Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

I Y GOLOFN AMAETHYDDOL I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Y GOLOFN AMAETHYDDOL I GAN BRYNFAB. I Tuberculosis Mewn Gwartheg. I Gan fod y Bwrdd Amaethyddol, yn ogystal a'r Awdurdodau Meddygol, wedi cyhoeddi rhyfel cyffredinol yn erbyn y dolur sydd yn ysgubo cymaint o fywydau dynol i'r bedd bob blwyddyn, dylai pob ffermwr fod ar ei wyliadwr- iaeth, os yw am gadw o afael y Gyfraith. Mae y ddeddf sydd wedi dod i weithrediad oddiar y flwyddyn ddiweddaf, yn nodi yn bendant fod yn rhaid i'r ffermwr edrych ar ol ei ani- feiliaid, fel yr edrych y meddyg ar ol ei gleifion. Er nad yw yr awdurdodau yn unfryd unfarn ar y pwnc o dros- glwyddiad hadau y Darfodedigiaeth o'r anifail i r corff dynol, mae y ddeddf yn hawlio fod y cwestiwn wedi ei bender- fynu i bob diben yniarferol. Nid oes dadl nad yw yr anifail yn agored i'r dolur, a bod yn anhawdd taro ar anifail y gellir sicrhau ei fod yn rhydd oddi- wrtho. Ond mae yr anifail yn byw mwy yn yr awyr agored na dyn, ac felly yn meistroli hadau y dolur cyn iddo effeithio yn weledig arno. Ychydig o anifeiliaid ieuainc sydd yn ddarostyng- edg i'r clefyd, a chan mai oes fer roddir i bob math o anifail bwytadwy, dyna sydd yn cadw y deyrnas anifeilaidd heb fynd o dan gymaint o hafog y clefyd sydd yn mynd a'i filoedd o fywydau dynol i feddau anamserol. Er nad yw yr awdurdodau meddygol yn cytuno, ar y perygl o fwyta cig ac yfed llaeth gwartheg fyddo yn dioddef oddiwrth y clefyd, maent i gyd yn foddlon cyfaddef y gellir bwyta ac yfed y cyfryw wedi ei ferwi yn dda. Nid ydynt yn hollol o'r un farn am gig rhostiedig, am y gall ambell germ ddianc heb gael digon o flas tan i'w ladd. Y ffordd ddiogelaf i ochel y clefyd yw peidio cadw gwartheg yn rhy hen. Yr ydym yn rhy dueddol i gadw Jbuwch dda am laeth yn rhy hen. Ond mae yr ar- feriad hwnnw yn cyfnewid yn rhwydd, nid yn unig oherwydd ofn y ddeddf a'r tuberculosis, ond am fod oes y "dan- nedd gosod" yn gwrthod cig y fuwch hynafol. Ni ddylid cadw gwartheg dros chwe' mlwydd oed, er eu bod yn yr oed goreu am laeth y pryd hwnnw, dylid cofio eu bod yn yr oed goreu i'r cigydd hefyd. Pan y cofiwn ein bod mewn perygl oddiwrth y gyfraith, heb son ein bod yn perglu bywydau dynol, dylem wneud pob ymdrech i ragflaenu a gochel y clefyd. Nis gwyddom y dydd na'r awr y daw swyddog y Cynghor Dosparth heibio i ni, ae nis gwyddom na all y fuwch neu'r ych a anfonwn i'r lladd- dy, gael myn'd yn aberth i'r fflamiau, heb ini gael cymaint a cheiniog am dan- ynt. Nid oes un lladd-dy cyhoeddus heddyw heb fod dan wyliadwriaeth y swyddog Iechydol. Mae y ddeddf yn fanwl ar ein hoi ni, a rhaid i ninnau fod yn fanwl ar ol ein hanifeiliaid. ^Dyna yr unig ffordd ini fod yn ddiogel, ik ac i ofalu na chelo y cyhoedd ddioddef am ein hesgeulu,sdra.. Arwyddion Tuberculosis. I Nid yw yr arwyddion yn ami yn amlwg mewn anifail byw, er eu bod yn ddigon eglur wedi ei ladd. Dyna y fan- tais sydd gan yr arolygwr swyddogol ar y ffermwr. Mewn llawer amgylchiad. mae y clefyd yn cymeryd gafael yn yr anifail yn araf, heb nemawr arwydd o'r -drwg. Ond pan y clywir ef yn parhau i besychu, ac yn anadlu dipyn yn an- naturiol, mae rhywjoeth yn