Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT. I I -I

Byr Hanes.

Advertising

- - -..-.- -.-Cymanfa Bedyddwyr…

I Glais. ! 1

Oddiar Lechwedd Penrhys.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddiar Lechwedd Penrhys. Mae llawer o bryder a dychryn wedi bod ar rai o drigolion yr ardal hon yn ddiweddar, drwy fod y "tip" sydd yn perthyn i Gwmni y Combine wedi gor- bwyso ar ddarn o'r mynydd, a hwnw wedi agor, ac mewn perygl o syrthio, a gwneud difrod ofnadwy. Y maent yn ochelgar iawn drwy gadw gwylwyr arno. Gwnaeth peth o'r fath yma ddifrod mawr yn y Pentre Rhondda flvnvddau vn ol. » Mae cwyno mawr gan rai yn yr ardal hon a manau ereill o herwydd gwerthiant newyddiaduron Llundeinig ar y Sabbath. Credwn na fyddai o un niwed pe gellid rhoddi atalfa ar hyn. Tybia rhai fod y Gymraeg yn dad- feilio; na, y mae ein hiaith mor bur a chadarn yn awr ag y bu erioed. Yr ymarferiad o honi sydd ar adfail. Dylid siarad mwy o Gymraeg ar ein haelwydvdd. Gofynwyd i Napolean beth oedd yn angenrheidiol er cael byddin gref yn Ffrainc. Atebodd yn- tau, "Mamau." Eisieu mamau sydd yng Nghymru hefyd i ddysgu mwy o Gymraeg i'r plant, a dylai pob Cymro hefyd wneud ei oreu i eangu cylch- rediad y newyddiaduron Cymreig. Yr ydym yn ddiolchgar i rai o'r ysgolion dyddiol am eu hymdrech yn y cyfeiriad hwn. Gellir enwi Ysgol Pontyrhondda. Ymarferir cryn dipyn o'r Gymraeg yn yr ysgol hon, a dylai ysgolfeistri ein gwlad ddilyn yr un eisampl. Mac yr haint a elwir y Frech Goch wedi creu gofid i lawer o'r trigolion yma yn dd:weddar, a llawer o blant yn dioddef yn drwm, a rhai yn cael eu symud i- "Hedd y bcdd sy'n newid byd, Y dioddef yn ddedwyddyd." WILLIAM BASSETT.

Advertising