Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Thompson & Shackell, Ltd. PIAN08 AND CII .J. H th T d PIANOS AND ORGANS. Cheapest ouse in e ra e. ORGANS. ESTEYaORGAN AGENCY, '24, Queen-street, Cardiff. BRANCH ADDRESSES:- SWANSEA S3, Castle street. PONTYPRIDD 6, Taff-sfcreefc. NEWPORT .S. Commercial-street. GLOUCESTER 42, Eastgate-street. i LLANELLY .60, Stepney-street. BRISTOL 142, Newfoundland-road. I MERTHYR 114, High-street. BRIDGEND .1, Wyndham-street. Terms 1 Hire System, from 10/- Monthly. 'I Large Discount for Cash. OLD PIANOS TAKEN IN EXCHANGE. LIST FREE ON APPLICATION. N.B.—ALL GOODS DELIVERED FREE TO ANY ADDRESS. DO YOU SUFFER FRONt EYESTfyMX ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERR*, F.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE'CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. ABERAMAN WORKMEN'S HALL Popular Lectures for the People. Friday, Jan. 30, Mr. HENRY C. PREECE (The famous Blind Lecturer). Subjeot-" The Comedy of Daily Life." Chairman: Rev. E. C. Camble. Friday, February 13, Miss ADA L. WARD, L.L.A. Subject-" Funny Folks their Fads, Fancies and Foibles." Miss M. A. Davies in the cbair Friday, February 27, Dr. C. W. SALEEBY, F.R.S.E. Subject-" Worry: The Disease of the Age. Chairman: Dr. Trevor Cory. Friday, March 6th, Miss MALECKA (The Prisoner of Warsaw). Subject-" My Experiences in Russian Poland." Mrs. Rose Davies in the chair. Monday, March 9, at Saran Chapel, Mr. ALEXANDER WATSON. Dramatic Reciter (Serious and Humorous). Chairman Rev. H. P. Jenkins. The few remaining Reserved Seats will be booked in the order they are applied for. Prices 4/ 2/6,1/5 and 9d. for the tive Lectures. Single Tickets (if room) at 2/ 1/ 6d. and 3d. None sold until 7,36 Doors Open at 7.15 p m., to Commence at 7.45 sharp. Seats may now be Seats may now be booked with the Secretaries—Messrs. W. W. Price, 11 Stuart Streat, Aberdare and D. E. Davies, IS Hill Street, Aberaman. THE CYMMER C.M. I I- SIXTH ANNUAL CHAIR EISTEDDFOD will be held at ST. JOHM'S HALL, CYMMER, PORTH, ON SATURDAY, FEBRUARY 28th, 1914. PRESIDENT THE HON. ROLAND E. PHILIPPS, LONDON. CHIEF EVENTS: Mixed Choirs, We never will bow down," CI5, and a Challenge Cup, value £ 6 6/ Present holders of the Cap Mardy United Choir. Male Voice, "The Pilgrims," £ 15. 21/-for Soloist, and a Silver-mounted Baton will be pre- sented to the successful conductor by Messrs Dale, Forty & Co., Ltd., Piano and Orga Merchants, Cardiff. Second Male Voice. In the Sweet By-and-bye," 9.5. Children's Choirs, (a) Song of Truth," (b) Lullaby," R5, and a Gold Medal presented by Mrs. Morgan Hicks, Cymmer Solos, 21'- (open Novice), Trio (open), Solo for Children, two Pianoforte Solos, Penillion Singing, Englyn. Essay. Prize Bagii, Recitation 21/, Mining Subject, Chair Poem-21/- and a Solid Oak Chair, suitably carved, value f4 4' presented by the Roath Furnishing Co., Taff Street, Pontypridd. Programmes, Id. each; 14d. post free. Winning Compositions of the last Eisteddfod can be obtained from