Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

BeirniadaethI

Claddu Mr. William Morgan,…

Er Cof am Ddiacon Da.I

Advertising

Gwahannod Llyfroniaeth y I…

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

E.M.E.Al,te trefniadau ar droed i II ymweled a Cheredigion ar fyr, ac i gael dosparthwyr mewn cylchoedd lie nad oes rhai yn awr. Diolchwn am eich r ffyddlondeb i'r "Darian," a disgwyliwn eto am eich awgrymiadau i gael y Darian newydd i fwy o fri yn ngwlad y C'ardi. Mae eich llythyr chwi, ac eraill ydym wedi dderbyn yn ddi- weddar, yn awgrymu fod y rhan yna o'r wlad wedi ei hesgeuluso yn y gor- phenol; ond edrychir ati na chewch yn hir gwyno'n ofer. J.E.—Oes y mae yma amrvw o'r llyfrau a nodweh, yn cynwys adrodd- iadau a dadleuon difyrus, dirwestol, crefyddol. etc., megis— Y r Adroddwr Difyrus, Is. Y Dadleuwr Difyrus. 6c. Yr Adrodclwr Difyrus, 6c. Adrodd-lyfr Dirwestol, 6c. Dadleuon Buddugol, 6c. Efail y Gof, Is. Hwyr Ddifyrion, Is. Adgofion Watcyn Wyn, Is. 6c. Odlau Eifion, Is. Dyna ryw ychydig i chwi fynd yn mlaen a hwy; mae llawer eraill i'w cael. Yn wir nid yw'r Wasg Gymreig wedi troi mwy o lyfrau mewn unrhyw gangen o lenyddiaeth nag yn y gangen hon. Mae pob un fyddo wedi enill gwobr mewn Eisteddfod—ac ych- ydig yw y rhai sydd heb wneud hyny— yn ymgymeryd a chyhoeddi llyfr, pe bai yn ddim ond pamphledyn ceiniog. E.L.-Mae darllen eich llithiau'n rhoddi boddhad mawr i mi, a gobeithiaf y dewch o'ch cystudd yn ol i'ch hen hunan yn fuan. Byddaf yn disgwyl clywed ar fyr fod mwy o'r Darian yn cael ei gwerthu yn ninas Herbert na chynt. Os ydyeh chwi yn cae l rhyw flas yn y golofn hon o wythnos i wyth- nos, gadewch i ni gael clywed eto.eich bod yn cymell y Darian i'ch cwsmeriaid ar bob cvfle. Mae'n rhaid fod dos- barthwyr eraill yn gwneud hyn, canys y mae ein cvlchrediad eisoes wedi mynd ar i fyny dros fil mewn pum' wythnos o amser. Dengys hyn fod yma Gymry o hyd sydd yn gallu adna,bod peth da pan y'i gwelant, a glynu wrtho. Pan yn gwerthu allan un wythnos, gyrwch gerdyn i'r Swyddfa am ychwaneg erbyn yr wythnos nesaf. Dyna'r ffordd—ond dyna, nid newyddian yn y gwaith ydych. "Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt." Dyna adnod i chwi ar v pwnc! Jaytee."—Gall Dr. Lloyd wneud hyny yn burion—llawn cystal a'r sawl a nodwch. Nid yw 'r golofn hon at drin materion o'r fath; ond cymerwn chwi yn esgusodol y tro hwn, er mwyn y cof am yr hen amser gynt. Cofion cynes atoch eich dau. E.J.O.—Dylech gael rhagor nag a nodwch. Dylech gael mwy na'r pris eyhoeddedig am "odd numbers" o'r fath. Mae yn eithaf posibl, er hyny, y gellwch gael y rhifynau yn mron i gyd ar delerau rhad iawn, ond os bydd un yn eisiau beth weM fyddwch wedvn? Bydd y gyfrol yn anorphenedig o hyd. Rhowch wybod i ni yma pa rifvnau sydd arnoch eu heisiau: mae yma lawer o'r cyfryw i'w hebgor. Beth bynag. os yw eich cwsmer yn awyddus i gael y rhifynau yn llawn, ni ddylai rwgnach— yn awr— i dalu ychydig geiniogau yn fwy am back numbers'" flwyddyn neu ddwy yn ol. B.E.—Fel y mae gwaethaf y modd, y mae llawer i bwyllgor yr un fath ag yntau ond y mae hefyd lawer o bwvll- gorau sydd yn fwy anrhydeddus i ddelio ag hwy. Os oes rhai o'r aelodau yn honni bod yn trade unionists," apel- iwch atynt, ymresymwch a hwy, mor anheg—mor afresymol y mae disgwyl i chwi roddi eyfran-ci-fran mor fawr o'ch « commission yn enwedig i bwvll- gor llyfrgell gyhoeddus. Gellir disgwyl iddynt hwy, beth bynag, ymarfer yr hyn a bregethant. Yr wyf yn cofio darllen yn rhywle am rvwun yn ddweud ybydd y bobl hyny a dreulient fwyaf o'u ham- ser yn darllen y Beibl yn dra synedig pan ant i'r nefoedd a gweld mai y rhai dalent eu ffordd ag ugain swllt yn y bunt eisteddent yn seti blaenaf y trig- fanau dedwydd fry. Yr un fath yn hollol y gellir dweud am lawer un bre- getha byth a beunydd undebiaeth lafur- ol y bydd yntau yn synfawr iawn pan ddaw diwrnod y mesur—y dvdd o brysur bwyso,—a gweld mai rhywun arall fydd yn eistedd yn reserved seats" y gogoniant. Ysgrifenwch eto wedi y gwneloch gynyg ar ymresymu gyda rhyw rai o aelodau'r pwyllgor. Mae angen codi'r cwestiwn hwn i fwy o syJw. Yr ydym eisoes wedi rhoi ar ddeall i'n darllenwyr y gellir cael pob un o'r llyfrau y sylwir arnynt yn y golofn am y pris cyhoeddedig drwy gyfrwng un- rhyw ddosbarthwr neu lyfrwerthwr. Mae genym i hysbysu yn awr hefyd y gellir cael unrhyw gyflenwad o'r "Welsh Outlook" ar delerau cyfan- werthol ond anfon ataf i Aberdar. Dvlai dosbarthwyr ac aelodau v "South Wales Federation" edrych i'r mater hyn ar unwaith, ac eraill yn mhob lie v mae dau neu dri yn gallu cyd-dynu. Mae genyf fanteision newydd i'w cynyg i chwi, ond y sawl sydd yn ceisio sydd yn cael. I

I Byr Hanes I

Advertising