Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

¥ GOLOFN AMAETHYDDOL I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

¥ GOLOFN AMAETHYDDOL I SUT I GAEL DARLUNLEN O'CH FFERM. I Ychydig o honom sydd yn gwybod I beth yw mesunad y caeau ar ein I ffermydd. Dim ond amcan gyfrif oedd ar yr oil cyn i'r Llywodraeth ym- gymeryd a mesur pob rhan o'r Deyr- nas tua hanner canrif yn ol. Ond am flynyddoedd meithion wedi hynny ni wyddai y ffermwr i fanylrwydd beth I oedd mesur pob mynydd a maes. Mae darlunlen y plwyf wedi bod yn I gyfrwng gwybodaeth ar y pen hwn, ond ychydig oedd yn gwneud defnydd I o hono, gan mai yng ngofal offeiriad y plwyf yr oedd yn cael ei gadw. Pan fyddai rhyw annealldwriaeth yng nghylch mesur unrhyw faes, at yr offeiriad yr oedd myn'd i gael pen ar y ddadl. Bu llawer o annealldwriaeth a llawer o gam yn cael ei wneud, oher- wydd yr anwybodaeth am fesur y tir. Yr oedd enwau y caeau yn myn'd yn ol eu mesuriad cibddall yn ami, megys y dd wyar, y "pumar," y degar," .etc., ac yn ol eu henwau y byddai y gweirwyr yn cael eu talu am dori y gwair arnynt. Byddai y gweirwyr yn ami yn gorfod torri agos i ddwy erw am bris un, hyd nes iddynt ddod i allu mesur y tir eu hunain. Yr oedd yr hen erwau yn gwahaniaethu yn ddirfawr yn ngwahanol rannau o Gymru heb son am Loegr. Ym Morganwg "erw Misgyn" oedd y safon hanner canrif yn 01. Yr oedd honno dros erw a hanner o'r erw gyfreithiol. Bum fy hun yn torri gwair, ac yn cael fy nhalu yn ol "erw Misgyn," ond deallais cyn hir fod rhywbeth o le yn y mesur gan ei fod yn orchwyl caled i dorri erw y dydd o dan y gyfundrefn honno. Cofiais am y tablau a ddysgwn yn yr ysgol, a dechreuais "gamu y tir pan y gwelais fy mod yn torri hanner erw y dydd am ddim. Dysgais y ffordd i fesur cae o unrhyw ffurf, a hynny, yn bennaf, am fod y wybod- aeth yn talu imi. Ychydig iawn o ffermwyr a fedrant fesur cae heddyw, er cymaint yw bendithion addysg yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf. Pan fyddo y cael yn bedair onglog, mae y gwaith yn ddigon hawdd i'r sawl sydd yn gwybod faint o latheni yscwâr sydd mewn erw. Ond pan fyddo agos ym mhob ffurf, mae yn orchwyl mwy anhawdd. Mae 4,840 o latheni yscwar yn yr erw safonol, a dim ond i chwi "gamu 70 o latheni ym mhob ffordd, bydd yn ddigon agos i'r erw i bob diben ymarferol. HWYLUSDOD I'R FFERMWR. I Yn ardal y gweithfeydd yma, mae y ffermwr yn colli darn o dir dan ei drwyn yn ami. Bydd darn yn cael ei gymeryd oddiwrtho i adeiladu arno, darn i wneud heol, etc, a beth sydd yn fwy hwylus na'i fod yn gwybod ar unwaith faint o'i dir mae yn ei golli. Bydd goruchwyliwr y tir yn gwybod i'r dim faint o'r fferm sydd yn cael ei chymeryd oddiar y ffermwr, ond nid pob un ga y wybodaeth honno gan- ddo, ac os na fydd y ffermwr yn ddi- gon o scolor, odid fawr iddo gael iawn digonol am ei golled. Yr wyf wedi rhagymadroddi fel hyn i ddangos y pwys i bob ffermwr feddiannu y dar- lunlenni a gyhoeddir gan y Llyw- odraeth am brisiau digon rhesymol. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf mae y cyfleusderau hyn wedi dod mor hwylus. Ar y cyntaf yr oedd y darlun- lenni yn cynnwys plwyf cyfan. Wedi hynny daeth rhannau o'r plwyfl, gyda'r holl ffermydd, a'u mesuriad arnynt yn ddiweddarach, mae pethau wedi dod yn fwy agos fyth. Mae y darlunlenni diweddaf yma wed; eu gwneud ar raddfa o 25 o fodfeddi i'r filldir, a chynnwysant fesur pob cae ar wahan ac o dan ei enw. Danger arnynt bob adeilad a phob Uwyn o goed, a phob mur. Maintioli por) llenn yw oddeutu 38 o fodfeddi