the Secretary in book form, 6d. each post free 7d, Hon. Secretary—TOM EVANS Gwalia Cafe, Cymmer, Porth. Carmarthen Dairy, Seymour St. a Whitcombe St., ABERDAR. Cynyrch Lfaethdy o'r Fath Oreu, yn oynwya Hufen Ceufedig Ammrwd a Devonshire, yn newydd bob dydd. Wyau Newydd Ddodwy—Gwarantedig. Darperir ar gyfer Partion To. Anfonir Llaeth ddwywaith y dydd. Hysbysiad o Bwys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosha rth wyr. Teimhvn mai angenrhaid yw gwntr* yn hysbys y cyhoeddir y Dariau hod dyad Ma wrth, ac y danfonir hi í'f holl ddosbarthwyr brydnawn yr UN dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonanf hvsbysiadau neu newvddion urgent* ofalu eu bod yn cyrhaedd y swyddls heb fod yn ddiweddarach na bore Mawrth. Carem gael bob gohebiaxtft aran mor gynar ag sydd bosibl. Anfoner pob gohebiaeth a phob :r.. fodaeth yn dal perthynas a'r "Darian" i'r cyfciriad a ganiyn YN UN IG SWYDDFA'R DARIAN," ABERDAR. •r CWMAMAN JUVENILE EISTEDDFOD. The Seventh Annual Juvenile EISTEDDFOD, Will be held at the PUBLIC HALL, CWMAMAN, SATURDAY, MARCH 14th, 1914. Chief Items: Juvenile Choii-, "Chain of Welsh Airs," 25, and a Marble Clock, value zC3, kindly given by Roath Furnishing Co., Pontypridd.—Action Song, Own Choice 1st prize, t-2; 2nd, £ 1.—Champ- ion Solo for Gii-Is, Hark, ye herald angels sing" (Gabriel), 10 6.—Champ- ion Solo for Boys. Y Ddwy Delyn (Pughe Evans), 10/6.—Duett (soprano and alto), Hen Gymru Dlos (T. J. Morgan).—Drill Competition: 1st, zel; 2nd. 10; Prizes offered for Bolos, Recitations, Drawing, Essay and Letter Writting. Further particulars in Programmes, post free ld. To be had from the Hon. .Secretary-W. O. Lloyd. Isfryn. Cwm- aman, Aberdare. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllen- wyr gael v Darian oddiwrrh ddosbarth- wr genir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lic. yr wythnos, 6oh. am fis, 1/7, y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post.
!Nodiadau'r Golygydd.I - I
Nodiadau'r Golygydd. I Gwnaeth y Crwner, y Rheithwyr I a'r tystion yn Nhrengholiad Senghen- ydd yr oil a fedrent yn ddiau i gael allan y gwir achos o farwolacth y rhai a ddinystriwyd yn y Danchwa, ond nid yw meddwl y wlad yn esmwyth. Mae rhyw argraff ar feddwl pobl mai /anarnl y ceir y gwir i gyd na'r dded- fryd iawn mewn trengholiad. Gresyn yw hyn yn arbennig ynglyn a mater- ion pwysig. Y ffaith yw, dyweder a fynner, y mae trengholiad wedi myned yn fwy o destun difyrrwch na dim arall. Pan sonnir am drengholiad, clywir hyd yn oed hogiau, mewn direidi, yn rhagfynegu beth fydd y ddedfryd. Nid yn anaml cyflawnir eu proffwydoliaeth i'r Ilythyrren, ac nid aw hynny yn codi dim ar eu syniad am drengholiad. Ynglyn a threngholiadau v bydd buddiannau gwahanol ddosbarthiad- au yn gwrthdaro ynddynt, y mae'r argraff yn bur gyffredin na feiddia'r tystion ddweyd y gwir i gyd rhag iddynt orfod dioddef yn eu ham- gylchiadau o herwydd hynny. O'r braidd na ddywedem y byddai yn well mewn amgylchiadau felly he!) drengholiad o gwbl. Dylanwad