Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Thompson & Shackell, Ltd. PIANOS AND PIANOS AND PIAN08 AND nCL h1 eapest t u House in tuh. e T TradJ e. ORGANS. Cheapest House 10 the Trade. ORGANS. ESTEYMORGAN AGENCY, 24, Queen-street, Cardiff. BRANCH ADDRES8E8 8WAN8EA. 33, Castle-street. PONTYPRIDD 6, Taff-streefc. NEWPORT .23, Commercial-street. GLOUCESTER.42, Eastgate-street. LLANELLY .60, Stepney-street. BRISTOL 142, Newfoundland-road. MERTHYR 114, Higlx-iitreet. BRIDGEND .1, Wyndham-street. Terms I Hire System, from 10 Monthly. Large Discount for Cash. OLD PIAN08 TAKEN IN EXCHANGE. LIST FREE ON APPLICATION. N.B.—ALL GOODS DELIVERED FREE TO ANY ADDRESS. DO YOU SUFFER FRONt EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, F.S.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN,' OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. ABERAMAN WORKMEN'S HALL Popular Lectures for the People. Friday, Jaa. 30, Mr. MCNRY C. PREECE (The famous Blind Lecturer). Subject—" The Comedy of Daily Life." Chairman Rev. E. C. Camble. Friday, February 11, Miss ADA L. WARD, L.LA. Subjeot-" Funny Folks: their Fads, Fancies and Foibles." Miss M. A. Davies in the chair. Friday, February 27, Dr. C. W. SALEEBY, F.R.S.E. Subject—"Worry: The Disease of the Age." Chairman: Dr. Trevor Cory. Friday, March 6th, Miss MALECKA (The famir if Warsaw). Subject—" My Experiences in Russian Poland." Mrs. Rose Davies in the ohair. Monday, March 9, at Saron Chapel, Mr. ALEXANDER WATSON. Dramatic Reciter (Serious and Humorous). Chairman: Rev. H. P. Jenkins. The few remaining Reserved Seats will be booked in the order they are applied for. Prices 4/ 2/6,1/3 and tel. for the tive Lectures. Single Tickets (if room) at 2/ 1/ 6d. and 3d. None Seats may now be 9<Mumtil7.M. Doors Open at 7.15 p m., to Commence at 7.45 sharp. Seats may now be booked with the Secretaries-Messrs. W. W. Price, 11 Stuart Streat, AberdMe and D. E. Davies, 18 Hill Street, Aberaman. THE CYMMER C.M. SIXTH ANNUAL CHAIR EISTEDDFOD will be held at ST. JOHN'S HALL, CYMMER. PORTH, ON SATURDAY, FEBRUARY 28th, 1914. PRESIDENT THE HON. ROLAND E. PHILIPPS, LONDON. JlIIKF EVENTS: Mixed Choirs, 11 We never will bow down," 915, and a Challenge Cuo, value 96 6/ Present holders of the Cup: Mardy United Choir. Male Voice, "The Pilgrims," gli5. 21/- for Soloist, and a Silver-mounted Baton will be pre- sented to the sucoessful conduotor by Meours. Dale, Forty & Co., Ltd., Piano and Orga Merchants, Cardiff. Second Male Voioe, In the Sweet By-and-bye." f5. Children's Choirs, (a) Song of Truth," (b) Lullaby," &5, and a Gold Medal presented by Mrs. Morgan Hicks, Cymmer Solos, 21/- (open Novice), Trio (open), Solo for Children, two Pianoforte Solos, Penillion Singing, Englyn, Essay, Prize Bags, Recitation 21/ Mining Subject, Chair Poem—21/- and a Solid Oak Chair, suitably carved, value f4 4.I-, presented by the Roath Furnishing Co., Taff