Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Colofn y Beirdd.I
Colofn y Beirdd. I Anfoned ein cyfeillion barddol eu I cynyrchion i'r Hendre, Pontypridd.
[No title]
Cerddi'r Mor: Telyneg dlos iawn. Dychweliad y Pysgotwr: Rhagorol. Mae yn bleser darllen telyneg fel hon. Ynys yr Hud: Rhagorol eto. Cymer- weh fwy o bwyll wrth ysgrifennu. Medraf fi ddarllen pob math o hiero- gliffion, ond cofiwch am y cysodydd druan. Yr Amaethwr Cymreig: Can dda iawn. W. J. Thomas, Ysw.: Gan fod y boneddwr wedi ei wneud yn Farchog, gresyn fyddai cyhoeddi englyn iddo a'i llinell olaf yn wallus: t8???  'lI1'r'f4r.q Dw. Rhondda'n dra rhmweddol. Drwy Rhondda llwyt. droir ynddynt fuasai yn gynghanedd gywir. Gwel- wch fod y llythyrenau n ac dd yn gy- plysedig yn Rhondda, ac ar wahan yn "rhinweddol." Llithra llawer bardd da i'r bai hwn. Cyfarchiad i'm Hen Gyfaill: Lied gyffredin yw syniadau yr englynion hyn. Y mae ynddynt lawer o wallau cynghanedd, megys: Ei ddawn hael a ddena lu —Gwirionedd Garia nes yn llwyddo. Yn ddiflin yr esgyn o. -Y Beibl Yn bobpeth, etc. Gadawch i ni gael rhywbeth ar destyn arall. Pennillion Ymadawol: Nid yw y rhai hyn yn ddigon da ar destyn lleol. Enghraifft Melus seinio ffarwel can I gyfaill trwy gynghori; Felly gwnaf i William braf Er mwyn ei galonogi. Ni wna peth fel uchod y tro, yn wir. Er Serchus Gof, etc. Pennawd hir, papyr hir, a dim yn y diwedd. Maddeu- weh i mi am ddweyd mor blaen. Yr Enfys.—Rhyddiaeth noeth. Yr Ysgol Sabbothol.-Gorchwyl caled fuasai dweyd dim newydd ar y testyn hwn. Mae y pennillion hyn yn llithrig iawn, ac yn gyfaddas i gerddoriaeth. Digon prin y gweddant i newyddiadur, er hynny. Ymadael a'r Rest, Porthcawl. Yr oedd y pennillion hyn yn taro i'w hadrodd yn y cyfarfod, a dyna hwy wedi ateb eu pwrpas. Er Erchus Gof.—Hen, hen o arddull. Pa synwyr fyddai cyhoeddi deg o ben- nillion ar destyn lleol? Da chwi cy- merwch drugaredd ar y darllenwyr. Pennillion Gyfansoddwyd, etc. — Gresyn fod un a gred ei fod yn fardd yn gollwng y llinellau hyn o'i law. Nid oed ynddynt ddim ond clindarddach ,odlau. Tanchwa Senghenydd: Yn wir nis gellir ymgymeryd a chaboli y pennillion hyn. Gwnewch hynny eich hunan, da chwi. Cymysglyd dros ben yw y syn- iadau. Yr oedd adroddiadau y goheb- wyr yn llawer mwy barddonol na'r farddas hon. Rhoddwch eich ham ar waith, gyfaill bach. Ar ol y Danchwa: Mae y pennillion hyn eto yn mynd i wneud tanchwa. Peidiwch digio, da chwi. Y Ddaeargryn: Digon da, ag ystyried oedran yr awdwr pan yn eu cyfansoddi. Mae y pennill olaf yn hollol anmherth- ynasol. Mae "angla' am angladd mewn barddoniaeth yn rhy ddrwg. Mae y syniad fod y "mynyddau" yn dis- gyn "fel dail y coed" dipyn yn afresym- ol, gallwn feddwl. Ail gabolwch y gerdd. Mae rhai pethau da ynddi. Llinellau Gollyngdod: Eithaf pwr- pasol i'w hadrodd ar ol y boreubryd priodasol. Gwnai llinellau carlamus y tro yno yn iawn. Rigmarole yw term rhai am farddas fel y rhes pennillion hyn. Y Dyn Hunanol. Y Dyn Duwiol.- Cymysglyd, a rhyddiaethol iawn yw y ddau ddarn hyn. Rhaid cael rhywbeth heblaw odlau ac ansoddeiriau mewn pennill. Hen ffasiynol yw y syniadau hefyd. Paham, yn enw pob rheswm, na fyddech yn gallu fforddio llinell segur rhwng pob pennill ? Nid rhywbeth fel simnai pwll glo ddylai rhes o bennillion fod. A phaham hefyd na fyddech chwi, ac eraill, yn defnyddio papyr mwy hylaw. Mae y cysodydd yn gwylltu pan wel ddigon o bapyr i wneud barcutau o'i flaen. Ar Sabboth Duw, etc.—Pennillion o'r un nodwedd eto. Mae rhyddiaeth noeth o'r goreu yn ei lie. Calfaria.-Gresyn fyddai halogi y fath destyn, trwy gyhoeddi y penillion hyn. I'r Swyddfa: W. Samlet Williams, Tywi Evans.