an- dwyol sydd gan y dybiaeth na cheir mor gwir lie y mae dynion ar cu 11 vv i'w roddi, a hynny am eu bod yn ofni y canlyniadau. Os am roddi urddas a gwerth ar drengholiadau, bydd raid cael rhyw foddion a sicrhâ eu bod yn cyrraedd yr amcan sydd iddynt ac adfer ffydd y bobl ynddynt. Gresyn yw i drengholiad o bopeth fod yn destyn gwawd. Prudd yw yr hyn ddarllenir am frwydr y gweithwyr yn Ne AtTrica. Y Llywodraeth reola'r ffyrdd haearn yno. Yn ol adroddiad pwyllgor a wnaethai ymchwiliad, yr oedd gweith- dai y ffyrdd hyn yn rhy lawn a 1,750 o ddynion yn ormod ynddynt. Trowyd ymaith 70 Q honynt, a hyn achosodd yr helynt. Honnai'r swyddogion fod yr angen am gynhildeb ariannol yn galw am eu troi ymaith. Ar y lIa w arall cred yr Undebwyr mai dial wneir ar y gweithwyr hyn o herwydd eu perthynas a'u hundeb. Tybir fod yr helynt yn berwi er y streic o'r blaen. Ar ddydd angladd y mwnwyr a saethwyd gan filwyr adeg y streic honno, gwrthododd gwyr ffyrdd haearn Pretoria fynd at eu gwaith, ac nid yw'r swyddogion, meddir, wedi anghofio. Lledai streic y tro hwn eto yn gyflym. Galwyd allan filwyr, rhoddwyd y ddeddf filwrol mewn grym, cymerwyd arweinwyr y gweith- wyr yn garcharorion, bygythir eu halltudio o'r wlad, ac y mae'r gweith- wyr yn dychwelyd at cu gwaith. Hanes digon hyll, ond nid yw y diw- edd eto. Yr hyn wna gwesti wn llafur yn ddyrus yn Ne Affrica yw fod yno heb- hl\r dyn gwyn ddau ddosbarth arall, sef y bobl o liw, "coloured people," fel y gelwir hwy, a'r brodorion. Rhai o waed cymysg—y du a'r gwyn, yw y bobl o liw, ac y maent raddau yn uwch eu gwareiddiad na'r brodorion. Y mae'r bobl gwaed cymysg hyn yn gystadleuwyr peryglus a'r dynion gwyn ion am v Ileoedd goreu yn niwidiannau'r wlad. Er ceisio o'r dyn gwyn eu cadw yn ol rhagddynt yr ant. Y mae'r brodorion hefyd yn deffro ac yn dilyn. Anodd yn fuan fydd eu cadw hwythau yn labrwyr, mynnant eu rhan yng ngwaith crcfftol y wlad. A chan fod y boblog- aeth ddu yno yn cynhyddu yn gyflym- ach na'r gwyn, ac yn bygwth gyrru'n gwyn i'r pared, bydd cwestiwn llafur yn ddiddorol iawn vno'n fuan. Uu'r cwestiwn o wneud dysgu Cymraeg yn orfodol yn yr ysgolion o dan ystyriaeth Cymdeithas Masnach (Chamber of Commerce) Aber Tawe. Crcdai Mr. L. G. Jeffreys, cvn-lywydd y Gymdeithas, mewn gadael dysgu Cymraeg at ddewisiad. Cydnabyddai fod gan Gymru lenyddiaeth dda, ond y gellid, o safbwynt masnach, wneud gwell defnydd o'r amser dreul- id i ddysgu Cymraeg. Credai y bydd- ai'r Ffranceg, yr Almaeneg, neu'r Y sbaeneg yn fwy buddiol. Yr oedd Mr. R. G. Lewis, goruchwyliwr cyffredinol Cwmni Ben Evans, o'r un farn ag ef. Druan o Gymru Pob iaith yn well i'w phlant na'i hiaith ei hun. Melus yw cofio fod Mr. E. T. John, A. S., masnachwr, nad yw y rhai hyn ond silod ac epil ceiliogod rhedyn yn ei ymyl, yn cyhoeddi yn groew fod gwerth masnachol mawr yn y Gyn> raeg, a'i bod o gynorthwy i ddysgu icithoedd eraill yn ogystal. Cymered Cymry'r cylch yr awgrym, gallant hwy roddi gwerth mawr ar y Gym- raeg pan yn mynd i Aber Tawe. Gofynnwch am bopeth yn Gymraeg.
