Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT. I I -I

Byr Hanes.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Byr Hanes. AM MRS. MARY RICHAKDS, EBENEZER, ABERDAR. (Parhad.) Yn blentyn llafur y'i magwyd hi. Daeth yn gynhefin a chaledwalth yn gynar. Ychwanegu cufydd at ei j maint, ei nerth, a'i harddwch oedd ei nod gyda'i gorchwyl. Wedi ymostwng mor ufudd i ddeddfau mor fuddiol, gallesid disgwyl na ddaethai i wybod nemawr oddiwrth ddyfod ocrni na gwrcs nes i henaint a llesgedd ei gorddiwes. Ond gresyn meddwl cyn :amled y gorfu iddi orwedd ar wely cystudd. Gallasai hithau fynegu am ei blinderau helaethach," a'i "gwialen- nodau dros fesur"; "mewn caethiwed yn amlach "mewn marwolaethau yn lynych mewn llafur a lludded; poen a helbul yn fwy na neb. Pan yn 18 oed syrthiodd o ben y ty dros risiau'r ysgol, a bu ei heinioes mewn perygl j am ysbaid hir ar ol y ddamwain honno. Buasai wedi profi yn angeu i rai o gyrff eiddilach. Bu yn gorwedd yn ei gwely ac ymlusgo a'r ffyn am yn agos i bedair blynedd cyn y daeth i roi pwys ei throed a'i cham ar lawr. Bu bum gwaith dan law feddygaeth (oper- ation). Bu ddwy waith yn nghlafdai Llundain. Pwy broffwydai wrth ci, gweld yn laethferch wridgoch yn cario ystenau yn ei dwylaw o dy i dy yn Nhwvn-y-Carno fod cymaint o dristwch a chystudd yn ei haros. Mynasai godi allor o dan gyllell ei meddyg, a chanu emyn cyn cau ei llygaid. Heblaw cyfraniad y storm j a'r ddrycin ar lechweddau'r Gnol i harddu ei gwedd ac i ychwanegu ei ncrtfi. Y mynyddoedd safadwy oedd yn gysgod i'w hanedd, ddysgodd iddi ei gwroldeb disigl. Faint o egwyddor- ion moesol fynegodd y bryniau di- gryn i'w meddwl myfyrgar? Yn ngwyddfod y creigiau daneddog y fflachiodd y drychfeddwl am cfdewrdra disyfl yn ei chalon. Y pistyll darddai dan gesail y twyni fu ei drych i gan- fod ac i ddeall diwydrwydd. Deuai craill a'u hystenau i dynnu dwfr, ond deuai hi i dynnu gwers. Nid oedd swn alaw'r gornant redai dan ganu gydag ochrau'r gweunydd namyn dameg ar farddoniaeth Duw iddi hi. Tynnai wers o dlysni'r grug, a chan- fyddai adnod ar fon y ddcrwen. Y derw a'r creigiau oedd ei hathrawon, a chyfranodd yr hen athrofa oesol rhwng clogwynni'r Gnol ddoethineb rhwng c l o diwyrni i'w meddwl a'i chalon, a'r dylanwadau hynny ag oedd gan ei chylchfyd arni i fesur, a'i gwnaeth o ran ei meddwl, ei bywyd, a'i chymer- iad mor gryf, prydferth, a rhagorol. Ond- ANN PHILLIPS, yr hon roddodd fronau iddi i'w sugno a chynghorion gwerthfawrusach nag aur i'w maethu fu'r dylanwad mwyaf jar ei bywyd. Crefydd syml a selog ei mam oedd y rhamant dlysaf welodd erioed yn y cnawd. *Cedvrn oedd yn preswylio yn Nhwyn-y-Carno yr am- ser hwnnw. Hoelion wyth oedd y rhai esgynodd i bwpud ac a fugeiliodd y praidd yn Ebenezer y dyddiau hynny, ac nid y lleiaf o honynt oedd ei thad a thadcu ein gwrthddrych, sef y seraph bregethwr John Bowen, Pontypool (fel y'i gelwir). Cedrwydd Mynydd I)uw oedd y blaenoriaid hcf yd y dwthwn hwnnw, fel nad rhyfedd i Ann Phillips dyfu mor dal mewn ffydd a duwioldeb. Ni chawsai gwyll yr hirnos arwaf ei lluddiais i gario ei Mary yn ei breichiau i'r cyfarfod gweddi. Cawsai'r eira orchuddio ei dillad, a'r rhew wisgo'r llethrau ag ia, a'r cenllysg guro ei gwyneb nes ei gochi fel porphor cyn y rhoddai Ann Phillips anair i'r seiat. Ccrddodd lawer yn llewyrch y lantarn ganwyll o'r Gnol i'r capel a'i phlentyn yn ei chol. Hen addoldy'r Piwritaniaid oedd Ebenezer, Twyn-y-Carno, yn y blynyddoedd hynny, ac crys yn "Babcll y Cyfarfod" i'r Methodistiaid eto, ac yno yr esgyn ei gwenvlyth gyda'r llwythau i addoli hyd y dydd hwn. Parthed ei hallor a'i than nid oedd Ann Phillips o'r Gnol yn ol i eiddo Nansy Jones Crugybar, a serch i lawer blinfyd grocsi ei haelwyd glyd yn fynych, ac i drybestod i fygwth chwalu carnedd ei hallor, cadwodd ei than i losgi. Ni wehvyd hi crioed heb fod ei llaw ar aradr yr achos, a'i hys- gwydd yn dyn o dan yr arch. Ni chafodd pregethwr crioed ddisgyn o'i areithfa gan Ann Phillips heb ei bod wedi mwydo ei bregeth a'i "Hamen" a'i "Diolch Iddo." Coronodd lawer ar ei Gwaredwr yn nghyntcddoedd yr Arglwydd, ac vr oedd hyd yn oed praidd a gwartheg y Gnol yn gwybod am ei chrefydd. Er i orthrymdcr ar orthrymder gerdded ar ol eu gilydd, ac aros weithiau ar garreg ei haelwyd, ni pheidiodd a dilyn y golotn ac i gadw llechau'r cyfamod mam felly; gafodd Mrs Mary Richards i'w magu a'i meithrin ac i'w hyfforddi yn ewvllys a gwybodaeth yr Arglwydd. Ceir golwg arni nesaf yn symud— (I barhau.) *Gwel cyfrol J. S. Jones (Bran Ap Llyr), tud. 114.

Advertising

- - -..-.- -.-Cymanfa Bedyddwyr…

I Glais. ! 1

Oddiar Lechwedd Penrhys.

Advertising