Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN AMAETHYDDOL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN AMAETHYDDOL Y Gweithiwr Amaethyddol. Mae llith eich gohebydd, Aronfa Griffiths, yr wythnos ddiweddaf yn dar lien fel pennod o'r "Arabian Nights." Yn sicr, y mae efe wedi tynnu ei fwa hir i'r eithafion pellaf. Os bu pethau fel y nodir ganddo, y mae y pethau hynny yw mhlith y pethau a fu er's llawer blwyddyn bellach. Nis gwn beth yw sefyllfa y gweithwyr amaethyddol ar hyd a lied y wlad, ond, yn sicr, rhaid iddo fynd y tuallan i Hiroedd y Deheu- dir, cyn y ca gysgod o sail i'r hyn a ysgrifenodd. Cefais i fy magu mewn amaethdy, fel yntau, ac ni welais ddim yn debyg i'r sefyllfa a nodir ganddo. Ym Morganwg a Mynwy, y gwas yw y meistr er's blynyddoedd. Os na cha agos bobpeth a ddymuna, mae yn ei gwadnu hi i'r pwll glo; a chan fod y gweithwyr amaethyddol wedi myned yn Jorin, rhaid eu trafod fel un o'r teulu. Yr wyf yn ddigon cyfarwydd o sefyllfa gweithwyr amaethyddol yn yr ardal hon, a gallaf fynd ar fy llw na wneir un gwahaniaeth rhwng y gweision a'r teulu yn gyffredinol, cyn belled ag y mae lluniaeth a chysuron yn y cwestiwn. Dywed eich gohebydd nad yw yr ym- borth a roddir i'r gweision yn ddim amgen na chwawl cig moch, a hwnnw weithiau yn gawl ail-dwym." Mae yn amheus i mi a oes y fath beth a "chawl cig moch" yn cael ei wneud yn un man yn Morganwg a Mynwy heddyw. Ni welais i y cawl hwnnw ar un bwrdd amaethdy erioed, a thebyg fy mod wedi ciniawa gyda chymaint o weision a nemawr neb. Ond a chymeryd yn ganiataol mai nid breuddwydio yr oedd eich goheb ydd, a bod y gweision yn byw ar "gawl cig moch," onid yw y ffaith fod y bech- gyn hynny yn fwy iachus, ac yn gryf- ach nag un dosparth arall o weithwyr, yn profi nad ydyw yn ddrwg i gyd? Rhoddwch was fferm ochr yn ochr a glowr sydd yn byw ar fwyd ffrimpan a llestri alcan, ac fe wel y dallaf nad yw yr olaf ond megys edlych i'w gymharu ag ef. Gall y gwas fferm, serch ei fod yn byw haner ei amser ar "gawl cig moch," daflu y glowr llipa dros ei ysgwydd a'i holl lestri moethau gydag ,ef. Nid y bwyd sydd yn cael ei ddarparu yn ol y dull diweddaraf sydd yn gwneud corff iach a chryf. Mae y glowr sydd yn gftrfod byw yng nghanol y tawch a'r llwch yn colli ei archwaeth, fel y rhaid cael pob math o gawdel i wneud ei fwyd yn flasus. Ond wedi y cwhl, nid yw ei wedd ond esgusawd gwael dros fodol- aeth yh ymyl y gweithiwr amaethyddol. Nid wyf am honni fod y cyflogau yr hyn y dylent fod, yn neillduol mewn rhannau o Loegr. Ond ni gymerwn ffigyrau eich gohebydd Deuddeg swllt yr wythnos a'i fwyd a'i letty." Neu ynte ddeunaw swllt yr wythnos, a thalu am ei fwyd a'i letty ei hun." Hoffwn wybod pa un ai y cyntaf neu yr olaf sydd fwyaf ffodus. Mae'r Cwm- niau Yswirol sydd yn myn'd yn atebol o dan ofynion y Workmen's Liability Act yn hawlio deg swllt yr wythnos fel gwerth bwyd a Hetty, er