Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Nodiadau'r Golygydd.i ....-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau'r Golygydd. Nid yn anaml y gwelir Plaid Llafur yn y Sennedd yn cynnyg gwelliantau ar rywbeth fydd ger bron, ac yna'n pleidleisio gyda'r Llywodraeth yn er- byn ei gwelliantau ei hun. Pell ydym o feio'r Blaid am hyn. Nid yw yr anghysondeb ymddangosiadol ond prawf o'i doethineb ac o'i gwyliadwr- iaeth. Nis gellid mewn gwirionedd gael gwell arwydd o ystyriaeth a phwyll. Gwir fod y Toriaid yn crech- wenu ac yn gwawdio ac yn edliw i Blaid Llafur ei anghysondeb yngwyn- eb ei honiad o annibyniaeth hollol ar y Rhyddfrydwyr. Cysondeb, yn ol y Toriaid, ym Mhlaid Llafur, ar ol iddi deimlo ei ffordd i ryw gyfeiriad, a chael allan ei bod ar y dibyn, fyddai mynd yn ei blaen yn wrol a thros y dibyn Anghofia'r Toriaid fod Plaid Llafur yn annibynol arnynt hwythau hefyd. A'r hyn sydd yn chwerw i'r Toriaid yw nad ymostynga'r Cynrychiolwyr Llafur i wasanaethu i'w I hamcanion hwy. Yr unig beth a ddengys anghy- sondeb tybiedig Plaid Llafur yw eu I bod yn fwy annibynol ar y Toriaid nag ydynt ar y Rhyddfrydwyr. Gwel- ¡ ant ryw obaith am rywbeth oddiwrth y Rhyddfrydwyr, ond nad oes gan- ddynt ddim da i'w ddisgwyl oddiwrth y Toriaid. Prin y carai unrhyw Lafurwr sydd yn ei iawn bwyll weled I mewn awdurdod y blaid sydd wedi dangos y fath wrthwynebiad i Ym- reolaeth yn yr Iwerddon, ac wedi j ceisio creu'r fath ferw gwallgof yn Ulster. Y mae'n amlwg ddigon bell- j ach fod ym Mhlaid Llafur ddeng- waith diogelach ac anrhvdeddusach arweinwyr nag sydd gan y Toriaid. j Tra y mae arweinwyr Llafur bob am- ser ar eu goreu trwy'r Undebau Cell vn arfer eu dylanwad i gadw'r gweith- wyr pan mewn brwydrau o fewn ter- fynau gweddeidd-dra a threfn, y mae arweinwyr y Toriaid fel pe'n colli pob llywodraeth arnynt eu hunain. J Heblaw hyn oil, pan bleidleisiodd Aelodau Plaid Llafur dydd Gwener di- werldaf yn erbyn eu gwelliant eu hun- ain, yr oeddent wedi cael gan y Llywodraeth addewid am yr hyn a geisient, felly nid oedd angen am rannu'r ty ar y gwelliant.

I O'r Wy i'r Dywi.

IMarwolaeth Hen Lowr. I

Calfaria, Cwmgwrach.

[No title]

f-4 jAr y Twr yn Aberdar.

[No title]