Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
I Y GOLOFN AMAETHYDDOL I
I Y GOLOFN AMAETHYDDOL I GAN BRYNFAB. I Tuberculosis Mewn Gwartheg. I Gan fod y Bwrdd Amaethyddol, yn ogystal a'r Awdurdodau Meddygol, wedi cyhoeddi rhyfel cyffredinol yn erbyn y dolur sydd yn ysgubo cymaint o fywydau dynol i'r bedd bob blwyddyn, dylai pob ffermwr fod ar ei wyliadwr- iaeth, os yw am gadw o afael y Gyfraith. Mae y ddeddf sydd wedi dod i weithrediad oddiar y flwyddyn ddiweddaf, yn nodi yn bendant fod yn rhaid i'r ffermwr edrych ar ol ei ani- feiliaid, fel yr edrych y meddyg ar ol ei gleifion. Er nad yw yr awdurdodau yn unfryd unfarn ar y pwnc o dros- glwyddiad hadau y Darfodedigiaeth o'r anifail i r corff dynol, mae y ddeddf yn hawlio fod y cwestiwn wedi ei bender- fynu i bob diben yniarferol. Nid oes dadl nad yw yr anifail yn agored i'r dolur, a bod yn anhawdd taro ar anifail y gellir sicrhau ei fod yn rhydd oddi- wrtho. Ond mae yr anifail yn byw mwy yn yr awyr agored na dyn, ac felly yn meistroli hadau y dolur cyn iddo effeithio yn weledig arno. Ychydig o anifeiliaid ieuainc sydd yn ddarostyng- edg i'r clefyd, a chan mai oes fer roddir i bob math o anifail bwytadwy, dyna sydd yn cadw y deyrnas anifeilaidd heb fynd o dan gymaint o hafog y clefyd sydd yn mynd a'i filoedd o fywydau dynol i feddau anamserol. Er nad yw yr awdurdodau meddygol yn cytuno, ar y perygl o fwyta cig ac yfed llaeth gwartheg fyddo yn dioddef oddiwrth y clefyd, maent i gyd yn foddlon cyfaddef y gellir bwyta ac yfed y cyfryw wedi ei ferwi yn dda. Nid ydynt yn hollol o'r un farn am gig rhostiedig, am y gall ambell germ ddianc heb gael digon o flas tan i'w ladd. Y ffordd ddiogelaf i ochel y clefyd yw peidio cadw gwartheg yn rhy hen. Yr ydym yn rhy dueddol i gadw Jbuwch dda am laeth yn rhy hen. Ond mae yr ar- feriad hwnnw yn cyfnewid yn rhwydd, nid yn unig oherwydd ofn y ddeddf a'r tuberculosis, ond am fod oes y "dan- nedd gosod" yn gwrthod cig y fuwch hynafol. Ni ddylid cadw gwartheg dros chwe' mlwydd oed, er eu bod yn yr oed goreu am laeth y pryd hwnnw, dylid cofio eu bod yn yr oed goreu i'r cigydd hefyd. Pan y cofiwn ein bod mewn perygl oddiwrth y gyfraith, heb son ein bod yn perglu bywydau dynol, dylem wneud pob ymdrech i ragflaenu a gochel y clefyd. Nis gwyddom y dydd na'r awr y daw swyddog y Cynghor Dosparth heibio i ni, ae nis gwyddom na all y fuwch neu'r ych a anfonwn i'r lladd- dy, gael myn'd yn aberth i'r fflamiau, heb ini gael cymaint a cheiniog am dan- ynt. Nid oes un lladd-dy cyhoeddus heddyw heb fod dan wyliadwriaeth y swyddog Iechydol. Mae y ddeddf yn fanwl ar ein hoi ni, a rhaid i ninnau fod yn fanwl ar ol ein hanifeiliaid. ^Dyna yr unig ffordd ini fod yn ddiogel, ik ac i ofalu na chelo y cyhoedd ddioddef am ein hesgeulu,sdra.. Arwyddion Tuberculosis. I Nid yw yr arwyddion yn ami yn amlwg mewn anifail byw, er eu bod yn ddigon eglur wedi ei ladd. Dyna y fan- tais sydd gan yr arolygwr swyddogol ar y ffermwr. Mewn llawer amgylchiad. mae y clefyd yn cymeryd gafael yn yr anifail yn araf, heb nemawr arwydd o'r -drwg. Ond pan y clywir ef yn parhau i