Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
You can Save Five Pounds per Minute by Reading this Advertisement, and by then placing your order for a Pianoforte or Organ in the hands of this well-known old-established Firm, for as they are not solely dependent upon the Sale of Musical Instruments, they can supply you far and away below the usual music-warehouse prices! Every Piano is warranted Ten Years Hundreds of Testimonials Cash or generous arrangements for Credit! Delivery Free 200 miles Catalogues gratis & post free BEVAN & Co., Ltd., Pontypridd, Cardiff, Swansea, &c. u_A_  Ma, onificent UTLa I|a|||,a| 93 Handsome Walnut it D»*i lifting I iftlf Hundreds Sold. Ua DninhtAII A Splendid Overstrung CCTUA If inn lVI agnicent The Marvel, Case, 15 Guineas. I ilC rNI1Cip<lllty, 28 GUineas. ■ DngiltOII, Piano 35 Guineas. ■ "G King, 40 Guineas. Case, 15 Guineas. Furniture for the Million at rock-bottom prices! BEVAJ4 & Co., Ltd., Wales' Largest Furnishers, Pianoforte & Organ IVjercl^a ts.
Y Stori.  Y Stori.| -I
Y Stori. Y Stori. | DRYCHIOLAETHAU DAN Y ODAEAR. Stori Atebodd Ei Dtoen. I [Gan MANDREL CWT.] (Parhad.) Bu Deio Twm Sion ar fin dweyd wrth Rhys Puvv,— "Gad hi fanna, ne dyma fi'n mynd ma's a dy adal di yn y fan yma." Ond wedi ail feddwl tybiodd na fydd- ai ddim a hoffai Rhys yn fwy, a dyw- edodd yn hytrach.— "Rwyt ti, Rhys, wedi gweled a chlwad pethach rhy-fadd iawn yn dy amsar, ond gad ti i ni dano'r tylla yma, a mynd nol at y bwyd yna, a mi weta inna stori, well na'r un wetas di ariod. "Wei, bachan, man rhaid i bod hi'n dda," meddai Rhys. Gorffennwyd y tyllau, rhoddwyd powdwr ynddynt, a thaniwyd hwy. Aeth y ddau ymlaen, a deallasant i'r tyllau wneud eu gwaith yn iawn. Yna iaethant yn ol i'r lie a gadawsent eu bwyd, i gael tamaid a mygyn tra fyddai'r mwg yn clirio. 'Adroddai Rhys eto erchyllderau yn ddiball pan yn bwyta, ac yr oedd yn rhyw led- ameu mai ofn barasai i Deio fynnu gadael y bwyd can belled yn ol. Beth bynnag, wedi iddo orffen ei damaid, taniodd Deio ei "bib" a dechreuodd fygu. Wedi iddo eto chwilio am y He esmwythaf, a rhoddi ei hun ar led- orwedd wrth fon "braich" par o goed, dywedodd— "Nawr, Rhys, gwraf^lo arna i yn gweti ticyn o hanes, a chofia di fod yr hanes hyn yn ffact. Wi yn galli gwend* yr hanes w i'n mynd i wed nawr yn well ar y partin hyn nag mewn un lie arall, dyna pam own i am atal y bocsis bwyd fan hyn. Fasa'r hanes ddim hannar cyslad, wel'di, ar ryw bartin arall, fel cei di weld yn y fyned." "Rwyt ti'n napod Edwart Emunt, on'd wyt ti?" "0 Bentreban?" "Ie, bachan,—a rwyt ti'n gwpod i fod e'n ddyn na chymersa fe ddim llawer am wed gair o gelwdd, yn en- wetig acha matar pwysig fel sy gen i dan sylw nawr." "Mae e'n hen fachan sound iawn." "Dyna fe'nta; own i'n gwed y peth- fach yna i ni ga'l diall yn giddyl, ta gwed hanas i ni, a nid rhwbath heb ddim sail iddo fe. Ma'r hanas yn ffact. Nawr, rodd Ned Emwnt yn gwitho mwn gwaith, a rodd e wedi mynd nol i witho'r nos fel wyt ti a finna heno, fe a'i bartnar. I bartnar e odd Guto Glynrhedyn. Roet ti'n napod Guto?" "Own, bachan, fe