Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Gwahannod Llyfroniaeth y "…

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mae Cyngor Dosbarth Mountain Ash wedi tynu yn ol y rhanau hynny o Ddeddf Oriau Siopau 1912 mor bell ag y mae a fyno hynny a gwerthu llyfrau, yn nghyd a stationery a "fancy goods." Er pan ddaeth y gyfraith hon i ryw nid oedd ryddid i newyddiaduron-ar ol un o'r gloch ganol dydd lau yn mhob wythnos, nac ar ol tua saith neu wyth o'r gloch y nosweithiaru eraill (ag eithrio nos I Sadwrn, pryd yr oedd yn ddeg o'r gloch)-i werthu un math o lyfrau, nac inc, na phapyr vsgrifenu. Yr oedd hyn yn gam ofnadwy a newydd- iadurwyr, allasent gadw'n agored faint a hyd fynent i werthu newydd- iaduron, ond a rwystrid i werthu pethau eraill ydynt lawn mor gyfreithiol ac arferol yn eu gal- wedigaeth hwy. ¡ Ymgymerodd Undeb Lleol y Xewyddiadurwyr a'r mater, a gwnawd apel unfrydol at y Cyngor gyda'r canlyniad a nodwyd. Mae symudiad tebyg yn y gwynt yn mhlith newyddiadurwyr Aberdar, Rhondda, Merthyr Tydfil, Rhymni, a manau era ill. A bydd yn dda i ddos- barthwyr y "Darian" ddeall y gall- ant drwy uno a'u gilydd a chael y mwyafrif i wneud apel at y local authority" yn mhob ardal er mwyn sicrhau yr unrhyw fanteision. Nis gallant wrthod lie bo unoliaeth. "What is EducatIOn" (2/6 net, Bell) gan Proff. Leather, C. B. Gwr cyfarwydd ag addysg yn mhob agwedd arno-corphorol, moesol, ys- brydol, a meddyliol; addysg er mwyn masnach, er mwyn byw, a thrwy fyw; addysg gan y Wladwriaeth— addysg pawb, yn hen ac yn ieuanc, y lluaws a'r ychydig. Llyfr yw hwn ddylai fod yn llaw pob un sydd yn byw wrth addysg, yn ymwneud ag addysg, ac yn teimlo diddordeb yn ei waith. Mae Mr. E. Phillips Oppenheim, y nofelydd enwog, wedi cyhoeddi cyfrol dan yr enw "The Lost Leader" (Ward, Lock, 7d. series). Dylai werthu yn dda yn Ne Cymru. Er mwyn y fantais feddwn ni o allu rhoddi awgrymiad, wnai egluro rhyw gymaint ar dywyllwch y testyn. Nid oes yma brinder "leaders," a phe chwilid, hwyrach y cawsid o hyd i rai yma ddylasent fod yn rhywle arall. Rhosydd.—Nid wyf yn siwr; ond mae'r "Veteran D. W. Lewis yn Mrynamman o hyd. Ymholwch; mae'n bosibl fod rhai o'i gryts ef yn dod heibio i chwi bob wythnos os nad bob dydd. Mae'n rhaid cael ffordd i'r "Darian ddod yno rywsut. J.D., Maesteg.—Ysgrifenwch at y Gol. i'r Swyddfa bydd yn dda gan- ddo glywed oddiwrthych, a bydd eich dymuniadau da yn galondid iddo. P. & S. —You have a good chance now to make the charge. Push the penny paper as the most profitable. Study this new move well: it will surely help you. Show the "Tarian" poster weekly-this will help you also. Get someone to translate these lines for you- "Can di benill mwyn i'th nain, Fe gan dy nain i tithau." This may appear charitable, but it is also business. Blaendulais.-Hyd nes y gellir cael cyfrinfa yn nes i chwi, pan nesaf yn Nghastellnedd ewch i siarad a Mr Hemmings, llyfrwerthwr, yn Queen Street. Mae yn bosibl y gall efe drefnu i chwi gael copi rhad bob wythnos. Yr wyf yn hollol o'r un farn y dylai'r "Darian" werthu'n dda yn Nghwm Dulais. Ymrowch ati. M.D.P.—Mae "Gardd Aberdar" allan o gylchrediad er ys blynyddau. Yr wyf fi wedi ei cheisio lawer gwaith, ond heb ei chael. S.G.—Gellir cael holl weithiau'r Parch. D. Oliver Edwards oddiwrth Mr. Evans, yn Swyddfa'r "Seren," Caerfyrddin. J.D.J.—Os nad yw ar y "sheet" yn argraphedig, rhowch "standing order" am dano i'ch "wholesaler." Gellir ei gael drwy Williams neu Smith. Ysgrifennwch eto: mae yma groesaw neillduol i "newsagents."

Advertising

Jiwbili'r Tabernacl yn Nhreforis.

Gelli, Rhondda.I

Tabernacl, Treforis.

It ; BeirniadaethI

lMarwolaeth I I

Advertising