Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Llanelli.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llanelli. Y CYMRODORION. Ceir lluaws o lengarwyr a gwladgar- wyr aiddgar yma fel mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Ac yn ol yr arfer mewn mannau eraill, felly yma ffurfi- ant eu hunain yn Gymrodorion i gadw'r iaith a delfrydau uchaf y gen- edi yn fyw. Er nad yw'r cynulliadau yn dra lliosog, eto mae'r gymdeithas wedi byw a ffynu yn ddidor am dros ugain mlynedd. Ei llywydd eleni ydyw y Cymro aiddgar, y Parch. W. R. Watkin, M.A., Moriah, a'i hysgrif- cnydd ydyw'r ymroddgar lengarwr, Mr John Evans, Coldstream Street. Yr ydym wedi cael cyfres ardderchog o gvfarfodydd eleni eto fel arfer. Digon ydyw enwi y Parch. J. E. Davies, M.A. (Rhuddwawr). Mae newydd ymsefydlu fel gweinidog Capel Newydd. Bu'n byw yn y dref flynydd- oedd yn ol fel gweinidog Siloh. Cofia llawer am dano yn v blynvddoedd jhynny. Bu ar ol hynny yn weinidog Jewin Newydd, Llundain. Llanwodd ei le yn rhagorol. Tra yno cyrhaeddodd enwogrwydd ccnhedlaethol fel pre- gethwr, bardd, a lienor. Nid oedd dim yn gweddu yn well na'i gael i agor y tymhor trwy draddodi ei ddar- lith ar "Hen Aelwydydd Hynod. Cafwvd hwvl a bias wrth ei glywed yn son am aelwydydd y tylwyth teg, y bardd, a'r diwygiwr. Yn ddiau yr ydoedd ei glywed yn help i gysegru'r aelwydydd presenol i bethau goreu bywyd. Ar ei ol ef, cawd Mr J. H. Jones, M.A., Prif Ysgol, Glasgow i'n hannerch ar "Undeb Addvsgol y Gweithwyr." Dangosodd beth ydoedd amcanion yr undeb, yr hyn ydoedd wedi ei wneyd eisioes a'r hyn allai wneyd yn ein hardaloedd gweithfaol yn arbenig. Dyg fanteision prif ysgol o fewn cyrhaedd ein trefi a'n pentrefi. Da iawn gennym ydoedd gwrando ar y dyn ieuanc disglair hwn. Dilynwyd ef gan Miss E. J. Lloyd, M. A., Aberystwyth. Disgwyliem arlwy dda gahddi ar gyfrif y ffaith ei bod wedi enill y wobr o £;20 yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar "Hanes yr Eisteddfod," ac hefyd ei bod new- ydd ei hethol yn Gymrawd (Fellow) o Brif Ysgol Cymru. Yr oedd ei thestyn yn gweddu iddi, "Hanes Cymdeithasol Cymru yn y Canol Oesoedd." Cafwyd triniaeth feistrolgar iawn arno megis y disgwyliwyd, ond yn well. Yr oedd, nid yn unig yn dda, ond yn flasus hefyd. Yr oedd ei Chymraeg cryf cyhyrog yn amheuthyn. Dangosodd y goleuni deifl cyfreithiau Hywel Dda, v Mabinogion, a theithiau a des- grifiad Gerallt Gymro ar y mater. Addysgwvd a diddanwyd y gynulleidfa ganddi. Yn ei dilyn hi cawd darlith ddydd- orol ac addysgiadol gan Proffeswr J. Oliver Stephens, B.A., B.D., Caer- fyrddin, ar "Ramant Prif Ysgol Cymru." Dywedodd nad oedd yn gynefin iawn ag annerch Cymrodorion, ond fod ei sel wladgarol ac ieithyddol wedi ei thanio yng Nghaergrawnt vn fawr iawn. Cafwyd profion o hvn vn ei ddarlith. Dilynodd y symudiad at gael Prif Ysgol o'i ddechreuad egwan nes iddo gael ei sylweddoli yn 1893, er lies a bendith dyfodol y genedl. Ar ei ol ef cafwyd darlith fuddiol a dyrchafol yn llawn t&n Cymreig gan y Cymro twymgalon, Parch. D. Bowen (Myfyr Hefin), Pump Heol. Nid oedd Myfyr H efin yn iach iawn, ac er mwyn iddo fod yn ei fan goreu rhaid iddo deimlo chwâon tesog ac hyfryd Me- hefin, ond er yr anwyd gwnaeth yn rhagorol. Arwyddair Myfyr ydoedd I' Cymru a Thragwyddoldeb." Gwyr y rhai a'u hadwaen fod ei galon yn llosgi gan dan Cvmraeg, a chan deyrngarwch i'r ysbrydol. Yn ei ddilyn ef cafwyd darlith rag- orol a swynol gan Miss M. A. Wat- kin, B.A., Aberdar, ar "Ceiriog." Testyn anwyl a dyddorol iawn i bob Cymro. Efe a Phantycelyn ydvw dau "?