Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

COLOFN Y PLANT.

IGohebiaethau.I

[No title]

Penderyn.I

Glais.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Glais. Y mae Mr Richard Gwilym, L.T.S.C., wrthi'n ddiwyd yn astudio'r 'housing question.' Gwrandawed bechgyn ieuainc y Glais ar gyngor Mr John Williams iddynt yn ei araeth yn y Gymanfa Ganu Bydd- weh wyr." Y mae efe wedi dychwelyd o Lundain gyda'i wraig ieuanc i fyw yma, a phawb yn dymuno pob lwe iddynt. Os bydd ar rywun eisiau'r Darian, y mae i'w chael gan Mr Gwilym Jenkins, ac os bydd arnoch eisiau gwerth eich arian darllennwch hi. Os na fedrwch ddarllen, ceisiwch gan eich plant ei dar- llen i chwi. Nid oes yma le rhyfelgar iawn yn y Glais er fod yma Sebastopol a Bala- clava. Cynaliwyd cyfarfod nos Iau, Ionawr 15fed, yn Ysgoldy St. Paul, Glais, pryd yr anrhegwyd oddeutu 150 o'r ysgolorion am ffyddlondeb yn ystod y flwyddjrn 1913. Cyflwynwyd i un-ar-hugain o honynt roddion arbenig, work-boxes i'r merched a desciau i'r bechgyn, am na chollasant un o gyfarfodydd yr ysgol yn ystod y flwyddyn. Serimoni ddy- ddorol oedd cyflwyniad anrheg i'r Fon- esig Rosa Fairs, dynes brydweddol tua deugain oed, ac yr oedd llygaid pawb ami. Tystiolaeth yr offeiriad, y Parch. B. Jenkins, oedd ei bod yn ffyddlon i'r Ysgol Sabbothol, ac i holl gyfarfodydd yr Eglwys, a phan yr oedd yn cyflwyno yr anrheg, copi hardd o Lyfr Gweddi Gyffredin, credwn i ni weled yr offeir- iad yn cil-wenu i gyfeiriad y gynulleid- fa wrth ddatgan ei obaith y byddai y Llyfr o Wasanaeth mawr iddi yn y dyfod- ol. Cyfeirio yr oedd, efallai, at yr hyn geir ynddo o dan y pennawd "Ffurf Trefn Priodas." Llywydd y cyfarfod oedd yr offeiriad a enwyd, a gwnaeth y dorf yn hapus iawn gyda'i arabedd a'i sylwadau gogleisiol. Y mae clod yn ddyledus i'r boneddigesau canlynol. am i gynorthwyo mewn gwahanol ffyrdd i wneud y cwbl yn llwyddiant: Bonesau Jordan, Glais House; M. E. David, E. Roberts a R. Fairs. ANNIBYNWR.

Advertising