Street, Pontypridd. Programmes, Id. eaoh; lid. post free. Winning Compositions of the last Eisteddfod can be obtained from the Secretary in book form, 6d. each post free 7d. Hon. Secretary—TOM EVANS Gwalia Cafe, Cymmer, Porth. Carmarthen Dairy, Seymour St. a Whitcombe St., ABERDAR. Cynyroh Uaethdy o'r Fath Ore", yn cynwys Hufen Ceuledig Ammrwa a Devonshire, yn newydd bob dydd. Wyau Newydd Ddodwy-Gwarantedig. Darperir ar gyfer Partion Te. Anfonir Llaeth ddwywaith y dydd. Hanes Llanwyno. Gan y Diweddar GLANFFRWD. Dygir allan AIL-ARGRAFFIAD o'r Llyfr dyddorol uchod gan Mr. Erbin Glanffrwti Thomas, mab yr awdwr. Dan Olygiaeth y Parch. R. WILLIAMS, Aberdar. Yn awr yn Barod. Argraffwyd yn Swyddfa'r "Darian," Aberdar. Anfoner pob archebion i MR. ERBIN GLANFFRWD THOMAS, Glanffrwd, Graigwen, Pontypridd. PRIS Amlen, is., drwy y Post, is. id. Llian, is. 6d., drwy y Post, is. 7d. YSWIRIANT CENEOLAETHOL IECHYD. Cardiau Cyfrannu. D YMUNA'R Dirprwywyr Yswiriant Cymreig ddwyn i sylw eyflogwyr y bydd Cardiau Cyfrannu, yn y dyfodol, mewn grym am gyfnod o 26 wythnos, gydag eithrio'r cyfnod a ddechreua ddydd Llun, Ionawr 12, 1914, yn ystod yr hwn y bydd y cardiau mewn grym am I 25 wythnos. Hefyd, dymunant alw sylw at y ffaith y bydd i'r cardiau arbennig ar gyfer per- sonau a ddeil Dystysgrifau Eithriad gael eu hanfon, yn y dyfodol, yn union- gyrchol i'r personau hynny gan y Dir- prwywyr Cymreig, ac nid i'w eyflogwyr. DIRPRWYAETH YSWIRIANT CEXEDLAETHOL IECHYD (CYMRU), Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Ionawr 7, 1914. Williams & Co., Supply Stores, Aberdare, Hold a Large Stock of Barley Nleal, Niaize, White Oats, Bran, Sharps, Indian Meal, Ac., &c. Which we are clearing at Creatly Reduced Prices Supply Stores, 2 Cardiff St., Aberdare. .5: Hysbysiad o Bwys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosbarthwyr. Teimlwn mai angenrhaid yw gwner4 yn hysbys y cyhoeddir y Darian bod dydd Mawrth, ac y danfonir hi t't holl ddosbarthwyr brydnawn yr uc dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonan, hysbysiadau neu newyddion "urgeot ofalu eu bod yn cyrhaedd y swyddl* heb fod yn ddiweddarach na bort Mawrth. Carem gael bob gohebiaett arall mor gynar ag sydd bosibl. Anfoner pob gohebiaeth a phob uit fodaeth yn dal perthynas a'r "Dariaa i'r cyfeiriad a ganlyn YN UNIG:- SWYDDFA'R DARIAN," ABERDAR. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllen- wyr gael y Darian oddiwrrh ddosbarth- wr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am 1c. yr wythnos, 6ch. am fis, 1/71 y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post. Nid Amddiffyn Goreu TARlAN ond TARIAN. Oyfiawnder. Tarian y Gweithiwr. DYDD IA U, IONAWR 15, 1914. SYLWER: Anfoner Llyfrau, &c., i'w hadolygu i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," a gofelir am wyr cymwys i roddi barn arnynt. Ni chyhoeddir adolygiadau o hyn allan, oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolyg- iad.