besychu, ac yn anadlu dipyn yn an- naturiol, mae rhywjoeth yn amheus yn ,ei sefyllfa. Mae y meddygon anifeil- iaid yn med.u profi, meddent hwy, pa un a yw yr anifail yn dioddef oddiwrth y clefyd neu beidio, a hynny pan na fyddo un arwydd gweledig i'r ffermwr ymarferol. Y Tuberculosis Test yw eu cyfrwng i ddod o hyd i'r wybodaeth. Rhywbeth yn debyg i fuchfrechu yw y drefn gan- ddynt. Gosodant rhyw ddogn o wlybur dieithr o dan y croen, ac os bydd yr hedyn lleiaf o'r clefyd yn yr anifail, cyfyd ei dymheredd; ond os bydd yr anifail yn gwbl rydd o'r clefyd, nid yw y cyffyr yn cael un effaith arno. Gall y cyfoethogion dalu am y wybodaeth. yn y dull hwnnw, ond nid pob ffermwr sydd yn barod i osod ei law yn ei logell yn drwm am wybodaeth flaenllaw. nJ fuwch ymddengys arwyddion o'r clefyd gyntaf, ac amlycaf, yn y "gader," "?'  "P?'" yn ol iaith Morgannwg, am fod hadau y clefyd yn gweithio eu ffordd yno gyda'r llaeth. Ond nid yw hyd yn oed y "piw" yn dwyn arwydd- ion y drwg, nes byddo y fuwch wedi myn'd i raddau pell o dan effeithiau y clefyd. Yn y "cwarterion" ol yr ymeifl y clefyd gyntaf. Mae y rhannau hyn yn chwyddo, ac yn mynd yn galed, er nad ydynt yn boenus i'r fuwch. Os bydd y drwg yn eglur, gellir teimlo y "piw" yn myn'd yn galetach yn rhai o'r "cwarterion," ac feallai yn yr 011. Achosir hyn gan y tyfiant sydd yn cymeryd lie yn ffynonellau'r llaeth. Ar y cyntaf, mae y llaeth yn rhedeg yn ddigon naturiol, ond fel byddo y clefyd yn dadblygu daw y Ilaeth yn fwy tew a chaenog. Pan ddelo pethau i'r cyflwr hwn mae perygl i ddyn ac anifail oddi- v wrth y fuwch. Gall y miliyi-iati I)odtii bychain sydd mewn pob dipyn o'r llaeth, wasgar y clefyd trwy yr holl feudy, a rhoi gwaith i'r meddvgon a llanw y sanatoriums. Felly, dylem fod yn llygadog ac effro i bob ymddangos- iad amheus yn nghyflyrau ein gwarth- eg, rhag i ni gael talu yn ddrud am gadw ein Hygaid yng nghau i sefyllfa peth- au yn y cae ac yn y beudy. Y Feddyginiaeth. Fe ddywedir, g;yda sicrwydd, ?ai y. unig feddyginiaeth i gi fyddo yn Hadd defaid yw ei grogi. Yr unig feddygin- iaeth i anifail fyddo yn dioddef oddi- wrth tuberculosis yw ei ladd a'i losgi. Dichon y bydd sylw fel hyn dipyn yn chwerw i'r ffermwr, ond dyna y peth goreu i'w wneud, gan mai diflanu yn raddol wna yr anifail o dan effeithiau y clefyd, a goreu po gynted y ceir gwared ohono. Er cadw calon y fferm- wr i fyny, a chadw cymdeithas heb fyn'd yn "vegetarians," dylwn nodi fod yr awdurdodau yn cydnabod mai gwartheg sydd yn cael eu cadw wrth y pyst ynjbarhaus, ac yn cael eu gwthio i leoedd diawyr ac afiach, sydd yn fwyaf tueddol i gael y clefyd dinystriol. Mewn amgylchiadau felly, hefyd, mae yr hadau yn cael y cyfle goreu i gynyddu a lledaenu. Gellir cadw y gwartheg yn weddol rwydd o afael y clefyd, os y rhoddir digon o le ac awyr iddynt. Awyr iach ac haul yw gelynion pennaf y dolur, a thrwy fod anifeiliaid y fferm- wr allan trwy gydol yr haf, a llawer o'r gauaf, gyda gofal a llygad agored, gall gadw yn weddol glir oddiwrth ymwel- iadau a'r ynadon, yn ogystal a gwyn- ebu ei gyd-ddynion gyda chydwybod dawel.
