Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
COLOFN Y PLANT. I
COLOFN Y PLANT. I GAN "MOELONA." I "Bydd yn ferch dda nes dof yn ol ebe ei mam wrth Meinir, gan godi ei basged ar ei braich, a myned allan o'r ty. O'r gore, mam," ebe'r eneth fach wyth oed, gan droi golwg fach hir- aethus ar ol ei mam. Nid oedd Meinir yn bofti bod gartre; heb ei mam. Yr oedd yr hen d, mor fawr a distaw hebddi. Yr oedd ei thad a'r gwas allan yn y caeau, ac Klen y forwvn yn brysur wrth ei gwuith, ac nid oedd neb ar ol i gymeryd diddordeb vnddi hi. Yr oedd yn awr yn ddeg o'r gloch, ac ni fvddai ei mam yn ol cyn dau o'r gloch yn y prynhawn. Dyna bedair awr o ddisgwyl. Yr oedd yn fore gwlyb,—rhy wlyb i Meinir fyned i chwareu ty bach, neu i redeg gyda Carlo'r ei, ac yr oedd y Calan a'i bleserau drosodd. Ond dysgasai ei mam hi i wau, ac yr oedd heddyw yn gwneud hynny gyda bias, oherwvdd yr oedd wedi dechreu hosan iddi ei hun—un o edafedd glas tywyll, prydferth. Ond wrth wau hosan, gall y medd- wl grwydro, a'r llygaid hefyd edrych yma a thraw. Ar silff uchaf y seld (dresser) gwelodd Meinir ei bocs arian, a meddyliodd mor hyfryd fuasai cael cyfrif yr arian heddyw. Medrai eu cael allan o'r blwch o dipyn i beth gyda chyllell, a gwaith wrth ei bodd oedd hynny. Ond cofiodd Iddl)" tro diweddaf y gwnaethai hynny, golli swllt, a'r pryd hwnnw cawsai rybudd gan ei mam nad oedd tynnu allan yr arian i fod mwy heb ganiatad pendant. Heddyw, yr oedd ei mam vn ddigon pell, yn ei pell, a'r blwch yno yn ei gohvg- yn ei themtio. Os safai ar gadair cralial ei gyrraedd yn rhwydd. Yn vstod v dyddiau diweddaf rhoisai lawer o geiniogau ynddo, a'r fath bleser fuasai eu cyfrif. Yr oedd rhyw lais oddifewn i Meinir yn dweyd wrthi am beidio, mai anufudd-dod fuasai hynny. Fithr ni fynnai hi wrando ar y llais. 41 Fi bia'r blwch," meddai wrthi ei hun, "a pheth arall, nid yw mam yma p mi gael gofyn iddi. Ni raid iddi chwaith ddod byth i wybod fy mod wedi gwneud hyn, a 'rwy' wedi blino gwau. Er yn anesmwyth yn ei meddwl, mynd a wnaeth. Daeth a chadair i ymyl y seld; safodd arni ar flaenau ei thraed, ac estynnodd ei Haw at y blwch. Ond, druan o Meinir! Wrth gael y blwch i'w Haw, tarawodd ef yn erbyn plat bychan, prydferth, safai ar y silff,—plat bychan gawsai ei mam gan rywun yn anrheg o lan y mor,—a chyn iddi droi yr oedd hwnnw ar lawr cerrig y gegin yn deilchion. Yr oedd Elen y forwyn ar y llofft yn taenu'r gwelyau, a phan glywodd swn y llestr yn torri, deallodd fod Meinir yn gwneud rhyw ddrwg, a rhedodd fel corwynt i lawr y grisiau, a chan ymafiyd yn Meinir, a'i hysgwyd vn arw, dywedotm:- "Wirione, beth yw'r felltith sy' arni es? Dyna hi! Beth 'wed 'i mham nawr? Torri'r plat gore! Mae'n haeddu'r wialen, a rwy'n gobeitho ceith hi ddi hefyd. Yr hen greadur bach drwg!" Aeth Meinir allan o'r ty dan grio, gan adael y blwa yn ddisylw ar y se1d Allan y bu nes i Elen ddod ati i beri iddi fyned i'r ty o'r gwlaw. Aeth se*t ?