Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y PLANT. Dan olygiaeth "Moelona. Yn fy ysgrif gyntaf i'r "Darian," rhoddais ofyniad ynghylch Goronwy Owen. Ni chefais air o atebiad o un- man. Gan iddo gael ei eni, fel y dywedais, yn lonor, trueni fyddai gadael i'r mis hwnnw fyned ymhell o'r golwg cyn cael rhyw son am dano. 'Rwy'n siwr eich bod chwi-blant y safonau uchaf yn yr ysgolion—yn gwybod rhywbeth am Shakespeare a Milton, a Wordsworth a Tennyson, a 11 u ereill o feirdd Seisnig. Diau gennyf eich bod yn hen gyfarwydd a Thomas Moore a Robert Burns, v naill o'r Iwerddon, a'r Hall o'r Ysgotland. Hwyrach y gwyr rhai o honoch am fardd o'r Persia bell, ac am y bardd enwog di"'eddaraf-o'r India. A oes rhywun yn son wrthych weithiau am feirdd eich gwlad eich hunain ? A wyddoch fod beirdd wedi ac yn bod yng ghymrl1 ? Un o feirdd mwyaf Cymru oedd Goronwy Owen. Bu fyw o 1723 i 1769. Un o blant Sir Fon oedd, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ymhell o'i hoff sir—yng Nghroesoswallt, yn Walton, yn Llundain, a gorffennodd ei yrfa yn yr America bell. Xi wyr neb yn iawn ddyddiad ei farwolaeth, ac nid oes neb yn sicr pa le y mae "man fechan ei fedd." Er iddo fyw felly ymhell o Gymru, lie na chlywai air o Gymraeg, ni threiodd droi'n Sais. Yn hytrach, efe oedd Cymro pennaf ei oes. Ysgrif- ennodd lythyrau gwych a barddon- iaeth gain fu ac sydd yn help i gadw ein hiaith yn fyw. Ca ei weithiau eu darllen tra pery Cymro a Chymraeg. Nid i blant yr ysgrifennodd. Ych- ydig o'i waith fedrech yn awr ei ddeall a'i fwynhau. Ond pan dyfoch yn vsgolheigion, bydd melus gennych ddarllen Goronwy Owen. Wele i chwi ddarn bach, bach o'i "Hiraeth am Fon :— "Pell wyf o wlad fy nhadau, Och son ac o Fon gu fau, Y lie bum yn gware gynt Mae dynion na'm hadwaenynt; Cyfaill neu ddau a'm cofiant Prin ddau, lle'r oedd gynnau gant. A dyma ddarn bach arall o'i "Awdl y Gofuned "Dychwel i'r wlad lie bu fy nhadau, Bwrw enwog oes, heb ry nag eisieu, Ym Mon araul; a man oran-yw hon Llawen ei dynion, a llawn doniau." "Mae"n pert i'r llinèllau uchod." Darllenwch hwy nes eu cofio. Cystadleuaeth Rhif 2. a. Rhoddir unrhyw lyfr neu lyfrau, heb fod dros swilt o bris, i'r neb dan 16 oed a ysgrifenno oreu hanes byr o fywyd unrhyw fardd mawr Cymreig, gydag ychydig esiamplau o'i waith. (Ar gynllun yr hanes uchod am G. ■Owen). b. Rhoddir unrhyw lyfr neu lyfrau, heb fod dros chwecheiniog o bris, i'r neb dan 12 oed a ysgrifenno oreu enwau tri o feirdd mawr Cymru, gyda phedair llinell o waith un o honynt. Diau y bydd raid i'r cystadleuwyr dan 16 gael help llyfr, ond wedi ei .ddarllen ysgrifennwch yr hanes yn eich geiriau eich hun. Mae rhyddid i'r ,plant dan 12 hefyd holi'r sawl fynnant, ond rhaid iddynt wneud y gwaith eu ',hunain. Rhoddir y wobr am y o-Waith glanaf a chywirai. Ca'r goreuon ymddangos. Os bydd yr ail oreu yn weddol dda, ca'r anrhyd- edd o ymddangos, gydag enw'r vdwr. Sylwch ar y rheolau I. Rhoddweh eich enw, eich oed, a ch cyfeiriad. '??'?? gan ? cvstadleuwvr ,Clan 16 fwY nag a gerdvn rlinTftfwy nag a eilir rol ar ger dvn gedy 4. Rhodded pob un enw'r llyfr gar- 1 b ai gael yn wo b r. 5. Cyfeirier i Golofn y PHnt' Swyddfa'r Darian, Aberdar. 6. Gyrrer ar Chwefror icfed, neu cyn hynny.

O'r Wy i'r Dywi.

Undeb y Cymdeithasau Cymraeg.

Cymrodorion Abertawe aI Chynddelw.

Advertising