Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

0 Deifi i'r Mor. I

I r=====a=r Oddiar Lechweddau…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I r=====a=r Oddiar Lechweddau Caerfyrddin. Ar fy hynt yr wythnos clywais fod gwyr y Meinciau yn ymroi ati i gynal Eisteddfod y Groglith nesaf eto. Ychydig wyr y ffordd i gynnal Eis- teddfod fel Moriah, Meinciau. Y maent cyn yma wedi gallu gwneud cymaint a 68o o elw clir. Pa ryfedd gan mai gwron mewn llawer cylch yw y gweinidog, y Parch M. T. Rees. Sibryddir fod Eisteddfod o fri i fod yn Bethel, Tumble, hefyd, ond heb weld na chlywed dim o'r manylion. Y mae'r ysbryd cystadleuol yn gryf iawn ar y llechweddau hyn. "Eisteddfod dan ddala." Dyna derm glywais,am Eisteddfod dro yn ol. Os y bydd i'r gwr o'r Hendre ddigwydd darllen hyn o linellau, hwyrach y cawn eglurhad arno ganddo ef. Symud o Gastell Emlyn i Bont Henry fydd hanes y Parch. Symlog Morgan, Castellnewydd Emlyn, gan ei fod wedi derbyn gal wad i fugeilio Eglwys Pont Henry, yn olynydd i'r diweddar Owen John. Deued y bardd- bregethwr i ddyffryn y Wendraeth gyda'r gog, gan ei bod yn oer iawn ar y llechweddau hyn yn y gauaf. Bu cyfarfod dirwestol brwd yn Mhontyeates nos Iau diweddaf. Yr oedd Syr Stafford Howard ac amrvw ereill yn cymeryd rhan. Yr oedd y lie yn orlawn. Claddwyd hen veteran yn Reheboth, Pump Heol, dydd Llun diweddaf-Mr Francis, Cynheidre. Yr oedd yn 82 oed; yn hynod o barchus. Yr oedd fel dyn ieuanc wrth yr aradr hyd y diwedd. Gwasanaethodd Parchn. Mr Hughes, Reheboth, a Myfyr Hefin vn yr angladd. Methais droi i mewn i Gymdeithas Horeb, Pump Heol, nos Fercher. Clywais er hyny i ddwy o'r chwiorvdd ieuanc, Miss Hannah Richards, Myrtle Troed Sylen (un o ddisgyn- yddion Eryr Glan Lliedi) a Miss Lizzie Griffiths, Llebach (un o ddisgynyddion Mr Jeremiah Griffiths, yr hen bro- phwyd) ddarllen papyrau rhagorol iawn, ac i Willie Leonard lywyddu y gymdeithas yn ddeheuig, yn ab- senoldeb y gweinidog, yr hwn a "rwystrwyd i fod yno gan afiechyd. Yr oedd Mrs Phillip Snowden yn Llanelly am noson neu ddwy yr wyth- nos ddiweddaf, ac y mae yn debyg ei bod wedi cyfareddu tref yr alcanwyr a'i hyawdledd ysgubol. MYRDDIN MIX Y MOR.

Briton Ferry.

I I I Ein Cyfeillion ynMertbyr.1

Ar Lannau'r Tawe. I

Nodion Min y Ffordd. I

I Llwynbrwydrau. I

Eisteddfod Gadeiriol Minny…

ARGRAFFWAITH. I

Advertising