Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Thompson & Shackell, Ltd. PIANOS AND    PIANOS AND PIANOS AND nCL h1 eapest LM House m the Trade. ORGANS. ORGANS. .,eape Quse In t e ra e. ORGANS. ESTEYdORGAN AGENCY, 24, Queen-street, Cardiff. BRANCH ADDRESSES BWAN8EA 33, Castle-street. PONTYPRIDD.6, Tafl-street. NEWPORT .i3, Commercial-street. GLOUCESTER 42, Eastgate-street. LLANELLY 60, Stepney-street. BRISTOL 142, Newfoundland-road. MERT'HYR 114, High-street. BRIDGEND .1, Wyndham-street. Terms I Hire System, from 10/- Monthly. IS" Large Discount for Cash. OLD PIANOS TAKEN IN EXCHANGE. LIST FREE ON APPLICATION. N.B.—ALL GOODS DELIVERED FREE TO ANY ADDRESS. DO YOU SUFFER FROM) EYESTRAlt4 ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOtJR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, F.S.M.C., ftCt.twt. C 't OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA, And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Carmarthen Dairy, Seymour St. a Whitcombe St., ABERDAR. Cynyrch Llaethdy o'r Fath Oreu, yn cynwys Hufen Ceuledig Ammrwd a Devonshire, yn newydd bob dydd. Wyau Newydd Ddodwy—Gwarantedig. Darperir ar gyfer Partion Te. Anfonir Llaeth ddwywaith y dydd. FORGE FACH, CLYDACH, Ger ABERTAWE. CYNHELIR Y NAWFED Eisteddfod Flynyddol yn y lie nchod, Sadwpn, Gorphenaf 11, 1914. COR AU MEIBION, "Castella" (Dr. Protheroe) GwobrJ620 COBAU CYMYSG, "My Love is like the red, red Rose (D. Emlyn Evans) 11 JE10 AIL-GORAU MEIBION, In the Sweet bye and bye (Dr. Protheroe) ,,£6 PBIF FBIRNIAD Dr. DAN PBOTHEROE, Chicago. Bhestr gyflawn o'r Testynau i'w cael oddiwrth D. CLYDACH THOMAS, yr Ysgrifenyd am y pris arferol. Treorchy Annual Eisteddfod WHIT TUESDAY & WEDNESDAY, 1914 Programmes, 2d. each, from the Secretaries, Eisteddfod Office, Treorchy. GOWERTON was EISTEDDFOD, MAY 23rd, 1914. Male Voice Choirs, 225; Mixed Chotra, jei2 Children's Choirs, tio; Solos (each) f2 2s. & 91 is. Solos (Children) 10/6 and 5/- Programmea now obtainable (2d. Post free) from the General Secretary, Mr. W. T. MORGAN, Ivy Cottage, Gowerton. Note: Change of Date Under Royal Patronage JUDGES' HALL, TREALAW. The Rhondda Silver Cup Eisteddfod has been postponed frtm March 7th to April 25th, 1914. Preliminary Tests for Soloists at 10.30 a.m. at II the Judges' Hall. Male Voice Competition to commenoe at 2. An address will be given by PRINCE ALEXANDER OF TECK at 3 30 p.m. Last day for Entries, April 18th, to be sent to the Secretary— TOM DAVIES, 1 Queen Street, Ton Pentre. MORIAH, BEDLINOG. Cynhelir yr EISTEDDFOD FLYNYDDOL uchod Dydd MAWRTH PASC, EBRILL 14eg. 1914. Beirniaid Canu: DAVEY JOKES, Dewi Carno, Rhymney. Adroddiadau, &c.: Y Parch. CRWYS j WILLIAMS, Brynmawr. Programmes yn barod; i'w cael odcli- j wrth yr Ysgrifenydd, John C. Thomas. Trwy y post, lJc. iSETS CHAIR EISTEDDFOD To be held at TREGARON ON WEDNESDAY, AUGUST 5th, 1914 Male Voice Competion, E70 in Prizes. Chair Poem Competion, 96 6s. Further particulars later, or on appli- cation to the Secretaries. BURRY PORT WHIT MONDAY EISTEDDFOD Male Vo ice: 'The Assyrian Came Down' (Cyril Jenkins), E40. Second Male Voice: Little Church" (Becker), £8. Pro- grammes (ltd. post free) from-General Sec., Wm. Griffiths, Elkington Rd., Burry Port. C W MM A W R GRAND, CHAIR EISTEDDFOD SATURDAY, MAY 2nd, 1914 (Labour Day). Male Voice, The Assyrian Came Down" 20 0 0 Mixed Choir, Ar lan'r lor- ddonen Ddofn" 10 0 0 Brass Band Contests. 