Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BOBL IEUAINC.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BOBL IEUAINC. Dan Olygiaeth Dyfnallt, Caerfyrddin. Anwyl Gymmrodyr letialne.- Hwyrfrydig a fum yn cydsynio a chais y Golygydd i ymgymeryd a chadw trefn ar y Golofn hon. Bellach, rhaid bwrw ati modd y gallorn ei gwneud yn ddi- ddorol ac adeiladol. Carwn yn fawr felly gael sirioldeb a chefnogaeth gwyr a gwyryfon ieuainc ein gwlad. Dis- gleiria'r haul yn danbaid heddyw ar awen ein gwlad. Aeth anii-yw o tdar dros y nyth, a pher yw eu can. Ond cwynir nad oes i ni gyffelyb argoelion am ymddangosiad gwyr a fedr ysgrifen nu iaith rydd. Dyma gyfle i'r lienor ieuanc a phrofiadol. Gwahqddwn yn daer bob math ar len rydd a fyddo a'i ogwydd i ddyrchafu meddwl a buchedd ein pobl. Drychfeddwl mawr vii ein hoes ni yw'r dyrfa—y mass-idea. Dyma/r syniad sydd y tu cefn i iindebau llafur, cyngrheiriau gwledydd, undebau eg- lwysi, etc. Braidd na ddywedem fod y drychfeddwl erbyn hyn wedi ei weithio i eithafion. Xid am nad oes iddo ei le yng nghwrs a thyfiant gwareiddiad uchel. ond am ei fod yn aehlysur yn ami i lesteirio datblygiad yr unigolyn. Mae'r cyfaill sy'n ysgrifennu'r tro yma ar Fynd gyda'r lliaws." wedi rhoi'i fys ar y perygl. Mae'i ysgrif yn sampl cymeradwy iawn o'r llenor cryno a fedr gwmpasu cylch mawr a'i roi mewn ych- ydig. Hwyrach y daw arall i drin agweddan ereill ar y mater. j MYN'D GYDA'R LLUAWS. j Efallai mai prif berygl dynion ieuainc yw y duedd i fynd gyda'r lluaws. Gesyd y duedd hon ni yn agored i fyrdd o beryglon eraill. Yn awr, ni charai neb ddeall y cyfrifid ef yn wan a diym- adferth. Ni charai neb ddeall y cyfrifid ef megis deilen yn y lli a deflir o don i don. Arwydd o wendid yw mynd, yn ddi- j feddwl, gyda'r lluaws,—arwydd o ddiffyg annibyniaeth a gwroldeb. Cof- iwch y ddihareb am y pysgodyn marw. Os am brofi ein hunain yn ddynion teilwng o'r enw, rhaid i ni allu dweyd "N a," a mynd yn erbyn y lli. Beth bynnag fyddo'r hwyl gawn gyda'r dorf, y mae gallu dewis ein llwybr a'i rodio, er i ni fod wrthym ein hunain, yn rhoddi i ni ymwybyddiaeth o nerfh. Pwy nad yw yn hoffi teimlo'n gryf I Rhydd hyn i ni fwynhad uwch nag a gawn mewn unrhyw dorf. Hudir rhai, weithiau, megis o'u hanfodd gyda'r llu- aws. Nid ydynt yn ddigon cryf i wrth- sefyll hudoliaeth y rhai a'u denant. Y mae gwendid y dorf yn drech na hwynt. Cofier mai peth y gellir ei feithrin yw nerth. Os nad ydym eisioes yn bysgod meirw, pa mor wan bynnag ydym, gall- wn ddod yn gryf. Gallwn ddechreu trwy gadw o afael y lluaws, a cheisio di- ddordeb mewn gwell llwybrau. Wedi dechreu cael mwynhad uwch, cyll y dyrfa'i dylanwad arnom. Wedi i ni brofi ein hunain yn ddynion, a dangos y medrwn gerdded llwybrau gwahanol i'r lluaws, pwy a wyr na ddilynna eraill ein hesiampl1 A ydyw yn talu i fynd yn erbyn y lluaws? Treiwn hi. Gall tipyn o annibyn- j iaeth gostu'n ddrud i ni ar y pryd, ond y mae'n werth talu pris go dda am fod i yn ddynion. Ddown ni byth yn ddyn- ion iawn heb dalu. Safodd Joseff; ieuanc yn erbyn ei frodyr. Nis gallai gydsynio a'u drygioni. Costiodd hynny'n ddrud iawn iddo. Do; ond pwy a ddywed iddo dalu gormod am ■enw a chymeriad fydd yn berarogl Ijya • byth ? Tybiwch gymeryd