\ iddi fyned i'r ty o'r gwlaw. Aeth ac eisteddodd yn brudd w rth v tan. Blinai yn enbyd am iddi anufuddhau i orchymyn ei mam, ac am iddi wneud mwy o ddrwg nag a fwriadai drwy dorri'r plat, ac am iddi roi achos i'r forwyn ei thrin mor arw. Yr oedd wedi wylo cymaint nes i'w brat newydd fod yn wlyb i gyd, a daliodd ef o flaen y tan i'w sychu. Un heb ronyn o gydymdeimlad oedd y tan. Ni hidiai efe am ofid Meinir, oherwydd cyn pen dwy funud yr oedd wedi Hosgi twll mawr fel cledr Haw gwr vn Y brat newydd. Ni wyddai Meinir eth i'w wneud. Teimlai fod popeth ?"? herbyn. Nid oedd ganddi ragor ?n?"? tywallt, ac nid oedd n ??'" ???' ragor 0 eiriau c h werwo n. wnaeth ond e d rvcli ar chwerw°n- Ni wnaeth ond edrych ar .in. iJ' a ??' ei dwylaw mCWn syn- t ji yn dweyd, Beth nesaf ?r!??? ? P? yn dweyd, ?Bcth nesaf, Eisteddodd Meinir yn vmvl v ford i ddisgwyl ei mam, gh: 'i h :neb vn h a 'i Hygaid yn chwyddedig, el b?at newydd wedi Ctddlstnwlo; a darnau'r plat ar y seld gyferbvn.  ?Be' sy', merch f?" ???. fam, a'i llais tyner pan ddaeth i fewn. Yr oedd y geiriau caredig vn ormod i Meinir. Wylodd am ennvd fel ar ddarfod am dani, ond cyn hir danghos- odd y brat a darnau'r plat, ac adrodd- odd ei helyntion blin. Dywedodd hefyd yn ei dagrau "Pe bawn i heb anufuddhau i chwi mam, ni fuaswn wedi torri'r plat, na llosgi'm brat newydd." "Ierch annwyl," ebc'r fam mewn Ilais tosturiol, "dyna fel mac pechod. Os dechreua rhywun chwareu a phech- od, ni wyr ble bydd y diwedd. Gofid ar 01 gond sydd o anufuddhau. Mac dy fam yn maddeu i ti, merch i." wnf»y hynny, pan demtid Meinir i "OUVP- b ? nad oedd iawn cofiai o wg b dd hr<SiX a ffjaU d7S ei mam, a g Pen Sofid, lwrth y drwg rhaa Peri aofid i un oedd dyynneer Awvrr?th^ i ac a garai mor fawr yner wrthl ? ? aarai mor HANES LLEOL. ) (INVERSI I BLAXT Y "DART4\ I Gan Lewis navies, Cymmer. I y Calan, 1914. F'anwyl Ysgolheigion,- Gwahanol iawn fyddwch i bob plant welais erioed os nad y'ch yn hoff o ystoriau. Ac o bob ystori ddarllenais yn fy oes, ystori v dalaeth y'n mag- wyd ynddi yw y mwyaf ei didddordeb. Honno yr wyf am ei dwcud wrthych, ac er efallai y byddwch ar droion yn ei theimlo ychydig yn hir, rhaid i chwi gofio ei bod, fel pob chwedl o ddos- barth y "Once upon a time," yn wneuthuredig o lawer rhan. Gyda ni, fodd bynnag, bydd pob rhan on chwedl fawr yn chwedl fach ynddi ei hun, yr hyn a'i gwna yn hawddach ei ddilyn a'i deall. Rywbryd yn eich bywyd, chwi welsoch, efallai, un o hen gestyll eich gwlad. Tebyg fod ei furiau, lawer o honynt, wedi cwmpo er ys oesoedd, tra yr erys yr eiddew yn drwch ar y rhai sydd eto yn sefyll. Feddylioch chwi erioed am hanes yr hen gastell? Pwv a'i hadeiladodd? Paham yr adeiladwyd e f, a phaham a pha fodd y taflwyd ef i lawr drachefn? Dyna I Gastell Cydweli ar draeth y gorllewin; Castell Abertawe ynghanol dwndwr y J dre; Castell Carregcennen ar ael y I bryncyn serth, a Chastell mawr Caer- ffili ar y gwastadedd. Cynhwysa Sir Forgannwg yn unig tua hanner cant o'r adeiladau cedyrn hyn, tra yn Mynwy a Caerfyrddin y maent agos luosoced a hynny. Dyna eto yr hen eglivysi-un o leiaf ymhob plwyf ymron. Sylwch ar eu henwau-yr hen rai feddyliaf— Llan-gynnwyd, Llan-non, Llan-dyfod- wg, Llan-fabon, Llan-deilo, Llan- grallo, Llan-wynno, etc., yr oil wedi eu galw felly o barch i ryw sant Cym- reig. Safai yr eglwysi hyn cyn son am y St. John's, St. Matthew's, a'r St. Barnabas, etc., welir amled heddyw, a gwyddoch yn ddiau eu bod yn