28 0 0 And Specials. Hon. Sec., Mr. E. W. Davies, Solicitor, Tumble, Llanelly. Programme, lid. post free. MARDY, RHONDDA, A GRAND Competitive Concert will be held on Saturday, March 28th, 1914. Champion Solo (Open), Competitor's own selection. X3 3s. and a Silver Cup. Open Recitation, Competitor's own selection. JEl Is. Also several other items. Programmes to be obtained from W. L. HOWBLLS, 33 James St., Mardy, Glam. ARGRAFFWAITH DA, 6LAN a DEST.US GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Cyf., I 12 qEOL CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddysg yn y gelfyddyd. Ond anfon Llythyr-gerdyn oeir Estamplano Adroddiadau Eglwysig, feetvnau a Rbagleni Eisteddfodol, TaQeni Cyfarfodydd Cerddorol, &c. Pellseinydd Centra) 151. I Cofiwch yr enw- THOMAS a PARRY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymra yn ei hoi; ein hawydd ni yw gyrra'r Hen Wlad yn ei blaen. I'r amcan hwn yr ydym yn oyflogi Cymry sydd I ar y blaen yn y geifyddyd o Xrgreff a. j ANFONWCH AM 8AMPLMJ. I Can, Llen a Cweriq Gwaith y dlweddar Myfyr Wynn, sef BACHAN IFANC Y DARIAN. Ceir ynddo ADGOFION AM 8IRHOWI A'R CYLCH. DVKNAU BARDDCNOL A'R LLYTHYRA NEWYDD. Pris 1/ Drwy'r Post 1/2. I'w gael o Swyddfa'r DARIAN, neu oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman Prepaid Small Advertisements Inserted at the following specially low rates: One week 4 wke. 13 wks. a. d. a. d. a. d. 20 words 0 8 1 6 • i 28 0 9 2 3 I » 36 1 0 3 0 7 These charges apply only to the follow ing classes of advertisements :-A part- ments, Situations (Vacant or Wanted). To be Let or Sold, Lost or Found, aad Miscellaneous Wants. Remittances may be made by Postal Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will bllt charged. Advertising and Publishing Olbees. Cardiff Street, Aberdare. Hysbysiad o Bwys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosbarthwyr. Teimlwn mai angenrhaid yw gwney4 yn hysbys y cyhoeddir y Dari&D hod dydd Mawrth, ac y danfonir hi i'r holl ddosbarthwyr brydnawn yr un dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonant hysbysiadau neu newyddion urgent* .)falu eu bod yn cyrhaedd y swyddft heb fod yn ddiweddarach na bore Vlawrth. Carem gael bob gohebiaetfr arall mor gynar ag sydd bosibl. Anfoner pob gohebiaeth a phob trR. fodaeth yn dal perthynas a'r "Danast' •'r cyfeiriad a ganlyn YN UNIG — SWYDDFA'R DARIAN," ABERDAR Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllen- wyr gael y Darian oddiwrrh ddosbarth- wr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lc. yr wythnos, 6ch. am fis, 1/7i y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post.
[No title]
SYLWER: Anfoner Llyfrau, &c., i'w hadolygu i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," a gofelir am wyr cymwys i roddi barn arnynt. Ni chyhoeddir adolygiadau o hyn allan, oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolyg- iad.
INodiadau'r Golygydd.