I Oddiar Lechweddau Gwlad…
I Oddiar Lechweddau Gwlad II Myrddin. Cymdeithas Ddramayddol Felinfoel. I Deallaf fod mynd anghyffredin ar y Gymdeithas hon. Perfformiodd Bedd- au'r Proffwydi ddwy waith yn Felin- foel, Pembre, ac Ammanford. Hyn yn glod i'r gymdeithas fod galw am dani y tu-allan i'w chylch ei hun ac yn glod i Myfyrfab, y gwr medrus sydd yn eu I dysgu. Aed rhagddynt. Yr Undebau Cymreig. I Cawd odfa Gymreig gyfareddol o fyw yng Nghapel Dyfnallt, Caerfyrddin. Yr oedd yno gynrychiolaeth gref o wahanol gymdeithasau. Mynegwyd pethau cryfion a chalonogol yno. Y mae adran Dyfed o dan dywysiad Dyfnallt a Mr Hughes, B.A., yr ysgrifenydd aiddgar o Abergwaen, yn siwr o wneud gwrhydri. Gwnaeth Maer Caerfyrddin yn deilwng o'r hen dref drwy arlwyo y bwrdd mor ddeheuig a llawn iddynt wedi'r gyn- hadledd. Hi roes iddo oedd ddymuniad I po,b Cymro yno. Cymdeithas Lenyddol, Gymrodorol a I Christionogol Horeb, Pump Heol. Nos Fercher, wythnos i'r diweddaf, darllenwvd papur buddiol a llafurfawr ger bron y Gymdeithas gan Mr David Davies, Gelli-hir, Athro yn Ysgol y Cyngor, Trimsaran, a thrysorydd a ddiacon yn Horeb, ar "Hanes Horeb o'r Cychwyniad." Rhywbeth anelwig iawn oedd Hanes Horeb yn flaenorol i hyn. Y mae clod mawr yn ddyledus iddo am ei lafur. Nos Fercher diweddaf bu y. Parch. D. Rhydderch, B.A., Capel Seion, Pontvberem, yn anerch y Gym- deithas ar Ben Bowen. Pwy yn gym- hwysach, ac efe yn ffrynd calon i'r brawd ymadawedig—yn mynd gyda'u gilydd i'r Academy, Pontypridd, ac wedi aros yn gyfeillion hyd y diwedd. Hawdd oedd dweyd fod y darlithydd mewn cariad a'i destun. Ben Bowen oedd ganddo o'r dechreu i'r diwedd, a chadwodd gynulleidfa fawr ar ddihun wrth adrodd Rhamant Bywyd "Bardd Claf Cymru," chwedl Taldir o Lydaw. MYRDDIN MIX Y MOR.
