Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y PLANT. I (Dan Olygiaeth Moelona.) I Yr Ail Gystadleuaeth.. Yn y gystadleuaeth i rai dan ddeu- ddeg derbyniwyd deg o gynhyrchion. Rwy'n siwr yr hoffech wybod o ba le y daethant y tro hwn. Daeth un o Fern- dale, un o Lwydcoed. un o Seven Sis- ters, un o Lanelly, un o Aberdar, un o Glynarthen, un o Drecynon, un o Ben- deryn, un o Aberaman, ac un o Ystrad- f elite. Mae y rhan fwyaf o'r cystadleuwyr hyn wedi gwneud eu gwaith yn foddha- ol iawn. Anodd oedd dweyd pwy oedd deilyngaf o'r wobr. Un o'r deg ga'r llyfr. wrth gwrs. Cofied y naw ereill eu hod hwythau hefyd wedi cael gwobr fach o fath arall. Cawsant y pleser o dreio, a thrwy hynny bu eu meddyliau am ryw gymaint beth bynnag ar Gym- ru a'i beirdd. Gwyddant. bellach, en- wau o leiaf dri o'r rhai hyn, a diau fod ysgrifennu'r pennill wedi ei argraffu ar y cof. Felly nid ofer i neb yw gwaith fel hyn. Dyfed gafodd ei enwi amlaf fel un o r beirdd mawr—enwyd ef gan chwech allan o'r deg. Ar ei ol daw J.J., Ben Davis, Elfed, Alafon, Alfa, Hiraethog, Ceiriog. Mynyddog, Dafydd Ionawr, Dewi Wyn, Twm o'r Nant. Telynog, Goronwy Owen, ac Islwyn. Rhest-r go dda, onide 1 Er fod gwaith y rhan fwyaf yn gywir, mae rhai yn llawer mwy destluE3 na'r lleill. Y goreu yw-- Idris Williams (7 oed), 359 Cardiff Road, Aberaman. Mae ei waith ef yn bleser i edrych arno, a theimlaf yn sicr niai efe ei hun fu wrtho. Danfonir iddo IvIr un o'r dyddiau nesaf yma. Ymgeisiodd pump yn y dosparth arall. un o Lanelly, un o Ferndale, dau o Drecynon, ac un o Gaerdydd. Mae y rhai hyn i gyd yn ddiddorol, a danghos- ant ymdrech a thipyn o lafur. Cymeraf yn ganiataol fod y pump wedi bod yn onest gyda'u gwaith. Feiddiai neb ddisgwyl gwobr, mi obeithiaf, a gwy- bod na haeddai hi. 1.—Un o Lanelly.—Am Alun yr ys- grifenna hwn. Ychydig iawn o'i hanes rydd. Anghofiodd hefyd ddyfynu dim o'i weithiau. Trueni am hynny, gan fod gweithiau Alun mor dlysion. Ys- grifen lan a gwaith destlus iawn. 2. Un o Ferndale.—Hanes Cawrdaf. Rhy faith. Rhoir gormod o fanylion dibwys. Ychydig wallau mewn sill- ebiaeth. 01 ymdrech er hynny, a di- fynnir dernyn tlws iawn. 3.—Un o Drecynon.—Ysgrifenna hwn am Ceiriog. Mae ganddo lawer o wallau—yn enwedig ynglyn a threigli- ad y cydseiniaid. Ond ag ystyried ei oed-nid yw ond lleg—mae ei waith yn rhagorol. Os a ymlaen fel hyn, daw yn Gymro a lienor da cyn hir. 4. Un arall o Drecynon.—Ar Islwyn yr ysgrifennodd hi, a gwnaeth waith da iawn. Mae yma rai gwallau, rhai ellid eu hosgoi. Gellid gadael rhai ffeithiau dibwys allan, a rhoi rhai pwysiach yn eu lie. Er hynny, mae y gwaith ar y cyfan yn dda iawn. 5. Un o Gaerdydd.