Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

-,..".-----.- - - - _ _. -…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN AMAETHYDDOL GAX BRYXFAB." Basic Slag. Xid oedd y gwrtaith hwn yn adna- byddus pan oeddwn i yn hogyn. ond erbyn hyn mae niwy o ddefnyddio arno nag un gwrtaith celfyddol arall. Dichon fod y ffaith ei fod yn rhatach nag un arall yn cyfrif ei fod yn cael ei ddef- nyddio mor gyffredinol. Gwneir y gwr- taith hwn o sylwedd oedd yn cael ei daflu allan gyda rhwfel y gweithiau haiarn gynt. Ceir ef mewn tri grádd; yr un manaf yw y goreu, a hwnw, wrth gwrs, yw yr uchaf ei bris, ond nid yr un drutaf yn y pen draw. Pris yr un 0 r ansawdd goreu yw oddeutu £ 2 14s. y dynnell, wedi talu ei gludiad. Fe geir slag am t2 a llai na hynny, ond ni chynghorwn neb i brynu y cyfryw, am mai yr un uchaf ei bris sydd yn talu oreu am ei ddefnyddio. In o'r gwr- teithiau arafaf yn gwneud ei waith ydyw, a dyna yr achos fod y gwneuth- urwyr yn cyfarwyddo ei hau yn niwedd y flwyddyn-iddo gael digon o amser i dreiddio at bob gwreiddyn cyn dech- reu yr adfywiad yn y gwanwyn. Nis gwn am un gwrtaith celfyddydol tebyg iddo i gyfnewid a gwella ansawdd y gwair a'r borfa. Os heuir ef mewn pryd ceir gweled y meillion yn codi yn dew y gwanwyn canlynol, a hynny ar feusydd nad oedd eymaint ag un yn codi yn flaenorol. Y mae ynddo ryw- beth sydd yn gwneud y byrta yn fwy melus hefyd i'r anifail. Ym mhen yehydig fisoedd wecli ei hau. gwelir y defaid a'r gwariheg arno yn barhaus, ac nid oes un fferyllydd a'i cura hwy i brofi ansawdd y gwrtaith. Ond os yr heuir ef, a'r anifeiliaid heb gydnabod ei werth, mae yr arian a dalwyd am dano wedi myn'd yn ofer. Os na heuir ef mewn pryd i wneud ei waith y flwyddyn ganlynol, nid yw yn myn'd yn ofer, os y bydd o ansawdd dda. Daw y tir i ddangos ei fod yno, os bydd y ffermwr yn ddigon amyneddgar i aros. Xid wyf yn meddwl fod un gwrtaith arall yn y farchnad a dal cystal i'r ffermwr am ei ddefnyddio. Heblaw gweIla ansawdd y gwair a'r borfa, mae yn ychwanegu yn ddirfawr at y cnwd. Pe digwyddai i rywun ei hau o hyn i'r gwanwyn, ac i'r haf droi allan yn debyg i'r haf diweddaf, nis gellir disgwyl am addaliad tan y flwyddyn nesaf. Ond pe digwyddai i'r haf fod yn un llaith, mae yr un a heuir yn ddiweddar yn llawn cystal ar un a ddefnyddiwyd ddiwedd y flwyddyn. Ond y ffordd ddiolgelaf yw ei ddefnyddio cyn y Nadolig. Hyd yn ddiweddar nid oedd ne- mawr yn ei ddefnyddio at un math o ydau, nag at gloron, moron, na maip. ( Ond mae rhai o'n dysgedion amaeth- yddol bellach yn ei gymeradwyo bell- ach at dir âr, gan nad beth a dyfir II arno. Ond gan fod y fferyllwyr yn profi fod ei effeithiau ar y tyfiant yn araf, nis gellir ei gymeradwyo at gnydau sydd i ddyfod i berffeithrwydd mewn ychydig fisoedd. Ond os yr heuir ef ar dir ar a'i aredig i fewn yn ddigon cynar, nid wyf yn amheu na ettyb yr un cystal ag ar dir glas. Llunier i Gall Hanner Gair." j Dylai pob ffermwr gael gwerth ei arian o slag fel rhyw nwydd arall. Er mwyn bod yn sicr ei fod yn cael hynny, dylai