I Nodiadau'r Golygydd. Dydd Gwyl Ddewi. Gwyl Dewi ai Gwyl Ddewi sy'n gywir? Y mae Ffordd Ddeiniol yr Athro J. Morris Jones fel pe'n awgrymu Gwyl Ddewi," a thramcar Ynys- forgan fel pe'n awgrymu'r un peth. Gwelaf, er hynny, ysgrifenwyr o nod yn arfer Gwyl Dewi," a phan y mae'r athrawon yn gwahaniaethu annodd yw i bobl gyffredin wybodbeth i'w wneud. A gawn ni air ar y mater gan ohebydd medrus Cymdeithas Dafydd ap Gwilyrn. Rhydychen 1 Y mae'r wyl genedlaethol drosodd unwaith eto, a chredwn nad ofer fydd y miri fu ynglyn a hi. Gwyddom yn dda fod llawer o'r can- mol fu arnom fel cenedl, ac ar ein hiaith a'n llenyddiaeth, yn ddigon di- werth. Ceir ynglyn a'n Gwyl Genedl- j aethol lawer o'r hyn a eilw Gwili'n i genedlgarwch un-nos." Clywir dyn- ion yn honni eu bod yn Gymry y byddai yn well gennym glywed eu bod yn perthyn i ryw genedl arall. Awydd am enw a chlod ac efallai fantais fydol iddynt eu hunain sydd o'r tu ol i'w cenedlgarwch. Nis gwyddant mo'u hiaith, ac o ganlyniad y mae yn amhosi- bl iddynt wybod llawer am ein delfryd- au, ein llenyddiaeth a'n hanianawd genedlaethol. Ail law ar y goreu yw defnyddiau eu hyawdledd pan yn can- mol Cymru. I bobl gyffredin a dirodres y mae eu hosgo nawddogol yn anni- oddefol a byddem yn ddiolchgar iawn pe tawai y rhai hyn ar wyl y genedl. Cefnogaeth fyw sydd arnom eisiau y I dyddiau hyn, ac nid nawddogaeth clebr- wyr hunangeisiol. Nid rhai i ollwng allan ager am noson gyda llawer o swn, ond dyruon a'i sel wladgar yn ym- gorffori'n ffyddlondeb i iaith a budd- I iannau goreu eu cenedl ar hyd y flwyddyn. Nid di-fudd, er hynny, yw y poblog- rwydd sydd i Wyl Ddewi'r blynyddoedd hyn. Y mae ein harweinwyr ymhob cylch wedi dysgu'r ffordd i wneud defn- ydd da o honi a'i gwneud yn allu er dyrchafiad y genedl. Achos o lawen- ydd mawr yw fod yr Adran Gymreig o'r Bwrdd Addysg yn teimlo y fath ddi- i ddordeb ynddi ac yn darparu mor odi- dog tuag at gadw'r wyl yn deilwng yn ein hysgolion. Galwasom sylw ychydig wythnosau yn ol at lawlyfr deallus a gyhoeddw^d i'r perwyl hwn. Cyfar- wyddid yr ysgolfeistri a'r athrawon sut i lunio rhaglen ac ymha le i gael defn- j yddiau priodol. Bydd dilyn cyfarwydd- iadau y Bwrdd Addysg yn rhwym o j wneud Dydd Gwyi Ddewi i'r plant yn ddydd i'w gofio ac yn foddion i ennyn ynddynt ddiddordeb mwy yn y pethau a berthyn i'w gwlad. Danghosodd rhai ysgolfeistriaid i ni eu Rhaglen Gwyl Ddewi. Yr oeddent wedi ei hys- grifennu yn Gymraeg a phopeth ynddi o nodwedd a feithrinai serch at yr hyn sydd oreu ym mywyd ein cenedl. Pe gwnaed yn ein holl ysgolion yr hyn a wneir yn rhai o honynt ni fyddai eisiau ofni am ddiogelwch y Gymraeg na dim a berthyn iddi. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf gwelsom gychwyn symudiad pwysig, sef Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Y mae hwn hefyd a'i osgo tuag at wneud Gwyl Ddewi yn deilyngach o Nawdd- Sant y Genedl. Gwneud popeth yn Gymraeg yw arwyddair yr undeb hwn, ac y mae hynny yn sicwydd i ni fod yr wyl eleni wedi ei chadw mewn llawer lie yn well nag y cadwyd hi erioed o'r blaen. Symudiad ydyw hwn wedi dech- reu ymhlith y werin, ac un o'i amcan- ion yw cadw allan Seisnigeiddiwch o'n sefydliadau cenedlaethol. i —————————————
I Nodion o Gylch Aberafon.