nad ydynt yn ymgymeryd a thalu mwy nag hanner y cyflogau. Faint o wragedd Morganwg yma fyddai yn foddlon cadw Uettywr am wyth swllt yr wythnos 1 Ofnaf na chelai neb gymaint a "chawl cig moch" a "gwely gwellt" am y pris hwnnw. Mae gennyf- weithiwr ar hyn o bryd nad yw yn cysgu yn yr Hendre ac mae yn gorfod talu pedwar swllt yr wythnos am ddim ond lie i gysgu, a thwymo ei drwyn cyn myn'd i'r gwely. Nid yw yn bosibl cael gweithiwr a fedr droi ei law at bob gwaith ar y fferm am lai na pymtheg swllt yr wythnos, a'i fwyd a'i letty. Dyna gys- tal a deg swllt ar ugain yr wythnos mewn pwll glo, neu ryw waith trall. Nid oes stop waggons, cwymp ar y Soi-dd, sefyll allan, na thai y Feder- ation yn degymu dim ar gyflog y gweith-  amaethyddol. Os ydyw yn ennill lai na rhai gweithwyr eraill, mae y temtasiynau i wario ei art an yn llai hefyd. Gwn am weithwyr amaethydd- ol. yn fy ymyl, sydd wedi bod gyda'u meistri presenol dros ugain mlynedd, a gall mwy nag un o honynt roi ei law ar bum cant o bunnau. Nid yw ffeithiau fel hyn yn siarad yn isel iawn am sefyllfa y gweithiwr amaethyddol. Y gwir am dano yw, mae sefvllfa y gweithiwr amaethyddol ym Morganwg a Mynwy y fath y gall unrhyw weith- iwr eiddigeddu am dani. Fel y nodais, nis gwn beth yw sefyllfa pethau vn Siroedd eraill y wlad. A gadael y "cawl cig moch" yn ddi- sylw, mae eich gohebydd ar gyfeiliorn gwyllt yng nghylch y prydiau bwyd. Nid oes un gwas fferm ym Morganwg yn bwyta ei frecwast am chwech o'r gloch yn y boreu, ac nid "hanner pryd" a geir rhwng ciniaw a swpper. Dyma y drefn, mor agos ag y gellir. Brecwast am wyth, ciniaw am ddeuddeg, te am bedwar, a swpper am wyth. Yn yr haf, pan fydd y frecwast weithiau yn foreu- ach nag arfer, ceir lunch rhyngddi a ,chiniaw. Mae achwyn ar y bwvd wedi hen fyned allan o arfer yn y wlad lie yr wyf fi. yn byw. Mae nob ffermwr yn parchu ei weithiwr, os bydd yn werth ei barchu. Ond mae y ffermwr druan, yn goiffod cadw rhai na chelent ddiwr- nod o waith mewn un man arall. Nid yw y ffermwvr hanner cynddrwg dynion ag y dywed eich gohebydd eu bod; ond addefaf y gallent dalu gwell Un a wnant, pe gellid Cael y tir am ei werth P?a"??;-??- ? ?-th. aethu o PhiliJ^v' r/ r'tthh'^lffa a™wyv, a phol> math 0  ,1 a1 nW}T. a phoh  yn barod i'w ysglvf- ?ethu of?i?? ?? ''? y?- os y beidai-6™ yn am ostyngiad'yn:f?re??"' -?? ?? ostyngiad yn ei ardrech D ?eudeuhar?m?-  eS ac yn mynd i ffermu er mwyn hobby, ac nid er mwyn bywiolaeth, yw y giwdawd sydd yn dinystrio sefyllfa amaethwyr yn Neheudir Cymru. Dyn- ion wedi gwneud eu harian ar gefn gweithwyr eiu glofeydd, hefyd, sydd yn prynu y tiroedd gan rai o'n Prif Ar- lwyddi, ac yn dyblu yr ardreth i gael Hog ar eu harian. Mae maes eang o flaen y Canghellor yn y cyTeiriad hwn. Cynorthwyed eich gohebydd ei achos, ac nid enllibo ffermwyr y wlad. I ■

IGwahannod Llyfroniaeth y…

[No title]

I "Ceninen" Ionawr. I

Advertising