Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Thompson & Shackell, Ltd. MAMONAND CI. Ad „ th T d PIANOS AND PIANOS AND ftChL 1 eapest House m the Tmde. ORGANS. ESTEYsORGAN AGENCY, 24, Queeq-street, Cardiff. BRANCH ADDRESSES:- 8WAN8EA 83, Castle-street. PONTYPRIDD 6, Taff-street. NEWPORT .3, Gommeroial-street. GLOUCESTER 42, Eastgate-street. LLANELLY .60, Stepney-street. BRISTOL 142, Newfoundland-road. MERTHYR 114, High-street. BRIDGEND .1, Wyndham-street. Terms I Hire System, from 10/- Monthly. IS" Large Discount for Cash. OLD PIANOS TAKEN IN EXCHANGE. LIST FREE ON APPLICATION. N.B.—ALL GOODS DELIVERED FREE TO ANY ADDRESS. DO YOU SUFFER FRONj EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT, C. F. WALTERS, F.S.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND I WORKMANSHIP. ABERAMAN WORKMEN'S HALL Popular Lectures for the People. Friday, Jan. 30, Mr. HENRY C. PREECE (The famous Blind Lecturer). Bubject-" The Comedy of Daily Life." Chairman Rev. E. C. Camble. Friday, february 13, Miss ADA L. WARD, L.L.A. Subject—" Funny Folks their Fads, Fancies and Foibles." Miss M. A. Davies in the ofrair Friday, February 27, Dr. C. W. SALEEBY, F.R.S.E. Subject- Worry: The Disease of the Age." Chairman: Dr. Trevor Cory. Friday, March 6th, Miss MALECKA (The Priswer if Warsaw). Subject—" My Experiences in Russian Poland." Mrs. Roee Davies in the chair. Monday, March 9, at Saron Chapel, Mr. ALEXANDER WATSON. I Dramatic Reciter (Serious and Humorous). Chairman Rev. H. P. Jenkins. The few remaining Reserved Seats will be booked in the order they are applied for. Prices 42/6,1/3 and 9d. for the live Lectures. Single Tickets (if room) at 2/ 1/ 6d. and 3d. None sold until 7.35. Doors Open at 7.15 p m., to Commence at 7.45 sharp. Seats may now be booked with the Secretaries—Messrs. W. W. Price, 11 Stuart Streat, Aberdare; and D. E. Davies, 18 Hill Street, Aberaman. Chwedlau Hamdden. Cyfres o ystraeon riifyr. Gan J. TYWI JONES, Glais. Mewn Llian, Is. Mewn Amlen Bapur, 9c. Drwy'r Post, Is. 2c. a lOic. Y digrif yw nodwedd fwyaf amlwg pcib ystori, ond y mae ambell darawiad I grymus a difrifol yn y llyfr; y mae'r moesoldeb dwys sy'n rhedeg drwy'r ystoriau, a'r syniad am chware teg, yn sicr o fod wrth fodd gwerin iach gwlad." -0. M. Edwards, Ysw., M.A., yn y Cymru. Rhwng difrif a cbwaie, rhydd fon- clust i lawer arferiad a gwbl haedda'r driniaeth, ac y mae'n iechyd meddwl sylwi ar ei fedr i weinyddu'r oruchwyl- iaeth hono. Os gall unrhyw un ddar- llen—'Beth sydd mewn Het V heb deim- lo ei ochrau yn hollti gan chwerthin y mae yn wrthrych tosturi a dweyd y llei- af. Er wedi darllen y sfori hon o'r blaen, deil yn ei bias o hyd."—Cemlyn yn y Western Mail. Yr oil yn fyw gan ddyddordeb a syl- wadaeth graff, finiog, yr Awdwr ar gy- meriadau a bywyd Cymru ymhob gwedd arnynt.Ifano yn y Cardiff Times. Gellir eu cael trwy law Gwarthwyp y "Darian." Anj bob math o ARGRAFFWAITH YMOFYNEP. YN Swyddfa'r "Leader," neu Swyddfa'r Darian," 19 Cardiff Street, ABERDAR. Hysbysleni o bob maint, lliw a llun. lthagleni Cynianfaoedd Canu ac Eisteddlodau, yn Gymraeg neu Seisnig. Argraffir Llyfrau yn y Ddwy Iaith. Slorhetr Gwalth Glan, Destlus a Chywtr am Brls Teg. THE CYMMER C.M. SIXTH ANNUAL CHAIR EISTEDDFOD will be held at ST. dOH'S HALL, CYMMER, PORTH, ON SATURDAY, FEBRUARY 28th, 1914. PRESIDENT THE HON. ROLAND E. PHILIPPS, LONDON. CHIEF EVENTS: Mixed Choirs, We never will bow down," 915, and a Challenge Cup, valuef6 6/ Present holders of the Cup: Mardy United Choir. Male Voice, The Pilgrims," £15. 