Pwy sydd yn gorfod Dioddef…
Pwy sydd yn gorfod Dioddef ? F faith ryfedd yw mai cynyrchydd gwirioneddol holl gyfoeth y byd ga fwynhau leiaf o foethusrwydd a phleser bywyd. Yn mhob cangen o lafur gwesgir y llafurWr. Mae pob cyflogwr yn foddlon cadw tu fewn i derfynau y gyfraith. Nid oes ddiolch iddo-y drwg yw fod llawer o gyfreithiau ein gwlad wedi eu llunio gan wyr cyfoeth- og. Rhyfedd i mi fod y werin bobl mot glaiar ar fater mor bwysig, oherwydd nid oes ganddynt ond hwy eu hunain i feio, i raddau helaeth iawn Meddwir y dosbarth gweithiol gan addewidion etholiadol. Dychwelir dynion i'r Sen- edd ac i'r gwahanol gynghorau sydd yn gyflogwyr dynion. Dylasai fod gan y cyflogedig nifer fwy yn eu cvn- rychioli, oblegid y mae hunangarwch hyd yn hyn yn nodwedd ry amlwg yn y natur ddynol. Dywedir efallai fod fy syniadau vn gymdcithasyddol i'r eithaf. Cydna- byddaf fy mod yn gymdeithaswr ac yn credu yn gryf mewn cenedlaetholi holl alluoedd cynrychiadol cyfoeth. Dad- leuir gan lawer nad oes unrhyw dda wedi ei ddeilliaw wrth genedlaetholi dim, a thaflir i'n hwynebau fel esiampl y llythyrdy. Y Llywodraeth yw perchenog y llythyrdy, er hynny, telir cynog nodcdig o isel i weithwyr yn y gangen hono o wasanaeth. Cydna- byddaf fod y llythyrdy yn gymdeithas- yddol, ond rheolir ef gan ddosbarth sydd elyniaethus i'r egwyddor hono. Gwn am berchenogion amryw o byll- au glo heddyw sydd yn berchen ar restri o dai. Eithaf da. Rhentir y tai i'w gweithwvr eu hunain am y geiniog uchaf. Os digwydda ryw anghydfod hrwng y gweithiwr a'r meistr, cyll ei waith, a rhaid gadael y ty. Gall vr anghydfod godi oherwydd mcthu cytuno yngylch rhediad pethau yn gymdeithasol neu yn cgh\ ysyddol.Gwn am amryw sydd wedi gorfod gadael eu tai am eu bod yn gymdeithaswyr, am feiddio codi llais dros gyd-ddyn oedd yn dioddef ar gam, neu am eu bod yn perthyn i enwad gwahanol i'r perchenogion. Pwy sydd yn gorfod dioddef Mae gan yr un perchenogion hefyd lasnachdy ar raddfa eang. Amod gwaith yn y lofa a byw yn y ty yw mynu eu nwyddau, celfi, etc, etc., yn eu siop hwynt. Mynir y geiniog uchaf eto am danynt. Cyfrifwn fod cvfundrefn o'r fath yma yn drosedd ar ryddid, ac yn faen ar fedd pob budd- iant personol i'r gweithiwr. Telir ef nos Wener am ei wythnos waith yn y lofa, ond gorfodir ef i dalu yn ol yr un arian i'r un personau nos Sadwrn am nwyddau oedd wedi eu cael ar hyd yr wythnos. Pwy sydd heddyw'n gorfod dioddef? (iwn am amaethwr gafodd ei daflu allan o un fferm. Methai vn deg a chael He cyfleus i fyned iddo, nes i ryw dirfeddianydd gynyg tir iddo am bunt yr crw yn ddrutach nag v talai yr un fu'n trin yr un tir o'i flaen ar yr amod hwn-—gan ei fod efe a'i deulu yn Annibynwyr byddai vn rhaid iddynt ddyfod yn aelodau o Eg- hvys Loegr. Pwy sydd yn gorfod dioddef? Pwy sydd heddyw'n gorfod godde' Tlodi yn v tir, .\m fod Herod a'i berth'nase Yn camdrin y gwir ? Ydyvv loan wedi tewi v Wedi colli 'i ben? Oes dialedd yn vmgroni Y tu hwnt i'r lIen? E. AROXFA GRIFFITHS, F.F.C.C. Grove House, Abcrcrave.