"Drylliad yr Awyrlong." I…
"Drylliad yr Awyrlong." I I Darn Adrodd Eisteddfod y Gadlys, I Pa beth yw hwn dramwya uwch fy mhen ? Ai rhyw ddrychiolaeth yw ? Mae'n cuddio'r nen. Ai cysgod eangderau'r bydoedd pell Yw'n dangos gwerthfawr olud gwlad sydd well ? Arosaf enyd! Plygaf dano'n f ud. Ha, rhyw ddrychiolaeth yw yn llawn o hud. Drychiolaeth, na, symudan gryf i'w daith Heb ofni deddfau'r eangderau maith. Pelydrau'r haul sy'n cochi'r eigion draw A'r nef fel cwmwl barn bron taenu braw. O! erch olygfa, ofnaf wel'd ei gwedd, A yw yr haul yn chwilio bythol fedd? Y mgrymaf Gwyrth yw yr orymdaith fawr, Mae'n cuddio'r nef er llwyr ddychrynu'r llawr. O! ryfyg erch LN-a, clywch y lleisiau llawn! Ai darn o arall fyd yw'r olwg gawn? Mae'n mesur meusydd ffurfafenau Duw, Yn gwawdio pellder,-diystyru'r byw. Ond ha! dacw gyffro! Mae'r wybren yn ddu; Ai mwg yr awyrlong ymwylltia fry? Ha Syllwch i'r pellder! O'r nefoedd fawr Wyled angylion. Daew hi'n ddrylliau i lawr. Gwyliwch ei darnau o amgylch eich pen, Mae'r nefoedd yn ddu a'r haul o dan len. Ymgyll y trueiniaid yn niwl y glyn. Ai barn sydd yn llosgi ar lethrau'r bryn? Mae'r mwg yn ymgolli uwch tonau'r mor, A'r lluoedd yn gwaeddi, "Arglwydd, ein Hior, Ymwared, ymwared, symud ein braw, Cymer eneidiau'r rhai hyn yn dy law." O erchyll gyflafan! Difrod ac alaeth Fu'n trefnu byddinoedd "Angel Marwol- aeth," Arswyd deyrnasa dros faes y gyflafan, Mae'r dyrfa mewn ing, eneidiau yn gruddfan. Gwel acw'r trueiniaid mewn trochion gwaed, A dyfais celfyddyd yn sarn dan draed. Sawl bywyd a gollwyd? 'Does un yn fyw! A gwympodd Pechadur i Freichiau Duw? O cesglwch weddillion y saith ynghyd, Tynnwch y llenni dros drueni'r byd. Mae'r dyrfa'n ymsymud yn drist ei gwedd, A rhywun bob dydd yn torri ei bedd. Gadlys. D. BASSETT.
Daeth y Nos. I
Daeth y Nos. I Pennod y boreu a'r nos ydyw yr olaf yn Llyfr y Pregethwr. Boreu byr er hyny sydd ynddi. Buan y daw "y dyddiau blin" a'u hanes helbulus. Ni pherthyn i newyddiadur benderfynu pwy oedd y bardd ddarluniodd henaint, mor ardderchog. Ymwea ofn enfawr, a thywyllwch a thryblith anferth nes y mae yn un o'r darnau llenyddol mwyaf cyffrous fedr un ddarllen. O'r diwedd y mae un agos gymaint a Solomon yn y dyddiau blin, sef Mr. Joseph Chamber- lain, A.S. Pwy all fyth ddirnad prof- iad yr encilion yn hanes y dyn mawr hwn? Rhagluniwyd ef yn Brif Wein- idog Senedd Prydain. Bu y "Darian" ddeng mlynedd ar ugain yn ol yn rhag- fynegu beth fyddai. Ond barn dyn- ion cyn 1886 oedd y breuddwyd. Pwy wrth ystyried y gorphenol all ddarllen y llythyr pwysig diweddaf o Highbury, heb deimlo dwysder y sefyllfa ? Galar asom lawer tro wedi etholiad 1906 fod yr hen ryfel wr wedi gorfod ymneillduo I a gadael y maes y safodd arno yn brwydro yn ffyrnig lawer tro o 1876 hyd 