YR HYDREF.I
YR HYDREF. I Yr haf sydd eto yn ei fedd, A'i holl brydferthion swynol, A'r hydref a'i ddinystriol gledd A ddaeth mewn gwedd ddirywiol; Mae'r dderwen gadarn, dalfrig, gynt A welwyd mewn gwyrddlesni, Yn aberth 'nawr i'r deifiol wynt, Bron cael ei llwyr ddinoethi. Ei dail a syrth o un i un Dan lid yr awel ddeifiol, <Gan wneud eu bedd yn bentwr crin 0 gylch ei bon cysgodol Ond gwelir fry ar frig y pren Un ddalen fach yn llechu, Yn crefu dan ei briw uwchben Am fedd yn mysg ei theulu. Y blodau heirdd a ymbruddhant Pan beidia'r haul gynesu, Eu difa gan y llwydrew gant, Er gofal mawr ac egni; Mae'r meusydd bras yn aw)- yn llwm, A'r glaswellt niin yn gwywo, A'r llysiau o gylch llwybrau'r cwm Orweddant wedi crino. Ond er i hydref chwerwi'r hin, Ac er i anian huno, Fe ddaw y blodau'n un ac un Yn ol i'r dyffryn eto; Boed ini sylweddoli'r gwir, Yr hunwn ninnau hefyd A deffro ar dragwyddol dir I wynfyd neu i adfyd. Ferndale. JOHN HUGHES. ENGLYN Y GAREG FILLTIR. I Doeth ar rawd, y gwir deithiwr yw,— geiriau'r Gareg filltir lwydwyw; Morwyn gwlad hen syniad syw I'r rheidus ddieithr ydyw. Y GWERTHWR LLAETH. I Fore a hwyr, a'i frasaf rin,—llwythog Yw y llaethwr diblin; Rhana faeth ariana fin— A gwrid goreu De gwerin. CAN Y BRYNIAU. I Ar lethrau'r anghyfarwydd Mor llwythog f'ysbryd sydd, Am cariad heb ei siarwydd, Am breuddwyd heb ei ddydd; Felused, 0 anwylyd, Yw'r meddwl dwyf ei hynt Y caf fi. eto gwrddyd A'm ffryndiau gorau gynt. 'Rwyf heddyw ar fy ymdaith. A garw yw yr hin, 0 dan y groes trwy'm gobaith Wyf lawen er yn flin; Er colli llu o'm ffryndiau Yn angau oer ei wedd, Rhy ddwyf yw'm disgwyliadau I'w siomi gan y bedd. Pan ddof fi at derfyniad Fy einioes ar y llawr, Mel f'enaid fydd gollyngiad "Ar doriad bore'r wawr" Rhy gyson yw'm Creawdydd I greu rhyw wane ddibaid Am fyw'n dragwyddol ddedwydd Heb fodd i dorri'm rhaid. Mae rheol i dymhorau, Mae haf 'rol gaeaf 'gwyw Mae nef ar ol gofidiau Yn siwr i deulu Duw. Mae felly'm myd dynoliaeth, Bydd felly'm myd y bedd. Daw'r adgyfodiad eilwaith, A phawb i'w "newydd wedd." 56 DEWI AT-R. Abertridwr.
