Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

-,..".-----.- - - - _ _. -…

Mrs Hannah Harris, Cilfynydd.

I Ordeinio Gweinidog.

Taith i. Lydaw. I

Advertising

Llanelli. I

Drama Gwyl Ddewi i'r PlantI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Drama Gwyl Ddewi i'r Plant ACT III. I (Parhad.) Dewi: 0 fy Arglwydd Feistr, pa fodd y gallaf feiddio edrych ar lygaid sydd wedi bod mor ofnadwy yn eu sancteidd- rwydd, ac mor nerthol yn eu tanbeid- rwydd serchiadol er ys cynifer o flyn- yddau ? Xi edrychais i erioed eto i fyw y llygaid hyn, yr oedd y pelydrau yn rhy danllyd. Paulinus 0! fy mab. y mae glendid dy ymadrodd, a phurdeb dy gyffyrddiad yn ddigon sanctaidd i gyflwyno yn ol i mi fy ngolygon. Dyro dy law ar fy ngwyneb, a .bendithia fy llygaid, ac yna byddaf yn holliach. (DeWi yn gwneyd. Yn edrych i fyny mewn agwedd weddi- gar.) Dewi: Fy Arglwydd Feistr, bydded i Dduw y Xefoedd dy fendithio di drwy y dwylaw hyn fel y bendithiodd fi, lawer gwaith, drwy dy ddwylaw sanct aidd di. O lygaid, agorweh. Paulinus Y maent yn dod; y maent yn dod i weled eto. Yr wyf yn gweled. Fendigedig waredigaeth. Diolch, fy mrawd. Diolch i Dduw am fy ngolygon unwaith eto. Diolch, diolch. O galw y brodyr i fewn, galw y brodyr i fewn. (Dewi yn canu y gloch. Y Mynachod yn dod i fewn eto.) Dewch, fy mrodyr, cyd-orfoleddwch a mi. Collais fy ngolwg, aethum yn ddall; trugarhaodd Duw wrthyf, a thrwy ddwylaw y brawd Dewi cefais fy ngolwg yn ol. O diolch, diolch. Y Gydgan Ddiolch, fy mrodyr, (Yr oil yn canu cydgan tindonog-- chant.) Dewi (yn codi ei law am ddistaw- rwydd) Frodyr, heddyw y dangoswyd yn y ty hwn fod Duw yma. lachaodd Ei was, amlygodd Ei nerth, a dangos- odd fod Ei blant sydd yn preswylio yma yn derbyn gwen Ei wyneb, a'i ffafr. Awn bob un i'w waith a'i ddyledswydd yn awr, ac addolwn Dduw. Awn. (Paulinus, y Meistr-Fynach, a Dewi, yn cyd-gerdded yn araf tuag at y drws, ac yn gollwng y Mynachod allan. Y ddau yn cyd-gerdded yn ol eto tuag at y cadeiriau a'r bwrdd.) Dewi A wyddost, fy Arglwydd Feistr, fod yna lais yn fy ngalw yn ddyddiol, ac yn dweyd yn groew wrthyf am fyned allan i geisio achub a gwella y Gwyddyl a'r Prydeinwyr i gyd ? Paulinus: Mi a wn fod Duw wedi dy alw di, fy mab, i wasanaethu mewn cylch sydd yn eangach na therfynau y ty hwn. Dewi: Y mae y galw yn codi yn uwch ac uchelach bob dydd. Ac yn sicr llais Duw ydyw, ac y mae yn rhaid i mi ufuddhau i'r alwad hon. Y fory, fy Ar- glwydd Feistr, byddaf yn mynd ar daith, ac yn gadael y ty hwn am dymor. Felly, dyro i mi dy fendith. Paulinus: O fy mrawd, fy mab ffydd- lawn a chywir. Pa fodd y gallaf dy ollwng ymaith i Ond ewyllus yr Ar- glwydd a wneler. Dos, abendith y Tad Xefol fyddo ar dy holl waith. Dewi: Amen. Pregethaf Grist i'm brodyr a'r Prydeinwyr i gyd. Paulinus Amen. Tyred yn awr, y mae yr awr yn dyfod i orphwys. Dyna'r gloch hwyrol yn canu, a'r brodyr yn dyfod i fewn. (Yr oil yn dyfod i, fewn ac yn eydganu y Gydgan Hwyrol.) (Y lien i lawr.) (Diwedd.)

Traethgan Judas Maccabaeus.

Advertising

Iawnderau Dyn.

Advertising