Advertising
S A R Z T "N T2 BLOOD MIXTURE. Croen lach a Gwaed Pur. Dyna yr hyn y mae y "Sarzine Blood Mixture" yn ei sicrhau. a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvy, doluriau, pen- ddynod. Ac., yn tarddn o waed drwg ac ammhur, mynv/ch h<»t.eiaid o "SarziDe Blood Mixture." gan y Druggist nesaf atoch, IiIli a 2/9 y botel, neu gyda 3c. at v cludiad yn chwanegol, oddi wrth y ^orchenog. HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth.
) Nodion o Abertawe. j - I
) Nodion o Abertawe. j Mewn cyfarfod o Gyngor Trefol Ahcrtawe gynhaliwyd dydd Mercher, Ionawr 14eg, penderfynwyd chwilio hen gyfrolau Cofnodau Toll Porthladd Abertawe, er mwyn sicrhau y ffeith- iau o werth hancsyddol sydd ynddynt. Y maent yn rhedeg mor bell yn ol a'r flwyddyn 1700, ac yn llanw tua 50 o I, gyfrolau, a dywedodd yr Henadur D. Da vies, Golygydd y South Wales Daily Post," pan yn dwyn y mater ger- bron eu bod yn cynnwys llawer o ffeithiau dyddorol a gwerthfawr fydd o bwys mawr pan eir i ysgrifenu hanes cyflawn a manol o Fwrdeisdref Aber- ) tawe. Dywedodd ei fod wedi gofyn i'r Bonwr A. T. Davies, ysgrifenydd Cymreig y Bwrdd Addysg, am geisio gan awdurdodau Tolldy y Porthladd, ganiatau i'r Bonwr D. Rhys Phillips, Llyfrydd talentog, Adran Gymraeg, Llyfrgell Gyhoeddus y dref, i fyned trwy'y cyfrolau, a'i fod wedi llwyddo i  gael y caniatad, a bod Mr Phillips eisoes wedi chwilio y ddwy gyfrol gyntaf, a chael ynddynt gyfeiriadau a materion fydd o bwys i unrhyw un gymcr at ysgrifenu hanes ein tref. Dywedodd yr Henadur gan fod y gorchwyl yn golygu amser a dyfal waith ei fod yn cynnyg fod y swm o haner can gini yn cael ei roddi i Mr Phillips am wneud y gwaith hwn. Cadarnhawyd y penderfvniad yn un- f rydol. Cyfarfu Pwyllgor Addysg y Dref, Ionawr 13cg, ac yn mhlitl. pethau ereill ystyriwyd y mater o G ymraeg yn yr ysgolion. Mewn nodion blaen- orol cyfeiriwyd at y ifaith fod cyn- rychiolaeth o Gymrodorjon Abertawe wedi ymddangos gerbron y Pxvvilgor i'r diben o wasgu ar yr awdurdodau y priodoldeb o wneud efrydiaeth o'r Gymraeg yn orfodol yn ysgolion el- fenol y dref. Ar gais y Maer, Hen- adur T. T. Corker, datganodd Gor- uchwyliwr Addysg y Cyngor, Mr T. J. Rees, ei farn ar y mater. Dywedodd fod y Gymraeg yn cael sylw eisoes yn rhai o'r ysgolion er boddloni Goruch- wylwyr y Bwrdd Addysg, ond nad oedd digon o amser yn cael ei roddi i'r gwersi fod yn effeithiol. Yr oedd o'r farn y dylid ei wneud yn orfodol yn yr oil o'r ysgolion, ac y byddai o fantais