gas i ladd yn y gwaith hyn." "Dyna fe, rw i'n gwed y pethach hyn er mwyn i ti ddilyn yr hanes, a gwpod i fod e'n wir. Rwyt ti'n gwpod fod Ned Emwnt yn fyw ag yn iach heddy, a fe all e wed wrthot ti fod popath w i'n wed yn wirionadd. Odd e a'i bartnar, Guto, y noswath w i'n gwed am dani wedi bod yn gwitho yn y ffas, a wedi dwad nol, fel y'n ninnau nawr, i ga'l llond pen o fwyd. Ond bachan, pan o'n nhw jist yn cwpla byta, dyma nhw'n clwad rhyw swn lawr yn yr 'hedin, '—swn dynion yn wilia ag yn gwaeddi ar'u giddyl. A chofia di nag odd neb yn y gwaith ond nhw'ch dau. Rodd y peth yr un shwt yn gwmws a 'sa ni nawr yn clwad rhai'n wilia a gwaeddi lawr yna a ninnau'n gwpod nad os yna neb yn y cnawd o leia-wel yn gwpod nag o's neb wedi dwad lawr trw'r drifft ond ni. A dyma'r ddau yn coti ar'u trad ag yn grondo. A wir i ti, dyma nhw'n clwad swn dram yn dod shag atyn nhw, a mhen ticyn bach dyma geffyl gwyn yn dod i'r golwg, a'r haliar yn i arwan e, a dram ar i ol e. "A beth wyt ti'n feddwl odd yn y dram?—dyn wedi i ladd, bachan, a lot o ddynion ym myned ma's gydag c. Rodd of an ar Guto a fe gatws e nol, ond fe ddalws Ned Emwnt sylw ar bopath. Rodd e'n napod rhai o'r dynon, o'n nhw i gyd ddim yn gwitho yn y gwaith hynny, a rhai o honyn nhw'n henach o lawer na nnw'u hunen y peth rhyfedda welws neb ariod. Fe ddiallws hefyd pwy odd wedi ei ladd. A phwy odd c bachan, ond i bartnar odd gytag e'n gwitho'r nos- wath hynny ? Odd e'n fyw ar i bwys e ag ynta'n gwcld i gorff e yn y dram yr un pryd. Howld on nawr, Rhys, gad i fi gwpla'r hanas, paid a gwylltu felna, bac han, ma'r pishin gora ar ol. Rw i wedi grondo ar lot o hen stwff gen' ti a hwnnw'n gelwdd gola, grondo ditha nawr ar beth sy'n wir. Wetpdd Ned :ta'i gorff e odd yn y ddram, a hynny odd ore. Ond fel oet ti Rhys yn gwed gyne-odd ddim hacor o waith i fod. Nhw ethon ma's ych dau. A dyna beth mawr, bachan, odd mynd mas dros y drift ar ol y prosesiwn hynny. Aros Rhys, a phaid a chrynu felna, ma hwn yn hen beth nawr, bachan, 'dos ddim isie i ti fod ag ofan. Nawr fe rowd y ddram w rth ) i rhaff i fynd lan dros y drifft, y dynon 11 yn cered lan gynta hi gan bwyll fach, a'r haliar yn arwan y cefiyl gwyn ar 'u hol nhw. Pan ddath Ned Emwnt a Guto at y drifft, dyna beth wela nhw'n mynd lan o'u bla'n nhw. Ath Ned Emwnt byth lawr i'r drifft wedi'n. Hola di yto, gei di weld mod i'n gwed y gwir. Fe ddylanwatws Ned ar Guto hefyd i bido mynd yno am flynydde rai. Mynd yno nath Guto wedi ar waetha Ned, ond fyse well 'sa fe wedi pido. Ond rodd y gaffar yn cynnyg talcan da iddo fe, a fe a ffaelws gwrthod. A grondo di, Rhys, dyma odd yn rhyfedd, fu dim ceffyl gwyn lawr trw'r drifft nag yn agos i'r gwaith ariod cyn hyn. Ymhen ticyn mawr o amser ar ol i Guto Glynrhedin ddod i witho yma yr ail waith y prynws y cwmni geffyl gwyn am y tro cynta. Ma'n drueni na fyse Ned Emwnt yn gwpod fod y ceffyl gwyn wedi dod yma; falla gallsa fe warno Guto. Ond dyna, falla ta felny oddi hi i fod. A hyn own i'n mynd i wed wrthot ti-mwn chydig bach o ddwarnota, rodd y ceffyl gwyn yn tynnu dram at y