Ferndale. I
Ferndale. I Dydd Sul, Ionawr i ieg, cynhali- wyd yn Penuel (M.C.) gyfarfod dau fisol ysgolion y Methodistiaid. Am 8.30 y bore cynhaliwyd cyfarfod o gynrychiolwyr dan lywyddiaeth Mr Tom Jones, Ebenezer, Mardy. Yn mhlith pethau eraill cafwyd cyfrif ys- tadegol o ysgolion y dosbarth Beth- ania, Ebenezer, Mardy; Carmel, Blaenllechau; Penuel, Ferndale. Da genyf oedd deall fod sefyllfa v sefyd- liad daionus hwn yn dra boddhaol, ,pnd eto nid fel y dylai fod mewn rhif a llafur ag ystyried yr hyn y mae yr Ysgol Sul wedi ei wneyd i ni fel cen- edl. Am 10.30 holwyd plant Ysgol Penuel gan Miss Mary Morgan, Wood Street, Ferndale. Gwnaeth y chwaer ieuanc ei rhan yn dda, a'r plant a hithau yn deall eu gilydd. Llywydd- wyd cyfarfod y prynhawn gan Mr Jonah Howells, arolygwr Ysgol Pen- uel. Cafwyd ymdriniaeth ar "Ddylan- wad yr Ysgrythyrau." Yn y pryn- hawn holwyd y dosbarthiadau eraill; yn yr hwyr pregethodd y Parch. W. D. Morris, Cwmaman. Y Parch. J. Vardre James, Pont- newydd, Mynwy, bregethai yn yr Eglwys Seisnig, y Temple (M.C.), y Sul diweddaf. Gwna ef waith da, nid yn y pwlpud yn unig, ond ynglyn a chwestiynnau cymdeithasol yn ogys- tal. Bu yn offeryn yn Haw Duw i godi llawer o'r ffosydd. 1 Llongyfarchwn Miss Janette Owen, Mardy. Enillodd yn ddiweddar bronze medal o Brif Ysgol Gerdd- orol Llundain. Saif yn uchaf yn y rhanbarth hwn. Chwaer ieuanc sydd wedi llwyddo mewn cangen arall o gerddoriaeth yw Miss M. M. Jones, Dewi House, Mardy. Enillodd dystysgrif canolradd mewn "theory" ym mhrifysgol Llun- dain mewn canu'r berdoneg. Enillodd 96 o farciau o 100. Cydymdeimlir a Mr J. Anthony Davies, Graig Terrace, ar farwolaeth ei frawd; ac hefyd a Mrs F. Llewelyn, Church Street, ar farwolaeth sydyn ei thad. Y mae Mr Davies a Mrs Llew- elyn yn aelodau ffyddlavvn o eglwys Penuel.
Dydd Jubil y " Tarianydd."
Dydd Jubil y Tarianydd." Nos Iau diweddaf (Ionawr i5fed), ym Methania (M.C.), Aberdar, rhodd- odd Mr John Mills, hen berchenog a chychwynnydd y "Darian," ei wledd flynyddol i aelodau a phlant yr eglwys, ynghyd a nifer o'i gyfeillion a'i ger- aint o'r tu allan. Ymddengys fod ym nnvriad y Tariannydd wncuthur hyn hyd derfyn ei oes ar gyfrif y ffaith fod lonawr IS wedi cymeryd rhan mor arbennig ym mhrif ddigwyddiadau ei fywyd. Fel hyn y rhed ei gronicl :— Ionawr 15: Ei eni; ymuno mewn priodas; ymaelodi ym Methania; cychwyn Tarian y Gweithiwr," yr hyn gymerth le namyn un mlynedd deugain yn ol. 0 ran oedran y mae'r Tariannydd wedi cyrraedd ei bedwar ugain, ond o ran osgo ac ysbryd erys yn llanw pedair ar bymtheg. Wedi te neillduwyd yr amser i longyfarch a chanu ar dafod ac ar dant. Yr oedd Roger Thomas, telynor buddugol y Fenni, "yn tynnu mel o'r tannau m&n," a Myfanwy a Megan, merched bach y Parch. R. Williams, yn canu pennillion er mawr hyfrydwch i'r cwmni. Annerchwyd y cyfarfod gan yr Archdderwydd Dyfed, y Parch. William Davies, B.A., Heol y Crwys, Caerdydd; Mr James Rees (brawd Dyfed), a'r cyfeillion lleol, Parchn. H. T. Stephens, John Lewis, R. Williams, a T. Eli Evans. 