o Joseff ei lygru gan ei frodyr a'i gael i gydsynio a'u drwg hwy; buasai yn esmwythach arno. Eithaf gwir, ond cofiwch mai llwfryn ac nid dyn a fyddai. Cymwyn- aswyr y dorf, fel rheol, sydd yn mynd yn ei herbyn. Joseff fu'r cymwynaswr gore i'w frodyr yn y diwedd. Yr Unigol a'r Dorf. I Nis gallwn lai na theimlo fod tuedd mewn rhai cyfeiriadau yn ddiweddar i ddiystyrru yr unigolyn, ac edrych yn ormodol ar ddyn fel aelod o gymdeithas. Y mae ei berthynas a'i gyd-ddynion yn bwysig i ddyn, ond y mae efe ei hunan yn llawn mor bwysig iddo. Y dyn cryf, gwrol, fedr farnu a meddwl drosto ei hun yw'r aelod goreu o gymdeithas. Y mae un dyn felly yn werth torf o ddyn- ion gwan yn dilyn eu gilydd. Adeg ddedwydd yn hanes y byd fydd honno pan fydd ei dyrfaoedd yn ddynion byw i gyd, ac nid megis yn ddail hydref yn y gwynt. Golwg resynus sydd ar y dorf heddyw fel rheol--fel defaid heb gan- ddynt fugail. Engreifftiau. I Ymha bethau y gallem er mantais i ni ein hunain fynd yn erbyn y lluaws ? Ym mhopeth y teimlwn, ar ol ystyr- iaeth ddwys, nad yw yn werth dilyn y lluaws ynddynt. Os ydych yn arfer mynd i'r capel a'r Ysgol Sul, peidiwch aros i glebran ar y ffordd hyd nes bydd hanner yr ysgol neu ran fawr o'r gwas- anaeth drosodd, am fod eraill yn gwneyd hynny. Gwyddoch nad yw hynny'n iawn. Gwyliwn bob atnser pan waeddir fod y lluaws yn gwneud hyn neu yn gwneud y Hall. Ceisio apelio at eich gwendid wneir. Clywn lawer y dyddiau hyn yn gwaeddi yn barhaus fod y Huaws yn cefnu ar yr eglwysi. Am yr honnir fod y Iluaws yn mynd, tybia llawer fod yn rhaid iddynt hwythau fynd gyda'r llu- aws. Yr unig ddadguddiad rydd eu hymadawiad i ni yw fod yna lawer o rai j gwan wedi dod i fewn i'r eglwysi. Gwyl- ) iwch y rhai a ddywedant—Wele'r llu- aws." I Gwelwch weithiau nifer o'ch cymyd- j ogion, cyd-ieuenctyd, yn mynd i ym- bleseru ar y Sabath, yr ydych chwithau yn cymeryd eich denu ganddynt, ac yn troi yn eich hoi pan oedd eich gwyneb i gyfeiriad gwell. Meithrinwn nerth. Danghoswn ein gwroldeb moesol trwy fod mor ffyddlon a phrydlon ag fyddo bosibl i ni yng ngwasanaeth Ty Dduw. Eto, pan welwn y lluaws ar ddiwrn- i odau arbennig yn mynd i'r trefydd heb unrhyw amcan mewn golwg heblaw rhodio'r heolydd gyda'r dorf, edrych yn y ffenestri a wisgwyd i hudo dynion gwan, ac efallai fynd i leoedd amheus, nac awn gyda hwynt. Gwnawn gynnyg naill ai ar aros gartref i ddarllen llyfr da, neu fynd am dro i unigedd gwlad i fwynhau swynion natur, neu os mynner i brydferthu o gwnipas y ty a'r ardd. Dichon mai caled fydd gwneud y cynnyg, ac ar ot ei wneud y teimlwn mai ychydig oedd y mwynhad. Ceisiwch unwaith, ceisiwch eilwaith, a thrydedd gwaith, ac yn y man chwi a deimlwch fod i chwi fwynhad nas gwyr y dorf am dano. Os methiant hollol fydd eich ceisiadau, os na fedrwch fwynhau llyfr da, os na fedrwch fwynhau swynion natur-can yr adar, prydferthwch y coed a'r meusydd, a murmur y nant; os na fedrwch ymddifyrru trwy brydferthu o gwmpas cartref, peidiwch a dweyd hynny wrth neb, yr ydych mewn cyflwr gresynus-fel pysgod marw mewn Hit neu ddail gwywedig yn y corwynt. Ymwrolwch, byddwch wyr. j JOHN WILLIAMS. Frondeg, Glais. —

Eisteddfod Tabernacl, Caer-…

i Cyngor Cwmdu. I

Advertising

|0 Dreforis.

Advertising