rhaff ar waelod y drifft, a Guto Glyn- rhedin ynddi'n gorff marw. Pwr ffelo "O'r arswyd, Deio, chymerws hynna ddim lie yn y gwaith hyn?" "Yn y gwaith hyn. Rhys, ma popath wetas i wedi dicwdd Rw i wedi gwed y ffacts i gyd wrthot ti. Alii di whilo miwn yto os wyt ti'n ama rhwpath. Own i wedi arfadd meddwl nag odd prosesiwns felna byth yn codi of an arnat ti, Rhys, hyd nod 'sa ti'n 'u gweld nhw a dy lyced dy hunan. Allsa dyn feddwl ta gyta phethach felna oet ti wedi dy facu. Wyt ti'n cofio'n iawn am hen geffyl gwyn Drifft y Graig. Odd pawb yn gwpod am hwnnw. A rwyt ti'n cofio Guto'n cwrdd a'i ddiwadd, a rwyt ti'n gwpod ta yn y drifft hyn cymerws hynny le. "A dyna pam own i am wed yr hanas wrthot ti ar y partin hyn, wel'di. Rwyt ti'n galli rialeisio'r peth yn well os byddi di yn y fan a'r lie. Wi felswn i'n gweld y ddau bartnar, Ned a Guto, "yn y fan lie y'n ni nawr, ag yn codi pan glywson nhw'r swn yn yr hedin, ag yn grondo." Cododd Deio Twm Sion gyda'r gair hwn, a chydag osgo dramataidd, syllodd draw i'r tywyllwch fel pe'n disgwyl gweled rhywbeth felly yn digwydd eto. Ofnai Rhys Puw yn ddirfawr, bellach, a chlywai chwys oer fel pys yn treiglo dros ei gnawd. Aeth Deio yn ei flacn:- "A meddwl di, 'nawr, betha mor rhyfedd sy'n dicwdd. Wi felswn i'n gweld y ddau yn sefyll fan hyn, a'r ceffyl gwyn yn dod lan i'r hedin a chorff un o honyn nhw yn y ddram ar i ol e, a hynny cyn fod ceffyl gwyn wedi dod i'r gwaith. Ag, o ran hynny, falla nag odd yr hen geffyl ddim wedi'i eni ar y pryd. 'Chydig odd yr hen Guto, druan, yn feddwl ta'i gorff e'i hunan odd yn myned heibio'r partin yma at waelod y drifft." "0 uffach wyllt, Deio, dere mas, alia i witho dim hacor heno. "Aros, aros, Rhys, awn ni ddim ma's a gatal y rwbesh yna heb i gliro." "Gad e manna, 'do's dim nerth yn 'y nghoese i i ddim ond i fynd ma's. Dere, bachan, rw i felswn i'n clwed rhyw swn yn yr hedin yna. "Ma dy ganwll di wedi darfod, Rhys, a ma'n un inne jist a mynd. Fydd raid i ni fynd nol i'r talcen i ga'l rhai nawr. Ond peth arall streicin iawn i fi yn yr hanes odd i Ned a Guto weld dynon yn mynd mas gyta'r corff nag oen nhw ddim yn gwitho yma ar y pryd, a Ned yn gweld rhai odd e'n napod yn dishgwl yn henach na nhw'u huen-" "Gad hi nawr, Deio, rwyt ti wedi'n hala i i gredu fod y lie yma'n fyw. Ddo i byth lawr i'r drifft yma os cyrhaedda i ma's unwaith." Awd i gyrchu canwyllau i'w goleuo allan, a Rhys erbyn hyn yn gwasgu mor agos ag y medrai at Deio. Pan ddychwelasant eilwaith at y partin ar ei ffordd allan, arosodd Deio i ail- adrodd ac i bwysleisio rhai o bwyntiau yr hanes, ond rhuthrodd Rhys yn ei flaen at waelod y drifft i fynd allan i'r wyneb gynted ag y medrai. Ni flinwyd neb-a straeon ysgeler Rhys dan y ddaear mwy. 0 hynny allan gallai y mwyaf of nus yrru Rhys i ffitiau, a'i serfo'n iawn oedd hynny. gyd," meddai rhywun wrth Deio Twm Sion ar ol ei gwrando'n dweyd yr hanes. "A gwed y gwir wrthyt ti," meddai Deio, "dw i ddim yn i chretu hi 'mhunan. 0 ran hynny rw i'n gwpod nag yw hi ddim yn wir, ond hi apedws y dipan odd gen i wrth i gwed hi." (Diwedd.)