I Nodion o Gylch Aberafon. I Gweithfaol. Er y caddug sy n gordoi y cylch yma mewn ystyr lofaol er's rhai misoedd bellach, fe ddywed- ir fod argoelion lied sicr y gwelir rhai o'r glofeydd sydd yn segur yn bresenol yn cychwyn ar fyrder. Tru- eni meddwl am anghydwelediad Glofa y Cynon. Cymaint o drigolion I y cylch oedd yn cael eu cynaliaeth yma. Y rhan fwyaf o honynt yn egur, a'r llall yn llanw y glofeydd amgylchynol. Hyderwn y bydd y cyfeillion a benodwyd gan y Bwrdd Cyflafareddol yn alluog i derfynu yr anghydwelediad hwn yn fuan. j Glofa'r Dyffryn.—Y mae hon yn isegur, a thua mil o ddynion allan o waith. Dywedir fod argoelion y bydd iddi ddechreu yn fuan, gan fod cwmni cryf i gymeryd ati. Y mae trens rhad y gweithwyr wedi eu hatal yn hollol ar y R. & Swansea Bay oherwydd yr ataliadau hyn. Sybridir fod Cwmpeini y Baldwins yn bwriadu agor dau bwll eto yn y Bryn. Bydd hyn yn gaffaeliad mawr i'r Dyffryn hwn, gan fod Iluaws o Gwmafon, Aberafon, a Maesteg yn gweithio yn y lie. Go- beithiwn y tyr y wawr, ac y gwelir haul llwyddiant yn tywynu eto ar y cylch poblog hwn. I Crefyddol. Bwriada Eglwys I Methodistaidd y Bryn adnewyddu ei chapel, a chael un fydd yn deilwng o'r I Corph parchus. Ac i'r amcan o gael cynorthwy i'w trysorfa, cynhaliwyd i -te parti dydd Iau diweddaf, a daeth tyrfa luosog i fwynhau y danteithion darparedig. Bwriadwyd cynal cyngherdd yn yr hwyr, ond bu raid ei ohirio oherwydd lluosogrwydd y dyrfa ddaeth i'r wledd. Llongyfarch- wn yr eglwys fechan ar ei hanturiaeth. Y mae pregethwyr enwocaf y Corph wedi gwasanaethu yn yr hen addoldy, lac yn eu plith yr enwogion Mathews Eweny, Dr Saunders, James Llaneu- rwg, ac fel y gwyddom y mae Pen- hydd, hen gartref yr enwog Shencyn, yn ymyl Bryntroedgam, ac y mae yn ol pob tebyg wedi bod yn pregcthu yr Efengyl yn y lie bychan hwn lawer o weithiau. Llwyddiant mawr ddilyno ymdrechion y ddeadell fechan. I Dramayddol. — Bwriada Cym- deithas Ddramayddol y Rock, Cwm- afon, berfformio y ddrama, Die Shon Dafydd ar fyrder, ac y maent yn parotoi yn egniol ar ei chyfer o dan arweiniad y brawd talentog, William Williams. Diolchwn am frodyr o allu- oedd y cyfaill hwn yn barod i aberthu ei amser hamddenol er llesiant cym- deithas, a chodi Cymru, Cymro, a Chymraeg. Diolch i'r Cwmafoniaid am eu ffyddlondeb i'r hen iaith. Llwyddiant ddilyno y gymdeithas. Hyderwn y gwelir yn y lie cyn hir deiliad addas ddeil fwy o wran- dawyr, fel nad elo'n pobl ieuainc ar ol y Cinemas difudd i Aberafon a'r cylch. MAB Y MYNYDD.