—Ar Ceiriog eto. Hanes byr ac i'r pwrpas wedi ei osod i lawr yn drefnus-bob yn baragraff. Bum yn hanner dybied fod ol Haw hyn na 16 mlwydd ar y gwaith, gan mor berffaith yw. Ond penderfynais nad oedd y dyb honno o'm heiddo yn iawn. Byddai yr hanes yn well heb yr ail baragraff na'r olaf. Hwn yw y goreu, sef eiddo— Violet May Powell, 13 Beauchamp Street, Caerdydd. Gan ei bod yn byw mor agos, bydd yn dda gennyf os geihv yma am ei gwobr -;yn 29 Plasturton Avenue. Caf felly y Pleser o siarad a hi a'i hadnabod. 'Vele'r hanes heb newid dim arno. Yr ail oreti vw Rhif 4. C'a hwnnw vm- ddangos yn y Darian" nesaf CEIRIOG. I Ganwyd John Ceiriog Hughes vm Mhenvbryn, Llanarmon, Dyffrvn Ceiriog, Medi 25ain, 1832. Bu yn byw ym Manceinion am ugain mlynedd, ac ar ol hyny yn Llanidloes, Towyn, Tref- eglwys, a Chaersws, lle v bu farw Ebrill 23ain. 1887, yn 54 mlwydd oed. Claddwyd ef ym Mynwent Llamvnog dwy filldir o Gaersws. Yr oedd Ceiriog yn un o feirdd goreu C'ymru, ac yr wyf yn mwynhau darllen ei weithiau yn fawr iawn. Y mae fy chwiorydd a minau wedi cystadlu ar adrodd o ganeuon Ceiriog. megys "Sant y Mynydd," "Y Gwcw" (0 Alun Mabon), ac ereill. Da genyf ddweyd ein bod wedi enill gwobl-wyon hefyd am adrodd y darnau a enwyd. C'yhoeddodd Ceiriog lawer o lyfrau, yn eu plith Oriau'r Bore." Oriau Ereill," Oriau'r Haf," ac Oriau'r H Wyr." Y darnau goreu a gyfansodd- odd ydynt "Alun Majbon" a "Mvfan- IA-Y ychan." Y mae miloedd o Gymry wedi treulio llawer awr ddifyr wrth ddarllen y darnau ardderchog' hyn. Ymaeyn" Oriau'r Haf gasgliad helaeth o Hwiangerddi, y rhai y bu C einog yn eu casglu am yn agos i uymtheg mlynedd. Y mae Hawer o ganeuon Ce?rio? ?-edi WgRS°K aT g4n gan Dr. Parry?Brin- le- Richards, EmIynEvans' a cherdd- ,rlon CYllU'eig ereill. Y l' hyn oedd homas Moore i'r Iwerddon a Bobbie ]Hrns i'r Alban, hyny oedd Ceiriog i (-.ymru. Bardd telynegol (lyrical poet) ?.. B?t&r?? N Dylai Dob? bachgen a merch vn Xf'hymru dd.ysgu ar eu cof rai 'r darnau prydferth a gyfansoddwyd gan Ceiriog. Byddai hyny yn gymorth mawr i gadw yr iaith Gymraeg yn fyw. AYele ddyfyniad o "Alun Mabon" :— Y GWCW. I Wrth ddychwel tuag adref. Mi glywais gwcw Ion, Oedd newydd groesi'r moroedd I'r ynys fechan hon. A chwcw gynta'l' tymor A ganai yn y coed, 'Run fath a'r gwcw gyntaf A ganodd gynta' rioed. Mi drois yn ol i chwilio Y glasgoed yu y llwyn, I edrych rhwng y brigau PIe')' oedd y deryn mwyn ? Mi gerddais nes dychwelais 0 dan fy medw bren, Ac yno'r oedd y gwcw Yn canu wrth fy mhen. 0' diolch iti, gwcw, Ein bod ni vma'n cwrdd Mi syehais i fy llygad. A'r gwcw aeth i ffwrdd. VIOLET MAY POWELL. (121 oed). 13 Beuchamp Street, Hiverside, Caerdvdd.

I Colofn y Gohebiaethau.I

- - - - Cymdeithas Dafydd…

[No title]

[No title]

O'r Wy i'r Dywi. I

[No title]

ITrefforest a'r Cylch.

cwmbach.

Advertising