1906. Enillodd ei sedd yn deilwng a deled a ddel y mae dinas Birmingham yn ddyledus iddo am ei safle a'i llwvdd- iant masnachol. Teilyngai barch y dinasyddion oherwydd bu yn ddinesydd difefl o 1869 hyd ei fethiant. Llundein- iwr oedd, a anwyd yn Camberwell. Nid masnachwr dall fu na welai ddim tu- allan i'w fasnach. Gwthiodd i'r dwfn yn y bywyd cyhoeddus. Dyweder a fyner, hoffwn y dynion hyny gyfunant ddyddordeb neillduol gyda'r ddyledswydd feunyddiol gyf- enwn yn fion ein kbara. Oni anogai R.J.J. hyn yn yr Ysgol,—yr Hen Ysgol Jones ? Braidd nad elem yn syth yn erbvn iawn-grediniaeth a chydnabod yn Babyddol y gweithredoedd "superoro- gatory hyn. Edmygwn yn fawr y Bonwr o Highbury am yr hyn fu tuallan i fasnach. Ond, oni theimlodd droion y cyfyngdra o'r ddeutu? Efallai taw ei wall fu anghofio pwysleisio yn Baulaidd y mwy angenrheidiol o'ch plegid chwi. Pwnc mawr y byd ydyw gochel am- ryfusedd y blaenoriaid, a gofalu fod ar y lien y man y syrthiodd enwogion. Dvlai y man y croesa hydred y Iledred fod ar y lien. Nid mewn du gwarad- wydd ond yng nghoch y rhybudd, yn debyg fel y gwelir y blodeuyn coch tan- baid yn y cae llafur. Gofalwn am am- gylchedd ddymunol. Pa nifer gytunai a ni parthed y nodau coch yn hanes Mr Chamberlain? Hyd 1886 amheuwn yn fawr a haedda gael nod goch yng nghynt. Ni chollfarnwn ef am ei waith yn troi ei gefn ar yr Hen Wron arwein- iai y blaid Ryddfrydol. Nid y nodyn coch ddylai fod ar y lien i ddangos croesiad yr hydred ar lledred yma. Tybiwn ei fod yn dra thebyg i Pedr pan ■ chwenychodd y pebyll i eraill, pan olyg ai blanu gweithwyr mewn tyddyn a thair erw a buwch i wella'r amgylch edd. Mewn gardd ardderchog y dvd y Bardd Hebra.eg Adda, a mawr ydyw helynt dynoliaeth wedi colli y gerddi. Tueddai yma i efelychu yr Iuddew-y gwr gar yr aelwyd. Allor o'r aelwyd, a I theml o'r ty wnelai bob cartref y twr amddiffynol cadarnaf i wlad. Na, wedi dod yn wr cynefin wrth fwrdd y Cecil- iaid y dirywiodd. Adgofia y darllenydd am y Cwmni dder.byniodd Freinlen a hawl i ddatblygu Nigeria. Daeth y cwmni hwnw i helbul, ond gan fod car yn Swyddfa y Trefedigaethau, bu y di- wedd yn llawer gwell na'r dechreuad. Dichon mai dyma bair i Mr. Horatio Bottomley ddymuno cael Gweinydd- iaeth Fasnachol. Gallwn yn sicr dyst- io mai dyma bair i bob diwygiwr cyd- wybodol ei hystyried yn ddyledswydd grefyddol nad a cyfreithiwr eto i Sen- edd Prydain nac un aelod, y mae digon o'i fath yno yn barod. Dyma un o'r manau ddylid ei nodi yn goch. Yma trechwyd y Bonwr gan Fasnachaeth fel y deall "John Bull" hi. Ni enillodd barch mewn un weithred wedi hyny. Ni ddylid camfarnu dyn fel Mr Cham- berlain am bob cysgod o duedd i droi oddiar y ffordd union. Nid ydym ar yr un dremfa, ac oddiar y dremfa y cawn ein hunain y gwelwn bethau. Eto