Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Rhwng Cloriau'r Wythnos.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Rhwng Cloriau'r Wythnos. GAN "CWILSYN." I Nid cynt na chodwyd y Heni oddiar ffenestr y flwyddyn newydd na welid yr hen, hen fyd yn edrych yn hynod o gynefin yn mhob cyfeiriad. Diolch i'n henafiaid am ddosparthu amser mor naturiol, o ran hyny bu natur ei hun yn eu dysgu i ddarllen y tymhorau. Bu y dderwyddon yn pedwaru v flwyddyn, ond Eglwys Rhufain fu yn ei haddumo a gwyliau a choffhau eu seintiau lluosog ar ddyddiau arbenig. Er nad yw hyny nac yma nac heddyw yn Nghymru, eto bu cenedl y Cymru nlwaith ar ei gliniau er eu mwyn. Yr oedd bywyd yn hamddenol a rha- mantus rhwng plygion y caddug hwnw. Heddyw nid oes genym egwyl i ymdroi gyda defosiynau felly. Rhy brysur wir. Oes y mynd a'r rhuthro ydyw hon, fel y mae y blynyddoedd a'u hanes yn cael eu trosglwyddo fel ystadegau yn h^fcrach na ffrwd o brofiadau dynol. Cymaint yr ysfa am ddal yr eiliadau ar eu hop fel y cwynir fod y telegraph yn rhy araf, ac y gwelir yn fuan frysheb- iaeth mwy gwibiog. 0 ran hyny y mae y fath doraeth o bynciau o flaen meddwl y wlad fel y mae yn rhaid penderfynu y rhan fwyaf o honynt fel ergyd o ddryll. Sionca y meddwl yn annghyffredin wrth chwil- droi gyda newydd-deb ac amrhywiaeth y dydd. Ond un o'r pynciau anhawdd- af heddyw ydyw sut mae dadrys cym- deithas fel y mae yn edrych o bethau y byd fel peiriant a'i olwynion wedi eu dirgloi. Cwestiwn y mor sydd yn apelio at hyrwyddwyr llyngesoedd y byd. Pwy fydd meistres y mor yn mhen y deng mlynedd nesaf y mae Lloegr a Germani yn geisio benderfynu. Nid yw wiw gwadu er pob ymgais i ddealldwriaeth heddychol (er fod pob peth yn gymyd- ogol yn bresenol) y mae rhyw ysfa fil- wrol yn yr awyr-gylch sydd yn ddin- ystriol iddo. Darogenir y gwelir ych- wanegiadau at draul y Llynges yn fuan. Dywedir ein gorfodwyd i adeiladu y rhyfel longau fwriadwyd i Canada dalu am danynt. Mae rhyw ddrwg yn y cehwrn. Myn Lloyd George mai ar y tir y mae y drwg ac nid ar y mor. Mae canlyn- wyr Henry George-y proffwyd o San Francisco-yn fywiog iawn y dyddiau hyn yn egluro y Single Tax. Hawliant y byddai yn rhatach a llwyrach medd- yginiaeth na chynllun Lloyd George. Rhai o wendidau y diwygiadau diwedd- ar yw y catrodau o segurswyddwyr sydd yn eu perarogli. Cyflwynir y mesur tir gyda rhwysg areithyddol yn fuan, a charafan y Llywodraeth yn gysurus o lawn rvvng Home Rule, Dadgysylltiad. a Meeur Tir. Mae y Ceidwadwyr—cyfeillion hon- edig yr amaethwyr—mewn penbleth gyda'r diffyndoll. Ymddengys ym- ddygiad mor annheilwng, ddiffyg egwyddor amlwg yn y braid Doriaidd, oherwydd y maent wedi gwastraffu addewidion am ddiffyndoll iddynt. Yn ddiweddar mae America wedi gostwng ei tholl ar nwyddau tramor yn fawr, er dychryn i glymbleidiau masnach y wlad. Un o greadigaethau yr lanci yw y Trusts, ond druan o Jonathan, mae'n edifar ganddo yn ei galon am yr am- rhyfysedd. Ac y mae y pla yn gafaelyd fwy fwy yn y wlad hon. Ofnir fod rhan o'r annealldwriaeth Thwng y wlad hon a'r Unol Daleithau yn nghylch Mexico yn ddyledus i faes- ydd olew y Cwmniau Prydeinig yno. Deuant i gystadleuaeth uniongyrchol a Trusts Olew America. Mae Arglwydd Murray-y Master of Oily bank—a'i fys ar y bwttwm. Gydag Arlywydd Wilson mae y Taleithau yn ddiogel, a thefcyg y gwelir ef yn fuan yn delio a hwynt gyda gweinyddiaeth dwrn-galed. Druan o'r Eglwys Sefydledig—hi teddyliem oedd y peth cadarnaf yn y cythrwfl cymdeithasol presenol, ond dyn a'n helpo. Kikuyw! Hikuyw! Mae'r esgobion yn torchi llewys a Balkanu ar rydd gymundeb. Cyfnod rhyfedd am eangu terfynau ydyw, a dryllio deddfau tra- ddodiadol. Mae celwrn pob sefydliad yn berwi dros yr ymylon, ac yn wir pan eir i adolygu hanes y ddeng mlyn- edd diweddaf gallwn fod yn dra diolch- gar i'r chwildroi gymeryd ffurf mor esmwyth yn y wlad. Meddylier am y Diwygiad Protestanaidd, a'r anrhaith ,ddialgar ar fywyd ac eiddo. Yr ydym yn ymyl cyfnewidiadau pwysig mewn byd ac eglwys, ond yn gymharol es- mwyth pe byddai ein henanaid yn cyflawni y gorchwyl. Yr wythnos ddiweddaf trbisom i fewn i Farchnaty Aberdar-i wrando ar Es- gob Tyddewi yn annerch cyfarfod gwrthdystiol. Yr oedd yn dda genym glywed ei acen Gymreig, er yn traddodi yn Seisneg—iaith Eglwys Loegr yn Nghymru. Yr ydym yn synu na fuasai yr Eegob neu rhai o oreuwyr yr Eglwys yn gwyntyllu eu cwynion ar faea y "Darian," fel y byddo y werin Gym- reig yn y Deheudir yn cael cyfle i ddeall eu dadl. Mewn cyfarfodydd Seisnig fel y noson sonedig, yr oedd cyfangorph y Cymry yn anhyspys o hono. Er nad oedd ei syniadau ar wladgarwch ddim yn amgenach na snobyddiaeth yr Eglwys Wladol!

I Oddiar Lechwedd Penrhys

I Nodion IIIn y Ffordd. I

Micheah-neu y Gwlr a'r Gau.

I Gohebiaethau.

Caerfyrddin. I

IY Ddrama Gymreig, "Die Shon…

:Ferndale.

Advertising