dirfawr i'r plant yn eu gwa- hanol alwedigaethau yn y dyfodol. Siaradodd nifer o'r aelodau yn ffafriol i'r mater, a phenderfynwyd fod y pwyllgor i gyfarfod mewn cwrdd ar- bennig i drin y mater yn ei holl ag- weddau. Nos Sadwrn, y iofed, traddodwyd darlith ddiddorol dros ben gan y Bonwr Arthur E. Jenkins, Manselton, aelod o Gymdeithas Caneuon Gwerin Cymru, yn y Llyfrgell Gyhoeddus ar "Ganeuon Gwerin Cymru. Daeth tyrfa fawr ynghyd, a chadeiriwyd gan y Bonwr H. A. Chapman. Rhoddwyd enghreifftiau o'r gwahanol gerddi. Cariwyd ar y delyn gan y Fonesig Mary H. Davies, Plasmarl. Datgan- wyd penillion gan y Bonwyr Evan Davies, Plasmarl, a T. J. Rees, Plas- marl, a chanwyd yn swynol gan barti o fechgyn o Ysgol yr Hafod, wedi ei darparu gan y darlithydd talentog. I TALNANT.  = = = = — s
Cymanfa Annibynwyr Dwyrain…
Cymanfa Annibynwyr Dwyrain Morgannwg. Gynhaliwyd cyfarfodydd chwarterol y Gymanfa uchod yn Mhenybont, Ion- 22ain. Cadeiriwyd gan v Parch. T. T. Jones, Maindy. Cynhygiwyd pender- fyniad cryf gan Mr G. Davies yn annog yr eglwysi i ddyfod allan yn unol a brwdfrydig o blaid cadwraeth y Sul. Yr oedd swn ym mrig y morwydd fod y frwydr i fyned yn boeth a'r fuddugol- iaeth i'w hennill er gwaethaf galluoedd cryfion y tyw'yllwch i sarnu popeth cysegredig yr eglwys. Daeth cais oddiwrth Undeb Ysgolion Sul y Barri am fatbwysiadu un Llyfr Emynnau i'r Enwadau Ymneilltuol yng Nghymru. Ymhellach, i gefnogi y symud cenedlaethol sydd wedi ym- ffurfio yn Undeb y Cymdeithasau Cym- raeg. Gwna hwn gamrau breision yn barod dan ofal Mr Arthen Evans, Barri, yr hwn a lwydda i wasgaru tan ei sel ei hun o bob cyfeiriad o blaid e iaith, ei wlad, a'i genedl. Penderfynwyd danfon longyfarchiad- au i Syr W. J. Thomas, Ynysliir. Llawenydd oedd gallu llongyfarch gwr oedd yn foneddwr Cristionogol diam- heuol, ac yn aelod a swyddog teilwng yn yr eglwys. Dygwyd y Symudiad Blaenfynedol i sylw. Hysbyswyd fod y newyddion yn galonogol o'r eglwysi canlynol: 0 Dre- banog, Pontygwaith, Thomaston, Clyd- ach Vale, Coedlai, Gelli. Gwnaed apel at yr eglwysi i chwyddo eu haelioni tuag atynt. Caed adroddiad yr Ysgol Sul gan y Parch. D. R. Jones, M.A. Cyflwynodd fraslun o gynlluniau a fwriedir eu mab wysiadu ar gyfer y dyfodol. Darllenwyd papur amserol gan Mr. T. G. Williams ar y modd i sicrhau undeb agosach rhwng yr eglwysi a'r Cwrdd Chwarter. Pregethwyd ar Ddir- west gan y Parch. T. D. Jenkins, Llwynypia. Pregethwyd ar "Anfarwol- deb yr Enaid" gan y Parch. J. Lloyd, Gilfach Goch.