Nodiadau'r Golygydd.-I
Nodiadau'r Golygydd. I Ce isia'r Toriaid wneud helynt o'r gwahaniaeth barn sydd rhwng Mr. Winston Churchill a Mr. Lloyd George ar gwestiwn treuliau'r Llynges. Hawl- iau'r blaenaf fod angen ychwanegiad at y treuliau hyn. tra y dywed yr olaf y dylesid eu lleihau. Gan nad pa un a yw yr annealldwriaeth yn peri'r blinder honedig rhwng y ddau ai peidio yn bresennol, dylasai ddod i beri blinder mawr yn fuan. Dyhea'r Toriaid am weled rhyw annealldwriaeth yn codi a beryglai y Llywodraeth fel y rhwystrid Ymreolaeth. Dad-gysylltiad a Mesur y Lluosogrwydd Pleidleisiau rhag dod yn ddeddfau. Xid yw yn debyg y cymer unrhyw aelod o'r Weinyddiaeth, yn bresennol, gwrs a beryglai un o'r mesurau gwerthfawr hyn. Wedi gor- ffen a'r rhai hyn, disgwyliwn y daw ewestiwn treuliau y fyddin a'r llynges yn gwestiynnau byw iawo. Bydd raid iddynt ddod, y maent yn warth i war- eiddiad. Hyderwn y deil y Toriaid i ferwi ar y cwestiwn, bydd hynny o gyn- horthwy amhrisiadwy i ddwyn y mater i bwyso ar gydwybod y wlad. Credwn ei bod yn llawn bryd i eglwysi'r wlad i ddeffro ac i ystyried eu cyfrifoldeb ynglyn a'r mater hwn. Yn sicr, dyma fater y dylasai eu cwrs fod yn eglur iddynt gyda golwg arno. Os dylasai eu llais fod yn glir ac yn groew ar rywbeth dylasai fod felly ar y mater hwn. Nid oes amheuaeth gyda golwg ar ddysgeidiaeth lesu o Nazar- eth gyda golwg ar ryfel, nac amheuaeth ychwaith gyda golwg ar ddyledswydd ei ganlynwyr. Os dylasai awyrgylch yr eglwysi fod yn farwol i rywbeth dylasai fod i farwol i ysbryd milwriaeth a rhyfel. Cyflawnder y gyfraith yw car- iad yn nheyrnas nefoedd, a meddylier am draul ein darpariadau milwrol a llyngesol a'r twyll a'r llygredigaeth sydd ynglyn a hwynt yng ngoleu ym- adroddion yr Arglwydd Iesu. Hwyrach y gofynnir beth all yr eglwysi wneud Gellir yn hawdd ateb Gallant godi eu llais yn gryf ac yn groew yn erbyn yr ysbryd milwrol sydd yn ffynnu, ac yn erbyn y cynlluniau a fabwysiedir i feithrin yr ysbryd hwn yn ein plant a'n pobl ieuainc. Byddai Ilais eglwys sydd yn deilwng o'r enw yn anorchfygol. Ei llais yw ei harf hi, a phe ceid barn a chydwybod argy- hoeddedig yn ei llais byddai raid i alluoedd y byd blygu. Dau adroddiad calonogol iawn oedd yr adroddiad o gyfarfodydd Cymdeithas yr laith Gymraeg yng Nghasnewydd, a'r adroddiad o gynhadledd gyntaf Adran Dyfed o Gyngraig y Cymdeith- asau Cymreig. Rhai ynglyn ag addysg a'r ysgolion yn bennaf oedd yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac yn selog dros adfer y Gymraeg a defnydd- io'r ysgolion i'r perwyl. Yng Nghynad- ledd y Cyngraig yng Nghaerfyrddin gwerin Cymru welid yn deffro i werth ei hiaith a'i chenedlaetholdeb. O'r werin y cychwynodd y Cyngrair, a hyn wna'i lwyddiant yn sicrach. Rhaid i ni ddweyd yn onest mai y rhai mwyaf llwfr o bawb ynglyn a'u hiaith yw nifer o'n gweinidogion. Nid yn unig y maent yn llwfr, ond y maent yn anffyddlon ac yn llofruddio yr hen iaith ar eu haelwydydd. Hyderwn y lefeinir yn y man ein heglwysi gan ys- bryd y Cyngrair fel na feiddia'r un gweinidog ei hesgeuluso. Y mae'n bryd i'r eglwysi hefyd hawlio mwy o sylw i'r Gymraeg yn rhai o'u colegau enwadol. Gresyn yw fod ein hathro- feydd yn troi allan bregethwyr Saesneg da a phregethwyr Cymraeg gwael.