henach hefyd na'r un Tabernacl, Bethel, Libanus, Hebron, a Thabor o fewn ein tir. Glywsoch chwi son am bobl yn cartrefi mewn eglwysi—yn bwyta, yfed, gweithio, a chysgu yno fel y gwnewch chwi yn eich aneddau ? Wel, y mae gennym adfeilion rhai o'r tai crefyddol hyn yn ein hymyl, a gwn y credwch mai dyddorol dros ben fydd gwybod am y rhai hynny. Bydd yn wir, a phan ddywedaf wrthych eu bod, pan yn eu gogoniant, yn debycach i balasau nag i eglwysi cyffredin, gwn na fydd eich awydd am wybod am danynt fymryn llai. Ymhlith yr en- wocaf o honynt oedd Margam, Myn- achlog Nedd, Ewenni, a Thintern- pedwar ty sydd eto yn dangos llawer o'r harddwch gynt. Tai cyffelyb iddynt oedd Pen Rhys (Rhondda), a Chwm Hir (Maesyfed), ond y sydd bellach o herwydd rhyfeloedd ac ystormydd wedi malurio bron yn llwyr. Dyna fi eisioes wedi enwi tua dwsin o leoedd ichwi. Cyn myned ymhellacfc tynnwch eich atlas i lawr a throwch at y map o Ddeheudir Cymru i geisio gweled y man yn union y sail pob un o honynt. Efallai mai aflwvddiannus fyddwch y tro cyntaf am mai lleoedd bychain yw rhai o honynt. Ond beth pe baech yn gofyn i'ch rhieni eich cynorthwyo am unwaith! Hoffant hwythau chwedlau, wyddoch-yn en- wedig hen rai-a phwy wyr na fydd- ont wedi clywed rhai o'n hystoriau ni eisioes Y mae Meistr y Darian am i ni ddechreu ar ein gwaith ar unwaith, ac felly rhaid taflu ati. Gan fod rhai o honoch yn byw yng nghongl bellaf Sir Fynwy ac ereill tua chanol Sir Gaerfyrddin, beth pe baem yn galw ein gwaith rywbeth tebyg i hyn— "Hanes Lleol i Blant y 'Darian o'r Wy i Dywi." Cynhwysa hynny For- gannwg, Mynwy, a Brycheiniog yn gyfangwbl, ac fe ga llawer o blant Caerfyrddin a Maesyfed gyfran gyda ni hefyd. Gan fod y mwyafrif o honoch yn dysgu Cymraeg yn yr ysgolion dyddiol, efallai y byddwn yn ymdrin a phynciau glywch gan eich athrawon yno, a hyfryd fydd gwybod ychydig ymlaenllaw, onide ? Un peth y mae yn rhaid i chwi addaw. Dyma fe—myned i weld drosoch eich hunain unrhyw wrthrych y dywedwn am dano a fyddo yn agos i'ch cartrefi. Chwi synnech Spirit allwch ddysgu yn ychvvaneg ond gwneud hyn. Ac nid oes braidd nlltr mewn rhai mannau o'n talaeth naa oes yno gastell, eglwys, sarn, arn- ddiffynfa (camp) neu faen hynod i'n hadgofio am Gymru Fu. Rhaid cofio, ymhellach, nad hanc yw pob ystori. Tasc i chwi fel i rai hyn na chwi fydd, ambell walth, "nithio y gau oddiwrth y gwir," ys dywed y bobl fawr, hynny yw, i ddeall beth sydd wir, a beth sydd heb fod felly. Rhaid bod yn ofalus iawn y pryd hwnnw. Gwell fydd i ddefnydd yr ystori fod yn brin yng nghwmni ffelthiau na bod yn helacth mewn haeriadau. Dyna yn wastad ddywedai ein prif hancsydd lleol—Thomas Stephens. Glywsoch chwi am dano ef ? ian\yyd ef ym Mhontneddfechan, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ym Merthyr 1 ydfyl. Er hoffed oedd o hanes ei wlad, hoffai wirionedd yn f Ffolineb yw canmol popeth Cymreig am ein bod ni yn Gymry. Atgas or ochr arall yw pob un wel rin- weddati ymhob man ond vn nhyhyyth ei dy ei hun. Glyn wrth y ffaith boed glod, boed anghlod. yn sicr y mae gennym ddigon i ymffrostio yn ein hanes heb wyro mymryn oddiar y Ihnell uniawn. Dyna ddigon y tro hwn. Blwyddyn Xewvdd Dda i chwi oil.