roi rybudd i'r heddgeidwad nesaf ato ei fod am ddadansoddi y gwrtaith. Wedi gwneud hynny, fe ddaw y swyddog heibio ar unwaith, a chymer feddiant o'r invoice a gafwyd oddiwrth y gwerthwr, a dyd i lawr bob manyl- ion parthed y gwahanol sylweddau a warentir eu bod ynddo. Rhaid i'r ffermwr arwyddo ffurflen swyddogol yn nodi ei fod am ddadansoddi y gwrtaith. Yna, fe enfyn y Prif Heddgeidwad at < y gwneuthurwr, neu ei gynrychiolydd, I ei fod yn myn'd i brofi y gwrtaith ar ddydd ac awr benodol. Gall y cyfryw I fod yn bresenol pan gymerir cyfran o'r slag i'w anfon i'w brofi. Ond os na ddeuant wedi eu rhybuddio yn bryd- lon, eir ym mlaen a'r gwaith yn eu habsenoldeb. Agorir tri chwd, a chymysgir ychydig o'r gwrtaith o bob un gan yr heddgeidwad. Gwneir hynny ar lawr yr ysgubor, lie gwelir gwr y got las yn llewis ei grys yn cymysgu yr hyn a gymerwyd i'r tri chwd a'i holl egni. Rhoddir pob chwareuteg i'r gwerthwr yn ogystal ag i'r prynwr. Gallai cynwysiad un cwd fod, trwy ddamwain, yn ddiffygiol. Ond nid yw yn debyg y gallai tri fod felly trwy ddamwain. Wedi y cymysgu rhoddir yehydig mewn tair potel, un i'r gwerth- wr, un i'r prynwr, ac un i'w hanfon i Ddadansoddydd y Sir. Rhoddir set ar y tair potel yng ngwydd yr holl ber- sonau ar lawr yr ysgubor, a rhaid aros wedyn i weled os bydd y ffermwr wedi -cael gwerth ei arian neu beidio. Dyna y ffordd i fod yn sicr o beidio twyllo y tir na gwaghau Ilogell y ffermwr yn ofer. Awgrym Arall. I Mae yn bosibl defnyddio y slag yn rhy ami ar yr un tir, yn neillduol os bydd y tir hwnnw o nodwedd llaith. Yn ol yr hen gredo tir llaith oedd y lie goreu iddo wneud gwaith effeithiol. Ond erbyn hyn cydnabyddir y gwna ei waith yn effeithioI ar dir sych, os ceir digon o wlaw i'w doddi i gyfansoddiad y llysieuyn. Am mai tir llaith oedd fwyaf sicr o wneud hynny, y tarddodd y dybiaeth mai ar waendir yr oedd lie priodol y slag. Ond fel y nodais, mae perygl wrth ei osod yn rhy ami ar dir llaith, os cedwir y cyfryw yn dir gwair. Yr wyf wedi gwneud camsynied felly fy hun. Y canlyniad yw mae y tir wedi mynd i godi gormod ddeng gwaith o drefoil. Mae y llysieuyn hwnnw yn un rhagorol yn gymysg a llysia n eraill, ond pan mae wedi meddianu y cae iddo ei hun, mae yn ormod o beth da. Pan fyddo gormod o drefoil, syrth i lawr cyn fod y gwair arall yn aeddfed, nes ei fod yn colli ei hadau ac yn myned braidd yn ddiwerth. Os digwydd i'r tywydd droi yn anffafriol i dorri y gwair nes y byddo yn ddiweddar, aiff yn ddiwerth hollo]. 0 dan yr amgylch- iadau mwyaf ffafriol, un anhawdd i'w gynhanafu ydyw, gan ei fod yn dyrysu yn ei gilydd, nes y byddo yn troi allan fel cnu o wlan ar ol y peiriant, ac os a yn gynhauaf gwlyb, mae yn amhosibl ei sychu. Dyna ganlyniad hau slag yn rhy ami. Dylid rhoi gwrtaith anifeil- aidd i'r cae cyn ei ddefnyddio yr al waith. Profiad a wyr.

Mrs Hannah Harris, Cilfynydd.

I Ordeinio Gweinidog.

Taith i. Lydaw. I

Advertising

Llanelli. I

Drama Gwyl Ddewi i'r PlantI

Traethgan Judas Maccabaeus.

Advertising

Iawnderau Dyn.

Advertising