pan welir fflam eirias yn cymeryd lie y mwg nis gellir amheu presenoldeb tan. Achos cwymp Mr. Chamberlain fu Rhyfel De Affrig. Cafodd cyfalaf ef gerfydd ei war yn hon. Wedi diwedd gwell y drafodaeth Nigeriaidd ni allai sefyll fel cynt. Gwr garai dori y dywarchen gyntaf oedd. Aeth i Dde Affrig a daeth oddiyno yn dorog o addewidion. Yr oedd deng miliwn ar hugain i ddod yn ol i goffrau Gweinydd- iaeth Prydain. I ddod hefyd, ar hyn "a ddywedodd a ddywedodd," ac a fu. Ei fai mawr oedd na ddywedodd yr oil. Ni ddywedodd yr elai y Chineaid yno, ond fe aethant, ac y maent wedi myn'd —wedi 1906. Ond yn 1903 coronodd ei holl wallau, ymddiswyddodd o'r Wein yddiaeth i fod yn Genhadwr Diffyndoll- aeth. Ond ni fynai y werin roesawu "Meni Joseph," yn debyg y groesaw- odd Jacob gerbydau Joseph ei fab. Yn 1906 atebodd y werin mewn modd di- amwys ofyniad Joseph a gaf fi deyrn- asu. Daeth y nos, a dyfnhau fel y gwel y darllenydd y mae y nos. Rhaid gadael perthynas y Ceciliaid a safle y dyn mawr hwn, a'r modd y cyfryngodd am- gylchiadau i'w gadw o'r sedd a ragfyn- egwyd fel y cyfeiriwyd a lanwai cyn marw. Tyner ydyw anian. Oni wisg hen adfail a mwswg, gan blethu gar- lantau iorwg bythwyrdd i guddio ei hagrwch. er efallai i'r hen adeilad gael ei falurio gan ystorm 1 Maluriwyd y castell godidog un nos gan yr ystorm, drylliwyd ei furiau, a'i dyrau yn y rhyferthwy, a'r fath wedd oedd arno y boreu! Oni phair y llythyr i ni gyd- ymdeimlo ag ef wrth syllu ar ddarlun y pregethwr? Anhawdd i ni hebgor y meddwl cyn tori yr olwyn wrth y ffy non. I.G.
Drama Gwyl Ddewi i'r Plant…
Drama Gwyl Ddewi i'r Plant (Parhad.) ACT II.—(Parhad.) Paulinus: Ie, fy mrodyr, na wnewch i blant niwed. Gwyddyl: Pa sicrwydd sydd gyda ni na ddaw y rhai hyn eto i'n herlid a'n drygu ni? Paulinus: 0, fy mrodyr anwyl, na thynwch ddial y Duw Mawr ar eich penau wrth ddrygu plant diniwed. Gwyddyl: Taw a dy lol. "Dialedd" yn wir. Dim ond dialedd Ceredig a'u wyr a'n dilyna ni. Dewch, Wyddyl, rhwymwch y cywion. Ni cha y rhai hyn ddianc. (Y plant yn gwaeddi, a'r Gwyddyl yn cymeryd gafael ynddynt yn ddau a dau. Paulinus yn ceisio eu rhwystro, ond yn cael ei fwrw i'r llawr. Dewi yn neidio i geisio codi y Mynach. Swn bloeddiad udgorn. Lleisiau i'w clywed yn dyfod i'r waredigaeth. Min- tai o wyr Ceredig yn rhuthro i fewn. Y plant yn cael eu gollwng yn rhydd, a gwyr y ddwy fintai yn ymladd ac ym- godynitt. Y Gwyddyl yn cael eu gorch- fygu. Paulinus yn ymbililo ar eu rhan. ac yn llwyddo i arbed eu bywydau.) Paulinus: Na laddwch hwynt, wyr Ceredig. Y mae y Duw Mawr yn dweyd iiiil Efe bia dial. Efallai yr ant yn ol i'w tiriogaeth eu hunain yn awr, wedi cae l gwers mewn trugaredd. Coedwg (Blaenor Mintai Ceredig) A gawn ni gadw un yn garcharor, frawd ? Dewi: 0, na, dywedwch 'Na,' 