21/- for Soloist, and a Silver-mounted Baton will be pre- sented to the successful conduotor by Meeara Dale, Forty & Co., Ltd., Piano and Orga Merohants, Cardiff. Second Male Voice, In the Sweet By-and-bye," f5. Children's Choirs, (a) Song of Truth," (b) Lullaby," R5, and a Gold Medal presented by Mrs. Morgan Hicks, Cymmer Solos, 21/- (open Novice), Trio (open), Solo for Children, two Pianoforte Solos, Penillion Singing, Englyn, Essay. Prize Bags, Recitation 21/, Mining Subject, Chair Poem-21f- and a Solid Oak Chair, suitably carved, value 94 4/ presented by the Roath Furnishing Co., Taff Street, Pontypridd. Programmes, Id. eaoh 14d. post free. Winning Compositions of the last Eisteddfod can be obtained from the Secretary in book form, 6d. eaoh post free 7d. i Hon. Secretary-Tom EVANS I Gwalia Cafe, Cymmer, Porth. Carmarthen Dairy, I Seymour St. a Whitcombe St., ABERDAR. Cynyrch Uaethdy o'r Fath Oreu, yn cynwya Hufen Ceuledig Ammrwd a Devonshire, yn newydd bob dydd. Wyau Newydd Ddodwy—Gwarantedig. Darperir ar gyfer Partion Te. Anfonir Llaeth ddwywaith y dydd. MOLESKINS.-Gerrards, Furriers, Edinburgh pay highest prices. Cash. Pioneers of fchb industry. Send for particulars. PRELIMINARY PROGRAMME of the FFORESTFACH WHIT-TUESDAY EISTEDDFOD Will be sent on receipt of Stamped Addressed Envelope. General Secretary, David Jenkins, Gendros, Fforestfach. CWMAMAN JUVENILE EISTEDDFOD. The Seventh Annual Juvenile EISTEDDFOD Will be held at the PUBLIC HALL, CWMAMAN, SATURDAY, MARCH 14th, 1914. Chief Items: Juvenile Choir, Chain of Welsh Airs," Y,5, and a Marble Clock, value zC3, kindly given by Roath Furnishing Co., Pontypridd.—Action Song, Own Choice 1st prize, zC2; 2nd, £ 1.—Champ- ion Solo for Girls, Hark, ye herald angels Bing (Gabriel), 10/6. Champ- ion Solo for Boys, Y Ddwy Delyn (Pughe Evans), 10/6.—Duett (soprano and alto), Hen Gymru Dies" (T. J. Morgan).—Drill Competition: 1st, £1; 2nd, 10/ Prizes offered for Solos, Recitations, Drawing, Essay and Letter Writting. Further particulars in Programmes, post free lId. To be had from the Hon. Secretary-W. O. Lloyd, Isfryn, Cwm- aman, Aberdare. Hysbysiad o Bwys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosbarthwyr. Teimlwn mai angenrhaid yw gwne.4 yn hysbys y cyhoeddir y Dariao bod dydd Mawrth, ac y danfonir hi 1*5 holl ddosbarthwyr brydnawn yr as dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonam hysbysiadau neu newyddion urgent ofalu eu bod yn cyrhaedd y swyddl* heb fod yn ddiweddarach na borf Mawrth. Carem gael bob gohebiaei* arall mor gynar ag sydd bosibl. Anfoner pob gohebiaeth a phob tn. fodaeth yn dal perthynas a'r "Dariaun i'r cyfeiriad a ganlyn YN UNIG SWYDDFA'R M DARIAN," ABERDAR. 8119TEODFODAU DYFODOL. Sadwrn, Chwef. 28, 1914.-Eisteddfod Gadeiriol Cymmer, Porth. Sadwrn, Mawrth 14, 1914.-Eis- tedd Neuadd Gyhoeddus, Cwm- aman, Aberdar. Mawrthgwyn Mehefin 2, 1914.— Eisteddfod Fforestfach. Mawrth-Gwyn, 1914. Eisteddfod Fforestfach. Dydd Sadwrn, Mehefin 20, 1914.— Eisteddfod Gadeiriol Pontardawe. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllen- wyr gael y Darian oddiwrrh ddoBbarth- wr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lie. yr wythnos, 6ch. am fis, 177i y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post.