! Gwahanuod Llyfroniaeth y…
Gwahanuod Llyfroniaeth y "Darian." GAN "WYDDONWY. Dymunwn hysbysu'r darllenwyr- yn mhob cwr o'r wlad-y gallant gael unrhyw lyfr neu gylchgrawn y sylwir arno yn y golofn hon drwy unrhyw ddosbarthwr o'r "Darian." Rhodder yr archeb i'r dosbarthwr lleol; a phan gyrhaedda'r archeb yma mynwn ninau weld ei fod yn cael telerau ar- ferol. Cyfeirier Gwyddonwy Evans, "Darian" Bookroom, Aberdar. "Edmygvdd." -Gall unrhyw ddos- barthwr o'r "Darian," werthu i chwi lyfrau Eluned ond anfon at y cy- hoeddwyr neu yma. Mae pob un o'r llyfrau a nodwch, "Gwymon y Mor" a "Dringo'r Andes," yn lyfrau sydd yn gwerthu'n dda mewn rhai cylch- oedd, ac yn cael eu hedmygu yn fawr ar gyfrif ceinder eu hiaith. Mae pob dosbarthwr yn gwybod mai wrth dalu lawr mae cael y telerau goreu; ac os na wyr ddigon am y telerau hyn disgwylir iddo anfon y tai yn mlaen gyda'r archeb, a dychwelir iddo'r ddimai fyddo wedi anfon dros ben. Rhowch yr archeb i'r dosbarthwr; gelwch ei sylw at y golofn hon, os nad ywyn gwybod yn barod, ac os a Ilygad vn ei ben bydd a geisiwch yn eich meddiant cyn pen wythnos. "W.A."—Diolch am eich cynygiad haelfrydig, ond nid ymofyn benthyg "Gardd Aberdar" wnaeth M.D.P.—ei phrynu geisia efe. Mae copi ar gael yn Llyfrgell Rydd Aberdar i'r sawl a fyno'i weld. Bu darllen eich nodyn roddi adgyfodiad melus (a chwerw) i lawer adgof am y Foelgastell a Chwm- yglo a'r Drefach. Yn Mhorthyrhyd y ces i'r "tumble" mwyaf yn fy hanes, a'm gadawodd, fel Jacob, yn gloff o glun dros byth Eto, diolch—diolch i chwi, wrth gvvrs; nid diolch am y tumble a nodais. "E.J.K."—Why don't you write in W elsh, boy? I know you can, so near the dawn, so near the place they say Welsh is everything and everything Welsh—you know, where Adam once lived A dir dishefon i, shwd y'ch chi ers llawer dydd? Shwd mae'ch mam a sh [Now, now, business—not personalities.—Ed. J Y lie goreu i gad. unrhyw wybodaeth am "operas" Cym- reig yw gan John Jones, Music Seller. Mae efe yn gwneud "speciality" o gyfanwerthu gweithiau cerddorol awduron Cymreig. Mae Cynala\\ hefyd yn cyhoeddi dramodau Cymreig adargraphedig o'i Drysorfa gyhoedd- odd tra'n byw yn Llansawel. Ei gyfeiriad yn awr yw Aberteifi. Tybcd nad oes rhywbeth newvdd ar ddvfod o gyfeiriad twyn y Berrington? Ac yn olaf, er nad y lleiaf, mynwch weled rhestr dramodau'r Parch. J. Tywi Jones (CJOI. v "Darian"), Glais, Aber- tawe. Mae'r ddrama yn dod i boblog- rwydd mawr yn Nghymoedd Rhon- dda, Aberdar, a Merthyr. Mae yna dir dymunol i ddrama yn y gymydogaeth yna hefyd. Ewch ati, bydd yn dda genyf glywed oddiwrthych. Sut y inae Gwilym Wyn yna er's llawer dydd nis gwn pa bryd y clywais, a Dewi Glan Twrch. [Dyma hi eto, cedwch wrth eich testyn, fachgen-Gol.1 Mae Cwm Tawe erioed wedi bod yn fagwr- fa nodedig i'r ddrama, ac yn ol pob arwydd yn debyg o fod felly yn hir. Mae'r Parch. D. Bassett, yr ydych yn cofio Bassett, debyg gen i, yn amlwg fel beirniad dramodyddol yn y cylch- oedd hyn. Cwrddwn yn fynych, a gofyna'r naill i'r llall yn ami pa bryd y bu ddiweddaf yn yr hen gartref, neu beth yw'r newyddion diweddaraf o'r "Cwm." [Wei, wel !-GoL]. I D.O. Spiritual Consciousness" (Elliott Stock, 3s. net) neu "The Church in Action (Scott, 2s. bd. net) yw'r diweddaraf i mi gael hysbys- rwydd o'u cyhoeddiad. Y duedd yw er's llawer dydd bellach gwerthu y cyhoeddiadau goreu ar delerau "net," a gwneir symudiad yn awr ac cil- waith i gael y telerau hyn yn fwy cyffredinol. I hyn y mae'n rhwym o ddod, ond y mae'n rhaid am ryw dymor eto i "aros a gweld."
Cymrodorion Dyffryn Afan.