0 ffrwyth yr awen offrymwyd gan Mr John Price, W. Beddoe Stephens, W. T. Jones, Enid ac Eluned, merched bach y Cynghorwr Ogwen Williams; Ab Hevin (twysged o englynion peni- gamp), a'r Parch. W. Davies, B.A. Wele ei gyfarchiad ef— "Tirionnach dyn na'r Tariannwr-ni bu Mae yn ben gwestywr; Car difeth i bregethwr, I'r dref hon bu'n dirion dwr." Doniol iawn fu'r cyfarchwyr lleol; doniolach fyth y "ddau hen lane o dre Caerdydd," sef Dyfed a'r Parch. W. Davies. Am Ionawr 15 haerai yr Archdderwydd y bydd Almanac Moore ac Almanac y Miloedd yn nodi'r dydd hwn fel un o brif ddyddiau gwyl y dyfodol, ac yn ei alw byth yn "ddydd Jubili'r Tariannydd." Methodd pro- ffwyd Heol y Crwys lefaru yn hir cyn troi i berleisio gyda'r tannau. Sibryd- odd rhywun fod ol Haw ei gyfaill Dyfed ar rai o'r pennillion. ilwy gaiff wybod ? Rhwng y canu, a'r telynori, a'r areithio doniol, yr oedd yn gyfarfod da dros ben. A," grymal rhywun y byddai yn well i Mr Mills drefnu o hyn allan i gael ei ben-blwydd bob'hanner blwyddvn er mwyn amlhau cyfarfod- ydd o'r math hyn. Llywydd y cwrdd oedd Mr David Griffiths, Bethania. Yr oedd y gweinidog, y Parch. W. Davies, M.A., er mawr ofid iddo, yn gorfod bod yn absenol yn cyflawni ymrwvmiad pwysig. Addawodd y gofalai am yr ugain mlynedd nesaf na chaffai dim un ymrwymiad arall dorri ar draws dydd Jubili y Tariannydd. DIOLCH Y PLANT. I Adroddodd Beddoe Stephens yr hyn a ganlyn, gwaith byrfyfyr cym- ydog iddo, yn enw'r plant:- "Mae gennyf finnau bennill bach I wron iach y cwmni, Y rhoddi diolchiadau gant Dros siriol blant y Festri, Dymunwn iddo hir oes teg Dros gant a deg o flwyddi." GOH. (I barhau.) [Ceir detholiad o'r penhillion yn y rhifyn nesaf. Ein dymuniadau goreu i'r Tariannydd.—Gol.] 1
Advertising
Cured of Bronchial Asthma by Yeno's Lightning Cough Cure. "I used to be choked up every winter with Acute Asthma and Cough, but now I have no fear of the cold weather. I lirst used Veno's Lightning Goufrh Cure lor a, bad cold on my chest, which, with my asthmatical tendency, had choked me up to such a degree that I could hardly get my breath. I coughed night and day til J I fairly ached with coughing, and nothing relieved me. Reading about Veno's Lightning Cough Cure I got some, a.nd soon I felt better than I had done !\>r years. Now I wouldn't have anything in place of Veno s. It is a grand nredieine- mothing like it, in my opinion Mr. Totn Hall, Queen3bury "?' Ri'»<-nr* Sauare, Brighton. ■ art eam M?at. "ft* "*?? EMWHJM, pa? 1910. ??Rt FOP Coughs and Celda, 2NmSWOnchitin, A.MMMm, 7#9U. "nza, Catvrh, and aU Ch?t and LMg TPO"blOs 1ft old Of young. 'rite. 88d \djipeed»est remedy VtHVS'^Sonns V COUGH CURE
Pant-y-Coblyn.i
Pant-y-Coblyn. GAN JOHN JONES. Pan glywais cich bod chwi yn golygu'r "Darian," mi benderfynais godi offis wrth dalcen y ty i scwennu iddi hi. Un diwrnod fe aeth Wil y mab a Mali, yr hen wraig yma, i Ferthyr i edrych am Catrin, chwaer Mali. Mae Catrin heb fod yn iach ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Am- scr go dda goelia i i fyw heb fod yn iach. Y mae hi wedi byw yr holl amser yna ar ddau lond llwy fwrdd o physig doctor bob pedair awr, ewpanad o de