Y Stori.I
Y Stori. I ED WART DA FYDD Y PER ERIN. I (Parhad.) I I v. I Hwyr a bore, daliai Dafydd Huws I yn ei fwthyn "diaddurn" i weddio'n I angherddol am ddychweliad yr afradlon. Ar ol ymweliad y gwr dieithr o'r South," teimlai yr hen wr a'r un a'i gwrandewai oddiallan fod gweddio'n hawdd;ich nag arfer. Deuai "maes gweddi yn oleuach iddo o hyd. A diau nad oedd hyn ond cysgod amgylchiad dymunol yn cael ei daflu ymlaen ar ei l'eddwl. Traethai ddvheadau ei enaid mewn ffrydlif o hyawdledd wrth orsedd gras. Elai i hwvl wrth weddio àr ei aelwyd ei hun. A c han nad beth ellid ddweyd am lawer o hwyliau cyhoeddus, nid hwyl gwneud oedd yr eiddo ef, ond angerddoldeb enaid wedi ei wefreiddio gan weledigaeth yr Anweledig. Fel eiddo llawer o hen weddiwyr yr ael- wydydd, yr oedd ei weddiau yn salmau godidog a choetli, na chanodd unrhyw berganiedydd eu prydferth- ach. Un bore clywid llais y postman yn nrws y bwthyn- "Llvthyr i chi, Margiad Huws," a rhywbeth yn ei oslef yn awgrymu mai amgylchiad pwysig yw derbyniad llythyr yn rhai o fwthynod y wlad. "O'r taid," meddai Marged yn gynhyrfus. "0 lie mae o?" gofynnai'r hen wr. Fedra i yn 'y myw neud allan?" "0 'toeddwn i ddim yn disgwyl i chi fedru gweld trw'r c&s. Agorwch o. A phwy a ddesgrifia gynnwrf meddyliau tad a mam a chanddynt fab ar ddisperod, nad yw byth yn angof yn eu gweddiau a'u breuddwydion pan estynner iddynt lythyr. Agorodd y postman yr amlen ac edrychodd ar ei ddechreu a'i ddiwedd, a dywedodd— "0 Gwm Rhondda mae o, oddiwrth Arthur Huws." "Darllennwch o, wyddoch na fedar yr un honon'-ni," meddai'r hen wraig. Wrth ei agor ym mhellach syrthiodd postal order" allan o blyg y llythyr. O'r taid be' di'r papur glas yma, deudwch?" meddai'r hen wraig. "Ni chawsai hi bapur o'r fath o'r blaen." "0 ma popath yn iawn," meddai'r postman, wedi iddo daflu golwg ar gynnwys y llythyr cyn ei ddarllen, "ordor i chi am bum swilt ydi hwnna." "I be mae o isio'r pum swilt ? Ydi o mewn rhyw helbul?" Na, rhoswch chi, Margiad Huws, i chi ddallt rwan, fo sy'n gyrru pum swllt i chi." "Lle ma'r arian, deudwch? Ydan' nhw yn y cas yna ?" "Na, rhoswch chi "Taw, Margiad, i'r dyn ddeud y cwbl," meddai Dafydd Huws. Curai calon yr hen wraig yn gyflym, a gwelai eiliad yn hir gan angerddol- deb ei hawydd am gyfrinion y llythyr a'r papur glas. Eglurwyd iddynt y "postal order," a sut i gael yr arian. Yna darllenodd y postman y llythyr. Byr ydoedd, yn dweyd ychydig mewn geiriau, ond yr ychydig i'r hen bobol fel pelydr y wawr ar bryderon nos hir. Yr oedd Arthur yn iach, yn addaw anfon "ychydig" iddynt yn gyson o hyn allan, ac yn bwriadu talu ymwel- iad a hwy tua'r Nadolig. Yr oedd Arthur eu mab eto'n hw, a daeth dagrau fel gwlith i'w gruddiau, a gwen orfoleddus, ac megis goleu o fro- ydd gwell yn tywynu arnynt. Yr oedd gweddiau Dafydd Huws wrth yr allor deuluaidd y dyddiau di- lynol yn ffrwyth profiad un wedi gorch- fygu gyda Duw, ac yn teimlo mai "rhaid oedd llawenychu a gorfoleddu." Heblaw'r Gwrandawr Mawr, yr hen wraig a'r tyddynnwr, daeth J eraill i glywed ei weddiau ac i siarad am danynt. Methai tafarnwr y pentref a dirnad beth gyfrifai am brinhad ei gwsmeriaid a thrai ei fasnach. Teimlai yn sicr y deuai pethau vn well tua'r Nadolig, pan ddeuai'r ba1)1 ieuainc am dro i'r hen ardal. Fi obaith ef oedd eu perygl hwy VI. I Rhyw deirnos cyn y Nadolig di- lynol disgynnodd dau ddyn, ymhlith eraill, o'r cerbyd yng nghanol pentref yn Mon. Aeth y si ar led fod Arthur Huws wedi cyrraedd, a bu cryn ysgwyd dwylaw a llongyfarch. Dacth i feddwl rhai i ddweyd wrtho— "Tyd i gael glasiad." Ond cofiasant y byddai yn fuan, os nad eisioes wedi dechreu, weddi daer yn esgyn ar ei ran mewn bwthyn tlawd, a pheidiasant. Pan glywodd y