Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Colofn y Beirdd. ; ->

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Colofn y Beirdd. Anfoned ein cyfeillion barddol eu cynyrchion i'r Hendre, Pontypridd. Ceinwen Lewis.- -Englyn twt ddigon. Marchog y Rhondda.—Gresyn fyddai cyhoeddi y gun liun i'r Marchog an- rhydeddus. Mae dymuniadau yr awdwr yn eithaf da, ond nid oes defnyn o wlith yr awen arnynt. Dyma ddvvy linell, yn enghraifft: 'Doedd neb yn fwy clodus na hwn. mi rof her, Pan ydoedd yn Esquire cyn mynd vn Syr. GaP yr a wd .vr gael y gan yn ol. OR bydd yn dewis. i'w chvflwyno yn bersonol i'r gwrthddrych. ChnJ am gan salaeh na hi wedi mynd iddo. Druan o'r Marchog. Y Marchog, eto. Dyma gyfres o englynion gorchestol. Mae ynddynt arabell linell sydd yn dweyd mwy na llawer can, megys: Annibynwr i Jbob EnN-ad." Dywed am ddyledion y Capelau: 0 flaen ei law fel niwl ant." Mae yn yr englynion ambell darawiad na wyddai nemawr o feirdd am yr hyn a'i cyffrodd. Bu yr awdwr yn gymydog i'r Marchog am flynyddoedd. Mae y bardd yn medru gwisgo ffeithiau yn farcldonol, a dyna'r gamp ar destyn fel hwn. Sylwed ein beirdd ieuainc ar y cynghaneddion cywrain sydd yn y llin- ellau canlynol:— Dydd clod yw ei heddyw claer Roddwyd uwch enw ruddaur. 0 liw'r perl, neu leufer li, 0 glaf wely Rhagfyr oes. X id ffol o beth fyddai i gyfeillion y Marchog osod yr englynion hyn yn yr anerchiad a fwriedir ei gyflwyno iddo. Y Bwth.—Telyneg ragorol. Croesaw, gyfaill. Cofiaf am danoch, oddiar y dyddiau gynt. Y Cwmwl, etc.-Caneuon llithrig a swynol. Cymerwch ychydig fwy o am- ser i ysgrifennu, a rhoddwch dipyn o inc uwchben y lythyren 'i.' Gresyn frethu gormod ar y cysodydd sydd yn gweithio wrth y fodfedd, ac nid ar "hur." I'r Swyddfa.—Dewi Haulwen, T. Isaae, Ednant, Dafydd o'r Lhvyn. Mae un o'ch gohebwyr yr wythnos ddiweddaf, wedi "dangos ei ddanedd" arnaf. Oni bae iddo wneud hynny, buaswn yn ceisio "dal pen rheswm" ag ef. Dywed fod gennyf "bye-laws" i mi fy hun, am i mi anghymeradwyo y geir- iau cwthwn, rhagwn, ac odiaeth. Oes, mae gennyf bye-laws. A phaham lai ? Onid y cyfryw yw yr olwynion sydd yn gwneud i beiriant pob cyfraith i weith- io '? Cyhyd ag y byddaf yn edrych ar ol Colofn Farddol y Darian, bydd y bye- laws sydd gennyf mewn grym; ond dichon na chadwaf at "lythyren" y cyfryw, pan fydd disgybl gwylaidd yn curo wrth fy nor. Ond llygad am lygad, a dant am ddant fyjd hi i bob un o yspryd eich gohebvdd. A phaham y cwyna? Nid wyf am ei orfodi i ufuddhau i fy neddfau. Gwyr sut mae osgoi licb un o honynt. Nid myfi yw yr unig un sydd wedi collfarnu y gair "odiaeth." Nid wyf yn collfarnu y gair, ond yn unig y defnydd a wneir ohono- llanw tyllau. Beth well ydych o ddweyd baban tlws odiaeth? Os ydyw yn dlws, beth dlysach ydyw gyda'r ychwanegiad ? Am cwthwn a rhagwn, ni wyr un o bob cant o ddarllenwyr y Darian beth yw eu hystvr, ac mae yn amheus i mi nad wrth chwilota Geiriadur y daethant i'r englyn a gollfarnwyd gennyf. Yr wyf yn diolch i fy nghyhuddwr am fod mor baelfrydig ag anfon y Darian i'w gyfeill- ion ar lan y Fenai, a thudraw i'r mor. Ond a fuasai y rhai hynny yn gwybod beth a feddyliai y bardd wrth y ddau air dieithr 1 Os ydynt mor hydddysg a hynny, bendith ar eu pennau. Ond nid er mwyn y ddau hynny yn unig y mae Colofn Farddol y Darian yn cael ei threfnu gennyf. Nis gwn i beth yw yr ysfa sydd mewn ambell fardd am ddefn- yddio geiriau anarferedig. Pe llosgid Geiriadur Odlyddol Cynddelw, byddai llai o honynt ar hyd y wlad. r

SYR W. J. THOMAS, YNYSHIR,I…

- - - -_. Gohebiaeth Fasnachol…

jAr Lannau'r Tawe. I

Traethgan Judas Maccabsus.

Bwrdd y Golygydd.I

Pedair Mlynedd ar Ddeg oI…

Treharris a'r Cylch.

Cymreigyddion Rhondda.

ILlwynbrwydrau.