|Beirniadaethau.I
Beirniadaethau. EISTEDDFOD CADAIR EBEN- EZER, LLANELLI, RHAGFYR 13. CAN Y PARCH. RHYS J. HUWS. Pryddest—"Aelwyd y Cymro." Daeth cynifer a naw-ar-hugain i law ar y testyn agos hwn. Ccrddi moliant yw llawer o honynt wedi eu hansodd- eirio'n danbaid, âg estroniaid lawer ymhlith eu priod-ddulliau, nes peri i ni deimlo'n anghartrefol ar "yr ael- wyd." Ychydig o'r rhai hyn sydd wedi dysgu'r gamp o ganu'n weddus, gan addasu pob gair, cymhariaeth, a mesur i'w lie yn y gwaith. Gwedduster yw hanfod tlysni, a gorchest pob saer celfydd, boed ef saer maen neu saer cerdd, yw gweithio'n weddus a glan. Cawn rai o'r ymgeiswyr hyn yn fflachio barddoniaeth ddisglair ar hyd y ffordd, nes cuddio'r aelwyd ddi- addurn dan y gwreichion llachar. Nid cymhwys gosod eddi o liw'r aur ar wisg Modryb Angharad, na gosod modrwy ddiemvvnd ar fys Fewythr William. Peth cyffelyb a wneir gan lawer o'r beirdd awcngar hyn. Nid yw'r farddoniaeth yn gweddu i'r testyn. Ceir yma ganiadau eraill syml ddigon, ond yn 11awn o ddarluniau naturiol, wedi eu cydgysylltu'n dlws, a'u llunio'n oriel heb ol arfau'r crefft- wr ar yr un darn. Cerddi disgrifiadol pur yw y rhai hyn, yn gosod ger ein bron ddarluniau byw o aelwyd y Cym- ro drwy gydol y dydd, o blygain hyd osber. Ynddynt cawn weddiau a ffwdan y bwthyn, yn gymlith a'i ofid a'i afiaeth; cawn olwg ar y naddu a'r gweu, a chawn wrando ar ystori gartre a diliau'r dclyn, a chawn weled y teulu'n mynd i gadw noswyl yn ad- sain yr hwyrol weddi. Dyna'r math ar gan a ddisgwyliem yn y gystadleuaeth hon. Wrth ddarllen rhai o'r cerddi anodd oedd peidio a. wylo ambell waith. Anaf anolygus ar bryddest "Yn ei Swyn yw arfer yr awdwr o gyfer- bynnu fyth a hefyd. Moli'r aelwyd semi a goganu'r plasty gwych ar yn ail a wna'r ymgeisydd hwn. Dyma'i ddull cynefin o ganu, ac y mae'n ddutl gwastraffus iaNN-n- Os ydyw heb wychter, a gwawr Aelwydydd cyfoethog fy ngwlad." Eto- "Tra o wieddau'r paias hardd-liw Poenau ddaw a thrist bruddhad." Ymgroesed "Y n e; Swyn" rhag gor- arfer cyferbyniaeth. Y mae cryn lawer o ddawn canu gan "Dan ei Chysgod," a cheir llawer cyffyrddiad byw yn ei waith, ond y mae'r gerdd, o'i chymryd oil yr' oil, yn brin o ddisgrifiadau. 0 ran hynny, barddoni dylanwad yr aelwyd a wna'r bardd, ac nid ei darlunio. Er yn dda, tybed nad oes ol cyrchu o bell ar linell- au fel hyn- Fe'i tow yd hi gan bryder Ac ami noson brudd, Do, gwelwyd angen wrth ei dor, A'i gurwlaw ar ei grudd." Medd "Telynor" feddwl pur fyw, ond nid yw ei gymhariaethau bob am- ser yn chwaethus, na'i ddull o ym- adroddi yn gryno a pher. Tcimlwn fod ol ymdrech ddygn ar ei waith, ac o ddyfal chwilota y cafodd hyd i rai o'i ffugyrau. Cawn yn y gcrdd lawer darn o ddisgrifiad cywir a thlws, ond y mae gormod o bethau fel hyn ynddi i gael ei gwobrwyo— "Cynnes yw'm haelwyd fel gwarten fy mhriod." Eto— Magw rle cnydiog-loywedd rhawd ei hil, Mae'r byd yn gwrido gan wyleidd-dra pur, Uwch pennod lawn gwrhydri hyf ei