Drama Gwyl Ddewi i'r PlantI
Drama Gwyl Ddewi i'r Plant I (Parhad.) [Seiliedig ar yr hanes fel y'i rhoddir gan Owen Rhoscomyl yn ei lyfr bach, Saint David."] ACT II. I Golygfa: Ar y ffordd i Dy Gwyn ar Daf. Dewi a Paulinus yn cyfarfod a mintai o blant-tair neu bedair o ferched, a thua'r un nifer o fechgyn. Y plant yn dawnsio a chwareu, wedi eu gwisgo yn arddull y cyfnod gyda bwa saethau bychain yn hongian wrth eu hochrau. Un yn galw sylw y lleill at ddynesiad Paulinus a Dewi. Un o'r Bechgyn: 0, gwelwch acw (yn cyfeirio gyda'i fys). Pwy yw y rhai hyn? Merch: Ol'r anwyl, lleidr ydyw, yn dwyn bachgen bach oddiwrth ei dad a'i fam. Bachgen: Na, Mynach yw y dyn, ac y mae y Mynachod yn ddynion da. Merch: 0, dyna fachgen pert ydyw. Dyna wisg Ian. Dyna gapan hardd. Y mae hwn yn fab i frenin, yn sicr. Dowch i ofyn iddo chwareu gyda ni? (Dewi a'r Mynach yn dyfod i fewn yn hamddenol.) Paulinus: Ha, fy mhlant bychain, yr ydych yn chwareu. Peidiwch ofni. Ewch yn mlaen a'r chwareu. BaChgen: Nid ydych yn mynd i wneyd niwed i ni, ydych chwi? Paulinus: Na, fy rhai anwyl, ni wnaf niwed i neb. Os caiff y bachgen bach hwn chwareu gyda chwi, mi eisteddaf innau ar y twmpath fan hyn, i edrych arnoch. Dos i chwareu gyda'r cyfeillion bychain, Dewi, a mi orphwysaf innau. Merch Ie'n wir, dewch 1 (Yn cydio yn llaw Dewi, ac yn ei arwain i ganol y cwmni. Yn ff urfio'n ddwy restr, neu yn gylch. Yn chwareu, neu yn mynd trwy ddawns syml, fel "Sir Roger," neu ryw fydr-ddawns Gymreig. Wedi ych-ydig o chwareu, daw mintai o bedwar neu chwech o Wyddyl (Goidels) yn sydyn i'r golwg. Dychrynir y plant, a redant, gan waeddi tuag at Paulinus. Merch: 0, dyma'r Gwyddyl gwyllt! 0, achubwch ni, achubwch ni! (Yn am- gylchynu Paulinus.) Gwyddyl: Ha, ha, dyma gyfle iawn i ddal y cywion cyn iddynt dyfu yn ieir a cheiliogod. Cydiwch ynddynt, frodyr. (Dewi yn neidio'n mlaen, ac yn sefyll rhwng y plant a'r Gwyddyl. Yn codi ei law.) Dewi: Safwch, safwch, O! frodyr a Gwyddyl. Paham y byddweh yn greu- lawn wrth blant? Chwareuwch gyda ni7 (I barhau.)
Y Barri—Y Cymrodorion, &c.
