwyl o chwareuaethau a gorymdaith yn amser gwyl y Sulgwyn nesaf. Y maent yn ymwybodol o'r angenreidrwydd i ddar- paru pethau ar gyfer anianawd y dyn- I ion ieuanc cysylltiedig a'r undebau. Wrth ddechreu peth fel. hyn gobeith- iant gynyrchu dyddordeb yn y dosbarth ieuanc tuag at waith yr undebau llafur- awl. Llongyfarchiad. I [Llongyfarchwn Mr. John Davies, attendance officer, AJberdar, ar ei etholiad i gadair lywyddol y Cynghor hwn am y flwyddyn ddyfodol. Dyma yr ail waith i Mr. Davies i lanw y swydd bwysig hwn. Efe oedd ail lywydd y Cynghor wedi ei sefydliad yn y flwyddyn 1900, ac y mae wedi parhau yn gynrychiolydd llafurawl ffyddlon ar hyd y blynyddau. Dymunwn lwydd- iant mawr ar waith y Cynghor, ac i lywyddiaeth y llywydd newydd.—Gol.]

Glais. I

Ar Lannau'r Tawe.

t I ! Hirwaun.j

Advertising

pontycymmer.