tafarnwr ddyfod Arthur Huws a dyn o'r Sowth i'r lie, edrychodd yn siomedig. Ond wedi synfyfyrio ennyd, llonnodd fel un wedi cael gweledigaeth. Cofiai fod Arthur yn yfwr trwm, a thybiai y rhaid fod unrhyw un a fyddai gydymaith iddo yn yfwr trwm iawn hefyd. Aeth allan ar frys, cyf- archodd hwynt, croesawodd Arthur i'r hen ardal, a dymunodd Nadolig liawen i'r ddau. Dymunasant hwythau yn gyffelyb iddo yntau, a throisant i gychwyn i'w taith. "Ddowch chi ddipi i mewn," gofynnai'r tafarnwr, "gael i mi roi rhyw lasiad bach i chi er mwyn yr hen amser. I Teimlodd Edwart Dafydd ei hun yn cynhyrfu—"glasiad er mwyn yr hen amser yn distrywio'r dyfodol o hyd," meddai, a bu bron iddo ddweyd pcthau chwerwach, ond tybiodd y carai glyw- ed llais ei ddisgybl ar y mater. "Na," meddai Arthur, "yr hen am- ser yw'r peth ola o ddim i mi yfcd dim er i fwyn o. Edrychodd y tafarnwr yn siomedig ar Arthur, ac yna'n sarug ar Edwart Dafydd, fel pe'n dweyd rhyngddo a'i hun—"ti sydd wedi 'i ddifetha fo!" Ni feddyliodd Arthur y byddai rhodio'r ffordd o'r pentref i'w gar- tref yn ddyn sobr yn gymaint mwyn- had iddo. Deuai rhywbeth newydd o hyd i argraffu arno werth y bywyd newydd. Teimlai lei petac'r afon a'r perthi a'r hen ffordd yn ei longyfarch. Mor werth fawr n melus oedd yr ym- wybyddiaeth y cai ei rieni ei roes- awu'n ddyn ac nid yn feddwyn. Ac os felly iddo ei beth am y rhai na phallodd eu gweddiau ar ei ran. Xoson o rew ocr ydoedd, ond yr awyrgylch yn iach a chlir, pelydr y lloer yn tywvnu ar yr eira man, a thlvsni cyfareddol yn gwisgo'r perthi a'r meusydd. Ychydig a ddywedent wrth eu gilydd ar y ffordd. Yr oedd meddyliau pawb yn rhy lawn, a dych- weliad Arthur a phopeth o'u cwmpas fel pe'n cvmelJ myfyrdod ac nid siarad. Pan ddaethant i olwg y bwthyn a gweled un neu ddau yn sefyll yno, deallent ei bod yn "awr J weddi. Aethant yn eu blaen, a gwrandawodd Arthur ar weddi nad anghofiodd byth 'mo honi. Clywai ddeisyfiadau taerion ar ei ran at "Dad ein Harghvydd Iesu Grist, o'r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear." Gafaelai dychymyg cryf yr hen wr, a'i deimlad angherdd- ol yn yr adnod hon, a throai hi yn or- ioledd i'w enaid ei hun, gan beri i Arthur deimlo ei bod yn gylch am yr eiddo yntau yn ogystal. Wedi iddo enwi llawer cangen o'r "teulu" mawr, bachodd adnod arall yn ei feddwl- nid oes un o honynt mewn angof j ger dy fron Di." Tynnodd nodau gor- foledd o'r tant yma eto. Gyda'r "Amen" aeth Arthur i j fewn, a hawddach yw dychmygu a j darlunio yr olygfa-ffrydlif o ddagrau j ar ruddiau'r tri, yna'r hen bobl yn chwerthin ac yn dawnsio gan lawen- ydd. Buasent yn ddiolchgar am Arthur gartref, hyd yn oed pe daethai yn newynog a charpiog. Cawsant ef yn drwsiadus a sohr, heb gymaint ¡ ag arogl diod o'i gwmpas. Hyn drodd y dagrau yn orfoledd. Ma gin i ffridiau yma. Dowch i mewn, bobol," meddai Arthur. "Taid anwyl," meddai Dafydd Huws wrth un o honynt, "chi ydi'r j dyn o'r Sowth fu yma yn yr ha' "Ie." "Lie cawsoch chi hyd i'r hogyn yma, deudwch?" ¡ Ac 0, resyn fyddai ateb y cwesti- wn Gwelid atgof am y boreu hwnnw | yng Nghaerdydd yn taflu megis cysgod dros wyneb Arthur Huws. Ond yr oedd Edwart Dafydd yn fedrus mewn atcb cwestiynau llet- chwith. Atebasai Ilawer mewn ffordd i sicrhau mawrhad iddynt eu hunain, trwy wneud y pechadur can ddued ag y gallent, a'u rhan hwy yn ei achub- iaeth vn fwy clodfawr oblegid hynny. 1 Hoffai Edwart Dafydd y gwaith ei hun yn fwy na'r clod. Fel hyn yr atebodd ef— "Pan es i nol oddyma'r haf di- weddaf, mi feddyles y byswn i'n leico napod bachgen gore'r ardal,' a mi ges afel ynddo fe yn rhywle a d'yn ni ddim wedi 'tyfaru cwrdd a'n gilydd "—atebiad sydd yn engraifft o'r cariad guddia liaws o bechodau. (Diwedd.)
