Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

- - - -"-Gweithwyr Amaethyddol.…

I Nodion o'r Gogledd. I

Rhydri. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Rhydri. I Llecyn prydferth ger Caerffili yw y Rhydri. Ardal amaethyddol, megys dolen gydio rhwng Morganwg a Mynwy. Hyd yn hyn nid oes fawr o ddylanwad y dref wedi newid hen ar- ferion y trigolion. Un teulu mawr sydd yma-pawb yn perthyn i'w gil- ydd, ac yn cymeryd diddordeb yn eu gilydd. 'Does fawr o neb yma, ond y rhai a anwyd yn y lie. A thystia yr ychydig a ddaeth o leoedd eraill mai anodd yw ymadael. Mor frawdol yw y berthynas, fel mae llwyddiant un yn golygu llwyddiant yr oil. Pan ddaw tywydd garw i un, mae yr holl blwyf yn cydymdeimlo. Nid drwg pe bae ychwaneg o'r ysbryd yma yn ein byd i'w wneyd yn debycach i'r nef. Heddyw mae y plwyf megys mewn j galarwisg yn herwydd marwolaeth, sydyn un o'r plant yn yr Unol Qal- I aethau. Y dydd Llun diweddaf, lonawr 26am, daeth y newydd pruddaidd (by cable) am farwolaeth ein hanwyl chwaer, Mrs Lizzie Ann Davies, merch hynaf Mr a Mrs Edward Llew- elyn o'r plwyf hwn. Tua blwyddyn yn ol aeth Mrs Davies i'r sefyllfa briodasol gyda Mr George Davies o'r plwyf cyfagos (Llanedarne). Yn union ar ol y briodas aethant i Tacoma, Washington (U. D.) i ddechreu eu gyrfa. Yno y bu Rhag- luniaeth yn gwenu arnynt am ryw flwyddyn o amser. Llythyr yn dod bob wythnos yn cynwys newyddion da. Ond och y Llun diweddaf y newydd pruddaidd i fod Lizzie Ann vn ei harch. Cymylau duon sydd heddyw yn hofran yn ffurfafen y teulu. Mae troion Rhagluniaeth yn ddirgel- wch i ddyn. Anhawdd gwybod sut mae gweinyddu cysur yn awr y bro- fedigaeth. Mae yr ergyd mor drom ac anisgwyliadwy! Ond, mae yna gysur yn y ffaith fod i'r ymadawedig gymeriad pur, di- halogedig. Un hoff gan bawb oedd Lizzie Ann, ac anhawdd yw sylwedd- oli ei bod yn ei bedd cyn cyrhaedd ei 3oain oed. Diddaned yr Arglwydd ei thad a'i mham a'i hunig chwaer, y fyfyrio fel hyn, daw geiriau olaf Paul rhai sydd a'u calonau yn friw. Wrth Lawrence Dunbar i'n cof:- The mystery of time is here; "I said to my heart, be silent, Death's way will be plain when we fathom the main, And the secret of life be clear." RHEDYOG, Rhydri.

Glais.I

Caerdydd.I

-I Gohebiaeth.I

IBriton Ferry. I

Colofn y Beirdd. !

[No title]

Bwrdd y Golygydd.

Advertising