Cymrodorion Dyffryn Afan. Yn Neuadd v Seiri Rhyddion, Aber- afan, ar yr 2ofed cyfisol, anerchwyd Cymrodorion Dyffryn Afan gan Mr T. Williams, Glynnedd. Ei destyn oedd "Ofcrgociion Cymru," a gwnacth eith- af cyfiawnder ag ef yn ei ddull ar- bennig ei hun. Yr oedd y Neuadd yn llawn o lenorion blaenaf yr ardal, ac ha wdd gwybod oddiwrth bob gwyneb- pryd fod y wledd yn cael ei mwynhau. Nodwedd foddhaol o'r gymdeithas hon yw fod cynifer o athrawon ac athraw- esau ein hysgolion dyddiol yn perthyn iddi. Amlwg oddiwrth hynny eu bod hwy, beth bynnag, yn credu yn y fan- tais () ddysgu mewn dwy iaith. Cad- eiriwyd yn hapus gan lywydd y tymor, Mr John Hanbury, Cwmafon.
ARCRAFFWAITH.
ARCRAFFWAITH. Am bob math o Argraffwaith ymo- fvner yn Swyddfa'r Leader" Or Darian, 19, Cardiff Street, Aberdat.
Advertising
GWAED! GWAED! GWAED! MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUR CRYF. IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughes's Blood Pills" yn hynotf effeithiol at Creu Cwaed Newydd, Pur a Chryf, felly yn dylanwadu ar tail Oreanau v Corff. drwy hvnv vn laohau Dolur Pen, Oiffyg Traul, Biliousness, Afu Ddrwg, Tatddlantau a,, y Cnawd, Cornwydon, Scurvy, Plies Fits, Nerv- ousness, C w y n t Cwynegon (neu Cymal- wst), Poen Cefn, Lum- bago, Corff- rwymedd, Neuralgia, Anhwylder- au yr Aren- au, Iselder Y s p r y d, S u r n I y Cylla. ) (P, am 7 BENYWOD! At Anhwylderau tueddol i bob Gwraig, Mam a Merch o bob oodrin mae Hughes's Blood Pills" yn nodedig o effeithiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pills hyn gofaler rhag gael eich twyllo. Mynwch weled y Trade Mark, sef llun Calon fel hyn- pr ar bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemist a Storei am 1/U, 2/9, 4/6. Neu danfonwoh ei Gwerth mewn Stamps neu P.O. at y Perchenog- JACOB HUGHES. MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L D.S Penarth, Cardiff. Nilliams& Co., Supply Stores, Aberdare, Hold a Large Stock of tarley Ityeal, Maize, White Oats, Bran. Sharps, Indian Meal, &c., &c. Which we are clearing at Ireatly Reduced Prices Supply Stores, 2 Card iff St., Aberdare. ithrofa Aberystwyth JN O'R COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYMRtJ). rîfatkraw-T. F. ROBERTS; M.A., LL.D. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arliolisdau ilyagol Cymru. 3ynhygir amryw o ysgoloriagthau (rhai o nynt yn gyfyngedig i Gymry) y flivyddyn n. Am fitnylion pellach, ymQfyuer a— J. H. DAVIES, M.A.Cofi-e8ti-ydd. Pregeth II WII Bryan." Yn gyntaf, y gwrtbddrych a nodir-I 'Davies's Cough Mixture." Yn ail, y ddyledswydd a gymmhellir Ei gymmeryd a'i reoom- mendio." Yn drydydd, y wobr a addewir— 14 Rhyddhad oddi wrth Beswch ao Anwyd." DAVIES'SICOUGH MIXTURE, at Beswch, Anwyd. DAVIES'S COUGH MIXTURE, at Asthma, Crygni. DAVIES'S COUGH MIXTURE, at P&a, Brononitis. DAVIES'S COUGH MIXTURE, at Influenza. Nid rhaid i DAVIES'S COUGH MIXTURE wrth ganmoliaeth-y mae wedi bod o flaen y cyhoedd er's blynyddoedd; so y mae y per- chenog, drwy draul a llafur di-ildio, wedi ei berffeitbio yn y fath fodd fel y mae yn cael ei gydnabod fel darganfyddiad gwerthfawr at yr anhwylderau, Nid ydyw DAVIES'S COUGH MIXTURE yo mhlith y darpariaethan hyny sydd yn cael eu hareymmhell at bob Aflechyd, ond yn unig at anhwylderau y Frest, megys