Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y PLANT. (Dan Olygiaeth Moelona.) Mae Gwyl Ddewi wrth y drws, a chwi, blant yr ysgolion, yn prysur barotoi ar gyfer dathlu'r wyl mewn ffordd Gymreig. Dysga rhai o hon- och donau ac alawon gwerin, rhai ganu penillion, ac felly yn y blaen. Wele ddadl fach ddiddorol ar gan gefais oddiwrth rywun gymer ddiddor- deb ym mhlant y "Darian." Dysged rhai o honoch hi-rhyw ddwy neu ddau. Gwna'r tro i fechgyn hefyd ond newid yr enwau. Gofynnwch i'ch athraw neu cich athrawes a garent eich clywed yn ei hadrodd ar goedd yr ysgol ddydd Gwyl Dewi. Rwy'n siwr y byddai pob athraw ac athraw- ps yn falch o'r cyfle, a byddai y plant i gyd yn mwynhau eich clywed. Dyna hi i chwi heddyw, fel y caffoch amser i'w dysgu yn dnvyadl GWYL DEWI. Olwen A ddoi di, Gwenny, genyf fi I'r Festri nos y fory, Bydd plant y pentref yno'n llu Yn dathlu Dydd Gwyl Dewi. Gwenny I'r Festri nos y fory I ddathlu Dydd Gwyl Dewi 'Rwyt bron a gwneud fy mhen yn ddwl Wrth feddwl am fath ffwlbri. Olwen Rwy'n synu'n wir dv weled, Gwen, Yn codi'th ben i fyny, Os gyda dirmyg dywedi di Mai ffwlbri yw Gwyl Dewi; Bydd melus iawn cael taro tant I Dewi Sant y Cymry, Bydd clywed hanes Cymru lan Fel can i fy moddloni. Gwenny Mae taro tant ynghanol "fuss," Plus myned ar ol hanes, Yn very god to those who dare Not care about their business; Nawr paid a chelu, d'wed y gwir, Pa gysur ydyw gweiddi, "Oes y byd i Gymru lan," A chanu "Can Gwyl Dewi.' Olwen 'Does gwlad i mi fel Cymru Ion 'Rwy'n caru hon o'm calon, 'Rwy'n hoff o'i beirdd a'i seintiau glan, Ei chan, a'i chu gerddorion, I fyny'r elo Cymru F&d, Hen Wlad y menyg gwynion. Gwenny "Such jolly nonsense" ddywedaist Heb fawr yn wir 0 sylwedd, Heb 'nawjv  Mae'n iechyd i fy nghlustiay i Dy wel'd ti'n dod i'r diwedd. I fyny'r elo Cymru F&d "You must be mad to think so Ymhen can mlynedd, ooelia fi, Ni fydd Cymraeg na Chymro. Olwen Fe bery byth hen Gymru gu, Fe bery iaith y Cymro, Fe bery swn ei thelyn hi Yn beraidd i'w anwylo. Bydd melus draddodiadau hwn Yn lloni llu 'mhen oessau, A chenir ei halawon mwyn Yn swynol drwy'r gororau. Gwenny 'Rwy'n hoffi'n wir dy glywed, 01, Mor ddenol y siaredi, Mae pur wladgarwch lond dy fron Wrth son am swynion Cymru, Ac er mwyn cael dy brofi di Y gwnes i eu dirmygu. Y Ddwy Cydunwn i wneud Cymru'n lan, Ei chan yn bur ei nodau, Trysorwn iaith y Cymro glew, Ac urddas ein dewr dadau; Hen Walia godwn yn ei hoi I W golud gwerthfawr rhydd, Boed Cymru Fu a Chymru Sydd Y n gloewi Cymru Fydd. DAN DAVIES (Nanthir). Tai'r Gwaith Council School, Gwauncaegurwen.

Anrhegu Ysgolfeistr yn Aberdar.

[No title]

ICyngherddau Clasurol yn 1…

IAberafon. I

[No title]

Treorci.

[No title]

I Llansamlet.I

I ! Ferndale. <

IPontycymer.j

ICaerdydd.: I.

J Aberteifi a'r Cylch.I

Advertising