meib, Y cedyrn ganfu'r dud yn ddewr yn nhrin. Nid dyna'r canu syml, agos, a swynol sy'n gweddu i'r testyn. Y mae caniad cyntaf "Afaon Eryri" oes yn y gystadleuaeth fardd parotach a chryfach ei awen nag awdwr y bryddest hon. Y mae'n rhyfedd gennym na chanasai bardd o fcdr h\vn yn fwy gwrthrychol a darluniadol ar destyn fel "Aefwyd y Cymro." Yn sicr ddigon, nid barddoniaeth fel ag a gawn yn y darn a ganlyn sy'n gweddu i'r testyn hwn- I "Mae nerthoedd y tragwyddol wrth ei I hallor, Ac am ei harch, y hyd wyr werth ei thrysor; (iwanwynau bywyd a dyfasant arni, A hafan Duwdod vmffrwythlonodd ynddi. Goreu po leiaf o ymfflamychu fel hyn a fo mewn cerdd ar destun mor annwyl ac agos. Pryddest \vedi ei meddwlyn llac, a'i mynegi'n ddiofal sydd gan "Dech- reu Canmol." Y mae hefyd yn bur I amddifad o swyn. Ni raid ond dyfynnu'r pennill cyntaf i ddangos ei nodwedd— "Aelwyd y Celt gwladgarol, Paradwys ei galon fach, dlos, A throthwy ei nefoedd ym myd yr ing Er dued a garwed y nos Arni bu duwies cariad Yn suo hwiangerdd o fawl I Dduw am ei noddi ym mlodcu'i oes A thlysu ei fywyd a'i wawl." Edryched yr awdwr dros y llinellau hyn yn fanwl, a chenfydd ynddynt bob rhyw fath ar wrthuni llenyddol. Ceir, yma a thraw, olion gallu a swyn; ond, ar y cyfan, gwaith dien- ciniad a llac ydyw hwn. (I'w barhau.) EISTEDDFOD GADEIRIOL PIS- I GAH, CILFFRIW, NADOLIG, 1913. Beirniadaeth y Bryddest, Addola Dduw." Derbyniwyd saith o bryddestau. Y mae y gystadleuaeth yn un ardderch- og. Nid oes yr un bryddest wael o gwbl. Llongyfarchwn y Pwyllgor ar ei ddewisiad o destyn. Y mae wedi tynnu beirdd cryfion i'r maes. Gwnavvn sylwadau arnynt fel y can- lyn Galahad. Y mae gan Galahad bryddest wedi ei hysgrifennu yn ofal- us a glan. Cana yn llithrig a naturiol. Mae ganddo gynllun fel hyn :—Gwyll a gwawr; Llaw a llwybr; Duw a di- gon; Gau a gwir. Mae'r cynllun yn addo mwy nag yr ydym yn gael gan- ddo. Tueddu i fod yn wasgaredig y mae, heb gadw at y testyn, "Addola .Dduw"; er hyn, y mae ganddo brydd- est gryno. Llwch y Llawr.—Pryddest faith. Nid oes dim newydd-deb yn y cyn- llun sydd ganddo. Difvna rannau o'r Ysgrythyr, a gwna hynny yn anghyw- | ir. Nid yw'r bardd hwn yn son dim am y cysylltiadau. 'Does ganddo yr un cyfeiriad at yr angel na loan yn Mhatmos, yr hyn sydd yn wendid yn y bryddest. Y mae yma ol llafur mawr, ac er y diffvgion a nodwyd, y mae wedi llwyddo i wneud pryddest sylweddol.. Glasy Dydd. Dyma fardd da; mae ganddo bryddest naturiol iawn. Ei phrif fai-nid yw yn gydnerth drwyddi. Nlac yma ambell gyffyrdd- iad barddonol, ac hapus dros ben, ond syrthia weithiau i gyffredinedd, yr 1 hyn sydd yn wendid amlwg ynddi. Y mae y darn olaf, lie y darlunia yr eg- hvys a'i haddoliad, yn dda iawn. Nis gwn a'i mantais i'r bryddest ydyw gorphen ag emyn \\Tatcyn Wyn— 'Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod," etc. Eto y mae hon yn gan dda a chalon bardd i'w theimlo ynddi. Credadyn.