Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

0 Deifi i'r Mor. I

I r=====a=r Oddiar Lechweddau…

Briton Ferry.

I I I Ein Cyfeillion ynMertbyr.1

Ar Lannau'r Tawe. I

Nodion Min y Ffordd. I

I Llwynbrwydrau. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Llwynbrwydrau. I Nos Fercher, y 14eg cyfisol, cafwyd I cyfarfod o dan nawdd Cymdeithas Ddi- wylliadol y lie, yn Festri Ebenezer, C.M. Cawsom y fraint o groesawu l'n plith am y tro cyntaf y Cymro aiddgar y Parch. J. Tywi Jones, Glais, golyg- ydd newydd y "Darian." Testyn ei annerchiad ydoedd, Addysg a Diwyll- iant Gwerinol." Yr ydoedd hir ddis- gwyliad am yr annerchiad hwn, ac ni siomwyd neb. Hynod ddiddorol yd- oedd ei gyfeiriadau at y cyfarfodydd gawsid er's lawer dydd yn efail y gof a siop y crydd. Ac awgrymai y dylasai iaith yr ysgol fod yr un a iaith yr ael wyd, er mwyn i'r plant gael gwell chwareu teg i ddeall yr hyn ddysgir iddynt. Cynygiwyd pleidlais o ddiolch- garwch i'r darlithydd gan Mr. A. H. Thomas (Crymlyn), ac eiliwyd gan yr Henadur Jordan. Cefnogwyd hefyd gan Mr Henry Lewis, M.A. (Oxon), Clydach. Llanwyd y gadair gan y Parch. T. Cyfelach Lewis. Nos Fercher diweddaf, yr 21ain, caf- wyd cyfarfod amrywiaethol yn Festri Ebenezer, C.M. Trefnwyd y rhaglen rhagorol a ganlyn gan Miss Maggie Williams a Miss Rachel Lewis :—Un- awd ar y berdoneg, Mary Jones; can, Win. Henry Evans; adroddiad, Ethel Francis can, Miss Beatrice Adams adroddiad, Mr Thomas Hughes; deu- awd, Misses Beatrice Owens a Maggie Williams; adroddiad, Mr D. M. Phil- lips can, Mr Arthur Phillips; adrodd- iad, Mr John Hughes; can, Miss Jane Roberts c&nu penillion, John Thomas deuawd ar y flutes, Mri. Arthur Owens a T. James Jones. Y cadeirydd ydoedd y Parch. T. C. Lewis. GOLWG-Y-MOR.

Eisteddfod Gadeiriol Minny…

ARGRAFFWAITH. I

Advertising