Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BOBL IEUAINC.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OLYGIAETH DYFXALLT. BUCHEDD DEWI SANT. (Parhad.) Wedi gorphen ei gwrs addysg dychwelodd- i'w hen fro cnedigol, ac yno yng Nglyn Rhosyn heb fod yn neppell o Dyddewi y sefydlodd ei frawdoliaeth fynachaidd. Tebyg iddo jdderbyn y tir yn rhodd oddiar law rhyw bennaeth Gwyddelig oedd yn byw yn y gymdogaeth. Dynia'r tir meddai leuan Rhydderch— A roes Duw o ras Dewi, Rhoes yn deg Lyn Rhosyn dir, Rhyddid i Gymry lie rhedir." Yn y llecyn anghysbell yma ynghanol y Cymry Gwyddelig y rhoes Dewi i lawr sylfaen v fynachlog syml ddaeth wedi hynny yn archesgobaeth Cymru, ac edrychai arni heddyw fel y mwyaf urddasol o'r esgobaethau Cymreig. Daeth yn ol i Glyn Rhosyn, ac yno yn ol yr hanes y bu yn cyneu tan yn yr awyr agored. Yr oedd i'r weithred hon arwyddocad cyfriniol nas gwydd- om mo'i ystyr. Uwchben yr afon Alun, yn ymyl Glyn Rhosyn, y mae Clegyr Foria, ac yno yn ol pob tebyg yr oedd cartref yr hen bennaeth. paganaidd Boia, yr hwn pan welodd fwg y tan yn dyrchafu i'r nef a gynllwynodd yn ei galon i ddifetha'r sefydliad bychan yn ei fabandod. Tynnodd Padrig Sant wg rhyw hen bennaeth Gwydd- elig fel y cana Aubrey de Vere yn ei Legends of Saint Patric "— "The King is wroth with a greater wrath Than the wrath of Xiah or the wrath of Conn. The Druids rose, and their garments tore, The strangers to us and our gods are foes. Mae gennym ddigon o le i gredu fod I, yr hen grefydd, Derwyddiaeth, yn dal ei gafaci yn gryf yn y parthau tywyll yma o Ddyfed, ac efallai fod tan di- eithr Dewi a'i fynachod fel coelcerth yn galw y grefydd newydd i'r gad i herio yr hen grefydd. Dywedir fod gwraig Boia fel satanes yn cymhell ei gwr i ymarfer ei greulondeb at drefedi- aeth fechan. Nid hyhi oedd y cyntaf na'r olaf i gynhyrfu natur ddrwg ei gwr. Hyhi oedd yn gorfodi ei llys- ferch i ganu- "Mae'r cnau yn aeddfed yng Nglyn Rhosyn Awn a chasglwn hwy." Ond yr oedd ganddi hi a'i gwr creulon gneuen rhy galed i'w thorri yn rhwydd, a phaham lai nas gellir credu fod Rhagluniaeth wedi cyfryngu rhag i'r frawdoliaeth newydd ddioddef cam. Daeth arswyd barn ar yr hen bagan, a gadawodd i'r sant a'i ganlynwyr lon- ydd i adeiladu ei fynachlog, i drin ei dir, ac weddio dros ei wiad. Yn ol a ellir gasglu, syml, cyntefig a diaddurn iawn oedd adeiladwaith y fynachlog gyntaf; nifer o gabanau gwiail a phob mynach yn byw yn ei gaban ei hun. Bwrient bolion i'r ddaear o fewn ychydig i'w gilydd, a thoent y cabanau a gwellt ac a chawn. Hwyrach fod yno ddrychiolaeth o re- frectory, hospitum, i dderbyn dieithriaid. Yna'r capel mynachaidd, ac o bosibl fod hwn o gerrig. Yr oedd gwisg y mynachod mor syml ac mor arw a'r adeiladau eu hunain. Ym- wisgent yng nghrwyn anifeiliaid, a bywient yn rhyfeddol o naturiol. RHEOLAU CAETH Y FYNACH- LOG. Fel mynach y sefydlodd Dewi ei drefedigaeth grefyddol yng Nglyn Rhosyn. Yr oedd yn chwennych unig- edd a distawrwydd ymhell o dwrw dynion i ymladd a'r gelynion mwyaf, y byd, cnawd, a diafol. I wneud hynny rhaid oedd ymwadu a phob pleser a swyn daearol. Yr oedd rheolau disgyblaeth y Fynachlog o'r caethaf. Arwyddair y Fynachlog oedd, Yr hwn na weithied na fwyttaed chwaith." Buasai