Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNHWYSIAD. I

. -L. I i Ar y Twr yn Aberdar.…

Cymdeithas DdramodoiI Plasmarl.

[No title]

COLOFN LLAFUR. I )

Llwynbrwydrau.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llwynbrwydrau. I Nos Sadwrn, Chwefror 28am, cyn- haliodd Cymdeithas Ddiwylliadol y lie gyfarfod cleber a chanu er dathlu gwyl ein nawdd-sant Dewi. Eistedd- odd tua chant a haner wrth y byrddau i fwynhau y wledd osodwyd o'u blaen. Gwasanaethwyd wrth y byrdd- au gan rai o'r rhyw deg wedi eu gwisgo yn y wisg genhedlaethol-het dal a phais a betgwn. Wedi gwneud cyfiawnder a'r wledd, aethpwyd drwy raglen hollol Gymreig. Y llwngc destynau oeddynt: "Ein Ffyddlon- deb i'r Gymraeg cynygiwyd gan Grymlyn, ac eiliwyd gan yr Henadur Jordan; "Y Gymdeithas": cynyg- iwyd gan y Bonwr J. T. Rees, ac eiliwyd gan y Cynghorwr Dan Griffiths. Hynod swynol ydoedd "tine y tannau cytunol dan ddylan- wad bys a bawd medrus y Bonwr John Lewis, Trebanos. Diddorol yd- oedd y penillion ganwyd gan y Fon- csig Gwen Williams, Trebanos. Der- byniad gwresog iawn gafodd y Bon- wr D. Howell Thomas pan ganodd "Unwaith eto, Nghymru Anwyl," a'r Fonesig Richards am ganu "Gwcw Fach," gyda'r Fonesig Lil Thomas, R.A.M. (A.G.) wrth y berdoneg. Siaradodd y Bonwr Mansel Williams ar yr achlysur, a cafwyd anerchiadau barddonol gan y Bonwr D. W. Jen- kins, Eilir Mai, Dewi Chwefror, ac Eurin Fardd, a Chyfelach. Yr ys- grifenydd oedd y Bonwr W. J. Lewis, Gwynfa, a'r cadeirydd, y Parch. T. C. Lewis. Terfynwyd noson lawen drwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau." GOLWG Y MOR. I

¡Cwmni Yswiriol y Pearl. I

[No title]

Aberteifi a'r Cylch.I

Oddiar Lechwedd Penrhys. I

Advertising