0; Fynach care dig. Efallai fod plant bach, bechgyn neu ferched, gan bob un o honynt, a'r rhai hyny yn eu disgwyi gartref. (Dewi yn myned yn frysiog a brwdfrydig at dri neu bedwar o'r Gwyddyl, ac yn ymbilio gyda hwynt.) Wnewch chwi ddim ymosod ar blant, a dynion diniwed fel ni, a'r Mynach care dig hwn eto, ond na wnewch chwi, etc. ? (Wrth bob un.) Y Gwyddyl yn siglo'u penau mewn attebiad. Coedwg: Ewch, ewch. ynte, a cheis- iwch wneyd fel y mae y bachgen wedi erfyn arnoch. (Y Gwyddyl yn myned yn ostvngedig, gydag ychydig o foes- grymiad i Dewi.) Nawr, fy mhlant i, ewch yn ol i'r pentref, rhag i niwed eich goddiweddyd. (Y plant yn myned allan a'u dwylaw i'r lan, yn siglo diolcb a chyfeillgarwch i Dewi a'r fintai.) A chwithau, fy mrawd, i ble yr ewch chwi ? Paulinus: Yr wyf fi a'r bachgen yma yn myned i -Gantre -Myxddiii, i'r Ty Gwyn ar Daf. Coedwg: Pwy yw y bachgen, ynte ? Paulinus: Dewi, mab Ceredig, y Brenin. Coedwg: Ha, diolch i ni ddod mewn pryd i'w waredu o ddwylaw y Gwyddyl. Pe gwyddent ei fod yn fab i Ceredig, diau y ceisiasent ei ladd. Os ydych yn barod i deithio, yr ydym yn dyfod yr un ffordd a chwi, a bydd yn dda genym eich cwmni, ac efallai y gallwn fod o wasanaeth i chwi. Dewch, frodyr. (Yr oil yn cychwyn i daith.) (Y Lien.) Aberdar. JOHN DAVIES. (I barhau.)
Pontardulais.
Pontardulais. Cafwvd araeth ragorol nos Luir diweddaf gan Mr. P. Wilson Raffan,. :k.S., ar "Bwnc y Tir." Mae y, bon- cddwr hwn wedi meistroli y pwnc yn ei holl agweddau, fel yr oedd yn hyfrydwch treulio agos ddwy awr i wrando arno, canys llefarai fel un ag awdurdod ganddo. Llywyddwyd gan Dr. Lloyd Morgan, a chyinerodd eraill ran yn yr ymddiddan. Bu y Parch. J. Lee Davies yn traddodi darlith yn Sardis nos Sadwrn. ar y testyn, "Gwrthodvvr y Goron." Mawr fu y dyfalu pwy oedd gan y darlithydd mewn golwg (mynnai rhai mai gwrthodwr yr "old-age pen- sion" !), ond trodd allan yn "Oliver Cromwell." Cafwyd gwledd o'r iawn ry w. Canmolir hefyd ddarlith y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno, nos Lun yn Libanus. Y testyn yn un tra amserol, sef "Difyrwch." Pregethodd Mr Williams y tair noson dilynol yn y gwahanol addoldai tan nawdd Undeb yr Eglwysi Lleol. Eleni cyrhaedda yr Undeb hwn ei ddeuddeng mlwydd oed, ac y mac yn argoeli byw. Un o'r ymwelwyr mwyaf derbyniol a'r Bont yw y Parch. Hugh Jones, Llanelli. Nos Wener traddoda anerchiad i Gymdeithas y Cymrodor- ion ar "Ddyrchafiad y Werin. Diau y ceir hwyl fel arfer. Daearwyd gweddillion yr hen berer- in Dafydd Rees, yr "hammer-man," ym mynwent Sardis ddydd Mercher, ac efe yn 88 mlwydd oed. Hynodid ef ar gyfrif ei ddyddordeb mewn llen- yddiaeth Gymreig, yn arbenig gweith- iau Dewi Wyn. Hefyd yr oedd yn gvhoeddwr heb ei fath yn y ty cwrdd. Prinion yw yr hoeilon wyth vnt bresenol.