amheus yn ,ei sefyllfa. Mae y meddygon anifeil- iaid yn med.u profi, meddent hwy, pa un a yw yr anifail yn dioddef oddiwrth y clefyd neu beidio, a hynny pan na fyddo un arwydd gweledig i'r ffermwr ymarferol. Y Tuberculosis Test yw eu cyfrwng i ddod o hyd i'r wybodaeth. Rhywbeth yn debyg i fuchfrechu yw y drefn gan- ddynt. Gosodant rhyw ddogn o wlybur dieithr o dan y croen, ac os bydd yr hedyn lleiaf o'r clefyd yn yr anifail, cyfyd ei dymheredd; ond os bydd yr anifail yn gwbl rydd o'r clefyd, nid yw y cyffyr yn cael un effaith arno. Gall y cyfoethogion dalu am y wybodaeth. yn y dull hwnnw, ond nid pob ffermwr sydd yn barod i osod ei law yn ei logell yn drwm am wybodaeth flaenllaw. nJ fuwch ymddengys arwyddion o'r clefyd gyntaf, ac amlycaf, yn y "gader," "?'  "P?'" yn ol iaith Morgannwg, am fod hadau y clefyd yn gweithio eu ffordd yno gyda'r llaeth. Ond nid yw hyd yn oed y "piw" yn dwyn arwydd- ion y drwg, nes byddo y fuwch wedi myn'd i raddau pell o dan effeithiau y clefyd. Yn y "cwarterion" ol yr ymeifl y clefyd gyntaf. Mae y rhannau hyn yn chwyddo, ac yn mynd yn galed, er nad ydynt yn boenus i'r fuwch. Os bydd y drwg yn eglur, gellir teimlo y "piw" yn myn'd yn galetach yn rhai o'r "cwarterion," ac feallai yn yr 011. Achosir hyn gan y tyfiant sydd yn cymeryd lie yn ffynonellau'r llaeth. Ar y cyntaf, mae y llaeth yn rhedeg yn ddigon naturiol, ond fel byddo y clefyd yn dadblygu daw y Ilaeth yn fwy tew a chaenog. Pan ddelo pethau i'r cyflwr hwn mae perygl i ddyn ac anifail oddi- v wrth y fuwch. Gall y miliyi-iati I)odtii bychain sydd mewn pob dipyn o'r llaeth, wasgar y clefyd trwy yr holl feudy, a rhoi gwaith i'r meddvgon a llanw y sanatoriums. Felly, dylem fod yn llygadog ac effro i bob ymddangos- iad amheus yn nghyflyrau ein gwarth- eg, rhag i ni gael talu yn ddrud am gadw ein Hygaid yng nghau i sefyllfa peth- au yn y cae ac yn y beudy. Y Feddyginiaeth. Fe ddywedir, g;yda sicrwydd, ?ai y. unig feddyginiaeth i gi fyddo yn Hadd defaid yw ei grogi. Yr unig feddygin- iaeth i anifail fyddo yn dioddef oddi- wrth tuberculosis yw ei ladd a'i losgi. Dichon y bydd sylw fel hyn dipyn yn chwerw i'r ffermwr, ond dyna y peth goreu i'w wneud, gan mai diflanu yn raddol wna yr anifail o dan effeithiau y clefyd, a goreu po gynted y ceir gwared ohono. Er cadw calon y fferm- wr i fyny, a chadw cymdeithas heb fyn'd yn "vegetarians," dylwn nodi fod yr awdurdodau yn cydnabod mai gwartheg sydd yn cael eu cadw wrth y pyst ynjbarhaus, ac yn cael eu gwthio i leoedd diawyr ac afiach, sydd yn fwyaf tueddol i gael y clefyd dinystriol. Mewn amgylchiadau felly, hefyd, mae yr hadau yn cael y cyfle goreu i gynyddu a lledaenu. Gellir cadw y gwartheg yn weddol rwydd o afael y clefyd, os y rhoddir digon o le ac awyr iddynt. Awyr iach ac haul yw gelynion pennaf y dolur, a thrwy fod anifeiliaid y fferm- wr allan trwy gydol yr haf, a llawer o'r gauaf, gyda gofal a llygad agored, gall gadw yn weddol glir oddiwrth ymwel- iadau a'r ynadon, yn ogystal a gwyn- ebu ei gyd-ddynion gyda chydwybod dawel.

Pwy sydd yn gorfod Dioddef…

Advertising

) Nodion o Abertawe. j - I

Cymanfa Annibynwyr Dwyrain…

! Gwahanuod Llyfroniaeth y…

Cymrodorion Dyffryn Afan.

ARCRAFFWAITH.

Advertising