lawer gwaith yn y dydd, a dwy bilsen bob nos wrth fynd i'w gwely. Ei hunig bleser yn y byd hwn yw cael rhywun i wrando ar- ni'n cwyno. Wel, i chi, fe aeth Mali a Wil i wrando arni am ddiwrnod cyfan. Mae Mali yn aberthu diwrnod fel yna wcithiau er mwyn ei chwaer, er mai cas beth ganddi yw clywed cwyno, ond y mae hynny eto yn ychwanegu at bleser Catrin. Erbyn iddynt gyrraedd adre roedd- wn i wedi codi offis fawr o goed a tho gwellt iddi wrth dalcen y ty. A roeddwn wedi ei chodi heb un drws iddi, a hynny nid am fy mod yn meddwl mynd i fewn ac allan trwy'r to na thwy'r ffenestr, ond dyna'r plan. Tua amser te daeth Robin y Busnes yma. Mae o'n dod fel hyn i ddweyd wrthym dipyn o hanes pawb, ac os gall i gael tipyn o'n hanes ninnau t'w ddweyd wrth rai eraill. Hen ddyn bach chwyrn, teneu, gwyneb maiQ, a thrwyn hir fel bwa saeth yw Robin. Efe sy'n gwisgo i ben hen ddillad Mr Jones y Person, a het silc ar ei warr a'i ysgwyddau yn ei dal i fyny. Cerddodd Robin o gwmpas yr offis newydd yn ol a blaen yn dra phwysig heb ddweyd gair. Mi wyddwn mai chwilio am ddrws a methu cael un yr I oedd. Dyma fo'n gofyn o'r diwedd, Be ydi hwn ydach chi wedi godi" John Jones? Pa ffordd ydach chi'n i mynd i mewn iddo fo?" "Os clywi di rywun yn holi," meddwn ninnau, "dywed na wyddost ti ddim." "Ydi Mali o gwmpas," gofynnai Robin. "Nae ydi," meddwn innau. "0," meddai Robin, "hi welais i'n mynd ar draws v cie. heddyw'r bore at v tren draws y cae heddyw'r bore at y trcn felly. Oedd William hefo hi ?" "Oedd," meddwn innau. "Oes yna rywun yn perthyn i chwi wedi marw, John Jones?" "Nac oes a diolch am hynny." Lie ma nhw wedi mynd ynte gan mod i mor hy a gofyn?" A meddwn innau, i roi taw ar ei hol- wyddoreg, "Os bydd rhywun yn gofyn i ti, dywad wrthynt na wyddost ti ddim." Aeth Robin fel yr aeth lawer tro o'r blaen i ffwrdd heb fod ddim I callach. I Ar ol i Mali a Wil ddod adre a hi yn hwyr a minnau holi sut yr oedd Catrin a'r teulu, dywcdais wrthynt, "Dowch allan am funud," a ffwrdd a ni at yr Offis. "Wel, be ydi hwn?" gofynnai Mali. "Cwt ci mawr, ynte, nhad," meddai Wil. "LIe mae'r drws?" gofynnai Mali. "0, meddwn innau, "rydw i'n mynd i dorri twll iddo o'r siambar rhag dwad allan ar bob tywydd." "Wel, na," meddai Mali, "chei di ddim torri twll yn y wal; sut yr ei di a merlin i fewn ac allan trwy'r siambar!" "Taw, Mali," meddwn innau, "nid stabal ydi o, ond offis i fi i scwennu i'r 'Darian,' a meddwl di mor hwylus ar bob tywydd fydd twll yn y wal." Chei di ddim mynd trwy'r siambar, Sion," meddai Mali. "0 wel," meddwn innau, "chei dithe ddim dod i'r offis ynte; a rhag ei chau allan o'r offis, boddlonai i dvnnu'r ty i lawr. Andros o hen wraig ydi hi hefyd. Ar swper gofynodd i mi, "Be wyt ti'n mynd i scwennu i'r 'Darian'? "Rydw i'n mynd i roi llawer o'r byd yn ci le o'r offis yna, Mali, mi fydda i'n dyrnu'r drwm ar rai pethau mewn byd ac eglwys. Mae'r offis wedi ei hagor, y desc wrth y ffenest, stof yn y cornel, a chadair yn troi fel bydda i'n troi, ges i'n bresant gan Dafydd pob man. Roedd Mali'n son am ddod a bwrdd a soffa yma, ond ddeuthen nhw ddim trwy'r twll. Wel, mi fydda i'n dechreu ar 'y ngwaith yr wythnos nesaf, a Mali'n disgwyl am y Dar- ian" i weld 'y ngwaith i.—John Jones. [Nodiad.—Ni chlywsom crioed am y fath ddarpariaethau ar gyfer dyrnu Tybcxl nad gwell iddo fuasai codi sgubor. Beth bynnag os dyrnu wna, gofaled fod yr yd yn dod i'r swyddfa hon yn weddol lan, a'r mcsur yn fyr.—Gol. ] 1 1 Lilt