[No title]
SYLWER: Anfoner Llyfrau, &c., i'w hadolygu i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," a gofelir am wyr cymwys i roddi barn arnynt. Ni chyhoeddir adolygiadau o hyn allan, oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolyg- iad.
Nodladau r Golygydd.-
Nodladau r Golygydd. Arwydd dda yw fod Esgob Tyddewi wedi gadael Dad-waddoliad ac yn dech- reu siarad ar Ddad-gysylltiad. Mae'n wir mai protestio yn erbyn y Mesur sydd ar ddod yn ddeddf yw ei amcan, ond credwn y gwna'i areithiau fwy dros y Mesur na dim sydd wedi ei ddweyd hyd yn hyn. Cydnabyddai ym Mheny- Jbont yr wythnos ddiweddaf nad yw y berthynas rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth yr hyn ddylai fod. Crefa am gynhorthwy gwerin Cymru a Lloegr i diwygio'r berthynas hon yn hytrach na'u diddymu. Cred fod barn y cy- hoedd yng Nghymru, yn enwedig yn y parthau agweithf aol, yn symud yn gyflym i hawlio gofal y Wladwriaeth yn holl gylchoedd bywyd. Rhoddai hyn, meddai ef, arwyddocad chwithig i fyr- dra golwg Cyngor yr Eglwysi Rhyddion pan yn mabwysiadu'r cri nad oes gan y wladwriaeth fel gwladwriaeth ddim i wneud a chrefydd, ac fod gwrthod cyd- nabyddiaeth genedlaethol i grefydd yn groes i undeb organaidd eyiudelthas-- undeb sydd yn syniad sylfaenol i werin sydd yn symud rhagddi. Cymysgu pethau yn druenus wna'r Esgob, ac y mae yn hawdd i ddyn cyffredin weled y cymysgwch. Nid yw hawl y gweithwyr i ofal y Llywodraeth mewn cylchoedd eraill yn profi y dy- lasai y Wladwriaeth ymyrraeth a chref- ydd y bobl. Y mae crefydd a budd- iannau tymhorol mewn dau fyd hollol wahanol, ond hwyrach mai anodd yw i Esgob ddeall hynny. Y mae ei gred yn yr angen am gysylltiad rhwng Gwladwr- iaeth a chrefydd yn ei ddallu. Anodd. ac nid mewn gwawd yr ydym yn dweyd hynny, yw i ni gredu yn niddymiad yr hyn sydd yn fantais ac yn elw tymhorol i ni. Y mae gwaith dwylaw a diogel- wch bywyd y gweithiwr yn bwysig i'r Wladwriaeth. Rhaid i'r Wladwriaeth wrtho ef, a mantais i'r Wladwriaeth yw gofalu am ei les. Y mae efe yn gyfrifol i'r Wladwriaeth, a mater o degwch yw i'r Wladwriaeth ofalu am dano yntau. Peth arall yw crefydd y gweithiwr a chrefydd pob dyn o ran hynny. Mater i farn rydd a chydwybod y dyn ei hun yw hon. Duw yn unig fedd arglwydd- iaeth ar gydwybod, a'r smotiau duaf. hagraf ar hanes gwladwriaethau yw eu hymyriadau a chrefydd y bobl. t Gallem feddwl ei fod yn ddigon eglur oddiwrth hanes, profiad, a natur ys- brydol crefydd, nad yw gwladwriaeth fel gwladwriaeth yn gymwys i ddarpar nac i ymyrraeth mewn pethau y rhaid iddynt fod yn faterion cydwybod rhwng dyn a'i Dduw. Yh wir, nid yw'r Wlad- wriaeth oreu y gwyddis am dani hyd yn hyn, wedi dangos llawer o ddeheiirwydd i ofalu am fuddiannau'r bobl fel dinas- yddion. Buddiannau dosbarthiadau, a'r rhai hynny y dosbarthiadau sydd a lleiaf o angen ymgeledd a gofal sydd hyd yn hyn wedi cael mwvaf o ffafr gwladwriaethau. Sylwer ar y slums gorlawn ar un Haw ac anghyfanedd-. dra'r tir ar y llaw arall yn y wlad hon, a phwy a ddywed fod y Wladwriaeth a ganiataodd i bethau fynd i'r cyflwr hwn yn meddu ar rith o gymhwysder i lyw- odraeth crefydd gwlad. Y mae gan grefydd waith mawr ar y Wla.dwriaeth, i'w