Y Barri—Y Cymrodorion, &c. Gair Caredig. Nid wyf yn rhy ddiweddar, gobeithir, i ddatgan fy nymuniadau da am lwydd- iant y Darian yn nwylo ei harweinydd- ion newydd. Yn ddilys ddigon y mae i bapur Cymraeg wythnosol ei le a'i gen- nad ymysg Cymry'r De. Cofied pawb o honom sy baroted i ddymuno'n dda nad ar ddymuno'n unig y bydd wythnosolyn j byw. Rhaid wrth gynhorthwy sylwedd- ol. Gosoder pin ar bapur a gyrrer pwt o ysgrif yn awr ac yn y man. Dyma gyfle braf i lenorion ieuainc i ymarfer eu dawn, canys onid yw Dyfnallt megis tadwaith iddynt, a Moelona hithau yn famaeth dirion at eu gwasanaeth? Di- esgus mwyach a fydd ein plant a'n pobl ieuainc. "0 na baent ddoethion, na ddeallent hyn." Symbyled rhieni, ac athrawon ysgol, y plant i fagu dyddor- deb mewn newyddiaduron Cymraeg. Gwelir newyddiaduron Saesneg yn ein hysgolion yn ami. Darllenir ac arferir hwynt. Paham lai ein wythnosolion Cymraeg 7 r Y Cymdeithasau Cymraeg. Diolch am air caredig y Golygydd parthed drws agored i draethu helynt y Cymdeithasau hyn. Y mae angen 'tarian' arnynt canys ant allan yn llu banerog y dyddiau nesaf hyn yn erbyn Die Shon Dafyddiaeth. Cyn y gwel yr ychydig linellau hyn oleuni'r 'Darian,' bydd Cyfarfod Adran Dyfed ymysg y pethau a fu. Os na chamgymerwn, fe geir gryn hwyl yn hen dref Caerfyrddin ddydd Sadwrn nesaf. Dyfal odiaeth a fu Dyfnallt y Cadeirydd a Mr. John Hughes, B.A., Abergwaun, ynglyn a'r trefniadau. Sicrhasant wenau ae haelioni Maer y Dref. Nid oes dim fel cwpanaid o de i osod pobl mewn ystad briodol i weithio. Gwn na dderfydd Cyfarfod Caerfyrddin yn ei effeithiau gyda diwedd Cwrdd yr Adran, o herwydd dechreuad gwaith ydyw'r cwrdd hwn. Gwaith mawr Adran Dyfed fydd cadw Cymru wledig yn Cymru Gymreig. Gwir yw y gair yr anwesir hen ysbryd digon annheyrn- garol i ddefion Gwalia mewn llawer i bentref a thref hyd yn oed yn Nyfed. Rhaid gosod troed ar y duedd i barablu Saesneg bratiog yn lie Cymraeg persain. Dysged y plant a'r bcvbl ieuainc siarad fel y sieryd ami i werinwr. Sylwer ar ei Gymraeg dilediaith ac ar y priod- ddulliau tlysion a'r diarhebion cynhwys- fawr a fritha ei ymadroddion. Gesyd y Cymdeithasau'r peth hwn yn nod iddynt, sef yw honno adfer iaith gwerin Cymru i'w hen burdeb. Cy- mysgedd afler ydyw iaith llawer o honom ni a fagwyd yn swn llenyddiaeth Lloegr—llenyddiaeth na ddeallem ond y nesaf peth i ddim o honi o ran e i geir- iau, a Had fyth o'i hysbryd. Diolch y caiff Ceiriog, Islwyn ao eraill 'dra- gwyddol heol' heddyw i luaws o'n hys- golion, ond er hynny ein can yw, "Eto mae lie." Gwyddom nad bob amser y caiff y Gymraeg ei lie hyd yn oed heddyw mewn rhannau o Gymru Gym- reig. Gwaith yr Undeb newydd fydd sicrhau ei lie i'n heniaeth fel na wireddir geiriau Ben Bowen mwyach "Mae dy fryniau'n sathrfa Saeson erbyn hyn, I'th Gymraeg mae claddfa oer mewn llawer glyn." Pwysleisiwn yn hytrach o lawer y gwir- ionedd hwn ag sydd yn "Williams Pant- ycelyn" yr un awdwr hyglod: Dysga Cymru fechan heddyw iaith y byd: Nac anghofied yngan iaith y nef 