-ganiedydd Cymru. Swyna'r naill ni a'i emynau a'r Hall a'i delynegion. ? tiynwyd y dylanwadau fu yn ei wneyd yn far4d y werin Gymreig. Dangos- Wvdvnac ysgolheigaidd ei fod vn rvff ^rdd a phob tant yn nhelyn Cym J u. Adroddwyd rhai dyfyniadau yn swynol a gwefreiddiol. Dilynwyd gan Mr Llewelyn Llew- ellyn, Brynhyfryd, Abertawe, ar "Baledau a Baledwyr Cymru. Yr oedd yn berffaith amlwg fod Mr Llew- elyn yn feistr ar ei bwnc. Dywedir fod ganddo un o'r casgliadau helaethaf o faledi a chylchgronau Cymraeg yn y wlad. Mae yn hen gasglwr. Daeth a phethau newydd a hen allan o'i drysor i ni. Dywedai mai'f baledwr iawn ydoedd yr hwn wnai'r faled, a'i canai ac a fyddai byw wifthi. Rhoddodd en- greifftiau lawer o Shemsyn Twrbil, Levi Gibbon, a Dai'r Cantwr. Trueni na ellir perswadio Mr Llewelyn i ys- grifenu eto i'r "Darian" fel yr arfer- ai wneyd yn y dyddiau gynt. Y n ei ddilyn ef cawsom ein cvd- drefwr enwog, y Parch. R. Gwylfa oberts, i'n hannerch ar "Gartrefi Enwog Llanelli." Soniodd am v tai v bu Thomas Jones, v bardd-bregethwr; George Meredith, y nofelvdd Seisnig byw enwog; Dr. Llewelyn Bevan, Lleurwg Machno, Dafydd Rees, Capel Als, ac eraill yn bvw. Gwnaeth Lanelli r gorphenol yn fvw i'w phres- i wylwyr heddyw. Bu'r hynod fanwl c yn hynod deg. C,edaf, ? ??"y'' ?? n He i ddarlith arall er gorphen v1 ?ynHwyr NIsoniwyd ?m yy! buSrn J'fl (Ddall), ? seraff-bregeth- wrl f yw ei ?"yddoedd olaf ac y bU i wr fyyw :ddo.%Tcha^a/ he" filw I cnwog 0 B f r enw'g 0 Benvfan Ca,?d Vn odidog ganddo, er ??- ??? ?<? Nos Wener diweddaf, Chwefror 2ofed, cafwyd darlith ddifyr dda gan y Parch. J. Jenkins, M.A. (Gwili) ar "Fywyd y Penhillion Telyn. Mae Gwili'n wastad yn dderbyniol yn Llan- elli, ac nid oedd y tro hwn yn eithriad. Dadansoddodd y bywyd ta wel ham- ddenol, a ddadlenir yn y penhillion telyn a rhoddodd engreifftiau byw o honynt. Codai dyhea'd ynom ynghanol dwndwr y presenol am y bywyd hwnnw yn ei felusder a'i ddyled- swyddau dibryder. Awyddem eto am y delyn i ddod yn ol i'n gwlad fel cynt. Deued Gwili yn fuan eto i borthi'r dyheadau hyn. Bwriadwn ddathlu Gwvl Dewi mewn darlith a chan. Daw'r gantores fyd-enwog Mrs Mary Davies vma i'n swyno gyda chaneuon Gwerin Cymru, ond dyna cewch adroddiad eto o'r cwrdd hwnnw, ac os yn dderbyniol unrhyw newydcfion eraill y deuaf o hyd iddynt vn y dref. CYMRODOR. jNodiad Bydd newvddion o Lan- elli'n dderbyniol iawn. Anfonwch mor ami ag y inedroch.-Gol.]

- -Darlith ar "Englyn."|

"Gwalia fy Ngwlad."

Advertising

Mabinogion Abertawe. I

Cryfhau y Ciau Cweiniaaiad.…

Cymrodorion Senghenydd. :

I Bardd Cadair y Fenni yn…

Llanymddyfri.I

Trebarris a'r Cylch. I

Llwyddiant un o Blant Aberaman,…

Advertising