Pan Gyntaf y Cyrhaeddodd y…
Pan Gyntaf y Cyrhaeddodd y Newydd Da Aberdar. Creodd gryn dipyn o ddiddordeb. Ond fel yr elai heibio wythnos ar ol wythnos, ac y clywid llawer o bobl adnabyddus a pharchus yn Aberdar yn datgan eu barn yn groyw, ac y cyhoeddid eu datganiadau yn y wasg, nid oedd bellach un lie i amheuaeth. Dywedai pobl Aberdar, "Rhaid fod hyn yn wir." Wel, dyma ddatganiad arall a ddaw o Aberdar. Mrs. A. Russell, o Pleasant View, Bond Street, Aberdar, a ddywed, Y r oedd fy arenau wedi peri cryn pfid i mi am lawer o flynyddau, yn awr ac yn y man. Arferwn gael poen- au llymion yn fy nghefn ac yn fy mhen. Arferwn gael ysbeidiau o ben- ysgafnder, ac yn ami teimlwn yn isel fy ysbryd. Yr wyf wedi cael y gymalwst yn fy nhraed a'r coesau, ac yr oedd cyfundrefn y dwfr allan o le hefyd. Yr oedd y dwr yn boenus ac yn cynwys sylwedd tywodlyd. "Yr wyf wedi cynnyg amryw feddyginiacthau at yr anhwylder, ond pelenau pocn cefn Doan at yr arenau yw y feddyginiaeth oreu a gymerais erioed; rhoddasant i mi yr ymwared a geisiwn. Teimlaf yn gryfach yn awr, ac nid yw y poenau byth mor llym ag yr arferent fod. "Pa bfrvd bynag y caffwn achlysur i ddefnyddio pelenau Doan symudent y drwg yn gyflym. Nis gallaf siarad yn rhy uchel am danynt, ac yr wyf yn eu cymeradwyo ar bob cyfle a gaf. (Arwyddwyd) (Mrs.) A. Russell." Pris 2S. gc. y blwch, chwech o flychau am 13s. gc., oddiwrth yr holl werthwyr, neu oddiwrth Foster McClellan Co., 8 Wells Street, Ox- ford Street, London, W. Peidiwch gofyn am belenau poen cefn a'r aren- au—gofynwch yn glir am belenau poen cefn Doan at yr arenau, y fath ag a gafodd Mrs. Russell.