'run pryd!" Dyweded pob Cymro yr hyn a ddywedai meibion y gaethglud gynt: Os anghof- iaf di, Jerusalem, anghofied fy neheulaw ganu. Y Cymrodorion. Mr. T. Gwynn Jones, y bardd a'r llenor medrus a fu'n ein hannerch Ion. 6. Soniai am Y Cymry a'r Oes Bres." Y mae byd o wahaniaeth rhwng hynny a Chymry'r Oes Bres." Y mae'r naill yn fyw heddyw tra nad erys o'r llall ond rhai o'u hoffer cywrain. Os mynn neb wybod nodwedd ysbryd y darlith- iwr, ystyried yr ymadrodd canlynol allan o'i orchestgamp—un o Iawer-sef Cof- iant Thomas Gee." Son y mae Mr. Jones am wrthwynebiad y Faner i apwyntiad Sais uniaith ryw dro fel dar- lithydd ar amaethyddiaeth yng Ngholeg Bangor. ac am eglurhad yr awdurdodau ar yr hyn a wnaed: Yr eglurhad hwnnw ydoedd fod dau is-ddarlithydd yn abl i siarad Cymraeg—neu, mewn geiriau ereill, fod Cymro yn eithaf creadur i ganu'r ail ffidl yn ei wlad ei hun, serch cydnabod fod ganddo un tant yn rhagor arni." Cyfeiriodd Mr. Jones at ogoniant ac ysblander y perlau a gloddir yn hen len- yddiaeth ein gwlad. Yr oedd ein beirdd yn athronwyr o'r radd flaenaf. Pwy fel hwynt-hwy am ganfod i dirgelion y natur ddynol ac am portreadau eu dyfn- ion ddyheadau mewn cwpledau cywrain ? Nid oes ond eisiau enwi Bedo Brwyn- llys, Gutyn Owain, a Thudur Aled. Cymharer eu hiaith ddillyn hwy a Chymraeg llipa llawer o Gymry dysged- ig yr "oes bres" hon. Y mae'n bryd adfer y Gymraeg i'w hen gynefin. Nod y rhan fwyaf o werinwyr Cym- reig ydyw sicrhau iddynt eu hunain nid elw ond bywioliaeth o'u galwedigaeth- au. Dyna paham y boddlona ami i ffermwr ar weitbredu fel ag y gwnaeth ei deidiau o'i flaen. Os daw dau ben y llinyn ynghyd, popeth yn dda. Aed y byd lle'r hoffo. Tyrr ambell Gymro allan o'r hen lwybrau a daw yn "ddyn pres," sef dyn yn berchen aur ac arian. Ei brif orchwyl wedyn ydyw chwilio i'r hen bethau hynny a ddyddorai ei daid pan ydoedd yn llafurwr gweddol dda ei fyd ond nid mewn un modd yn arianog. Casglwyd llu o hen achau a chopiwyd hwynt yn ddestlus odiaeth gan wyr a ddilyhai eu gorchwylion wrth yr eingion neu rhwng dau gorn yr aradr. Pan gyll Cymru ei hiaith, cyll ryw- beth na ddaw cyfwerth byth am dano. Aiff enwau lleoedd yn rhai diystyr i'r preswylwyr. Collir gogoniant yr hen draddodiau a'r ystraeon. Syrth hanes, can, cerdd, a diwylliant i ebargofiant. Colli heb ennill fydd v ewbl. Bu gwerin Cymru ymhojb cyfnod yn ei hanes yn wybodusach ae yn fwy diwvll- iedig na gwerin Lloegr. Diwylliant aristocrataidd ydyw eiddo Lloegr, tra. mai diwylliant gwerinol ydyw eiddc Cymru. Ni wawriodd dydd y cenedl- oedd bychain hyd eto. Fe ddaw hwnw maes o law. Parhaed pob cenedl fechan i anwesu ei hiaith, ei harferion a'i thra- ddodiad, canys pan ddel ei hawr fe welir gwerth y peChau hyn. Cofied Cymru hithau air un o'r rhiaB-" edd hynny a roddodd gyngor i Bedwyr druan: Bid iti dewi. ni ddaeth y diwedd; Arthur byth ni syrth i'r bedd; tithau, dos, Y mae'n d'aros waith cyn mynd i orwedd." Ac fel Bedwyr, fe awn ninnau "eto draw at y drin." ARTHEN.
Bwrdd y Golygydd.