with 25-Mae pob llenn yn dangos arwyneb- edd o filldir a hanner wrth filldir, neu tua 960 o erwau. Pris y darlunlenni yw 3s yr un gyda phedair ceiniog am. y cludiad etc., neu gellir cael clau yn vr un sypyn am bum' ceiniog o dal am v cludiad. Anfonwch eich enw, y sir, y plwyf, enw eich fferm, yng nghvd a'ch llythyrdy agosaf, gyda'r pres a nod- wyd i The Director General, Ordnance Survey, Southampton, a daw y wybodaeth fesurol yn 01 vn dtliymdroi. PESGU MOCH. I Anfonodd cyfaill o Faldwyn i ofyn i mi sut yr oedd pesgu moch—i dalu. Gwaith digon sal fyddai rhoi bwyd iddynt i beidio talu, ond mae llawer yn gwneud hynny. Eleni, nid yw yn nemawr o gamp i besgu moch i dalu yn dda. Ni fu eu bwyd cyn rated er's blynyddoedd, ac ni fu y cig moch mor uchel ei bris o'r blaen yn fy nghof i. Gellweh brynu blawd haidd N'n awr j am £ 1 OS y dynnell, a chewch 125 yr ugain am "foch halltu o ddau can pwys yr un i fyny, a 135 6c vr ugain pwys am rai ysgafn i'r cigydd. Ym rorganwg yma, rhoddir "sharps" i'r P?chyM, hyd nes y dech-  gyferbyn ? ?dd di- Pa«°l gTferbyn a'u dydd di" wCeddaff Vvm°1 halltU" w>-f vn ei o CreH u "? ychydig Wrth roi "shams" y" tyf" yn Wel1 Iddynt  r cychwyn. Fe geir rhai yn dadieu yn dynn dros !In?dr?aw" n i besgu moch; ond fy mhrofiad i yw fod y I blawd hwnmv yn gwneud y cig yn rhy "fras," ac nid yw gormod o hwnnw yn chwaethus iawn i lawer. Pan fyddo digon o faidd neu "laeth glas" wrth law, nid oes dim yn well, I ond ni fyddai dyrnaid o "sharps" neu flawd haidd yn un o'r ddau allan o le i foch o unrhyw oed. Pan fyddo y perchyll ar yr hwch am y famaeth y rhaid gofalu, os ydych am iddynt dalu. Os na cha y famaeth ddigon o fwyd da, ofer fydd disgwyl i'r rhai bychan gwichlyd wneud cynydd cyflym. Os ydych am eu cael yn barod i'r cigydd mewn bp" amser na arbedwch na thraul na thrafferth. Dyna yr unig ffordd i'w gwneud i dalu yn dda. Ond feallai fod gwybodaeth fel hyn yn ddiangen. Y moch hailtu sydd yn cael eu di- brisio fwyaf. Pan yn myn' d i "fyw ar ei ddannedd," fel y dywedir, nid oes un creadur ar y fferm yn cael ei esgeuluso yn fwy na'r mochyn. Mae rhai yn credu y gall fyw ar y gwynt a rhyw sothach na chynygir mo hono i un creadur arall. Nid yw y ffaith fod ystumog mochyn yn barod i dderbyn pobpeth sydd o gylch fferm yn un esgus dros gymeryd man- tais ar hynny. Fe ddwed rhai fod y cig yn fwy brith trwy beidio bod yn rhy dda wrth yr anifail-ei fwydo un wythnos, a'i newynu yr wythnos arall, hyd nes delo adeg pesgu. Cam- synied mawr yw syniad felly. Pa un ai pedwar mis neu flwyddyn a ar- faethir i'r creadur, rhodder digon o fwyd iachus iddo, a goreu oil os cyf- newidir ei fwyd yn ami. Mae y moch- gyn, er cystal yw ei stumog, yn hoffi "newid ei fwyd weithiau. Fe fan- teisir ar y creadur yn ami i wasan- aethu fel "scavenger." Ond byddai yn talu yn well pe defnyddia y ferfa neu y drol i fyn'd a'r ysgarthion i "bwll y domen." Yr oedd "lladdwr moch yn yr ardal hon yn dweyd am hen wraig oedd yn barod i golli dag- rau pan oedd ei mochgyn yn mynd at y "fainc." Yr oedd yn ddwy flwydd oed, a phwysai tua 200 pwys. Yr oedd yn "bwyta pobpeth," meddai hi, a mawr y gofidiai ei bod yn gofod ym- adael ag ef. Os ydych am besgi moch i dalu am eu bwyd, peidiwch a meddwl o hyd mai moch ydynt. Digon o fwyd da, a digon o ofal am danynt. Dyna yr unig ffordd y mae gwneud y goreu o honynt. Mae y mochyn yn fonedd- wv heddyw, a dylid ei barchu fel y cyfryw.

Merthyr Vale.j

Advertising

[No title]

Y Gweithiwr Amaethyddol. i

I Byr Hanes. IByrHanes.1

Advertising