Advertising
"?'7=: lip. I IAD! C PICTURES^H km ?M?-Uf?DLL €r BOOKS H M GIVEN FREE, I* Mr. JOHN DA VIES, | = P. F :I ? P icture Fmmcr S I 11, CARDIFF STREET, | ::s i r .1:, Jt", = | ABERDARE. J has been appointed an agent for the "W orld's nest" S Prize Scheme. You should call as soon as possible H and see for yourself the valuable Pictures and Books which are given free under this Scheme. ASK FOR ILLUSTRATED LIST GIVING FULL PARTICULARS. g £ s All the household articles with which the World's Best" Guarantee Seals are = packed are of the highest quality and are the productions of well-known hrm!. A æ ?= fail )i-? i given below. If anv of the undermentioned articles are unobtaina e in —— = your district please notify us of this by post card, giving the name of the article, also gs = the address of the grocer or oilman concerned. = I ightning Soap. 4 size.. Bounty Soap. 3 size*. r? ?' h Dog Soap. Bounty Carbolated Soap. 3 "ze*. = Toysiil Cailx>Uc Soap. Snowf,own Soa," 4 sizes. =  arone PrimroM Soap. So-down Carb?ated So?p. 4 MM*. ?? (??-ok's Primrose Soap. 2 sizes. Imperial Naptho Soap. ? (?.ok's frimrote Soap? 2 Mze*. tmperiat Naptha Soap. ??: ? S-?et Laundry. E. C. W"her. Robi2i*s Soap Powder. ? Cook't Washing Powder. Robin?s ?ne<t Soft r.' 2 i. = =?: ?..mefa??o.p. 2 sizes. 4 lb. and 7 lb. tin?. = SS Home Carbolic Soap. 2 .:ze? Rob.a'. Ctan Toilet Soap, assortej == —— (?ueea't Honey Soap, 2 i.co?pet-sume' ? Q-?- Carbolic S-ap. 2 at?tt. Robin's Snowdown Aerated CaDdIes (in ?*? = Panshine (Cleanser and Polisher) cartons), 2 sues. = ?= 3 ?es. B?antaa Boot Tohsh (black and ?S ? MuH'<F ye Aerated Candles (in carton? brown). 2 siie».  Dippo (Sit Washer). (2 sizes. Spector (Cleaner cad P lisher). 2 mi-e., r-~ Winner Shaving Stick. Cracker (Soap Mikes). ? Winner Shav:n< Stick. Cracker (Snap Ft?e?. == ? Sweet' ?ay Toilet Soap. 12 aizes. Ch?ckm.i? D;-it,feSoop. = Red M ÚJ Aerated Candle* (in carton? Mars Nitfht Lights, in bo*es ■ —  Ac?? C<? ..x.oa Soap. (2 sizes. 12-6 hour. I" hour. or '< I" ? Acme Sh?vi.? Stick. h ?'r ti?h?. == = Ca..hm?e T.?e<Soap.2.i<e. Par?nSoap Turp.ene .p. :=: = < K.hMer? "V !or< Toilet Soap. Saturn Metal Polish, 7(iliqui l.l.ti. ?. a«linierc Shuvini Stick. satum m"a Polish, ?'?'' "?"== ? a.)t??.Shsv: a? Stick. S?tum M?t?FetMh.?pa'te). 2 t.ze? ? f^*» Rajiiii Carbolic 'CleaoMr. » Wooll- a'-foilt Soap. { 31 S3, T art"n Soap. 3 ai_ HTX: ,lhlT C&rbulated Soap, ^2 Kilty Carbolated Soap.). jF*  Ualmor.J1 (l.. nsr Soap. 3 ..IZ'" >í; f iHHr. Tean -;?ice a- Pare Soap, 2 size& JnSisr Z~ £ S i i;:7;rtf:2\Ï8e8. >Lf-!t?  Htilmural i'uraftin Soap. r=: B-UN.pluba Soap.  ?- Hu!ral S,p Powder. •, 'f ill P- ?'= Natmoro! Ftne?t Soft Soap. 1 ?.. 2 !? f.   italinorcl Finest Soft Soap. 1 lb., 2 4 lb a-id 7 ;b. tins. 4 t? ? Balmoral Toilet Soap (aMorted p?. < \1, :¡,.Jt: ,¡¡;  f.?:e<) 2 aies I I ti t,{' J ,(' i"" Oijston's outtermilk Toilet Soap. fl i ">vTY og!l{on'S_i,"tennilk. Toilet Soap. tit''tt;t, i4I l:1 ?: ili!¡t&), Aerated Caudles (in 1?' '?'r''? t.?! ?'?.??"? —inrtoos ) 2 s i zes. 12 s ie& iii'V Y-. T'' .A 5 ? Jiffy Boot Polish (black and brown). ? ? ,ç.'24\ = F.o i?anser an,t I'oLsher). 2 lIizeL' !n:' < ■} i L -n. }:H'= :? Cocoon (Soap Flakes). ifel IfX. '("'i' ?? Witch Soap (in powder, concentrated), f if" Sf Jx SSS Whiz (Polisher and Cteante?. 12 size& ??-TS?".?!?'?'? 7? J&fciZZ  SSI Witch Metal Polish. 3 sizes. V:^ V»^ii'— ? Prima? Toitet Soap. <1' :¡' -J?' U_ — Cosy Boot l'olish. 3 sizes. ? IF you are unable to call at the 'D?ot M M"? ?n?. on receipt oj a  Card g<f?<? your n?HM and aJJreM. 0 co? of our /u?f<i?d ?o<'?<?? L ? f:Ë containing full particulars. Jt ddrcts:— == THE WORLD'S BEST" PUBLISHING CO., æi « W'R 'A ROYAL LIVER BUILDING, LIVERPOOL = ^miiiiiHiiiiHiiiiifliimumiiiHiiiiiiiiiiiiHiiiiiiiiimiiiiiiiiiiniiiHiiuifiiniiHiiHiiiiiii=iE=
Llwynbrwydrau.
