Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

Nodladau r Golygydd.-

Caerdydd. I

i Mynydd Elim, Pontardawe.!

I Bwrdd y Golygydd.

I Dydd Gwyl Dewi.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Dydd Gwyl Dewi. I3ATHLIAD YR YSGOLION DYDDIOL. Ceir darpariadau eang i ddathlu' Gwyl Dcwi yn yr ysgolion dyddiol, a'r Adarn Gymreig o'r Bwrdd Addysg yn rhoddi symbyliad nerthol i'r mudiad y flwyddyn hon. Gwasgerir pamphledyir drwy holl gynghorau Cymru i hyr- wyddo y gwaith, a chanfyddir fod y dadebriad cenedlaethol yn gafaelyd yn rymusach yn mywyd y dywysog- aeth. Mae nifer o ysgolion Aberdar yn parotoi i roddi perfformiad o ddrama newydd, "Dewi Sant," gan' Mr J. Davies, "attendance officer," Aberdar—gwr adnabyddus i ddarllen- wyr y "Darian," yn llawn dyddordeb' dros ddyrchafu y werin Gymreig. Mae dod a'r ddrama i'r ysgolion yn amserol iawn, ac yn gallu cyfleu gwersi addysg a gwladgarwch ar yr un ergyd. Dyma ymdrech sydd yn haeddu cefnogaeth, oherwydd*gwerth- ir y ddrama am bris mor isel-dwy geiniog-rhy brin i ddigolledi. Wele yr ymgais gyntaf i gael Dewi Sant i fyvv ar ddydd Gwyl Dewi i ysgolion Cymru.

1.--Y DIWYGIWR.'