gwr o dymheredd Ruskin yn banxl i gael ei ollwng mewn tangne- fedd pe gwelsai baradwys syml a chartrefol y Mynachod yn Nhyddewi. Gweithiai y mynachod a'u llaw eu hunain i drin y tir heb gymhorth ceffyl nac ych cynyrchai y tir ddigon i'w cynal. Gwyddent oesau cyn i Thorean o'i gaban coed wrth y Walden Pond ddysgu'r byd drwy arbrawfion gwydd- ¡ onol fod natur yn gynyrchiol iawn, ond ei gwrteithio yn ei phryd a'i thymor. Rhoes yr hen fynachod urddas ar grefft a gwaith Haw. Ar ol I gorphen llafurio yn y maes dychwel- ent i'r Fynachlog, a thra parheai'r goleu treulient yr amser i ddarllen, j myfyrio, ac ysgrifennu. Pan ganai'r J gloch hwyrol yr oedd pob mynach i | adael ei lyfr a'i ysgrifbin, ac yna 1 aent yn un orymdaith i'r capel, ac  yno y canent eu salmau a'u hanthem- I au hyd gyfodiad y ser. Wedi gorphen I y gwasanaeth yn y capel ymgynullent ) o gwmpas y bwrdd i gyfranogi o'r bwyd syml oedd wedi ei ddarparu yno ar eu cyfer, ac nid oedd dim yn frasach yn hwnw na bara, llysiau, a halen. Yr oedd y bywyd mynchaidd yn gyffelyb ym mhob un o'r sefydliadau Cymreig. Bu yr hen drefedigaethau mynachaidd nid yn unig yn famaethod i addysg a chymeriadau, ond hefyd yn hyrwydd- wyr gwareiddiad yn yr ystyr oreu o hono. Mae hanes a thraddodiad wedi rhoi ini yn weddol sicr le genedigaeth Dewi ynghyd ag awgryrniadau ynghylch y lie y derbyniodd ei ddis- gyblaeth addysgol, ac y mae'r eg- lwysi sydd yn dwyn ei enw yn dys- I tiolaeth lied sicr i ni o faes ei lafur. Yr oedd ei weinidogaeth yn un hel- aeth ac effeithiol iawn. Fel y gwyddis y mae tafodiaeth y Cymry sydd yn byw bob tu i'r Teifi yn amrywio. O'r tu gogleddol i'r Arth a'r Teifi yr oedd maes llafur Padarn. Dyma derfyn gogleddol maes llafur Dewi. Yr oedd Catwg yn cadw gofal am y rhan fwyaf o Forganwg. Yr oedd cglwysydd o dan nawdd Dewi yn cyrhaedd mor bell a "balch-lan Gyfalach," ac i fyny i Lywel ym Mrycheiniog, ac i fyny mor belled a Glascwm ym Maesyfed. Gwelir felly fod maes ei weinidogaeth yn eang iawn. Nid mynach yn unig oedd Dewi, ond pregethwr ac efengylydd yn ogystal. Dangoswyd gennym yn gynnar fod Dewi o waedoliaeth Wyddelig, ac yr ydym yn gwybod i sicrwydd fod y cenhadon a'r seintiau enwocaf yn y burned a'r chwechfed ganrif yn Wyddelod gan mwyaf. Gallwn yn ddigon teg gyfrif Dewi yn un o sêr dis- gleiriaf yr Ysgol Wyddelig o bregeth- wyr. Yr oedd y pregethwyr Gwyddel- ig yn enwog am ddau beth- (1) Nid oeddynt byth yn bargeinio am wen nac ym malio dim am wg tywysogion a brenhinoedd. Mewn gair, yr oeddynt yn efengylwyr gwer- inol. (2) Yr oeddynt yn ymgyflwyno a'u holl enaid i bregethu'r efengyl i bob creadur, bonedd a gwreng, o bob llwyth, iaith, a chenedl. Ar v tir hyn yn unig y gellir cyfrif am lwyddiant rhyfeddol Dewi yn y De, yn sefydlu cynnifer o eglwysi, ac yn enill poblogrwydd mor eithriadol. Y cynllun a fabwysiadwyd ganddo ef a'i gyd-efengylwyr oedd ymsefydlu am dymor mewn gwahanol ardaloedd nes enill digon o ganlynwyr i roi syl- faen eglwys i lawr, ac yna rhwymo y naill wrth y llall, nes yn y diwedd eu gwneud yn un esgobaeth fawr o dan arolygiaeth Dewi yn hyddewi. (I barhau.)

Pa Hyd.I -I

MARINE" BLOOD MIXTURE I

I Taith i Lydaw.

Ffurfiau Geiriau.

Advertising

Dosbarthwyr y 'Darian.'

Advertising