lefeinio ag ysbryd crefydd a'r rhwystr pennaf ar ffordd crefydd yw fod Gwladwriaeth sydd a'i ffrwythau mor am heus yn gweithredu vn enw cref- ydd. Cam pwysig tuag ymlaen yw fod Es- gob yn cydnabod fod rhywbeth allan o le ym mherthynas yr Eglwys a'r Wlad- wriaeth ac yn galw am welliant. Yr unig welliant gwirioneddol sydd yn bosi.bl yw torri'r cysylltiad a rhoddi yr eglwysi yn rhyddion i weithio allan eu hiachawdwriaeth eu hunain. Ofer yw ceisio gwella yr hyn sydd yn ddrwg yn ei natur. Crefydd rydd yn unig all fod yn grefydd wirioneddol
Caerdydd. I
Caerdydd. I Cyngerdd Cor Byddin Glas. Xos Fercher diweddaf, yn Neuadd y Pare, rhoddodd y cor hwn ddatganiad ardderchog o'r oratorio, King Olaf (gan Syr Edward Elgar) dan arwein- yddiaeth Mr. Jenkin Morris, yr hwn a gynorthwywyd gan gerddorfa lawn, dan arweinyddiaeth Mr Arthur Angle. Dat- ganwyd yr unawdau a'r deuawdau gan Miss Sybil Vane, Llundain; Mr. John Roberts, Llundain, a Mr. David Brazell. Yr oedd y sylw neillduol a'r gwrandaw- iad astud a roddwyd i'r datganiad yn dangos fod y cor a'r prif gantorion yn gwneud cyfiawnder a'r gwaith. Yr oedd chwareu y gerddorfa o nodwedd nas clywir yn ami mewn cyngherddau o'r fath. Y mae y cor a'i harweinydd i'w llongyfarch ar y datganiad, ac yn wir am eu hymdrech bron bob nos Sadwrn yn y Cory Hall i ddenu dinas- wyr Caerdydd oddiar y. strydoedd a'r tafarndai. Wedi gorphen datganiad o'r oratorio cafwyd caneuon amrywiaeth- I ol gan y prif gantorion. I ni rhyfeddol oedd llais Miss Sybil Vane, neu fel yr adnabyddir hi genym ni, Miss Lizzie Jenkins, merch Mr. Jenkins (bachgen o Ferthyr) sydd yn offervnwr yn swydd- fa y Western Mail. Yn ystod y gyngerdd amrywiol datganwyd gan y cor gorawd "Sandalphon" gyfansodd- wyd gan Mr Jenkin Morris, yr arwein- ydd, ac a gyflwynwyd i'r cor. Yr oedd y datganiad yn ardderchog yn mhojb ystyr. ac yn dangos medr cerddorol. Cafodd Mr Morris roesawiad neillduol I o gynes gan y dyrfa ar derfyniad y cor- awd. I Cymdeithas y Cymrodorion. I Nos Wener diweddaf anerchodd Syr I Edward Anwyl nifer lluosog o aelodau Cymdeithas y Cymrodorion Caerdydd, yn Neuadd y Crynwyr, ar Hynafiaeih- au Morganwg." Llywyddwyd ar yr achlysur gan Mr. Lewis Morgan. Dy- wedodd Syr Edward fod Morganwg wedi dangos addewidion mawrion yn y byd masnachol a llafurawl, ac yn cy- meryd y lie amlycaf yn mywyd y Dywys- ogaeth. Yr oedd y sir yn ogystal yu wir nodedig am ei llenyddiaeth, ac yr oedd yn edrych yn mlaen at ymddang- osiad cyfrol o eiddo y Comissiwn Bren- inol ar Goffadwriaethau Hen." Dy- wedai fod trigolion yn y sir ar ddiwedd y cyfnod meini. Aeth o dymor i dymor hyd at y cyfnod Normanaidd, a rhodd- odd amryw enghreifftiau o adgofion am y tymorau hyn. Llongyfarchwyd Syr Edward ar ei apwyntiad diweddaf gan y cadeirydd, a chyflwynwyd iddo ddiolch y cyfarfod am ei anerchiad gan y Proffeswr Emrys Roberts, yr hwn a eiliwyd gan Canon Lewis, Llandaf. Pasiwyd pleidlais o ddiolch i'r cadeir- ydd am lywyddu. Yna pasiwyd pleid- lais o gydymdeimlad a theulu y di- weddar Syr John Duncan, un o berchen- ogion y South Wales Daily News, ar eu colled. Collodd dinas Caerdydd ynddo ef un o'r trigolion mwyaf anrhydeddus a gweithgar.