Llwynbrwydrau. Cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol yn Festri Ebenezer (T.C.), nos Fercher, Ionawr 7fed. Beirniad yr amrywiaeth, Mr. Thomas W. Jenkins. Y Gerddor- iaeth, Mr. Rhys Walters (Sciwen). Y cyfeilydd, Mr. Willie Roberts. Wele y buddugwyr:— Adroddiad i blant, Minnie Walters. Unawd i blant, Gwendoline Evans. Brush Drawing, Stella Donne. Unawd i rai mewn oed, Mr. Arthur Phillips. Araeth ar y pryd. Miss Rachel Lewis. Penillion i'r Flwyddyn Newydd": Mr. Johnny Lewis. Deuawd, Mri. Tom Williams a J. Beynon. Cafwyd can gan Mr. Evan Williams. Y cadeirydd oedd Mr. Thomas Roberts, i'r ysgrifenydd Mr. Wm. J. Lewis (Gwynfa). GOLWG Y MOR.
Glyn Nedd.
Glyn Nedd. Ionawr 5ed cynhaliwyd Cymanfa Ganu Undebol yn y lie hwn dan ar- weiniad Dr Caradog Roberts, Mus.Doc. (Oxon). Yn y boreu cawd cyfarfod plant yn yr Addoldy, dan lywyddiaeth Mr E. j. Hopkins, D.C. Caed araeth ddiddorol ganddo ef ar anfanteision yr hen amser pan ddeuai yr arweinwyr i'r ysgol gan i ddysgu darnau wrth oleu canwyll. Am ddau o'r gloch cyfarfuwyd ym Methania i rai mewn oed. H wyl dda oedd yma eto dan lywyddiaeth Mr Thomas Williams, ysgolfeistr. Dywedodd yntau bethau diddorol am yr hen gerddorion a'r hen Gymanfa Undebol. Yn yr hwyr awd i Fethel. Yr oedd y cape4 yma'n orlawn. y llvwvdd oedd Mr J. Stanley ThomaJs Y Cymanfaoedd Canu 0 45 1 50 mlvnedd yn ol oedd pwnc ei sylwadau diddorol ef. Datganwyd yn y cyfar- fod hwn gydymdeimlad a'r Parch. T. Carmen Harris, Bethel, yn ei gystudd o herwydd damwain a ddigwiddasai iddo. Chwareuwyr yr offerynnau yn vstod y dydd gan Mri. Gurnos Jones, Cwmgwrach; I for Joseph, Capel y Glyn, a Samuel Weaver, Glyn Nedd. Dydd Mercher, Rhagfyr 3 1 ain, caed gwyl de a basar Capel y Glyn yn Ysgoldy'r Cyngor, a'r elw at y ddyled. Swynol oedd cerdd y Seindorf Arian yn canu'r hen flwyddyn allan a'r ? I'IPwvci? i fewn. I y TOM CYNON.
Advertising
f Cadewch iml siared a chwi am t ???? Anhwylderau Nerfol t Mae ein giau fel gwe blethedig 0 wifrau'r pellebr. Rheolir a maethir hwy gan ran o'r ymennydd adwaenir fel y canolfan gieuol. Dibynna cyflwr y canolfannau 6 ol ar gyflwr yr iechyd corfforol. iJan amherir yr iechyd corfforol cyd-ddioddefa'r Wts ijfr nerfau. Yr adeg hynny y pcenir ni Mm gyda nerfau "—cur pen, niwralgia, gwendid gieuol. Mewn achosion W ? f  &?—?  t felly 'does dim tebyg i Wincarnis/ W *v .? ? Gwin y Bywyd.' Mae WincarctS t )< -r=- ? ? yn fwyd cryf i'r nerfau sy'n gweith- ??, ? I redu'n union gyrchol ar y canol- fannau nerfol ac a rydd iddynt fywyd newydd a bywiogrwydd iieivydd. V Mae'r canlyniad yn rhyfeddol. ttttttt Dechreuwch wella'n NN? \?r RHA? Anfonwch am bravvf-gostrel rhaJ ? Wmcat-nts -aid ei flas yn unig, ond digon i wneud lies. jHH Amgaoeftri stamp ceiniog (i dalu, COLEMAN & CO., LTD., W. 169, Wincarnis Works, Norwich. 6' GwIa y Bywyd" it l Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon.