Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

O'r Wy i'r Dywi.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

O'r Wy i'r Dywi. Gwersi Mewn Hanes Lleol gan Lewis Davies, Cymmer. HEN AMDDIFFYNFEYDD. Pan sonir wrthym am 'gastell,' y peth cyntaf ddaw i'n meddwl ydyw adeilad anferth wedi ei gylchynnu gan furiau trwchus gyda nos ddofn yn cylch- ynnu y rhai hynny drachefn. Dyna, yn wir, yw y cestyll Normanaidd adeilad- wyd saith neu wyth can' mlynedd yn ol, ond yr oedd yma amddiffynfeydd ymhell cyn hynny, a gelwir llawer o'r rhai henaf hyn hefyd wrth yr enw I castell,' ynghystal ag wrth 'dinas' ac enwau ereill. Ni fu amser erioed ar ddyn, ym Mhrydain, fel pob gwlad arall, nad oedd yn gorfod arfogi ac amddiffyn ei hun rhag ei gyd-ddyn, a gan fy mod eisoes wedi dweud rhywbeth am gythrwfl y cyn-oesau, naturiol yw i chwi ddisgwyl imi ddweud rhywbeth hefyd am olion amddiffynfeydd yr un cyfnodau. Y mae cannoedd o'r gwersylloedd hyn yng Nghymru, ac nid oes odid gwmwd na chantre nad all ddangos weddillyn o un neu ychwaneg o honynt yn rhychu arwynebedd y tir. Nid ydynt i gyd yn gyn-hanesiol, ac nid i'r Brytaniaid yn unig y gellir eu priodoli oil. Bu y Rhufeiniaid yma dros bedair canrif gyntaf o Oed Crist, gan adael ar eu holau olion amlwg o'u gwersylloedd, a bu y Daniaid ('Llu Du' yr hen frutiau) yn ein bro yn achlysurol o'r nawfed i'r unfed ganrif ar ddeg, gan adael olion o'u hamddiffynfeydd hwythau yr un modd. Ond yr unig wersylloedd cyn- hanesiol yw y rhai Brytanaidd, a dim ond yr henaf o'r rheiny. Felly hwy gant ein sylw gyntaf. Yn yr ucheldiroedd y ceir hwynt bron yn ddieithriad, yn coroni, ond odid, rhyw foel neu allt serth fuasai yn natur- iol addas i'r gorchwyl o ryfela, h.y., un allesid yn hawdd ei dal gan lu bychan, ac ar yr un pryd fuasai yn un anodd ei chymeryd gan lu mwy. Cylchynnid copa'r graig a gwal sfich tra y tu allan i honno drachefn byddai un, dwy, neu dair o rychiau dyfn i beri rhwystro y gwarchaewyr yn eu rhuthr. Os gallesid cael ffynnon y tu fewn i'r amddiffynfa, -cyfrifid hi yn gaffaeliad mawr, ond nid yn ami y gallai hynny fod, am mai ar grib y llethr y sefydlid y gwersyll bron yn ddieithriad, ac anfynnych y buasai cyflenwad o ddwfr yn y fath le. Ychydig o'r gwelydd sychion sydd yn aros, ond canfyddir y rhychiau yn eglur eto, ac oddiwrthynt hwy gellir gyda chryn sicrwydd benderfynu cyfeiriad a maintioli pob gwersyllfa ymron. Fel rheol, go-grwn neu grwn (oval or circu- lar) ydynt o ran ffurf, ac yn hyn o beth y gorffwys un gwahaniaeth mawr rhyng- -ddynt a'r amddiffynfeydd Rhufeinig, y rhai bob amser ydynt bedair-onglog (rectangular) Dim ond y gwersylloedd pwysicaf gyfaneddid drwy y flwyddyn, ac yn y rhai hyn yn unig y ceir sylfeini aneddau. Ni ddefnyddid y gwersylloedd llai ond ar adeg o berygl, ond yr oedd hynny, ysywaeth, yn dra mynnych hefyd, fel yr edrydd llawer pennod ddu yn ein hanes. Ni pheidiodd y Brytaniaid--a gwneud amddiffynfeydd pan ddaeth y Rhufein- iaid i'n traethau. I'r gwrthwyneb, bu eu dyfodiad yn foddion amlhad y 'cedyrn leoedd,' a'r un modd pan yn eu tro y daeth y Saxoniaid, y Daniaid, a'r Normaniaid mewn oesau diweddar- ach i'w poeni. Yr ydym yn sicr fod y Brytaniaid yn dal yn eu llochesau mynyddig hyd ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg, h.y., hyd yr amser y daeth y Xormaniaid yma gyntaf. Ond buan wedyn dysgas- ant oddiwrth y bobl ryfelgar hynny fod cestyll tyrrog yn well hyd yn nod ar y gwastadedd na chlawdd a ffos yn yr ucheldir. Yr hanes diweddaraf wclais ° ddefnyddio hen wersyllfa mewn rhyfel sobr oedd gwaith Owain Glyndwr yn adgyweirio Caer Drewyn, ger Corwen yn 1400. Ond 08 yw yr hen wersylloedd yn fud heddyw, heb na gwaedd na chrochlef yn torn ar eu hunigrwydd, pery eu ffosydd yn eithaf hyawdl i'r hanesydd, ac i un- rhyw un arall all ganfod, fel y dywed- odd Schaki espeare, Sermons in stones and books in the running brooks." Edrychwch o'ch deutu i weled a oes un o'r rhai canlynol o fewn cyrraedd taith fer i chwi, ac ewch i chwilio y llannerch y bu eich hynafiaid lawer tro yn gorfod ymladd am eu hoedl. Os na wna hynny well C'ymry o honoch, an- obeithiol ydych, yn wir. Rhai o Amddiffynfeydd y Brytaniaid. 1. Garn Goch, rhwng Llandeilo a Llangadog, y gwelydd yn eithaf arnlwr. 2. Bwlwarcau, ger Llangynnwyd, tair ffos i'w hochr orllewinol. 3- Y Gaer, Pare Tredegar, dwy ffos gyfan o'i hamgylch. 4. Pen Crug, Aberhonddu, tair ffos mewn mannau. 5. Castell Meurig, i'r gogledd o Lan- ymddyfri; olion y gwelydd. 6. Twyn Barlwm ger Rhymni. 7. Bellinstocke, ger Caerlleon (enw oeisnig), pedair ffos. 8. Twyn y Gaer, ger y Fenni. 9. Mynydd y Co,stell, Margam. (Dygai hwn yr enw 'castell' cyn son am .y Mansehaid, chweithach y Talbotiaid.) 10. Pen y Casten, Cefn Cribbwr. 11. Y Pebyll, rhwng Abergwyn? a BRi? aen Cwm.  ( PenIle'r Castell, ?'"y? y Bet- tw8, Caerfvrddin. 13. Gwe;syl1 y Maendy, rhwng Cwm- pare a'r Ton. be?he??7 Gaer' Ba&lan< "wch- berf herT ??.YBIaenBagian. 15 SN Aberhonddu. 16- xr •' ger Aberhonddu. hywel ? ??? ?.Y?. Crug- 17. Cefnllys, Sir Faesyfed. 18. Pentwr Clawdd a Phentwr Cas- tell, ger Llangyfelach. 19. Cefn Carnau, ychydig i'r gogledd 1 1 o Gaerdydd. 20. Bryn y Gwyddyl, rhwng Aberdar a Merthyr.

!Glyn Nedd.I

IBarlysu. I I Plentyn wedi…

Cyflafan y Diniwed.I

Cymdeithas Dafydd ap Gwilym,…

Advertising