i Mynydd Elim, Pontardawe.!
Mynydd Elim, Pontardawe. Sefydlu Gweinidog. Dydd Iau, Ionawr 24, sefydlwyd y Parch. T. E. Water yn weinidog ar yr eglwys uehod. Am ddau o'r gloch daethai nifer fawr o weinidogion ac eraill i roesawu'r gweinidog newydd. Llywyddodd y Parch. T. Foster Roberts, ( cyn-weinidog yr eglwys.. Darllenwyd j llythyrrau oddiwrth nifer o frodyr yn i datgan el gofid nas gallent fod yn bresennol. Yn ei anerchiad arweiniol anogai'r llywydd yr eglwys i roddi pob cynorthwy a hwylusdod posibl i'r gweinidog newydd i gyflawnu ei waith fel cennad Dunw. Y Parch. B. Lewis, Llangyfelach, a'u hadgofiai fod gwran- dawiad siriol yn gynhorthwy mawr i bregethu. Nid oedd siap ar ambell un yn gwrando. Rhybuddiai hwynt hefyd rhag bod yn gybyddlyd yn eu gweddiau ar ei ran. Ar ran yr eglwys yn y lie croesawyd Mr. Waters gan y brawd Henry Jones, a dywedai fod yr alwad yn hollol unfrydol. Y Parch. Mr. Rees, Gellionnen, oedd yn cynrychioli eglwys hynaf yr Anghydffurfwyr yn y cylch, a daethai yno i longyfarch yr eglwys ieu- engaf ar sefydliad Mr. Waters yn weinidog arni. Wfftiai ef y syniad fod baich o ddyled yn lies i eglwys. Syniad rhyfedd am waith eglwys oedd y bod- olai i glirio dyledion. Efengyleiddio. oedd y gwir waith, ac nis gellid ei wneud yn effeithiol heb weinidog. Ad- waenai y Parch. D. Price,, ),.bertawe, Mr. Waters yn dda, a theimlai yn sicr oni lwyddai ym Mhontardawe mai ar yr eglwys y byddai y bai. Y Parch. D. James, Seion, a ofidiai fod mwy o bar- odrwydd i wario ar bob rhialtwch nag i gyfrannu at achos crefydd. Dylasai yr eglwysi, meddai ef, amddiffyn eu gwein- idogion rhag y traws-arglwyddi berant flinder mor ami. Ni ddylasai gweinid- ogion fod yn wasaidd i'r rhai hyn. Gwell oedd methu llwyddo na llwyddo yn anheilwng. Y Parch. Jones, M. C., a longyfarchai yr eglwys ar ran y Methodistiaid. Mantais iddynt hwy fyddai gweled y Bedyddwyr a phob en- wad arall yn llwyddiannus. Nid oedd yn edmygu ysbryd y dyn achwynai ei fod yn mat iawn yn ei eglwys ef ond a lawenychai wrth feddwl, fod eglwysi erill yr un mor farw. Aelodau yn unig fedrent ladd eglwys, fel y mae aelod- au ambell glwb yn angeu iddo. Ni hoffai Dr. Gomer Lewis son am eglwysi bychain. Gallai eglwys a gyfrifid vn fechan fod yn eglwys fwy nag a dybiem ac eglwys fawr yn llai. Nid nifer wnai eglwys yn fawr ond ysbryd Duw yn preswylio ynddi; yr oedd eglwys felly yn fawr a chref gan nad beth fyddai ei nifer. Dygodd y Parch. Jones, Gar- nant, eto dystiolaeth uchel i Mr. Waters fel dyn a phregethwr. Yr oedd yn ddyn o argyhoeddiad. Y na cafodd yr ysgrifenydd y pleser o roesawu hen gymydog iddo mewn cylch arall i fod yn gymydog eto mewn cylch newydd. Y Parch. T. Thomas, Glandwr, a synnai at rai pobl yn tynnu eu hetiau yn was- aidd i offeiriad na feddylient am dalu'r