Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y Stori.

Advertising

! Eisteddfod Bodringallt.…

I Ystrad Mynach. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Ystrad Mynach. Cymrodorion. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o'r Cymrodorion nos Ferchev, Ion. 7fed, yn Siloh, Ystrad Mynacti" dan lywyddiaeth y Parch. Rd. Evans (yn absenoldeb y llywydd, Parch. L. Hopkin James). Anerchwyd y cyfarfod gan Syr Edward Anwyl ar Hen Lenyddiaeth Cymru," a chafwyd araeth benigamp. Datgan- wyd yn swynol gan y Bonwyr Tom Griffiths a Harry Lewis, a'r Fonesig Llywela Lewis yn canu'r berdoneg yn gampus. Y mae yn hvfrydwch meddwl fod y cyfarfodydd hyn wedi troi allan yn llwyddiant mawr, ac y mae rhestr aelodaeth eisioes wedi cyrhaedd 250. Disgwylir Brynfab i anerch y Gym- deithas nos Wener, Ion. 30ain, ar "Ad- gofion Eisteddfodol."

I Beirniadaeth. j

- Nodion Heolycyw.

Nodion o Abertawe.