Tabernacl, Pontardawe. I
Tabernacl, Pontardawe. I Nos Iau, Ionawr 8fed, anrhegwyd y brawd ieuanc Evan Thomas, A. T.C.L., ag awrlais ac arweinffon yn v He uchod ar ei fynediad i Fethania, Treorci, fel organydd ac arweinydd y cor. Cyflwynwyd yr anrhegion ar ran yr eglwys gan y brawd David A. Williams, diacon hynaf yr eglwys, a siaradwyd yn bwrpasol gan y Parch. H. S. Williams, gweinidog; John Thomas, Morgan Jones, William Davies, Edward Edwards, a George S. Jones. 1erchid ac edmygid ef yn fawr gan yr eglwys, ac ni allent beidio dangos eu gwerthfawrogiad o'i wasanaeth wrth yr organ.
Bwrdd y Golygydd.I :
Bwrdd y Golygydd. I Hen Ffrynd I Brynfab y dylosid an fon penhillion ae nid i mi. O garedig- rwydd a chwi y tro hwn cant fasged yn lie,, tia'i- .Hendre. Ni yrnddiriedasoch i ui eich enw yehwaith, ac nid ydym yn siwr nad ydyeh yn haeddu blapl1 un o'r clocs y cenwch iddynt.. J.E.: Yr ydych yn rhy lawdrwm ar y Boss, ac yn anheg hefyd mewn un peth, ond y mae efe mewn oedran. Daw eich llith yn y rhifyn nesaf. Hen Weithiwr: Gadewch iddo i dypio, yn ol arfer hyrddod. Nid oes neb yn gwnaed fawr sylw o'r hyn a ysgrifen- na. Xi raid i chwi ofni dim- Darllen- nwch erthyglau Gwili yn y Geni nen a chewch oleuni gwell. Mewn Llaw: Hanes Cynhadledd Zur- ich, Coffa Mr. John llees, Nodion Aber- tawe, Gohebiaeth W. Griffiths, Nodion Min y Ffordd, Gohebiaeth Josiah Jen- kins, Pwv sy'n gorfod diodde ? Beirniad- aethau. etc., etc.
.-.---I Nodion o Abertawe.…
I Nodion o Abertawe. Nos Sul. Ionawr lleg. cynaliwyd Cwrdd Undebol o Eglwysi y dref yn yr Albert Hall. Cwrdd hvnod ar lawer cyfrif oherwydd ei fod yn cael ei gyn- rychioli o'r Eglwysi RyddioD yn ogystal a'r Eglwys Sefydledig. Hefyd, cyfar- fod gweddi undebol oedd, a dywedir na chynaliwyd cyfarfod o'r fa,th yn Aber- tawe o'r blaen. Yr oedd llawr y neu- add eang yn llawn, a'r hen wron hy- barch, Oscar 8nelling yn llywyddu, a Mrs Pugh Evans yn gweinyddu wrth yr organ. Siaradwyd gan y Parch, yr Anrhydeddus W. Talbot Rice, Ficer Abertawe. Traddododd araeth deim- ladwy a byw fel y gall wneud, a gweddi- wyd gan amryw yn wirfoddol a dwys. Yna siaradodd y Parch. J. Gilbert Rees, gweinidog Sant Paul (A.), Llywydd Cyngor yr Eglwysi Ryddion. Wedi canu emyn, "Firmly stand for God in the worlds mad strife." terfynwyd cyfarfod a gofir yn hir, trwy i'r Parch. Oscar Snelling ofyn Bendith y Goruchaf ar y gynulleidfa. Dydd LIun, Ionawr 12fed, bu farw Arthur Thomas, Ysw., brawd Syr Grif- fith Thomas, Cwrt Herbert, ger Castell- nedd. Yr oedd y boneddwr ymadaw- edig yn 58ain oed. ac ni fu ond ychydig ddiwrnodau yn glaf. Y mae Syr Grif- fith. ei frawd, wedi hysbysu awdur. dodau Y sbyty Abertawe ei fod yn bwr- iadu cyflwyno £ 1,000 i gyllid y sefvdlia-d o stad yr ymadawedig.