—Y mae gan y bardd hwn bryddest ardderchog; yn cadw at y testyn o'r dechreu i'r diwedd. Ei bai pennaf ydyw dim digon o eneiniad a bywiogrwydd; tueddu i ymdroi ac aros yn yr unfan y mae. Y mae yma rai llinellau byw; hoffcm gael rhagor o honynt. Teimlwn fod yma hen law yn y bryddest, ac y mae wedi rhoi i ni gyfansoddiad rhagorol. Pechadur Wyf. — Wele eto fardd gwych. Mae gan y Pechadur hwn bryddest swynol dros ben; gallem feddwl fod canu yn waith hawdd iddo. Y mae yma ddarnau gafaelgar iawn, ond teimlwn ei fod wedi gadael allan rai agweddau ar y testyn, ac felly yn anorphen; dyna'r argraff adewir ar- nom wrth ei darllen. Nid yw wedi edrych mor cang ar y testyn ag y gall- asai; eto, y mae hon yn bryddest deilwng, a swn bardd cryf yma. Addolwr o'r Eiddilaf.-Bardd rhag- orol eto, ac ar ei oreu yn ceisio athron- yddu y testyn. Y mae yma ddarnau yn codi yn uchel iawn. Ceidw at y testyn a'i gysyllttadau drwy y gerdd, I mi dyma'i bai, ond y mae ar y cyfan yn bryddest wir alluog. Y mae ei hawdwr yn fardd rhagorol. Cysgodau'r Hwyr. Dyma fardd gwych eto, yn cyffwrdd a'r cysylltiad- au yn hapus iawn wrth gychwyn ei bryddest, ac yna a yn ei flaen gan edrych ar y testyn o wahanol saf- bwyntiau. Cana'n gryi a thlws, ac y mae yn cyffwrdd a'n calon wrth ei darllen. Y mae wedi cadw golwg ar ei destyn o'r dechreu i'r diwedd, a theimlwn ei fod wedi cael gafael arno. Pryddest ardderchog yw hon. R wyf wedi darllen y pedair olaf drosodd a throsodd. Mae'r pryddestau f gyd yn dda, ond y mae y pedair olaf wedi codi yn uwch i fynydd yr addol- iad. Mae Pechadur Wyf yn swynol, ac y mae Addolwr o'r Eiddilaf yn gryf a barddonol, ond teimlaf fod Cys- godau'r Hwyr yn codi'n uwch mewn swyn a nerth, ac nid oes ynof y petrus- der lleiaf i'w gyhoeddi yn oreu. Ar air a chydwybod. DAVID JONES. Hebron, Cymmer. EISTEDDFOD BODRINGALLT. BEIRNIADIAETH AR WAITH PWYNTEL O'R GWIR ANRHYD- EDDUS W. ABRAHAM, A.S. (MABON.) Daeth 14 i'r gystadleuaeth, ac y mae y mwyafrif o honynt wedi dangos mcdr yn y gelf. Haedda y goreuon ganmoliaeth uchel am weithio y man- ylion mor ddeheuig allan o ddarlun bychan a graen mor fras. Ac eto gwyr y cyfarwydd fod cymhesuredd priodol ar y dechreu, yn bwysicach na gorffcnniad medrus o fanylion, er mwyn gwneud darlun effeithiol. Nid oes neb yn y gystadleuaeth wedi llwyddo i gyfuno yn berffaith y gofyn- ion hyn. Y mae y cystadleuwyr yn rhannu eu hunain yn bob yn ddau a dau i saith dosbarth. Dosbarth VII. a'r isaf. T.M.—Un yn dechreu yn ddiau ydyw. Nid oedd offer priodol ganddo. Bu yn lawdrwm ar ei wrthrych, gan dynnu un o'i lygaid allan. Llwyddodd, modd bynnag, i roi darn o bapur v tu ol i'r gwagle, a llygad gosod ar hwnnw. Gallasai hepcor "operation" anghclfydd fel yna pe buasai wedi dewis gwell papur a meithrin cyffyrddiad ysgafnach. Mabon yr Ail. Y mae milltiroedd rhyngddo a Mabon, serch hynny. Nid yw wedi meistroli y gelf. Dosbarth VI. Spero.