Anwyd, Peswoh, Asthma, Pas, Crygni, Bronohitis, Caethdra, a Diffyg Anadl. Mewn Poteli /14 a 2/9 gan bob Druggist. HUGH DAVIES Chemist, iMaohynlleth. Do you want M 0 N E Y ? M 0 N E Y ( for extending your business, entering Into a new business, or for any good purpose what- soever ? Apply THE SOUTH WALES EQUITABIIB MONEY SOCIETY Registered under Friendly Societies Act) ALBERT CHAMBERS, HIGH:STREET, CARDIFF Branohes SWANSEA—10 High Street Arcade. NEWPORT-J. R. Rowlands, 11, Skinner 81. P ENTRE-E. T. Davies, Victoria Chambers. F ERNDALE- W. J. Jones, Tudor Chambers. TRE DEGATemperance Hall. PONTYPOOL-J. R. Rowlands, 20 Crone St. MERTHYR-A. T. Smith, 4, Castle St AGENTS WANTED where unrepresented. Re los for is 2d per week, 11.1 for 29 3d per week, and so on up to £ 3210s for 5s 2d per week. Assets nearly £50,000. Ask for Balance Sheet and prospectus. THE Aberaman & NJountain Ash Billposting and Advertisin, eg., Proprietors of the most prominent station, n Aberaman, Cwmaman, C w mbach. Abercwmboi, Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. AU communications and parcels should h. addressed to the MANAGERtI Public Hall & Institute, Aberaman Aberdarc Tel. P.O. 12, Aberaman. LAtI;FS BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al irr?g.larities, &0., tbel$edily afford relief and never fad to alleviate all stØlerlng.   Pil Cochia. Bitter Apple, &0. ?btMn.OMre'?are'w Best of all PUle for Women." c u imbv ?Qo?g. BMnches. Md In Chemtst's] ol post f-e e p.cc. from ?ESLIE MARTYN Ltd????e .?? LONDON 3 DALSTON LANB, LONDON Free 5ample ?nd v?b!e Booklet, post free !d. -tamp EVERY WOMAN Should send two stamps {«'r Book, containing V?ab!e info' ti?.iiion how aU L.r?u]aritie. and Obstruct.? m?- he edirel, avoided or removed by r?hp). n.?. L?.. Deuded by eminent phYi'¡'311, as <? owly ?fe Sure and Genuine Nc,?,,r Fails. rhousan.? of '1't!'tim(¡I1¡l\lt;. ,???.?'- ?.'? MR. PAUL 8LA_NCHAR_?D, -IsrAMO]at House- Pa,h,or, i.nndou. Send your Orders for PI^I NTIJIC TO THE Leader ATarian Office Cardiff Street, Aberdare. Posters, Handbills, Circulars, Tickea, Programmes, Balance Sheets, Church Reports, and all kinds of Printing done in up-to-date Style, combined with first-class Workmanship, [ SATISFACTION prompt GUARANTEED. DBSPATCfl. 1 64 PAGE Book about H?b. ;¡ bow »o n« ihem Post Free. Send for "f;Trlf  Herbalist. 144 Richmond-rome l ..1; Rlli,.bHrh.. 1879, PLEASE NOTE THE ADDRBSS  ? prevent fraud ?ee that you ?.??'? ? 1819 on every label and -Pper of my prepar. &ions without which none are g< TdJ"YII,n, Th Herbalist, 144, Ricbmond-road, U?<M? TBIMNELL'q PILLS AND PCWDKF..S h"vt) CDre Thousands Why not } pi Established 1 1&b(>1.-T1-jlLC.b¡ rII. i, Herbalist, 144. Richmond toaa, OardHt Ar" Booms »anted. '.?.. J "—— '?' &12, Best aod 1"e3pflt. (,I't O' appU..titi.. Tn'.M!). ?<!?0??'? ?" ———— BOON TO THE LAME. ——— J. J. STUBBS, Maker of ARTIFICIAL LIMBS, with RUBBER FEET. Are the most Natural, most Efficient, most Comfortable. Absolutely noiseless. Fitted with Ball Bearing Joints. All bolts, springs, catguts abolished. Over 2000 limbs in use. Hundreds of Testimonials. Every limb guaranteed. Trusses, Belts, and all kinds of Surgical Goods kept in stock. RUBBER SPECIALITIES. Write for Catalogue. ——— 51 CITY ROAD, CARDIFF. ————