un warogaeth i'w gweinidog eu hunain. Nid oedd ganddo wrthwynebiad i dynnu hetiau, ond nid oedd yn caru gweled hynny yn arddangosiad o waseidd-dra. Gwyddai y Parch. Williams, Phila- delphia, yn dda am Mr. Waters, fod ynddo ddefnyddiau eyfaill a brawd. Y Parch. E. R. Evans, Adulam, a obeith- iai nad elai Mount Elim ,byth yn Mount Etna. Anogai hwynt i feddwl am an- rhydedd yr enwad. Nid oedd yn caru clywed achwyn ar y saint byth ac hefyd. Yr oedd ef yn weinidog yn yr un eglwys er's 26 o flynyddoedd, a'i uchelgais ef oedd ceisio cynnal urddas cymeriad yr eglwys. Cydnabyddodd Mr. Waters y groes- aw a estynid iddo mewn geiriau cym- wys. Yn yr hwyr pregethodd y Parchn. Dr. Gomer Lewis a Fred Morgan, Treforis, ac yr oedd y ddau ar eu huchelfannau. Llongyfarchwn eto Mr. Waters a'r eglwys ar eu huniad. Y mae efe i'w edmygu fel un sydd wedi profi ei hun yn barod i ddioddef dros yr Efengyl a bregetha. Yr oedd amryw eraill o weinidogion a chyfeillion i Mr Waters yn y cyfarfodydd nas cawsom eu hen- wau. J.T.J.
I Bwrdd y Golygydd.
I Bwrdd y Golygydd. Calfin.—Nis gallwn gyhoeddi eich ys- grif heb i chwi ymddiried i ni eich enw prodol. Dylasech wybod am y rheol hon. Gwnewch hyn a cha ym- ddangos. Didymus.—Daliwch chwithau sylw ar y ddeddf ynglyn a chyhoeddi adolyg- iadau. Copi gyda'r adolygiad os gwel- weh fod yn dda, a chyhoeddir ef gyda phleser er mwyn yr awdwr. Cyfaill a J. Hughes. Anfonwyd yr eiddoch i Frynfab. Mewn Llaw.—Trefforest a'r Cylh; Gohebiaeth o Awstralia, Taith i Lydaw, Atebiad Aronfa Griffiths i Brynfab, Enwadaeth ei Drwg a'i Da, Dafydd Thomas gan Josiah Jenkins, Ynadon Newydd Abertawe, Penderyn, At Arthur Llwyd a'i Barti gan J.E., a Gas Taibach.
I Dydd Gwyl Dewi.
I Dydd Gwyl Dewi. I3ATHLIAD YR YSGOLION DYDDIOL. Ceir darpariadau eang i ddathlu' Gwyl Dcwi yn yr ysgolion dyddiol, a'r Adarn Gymreig o'r Bwrdd Addysg yn rhoddi symbyliad nerthol i'r mudiad y flwyddyn hon. Gwasgerir pamphledyir drwy holl gynghorau Cymru i hyr- wyddo y gwaith, a chanfyddir fod y dadebriad cenedlaethol yn gafaelyd yn rymusach yn mywyd y dywysog- aeth. Mae nifer o ysgolion Aberdar yn parotoi i roddi perfformiad o ddrama newydd, "Dewi Sant," gan' Mr J. Davies, "attendance officer," Aberdar—gwr adnabyddus i ddarllen- wyr y "Darian," yn llawn dyddordeb' dros ddyrchafu y werin Gymreig. Mae dod a'r ddrama i'r ysgolion yn amserol iawn, ac yn gallu cyfleu gwersi addysg a gwladgarwch ar yr un ergyd. Dyma ymdrech sydd yn haeddu cefnogaeth, oherwydd*gwerth- ir y ddrama am bris mor isel-dwy geiniog-rhy brin i ddigolledi. Wele yr ymgais gyntaf i gael Dewi Sant i fyvv ar ddydd Gwyl Dewi i ysgolion Cymru.
1.--Y DIWYGIWR.'
1.- Y DIWYGIWR. A dawn enaid enynol,—a'i hwyliau'n Llawn moliant angerddol, Diwygiwr, gwr brwdgarol I'n harwain at Ner yn ol. W. BASSETT. 0