Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Abertawe: Yr Ynadon Newydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Abertawe: Yr Ynadon Newydd. Dydd Mawrth, lonawr 20, cyhoedd- wyd rhestr o'r Ynadon sydd newydd eu penodi i eistedd ar "Fainc" Bwrdeisdref Aberdare. Eu rhif ydyw chwech ar hugain, a lion ydyw gweled fod nifer o honynt yn Gymry blaenllaw gyda phob symudiad da. a dyrehafol yn y dref. Hefyd, y mae nifer o honynt yn genedl- garwyr pybyr, ac yn ffyddlon i bob mud- iad Cymraeg yn ein mysg, ac yn is-lyw- yddion Cymdeithas Cymrodorion Aber- tawe. Enwir y rhai hyn yn unig rhag digio y Gol., a chael ein cyhuddo o fyned a gormod o ofod y Darian. Henadur Ben Jones: Wrth gwrs, Benjamin Jones ydyw ei lawn enw, ond pe baech yn cyfeirio ato wrth gyfaill fel hynny, gofynai am bwy y byddech yn son, ond wrth ddweyd Ben Jones yr ydych yn sicr o gael eich deall. Felly nid oes ond un 'Ben Jones' yn Aber- tawe. Un o fasnachwyr llwyddianus Abertawe ydyw, yn cario ei fasnach yn mlaen o dan "Nod yr Afr yn yr Heol Fawr. Masnach yn dal perthynas yn fwyaf neillduol a'r mor ac a morwyr, sef dillad a nwyddau morwyr. A dy- wedir ei fod yn gwybod mwy na nemawr un am y llongau a'r Cadben- iaid sydd wedi mynychu ein Porthladd yn ystod y 30 neu 40 mlynydd diweddaf. Mae yn Henadur dros Adran Treforis, yn Gadeirydd Pwyllgor Nwyddfa'r Cyngor, yn Flaenor o Eglwys enwog y Trinity, yn Gyn-Lywydd Cymrodorion Abertawe, ac yn bybyr, bybyr dros y Gymraeg, a'i nod ydyw cael aelodaeth Cymrodorion Abertawe yn fwy ei rhif na un Caerdydd. Y Cyngorwr David Griffiths: Cerddor, Gwleidyddwr, Dirwestwr selog, a mawr alw am dano i feirniadu mewn Eistedd- fodau. Gwelsom yn ddiweddar hanes fod cyfansoddiad cerddorol o'i eiddo wedi ei ganu yn yr India bell. Mae yn- tau yn Gymro a Chymrodor selog. Y Bonwr J. Lovat Owen: Storiwr pennaf Abertawe. Pan gyfyd ar ei draed i siarad mae pawb "yn glustiau i gyd," fel y dywedir, canys gwyddant fod stori ddifyr wrth law, ac ni siomir y dis- gwyliad. Y dirgelwch yw, pa le y ca y fath gynhauaf toreithiog ? Mae yn fon- eddwr llawn ei hyd, a hynny heb fod lawer yn fyr o chwech troedfedd. Un o'r dynion mwyaf hoff a phoblogaidd yn Abertawe ydyw, ac adweinir ef oreu wrth Lovat, neu Lovat Owen." Mae yn Gyn-Lywydd Cymrodorion Aber- tawe, yn Flaenor yn Eglwys Bedyddwyr Cymraeg Brynhyfryd. Bu am ddeng mlynedd yn aelod o'r hen Fwrdd Addysg," ac y mae galw mawr am dano yn nghyfarfodydd etholiadol y dref. Goruchwyliwr Meistri Glasbrook a'i Cyfeillion, marsiandwyr coed, a "phartner" yn y Cwmni, ac aelod ffydd- lon o'r Mabinogion. Y Bonwr Richard Lewis: Un o fas- nachwyr llwyddianus Abertawe yw yn- tau hefyd, ac yn foneddwr mwyn a char- edig yn fawr ei sel ym mhob mudiad cymdeithasol er lies a budd y dinaswyr. Cymer ddyddordeb mawr yn sefydliad y Y.M.C.A. Mae yn un o flaenoriaid Eglwys Gynulleidfaol Seisnig Walter's Road, lie bu yr enwog Thomas Jones yn weinidog. Cymro selog yw er hynny, ac is-lywydd anrhydeddus o'r Cymro- dorion. Y Cyngorwr Ivor Gwynne: Un o ar- weinwyr llafur yw ef, a newydd ddych- welyd o'r Amerig, lie bu yn cynrychioli Plaid Llafur yn Nghyngrair fa.wr Llafur. Mae wedi bod yn aelod o'r Cyngor Trefol er 1907. Efe ydyw Cadeirydd Pwyllgor Addysg, ac y mae yn aelod .blaenllaw yn eglwys adnabyddus Capel Gomer. Y Bonwr William Edwards: Un o brif fasnachwyr nwyddau cyffredinol gwrag- edd, etc., yn y dref. Sefydlwyd y Fas- nach ganddo ef a'i frawd dros 30ain mlynedd yn ol. Aelod o Eglwys Saes- neg M.C. Argyle, ac is-lywydd anrhyd- eddus o Gymrodorion Abertawe. Y Bonwr John Williams (Dulais House) Mab ydyw i'r bonedwr hysbys a Chymro ffyddlon, yr Henadur William Williams (Wern). Y mae yn Rheolwr (Director) mewn nifer o Ddiwydiannau Alcan a Dur y cylch, a Phrif-Rheolwr Gwaith Alcan Clayton. Mae ei gysyllt- iad a hwn yn redeg yn ol am 29ain mlyn- edd. Y mae yn Rhyddfrydwr brwd, ac yn Annibynwr o ran ei gredo crefyddol. Y mae wedi cymeryd ran flaenllaw gyda'r achos yn Eglwys Hen Siloh, Glandwr er pan gychwynwyd 30ain mlynedd yn ol. Y mae yntau yn is- lywydd anrhydeddus o Gymrodorion Abertawe. Y Cyngorwr David Mathews: Bu ef yn Fair Abertawe am ddwy flynedd yn olynol, 1909-'10-1910-'11, peth na chymer le yn fynych yma. Golyga felly -ei fod yn uchel ei barch a'i safle ym meddwl pobl y dref. Llog-fettelydd wrth ei alwedigaeth. Is-gadeirydd Pwyllgor A ddysg a chadeirydd Pwyllgor Cyffredinol a Ceneddol y Cyngor, etc. Rhyddfrydwr ac is-lywydd anrhydeddus ICymrodorion Abertawe.

Gohebiaethau.I

I Cymry Cymreig Abertridwr…

-Taith i Lydaw.

Advertising

IByr Hanes.|

Advertising

I Drama Gwyl Ddewi i'r PlantI

Advertising