Aberafon.
Aberafon. Xos Iau diweddaf, Ionawr 15fed, cyn- haliwyd cyngerdd a rhanwyd anrheg- ion yn ol yr arfer bob blwyddyn i blant Ysgol Sul Ebenezer. Yr oedd yr oil 0'1'" anrhegion wedi ei gosod yn ddestlus ar y "Goeden Nadolig." Cafwyd gwledd o ganu'r berdoneg, canu, ac adrodd. Wedi hvny y galwodd y gweinidog, y Parch. J. J. Richards, ar Miss Phylis May Rees, merch fach Maer y Dref, i dderbyn ei lanrheg, sef dol hardd oddi- wrth yr arolygydd, Mr. Chas. Jones. Y.H. Yna ymgymerodd y Maer a Mr. Tom Owen, Port Talbot (un o athrawon Ebenezer), at y gorchwyl o gyflwyno yr anrhegion, yr hyn a wnaethant er bodd- lonrwydd i bawb. Yr oedd y eyfrifol- deb am y trefniadau ar Arolygydd yr Ysgol Sul, ac nid rhwydd yr anghofir ef gan y ddau cant plant a dderbyniodd eu deganau oddiar y goeden. Wedi diolch i'r foneddiges o Fargam a'i gor- uchwyliwr, Mr. LipscomJt), am y goeden. i'r Maer a Mr Owen am eu parodrwydd yn cynorthwyo, ac i'r Faeres am ei phresenoldeb, cafwyd areithiau pwr yn gMmeud fawr sylw o'r hyn a ysgrifen- gan gafwyd gan y contralto fyd-enwog. Miss Kate Davies, gynt o Cwmafon, yn awr Port Talbot. Hapus yw gweled rhai o dalent a safle Miss Davies mor barod i roddi eu gwasanaeth i gefnogi mudiadau o'r fath yma.
Advertising
Chwedlau Hamdden. Cyfres o ystraeon. difyr. Gan J. TYWI JONES, Glais. Mewn Llian, 1 s. Mewn Amlen Bapur, 9c. 1 Drwy'r Post, Is. 2e. a 1 Ole. Y digrif yw nodwedd fwyaf amlwg pob ystori, ozid y mae ambell darawiad grymus a difrifol yn y llyfr y mae'r moesoldeb dwys sy'n rhedeg drwy'r ystoriau. a'r syniad am chwa're teg, yn sicr o fod wrtii fodd gwerin iach gw lad." -0. 1\1. Edwards, Ysw., M.A.. yn y Cymru. Rhwng difrif a cbware, i hvdd fnIl- clust i lawer arferiad a gwbl haedda'r driniaeth, ac y mae'n iechyd meddwl sylwi ar ei "fedr i weinyddu'r oruchwyl- iaeth hono. Os gall unrhyw un ddar- llen—'Beth sydd mewn Het?' heb deim- lo ei ochrau yn hoUti gan chwerthin v mae yn wrthrych tosturi a dweyd y llei- af. Mr wedi darllen y stori hon o'r blaen, deil yn ei bias o hyd."—Cemlyn yn y Western Mail. Yr oil yn fyw gan ddyddordeb a syl- wadaeth graft, finiog, yr Awdwr ar gy- meriadau a bywyd CJmru ymhob gwedd arnvnt." Ifano yn y Cardiff Times. Gellir eu cael timwy law Gworthwyr y U Darian." Ani bob math o ARGRAFFWAITH YMOFYNER YN Swyddfa'r "Leader," neu Swyddfa'r Darian," 19 Cardiff Street, ABERDAR. Hysbysleni o bob maint, lliw a llun. Khagleni Cynianfaoedd Canu ac Eisteddfodau, yn Gymraeg neu Seisnig. Argraffir Llyfrau yn y Ddwy Iaith. Siorheir Gwaith Glan, Oesttus a Chywir am Bris Tefl. Printed and Published for the Proprietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street. Aberdare, in the County of Glamorgan.