Bwrdd y Golygydd. Griffith Jones, Mountain Ash: Os bydd arnoch eisiau i rywbeth ym- ddangos yn y "Darian, anfonwch at 01. y "Darian." Sion Sana: Yn y nesaf. Wm. Williams, Lerpwl: Rhoddasom eich archeb i'r cyn-berchenogion. Drwg gennym nas gallwn gyhoeddi eich ys- grif, y mae yn rhy faith a dibwynt. Mewn Llaw: 'Mudiad y Boy Scouts,' 'Mrs. Mary Richards,' 'Taith i Lydaw,' 'H wnt ac Yma,' 'Daeth y Nos,' Beirn- iadaethau, etc., etc. At Ein Gohebwyr: Carem i bawb ysgrifennu mor fyr a bo modd ac osgoi hyd y gellir anfon i ni y fath restri hirfaith o enwau. Fel y mae'r "Dar- ian yn eangu yn ei chylchrediad a'r gohebwyr yn lluosogi a'r gofod yn brin- nach. Cynorthwywch ni i wneud y "Darian" o ddiddordeb cyffredinol trwy ymarfer rhoddi llawer mewn ych- ydig. At y Plant: Da gennym eich gweled yn dechreu cymeryd diddordeb yn y "Darian." Cewch air heb fod yn hir oddiwrth Moelona am yr hyn ydych wedi anfon i mewn. D. S. Y mae cMofnau'i* "plant jn ddiddorol i bawb fedrant ddarllen o'r pump i'r cant oed. Colofn y Bobl leuainc: Daeth colofn dda i law oddiwrth Dyfnallt, ond yn rhy ddiweddar i'w rhoi i mewn. Addawa anfon yn gynt y tro nesaf.
1 I Cymry Cymraeg, Abertridwr
1 I Cymry Cymraeg, Abertridwr Cyfarfod nos Fercher, Ionawr y 7fed: Wedi gair agoriadol gan y cadeirydd, y Parch. E. G. Davies. cafwyd unawd, "Hiraeth," yn felus iawn gan Mrs. E. G. Davies. Galwyd ar Miss Mary A. Watkin, Dol Heulog, Llewelyn Street, Aberdar, i anerch y cyfarfod ar yr anfarwol fardd telynegol, Ceiriog. Darlith wir ragorol yn mhob ystyr, yn newydd a glan o'r dechreu i'r diwedd. Mae'n amlwg fod Miss Watkin a'i chalon yn y gwaith. Clywsom o'r blaen ei bod yn cyflymu ar ol Elun, ond wele ni yn gallu dwyn tystiolaeth ein hun- ain. Bellach, gall cymdeithasau y wlad fentro ei cheisio. Cawsom wledd o'r fath oreu ar farddoniaeth amryfal ein Ceiriog. gofid oedd nad oedd amser i gael ymdriniaeth ar y ddarlith. Yr ydym yn aw- grymu i'n darlithwyr ar iddynt fod yn fwy byr pan yn traddodi i gym- deithasau er mwyn enill yr aelodau drosodd gymeryd mwy o ran yn y cyfarfodydd er cynnyrchu siaradwyr a Cymreigwyr ymarferol. Dangosodd i ni brif bwyntiau cymeriad diym- hongar, gyda rhwyddineb awen a chelfyddyd llenores hylaw. Bri Aberdar gwar ei gu in—a Mair- aidd Yw Mary A. Watkin; Gymraes ddigel a mel ei min Yn gariad i godi gwerin. Yna cafwyd deuawd tra swynol gan Mri T. Griffiths a Nathaniel Edwardsy dau fraw d ieuanc addawol iawn ym myd v gan. Cafwyd hefyd air gan Miss Enid Hughes, barddones lew, ac ysgolfeistres yn yr ardal, a chan y brwdfrydig Robert Morris, un o, hoelion wyth y Gymdeithas, a gair gan Owen Ellis a Rees Thomas, can- wr penillion y Gymdeithas, ac 1. A. Roberts, Heol y Brenin, wrth yr offeryn. Telynor Trebanos sydd arwr ein cyfarfod nesaf, a'r angyles Gwen Williams yn canu penillion. Disgwylir am wledd arbenig. DEWI.
Advertising
ARTIFICIAL LIMBS, Crutches, Eyes, Deformity Boots, Flat-Foot Supports, Steelless Easifit Trusses, etc.; lady attendant; Belts, Belt- Corsets, Elastic Stockings, Trusses, etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-2. List free. Tel 1282.-Allen Pearce, 28 Charles Street, Cardiff.