—Y mae ganddo well dirnad- aeth o'r gelf na'r ddau blaenorol, ond nid oes cymhesuredd nag amlinelliad cywir ganddo. Y mae Alun yn radd yn well na Spero. Darlun bychan ar y tu chwith i'r ddalen sydd ganddo. Y mae ei gyffyrddiad yn weddol ysgafn, a den- gys rhyw gymaint o graffder llygad. Dosbarth V. Katie.—Dyma ddarlun eto ar y tu chwith i'r papur, ond y mae yn dan- gos llaw mwy celfydd na neb eisocs. Gorfanylder yn ei gyffyrddiadau a diffyg sylw o gyinhesuredd yw ei wen- did. Seymour.—Y mac deunydd arlun- ydd eto yn hwn, ond nid yw ei am- linelliad yn gywir. Y mae angen llygad craff gyda Haw fedrus. Dosbarth IV. Caswallon. -Gwaith mewn pwyntil sialc neu crayon sydd gan Caswallon, ond nid ydyw wedi dangos y gofal y gallasai wneud. Arlunydd gweddol (idal&e-,t-ii brys ydyw. Nid yw wedi llwyddo i gael darlun cymhesur. D.J.-Darlun da ydyw eiddo D.J. Fe wyr dipyn am y gelf. Gallasai ei wneud yn fwy gorffenedig. Dylasai lanw gyda pwyntil llai gwaith bras ei bwyntil mwyaf. I weithiwr da mewn gwaith fel hwn diangenrhaid yw amlinelliad gyda'r pwyntil sialc i ddangos ffin. Fe wna graddau y cysgodion hynny. Dosbarth III. Pembroke a Ragtime.— Tebyg ydynt yn eu nodweddion. Ymgais dda iawn gyda pwyntil H.B.-ei flaen a'i ochr—i ddangos y goleu a'r cysgod mewn arluniaeth. Nid yw y safiad na'r cymhesuredd yn hollol gywir. Rhagora Pembroke ar ei gyd- ymgeisydd. Ychydig yn rhy ddwfn yw y cysgod ar y gwddf. Dosbartn II. Cenedlgarwr ac Un o'r Ffyddlon- iaid.-Dyma ddau sydd wedi llwyddo i wneud darluniau da gyda pwyntil cyffredin, H. B. Y mae eu cyffyrddiad yn ,sg"afn. Y mae Cenedlgarwr yn un o ragorolion y gystadleuaeth, ac y mae yn ffyddlonach i'r gwrthrych na'i ei gymhesuredd, a gallasai brofi yn bcryglus pe buasai wedi anturio i. wneud ei waith ar radd helaethach. Collai ychydig ar y talcen ac yn y cysgod oddeutu'r genau. Dosbarth I. Yma y cawn Waldo a Dafydd. Waldo yw y medrusaf o ddigon gyda'r pwyntil. Nid oes gennyf ond y ganmoliaeth uchaf iddo am ei wybod- aeth o'r gelf. Y mae y croes-linellu a'r 11anw (crosshatching and stippling) yn arddangos gwaith gor- ffcnedig iawn. Gresyn na fuasai yn graffach ei lygad ar nodweddion ei wrthrych. Y mae nifer o fan gam- gymeriadau mewn amlinelliad, a goleu a chysgod yn taflu rhyw gymaint o dieithrweh ar ei ddarlun—oherwydd llun Mabon wedi'r cwbl ydyw y gys- tadleuacth. Y mae ei waith yn debyg i bregcth eithriadol o gaboledig heb fod bob amser yn hollol ar y testun. Gall Waldo ymfalchio p'run bynnag yn ei fedr celfyddydol. Dafydd.—Er fod Dafydd yn eithaf hyddysg mewn darlunio, y mae wedi gadael ei hun yn agored yma ac acw i gael ei feirniadu yn y gelf. Cydrhwng amlinelliad a goleu a chysgod, y mae yn fwy ffodus yn ei lun o'r gwrthrych. Y mae yr amrywiaeth yng nghraddau y cysgodion yn ei gynnorthwyo yn hyn. Safai Dafydd yn anrhydeddus yn y gystadleuaeth am mai beiau bach sydd ganddo yn hytrach na rhagor- iaethau mawr mewn gwedd neu wedd- au neilltuol o'r gystadluuaeth. Ar ol dwys ystyriaeth nis gallaf wneud yn well na rhannu'r wobr rhwng Waldo a Dafydd. OGWEN.
Llansamlet.
Llansamlet. MARWOLAETH A CHLADDEDI-rv GAETH. Wedi hir gystudd bu farw un 0, hen frodorion y plwyf ac un o berer- inion Salem, Capel-y-Cwm, Benjamin Powell, gan adael teulu lluosog, gweddw, meibion, a merched, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth ar ei ol mewn hiraeth dwfn. Cyfan- eddai yr ymadawedig a'i dculu yn Mhantycawr, pentref rhwng Capel-y- Cwm ag Eglwys y Plwyf. Yr oedd yn myned ar ei 84 mlwydd oed. Bu er yn ieuanc yn oruchwyliwr yn nglo- feydd y plwyf, Charles Pit, Tir Gwyllt, Park Coch, a'r Pwll Mawr, a bu yn arolygu glofa yn Llangennech yn ei flynyddoedd diweddaf. Edrychid arno yn ddyn siriol ei ysbryd, a char- edig a threfnus yn yr hyn oil yr ym- gymerai ag ef, a pherchid ef yn fawr gan bob gradd. Yn ei gysylltiadau crefyddol bu yn llafurus gyda'r achos. Yr oedd wedi talu sylw mawr i wir- ioneddau yr Efengyl. Yr oedd yn un o'r gwrandawyr mwyaf siriol. Daeth ei awr i ymadael a'r fuchedd hon lon-. awr 15 o'i gystudd yn nghanol tyner- wch ei weddw hiraethus a'r plant. Claddwyd ei weddillion ym myn- went Capel-v-Cwm, yr 2ofed cyfisol, gan luaws o'r plwyfolion ac o wa- hanol fanau yn y sir. Cafodd angladd lluosog a pharchus. Danfonwyd nifer o lythvrau yn cyflwyno cydymdeimlad a'r teulu a'r perthynasau. Trefnwyd y gwasanaeth claddu gan y Parch. John, Richards, a chynorthwywyd gan y Parchn. W. Samlet Williams, O. C. Morgan, Evan Walter Llewelyn, Aber- aman, a J. D. Harris (B.). Ar ddiwedd y gwasanaeth vn y capel rhoddwyd allan i'w ganu gan yr henafgwr W. Williams, Williams Terrace (gynt o'r Shop Fawr), "Arglwydd, danfon dy leferydd," etc. Tafiwyd hyn ysbryd- iaeth addoli drwy y gynulleidfa, a meddyliodd rhai mai yno y buasem am cnyd gan y gwres addolgar a brofwyd. Hiraeth cryf ar ol ei anwyl gymydog, tebygol, barodd i'r hynaf- gwr i ollwng aflan ei deimlad yn y modd yma. Gwelwyd yn mhlith eraill yn yr angladd Ficer y Plwyf a'r Cur- ad, yr Henadur John Jordan, C.S., Mr Rees Llewelyn a Mr David W. Jenkins, Llwynbrwydrau; Mr Morgan Thomas a Mr D. R. Thomas (Dewi Samlet), Mr Rees Llewelyn, Ynysy- bwl; Mr Evan Rees a Mr D. W. Rosser, Carmel .(undertaker), Mr C. B. Griffiths, Mr W. Harrison, Mr W. K. Williams (arweinydd v canu cynull- cidfaot), Mr AN-. Williams, Ty Capel; Mr Joseph Jones (Ehedydd Samlet), a Mr Evan Sims, Treforris, etc. Claddwyd chwaer Mrs Powell, sef Mrs Elizabeth Thomas, Cefn, gweddw Mr William Thomas, lonawr 3ydd, gan adael tri o feibion mewn galar ar ei hoi. Y mae i Mrs Powell chwaer o'r enw Rachel John yn Nhalaeth Iowa, America. Y mae allan yno er vs flynyddoedd a chanddi deulu lluosog- (Buddiol fyddai i'r new yddiaduron Americanaidd godi yr uchod). _A" Y""<t.