-__- - I Nodion o Frynamman.…
I Nodion o Frynamman. I GAN WALCH HYDREF. j Damwain. Prydnawn dydd Mawrth. Chwef. 24, ar y rheilffordd, rhwng gwaith Alcan Glyn- beudy, a'r orsaf, cyfarfyddodd Mr. Geo. j Overhand a damwain tra blin wrth mynd at ei waith. Tarawyd ef i lawr gan ger- bvdi-es nivvddau y G. W.R., a thorrwyd ei glun dde oddiwrth ei gorph, a'r glun chwith uwchlaw'r bigwrn, yn ol yr hyn a glywais gan un fu yn y man a'r lie. Gweinyddodd y meddygon Dr. Lewis a Dr. Corkney arno, ac anfonwyd ef mewn "motor ambulance" i Ysbyty Abertawe. Ofnir bydd rhaid cad y glun chwith oddi- wrth ei gorph etto, am ei fod wedi ei briwio i fath raddau nes ei gwneud yn amhosibl i'r meddygon ei thrin yn ddiogel. Brodor ydoedd o Warrington, Leeds, ond yr oedd yn yr ardal hon er ys blynyddau bellach, ac wedi ennill parch y meistr a'u gydweithwyr. Nid oes neb yn gwybod etto pa fodd y digwyddodd y ddamwain. I Marwolaeth. Prydnawn dydd Mercher, Chwef. 25, bu farw Mrs. Hhys Lewis, anwyl briod Mr Rhys Lewis, Quarry Road, yn 68 mlwydd oed. Dioddefodd yr ymadawedig gystudd maith yn amyneddgar. Yr oedd yn gym- mydoges hawddgar a charedig. I Llwyddiant. Bydd yn dda gan lawer i glywed am lwyddiant y brawd Richard Morgan, Can- non Street, canwr pennillion cenedlaethol gyda'r dolyn. Daeth galwadau arno o lawer He i fynd i gadw Gwyl Ddewi, ond amhosibl oedd iddo fod ym mhobman. Mae yng Nglyncorrwg nos Sadwrn, Chwef. 28, a Chaerfyrddin nos Lun, gyda'r Cymro- dorion. Bydd y mis hwn eto gyda Gwili a'i ddarlith enwog ar Fywyd y Pennillion Telyn" yn Nghwmtwrch. Felly, chwi welwch fod adeg brysur o flaen y canwr uchod. Diddorol i ddarllenwyr y 'Darian' fuasai clywed neu ddarllen yr anerch- roddotld mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yn ddiwtxldar yn Ammanford ar y ffordd i ganu pennillion gyda'r delyn. Efallai y cawn yr anerchiad yn y 'Darian.' Mown Eisteddfod a gynhaliwyd yn Llan- ddeusant, Gwynfe, dydd Gwener, Chwef. 27, ennillwyd y wobr flaenaf gan gor merched y lie hwn, o dan arweiniad Mr. Ted Morgan, A.L.C.M., Glyn Road. Dyma y tro cyntaf i'r cor hyn ymddangos ar y llwyfan Eisteddfod, ac hyderwn y cawn glywed eu hanes etto yn fuan. Bob." Traddodwyd darlith ar y testyn uchod yn Ebenezer nos Sadwrn, Chwef. 2S, gan y bardd-bregethwr Gwili, M.A., Ammanford. Cawd darlith odidog, fel y ceir bob amser gan yr Athraw medrus o Ammanfryn. Mae Gwili yn adnabyddus iawn yma fel pregethwr a darlithiwr, a ehwareu teg iddo mae'n barod bob amser i gynnorthwyo yr angenus. Cadeiriwyd gan y Parch. H. O. Jones, gweinidog yr oglwys. Yr oedd elw y ddarlith hon i gynnorthwvo y brawd Dd. Watcyn Jones, School Road, yr hwn gyfarfu a damwain yn y lofa erys dwy flynedd, ac sydd wedi ei annalluogi i ddilyn ei alwedigaeth arferol am gryn amser eto. Hyderwn fod yr elw yn sylweddol. I Siloam. Nos Sadwrn, Chwef. 28, cynaliwyd Eis- teddfod lwyddianus yn y lie uchod o dan lywyddiaeth Mr Edward Phillips, Station Road. Methasai Mr. Richard Morgan, Park Street, fod yn bresennol oherwydd afiechyd. Gwobrwvwyd y rhai canlynol:—- Amrywiaeth: Adroddiad i blant dan 10 oed Rhanwyd y wobr flaenaf rhwng M. K. Peregrine a Lizzie Llewelyn; yr ail wobr i Olwen Evans. Adroddiad i rai o dan 16 oed: Goreu ydoedd Winnie Williams; a'r ail i Willie Evans. Adroddiad agored, Mi- Dan Jones. Traethawd, Gwr ieuanc a'i gymdeithion Goreu, Mr David Brynfab Thomas, Brownhill House. Pennillion, "Pen y mvnydd" Rhanwyd y wobr rhwng Mri. Gwilym Phillips, Station Rd.. a Thomas Pia Morgans, "Ammanydd," gohebydd Ileol i'r "Herald of Wales." Llythyr Caru: Rhanwvd hwn eto rhwng Miss Annie Phillips, Station Road; Mr Dd. John Davies, Goleufryn, Park Street.— Cerddoriaeth Unawd i blant o dan 8 oed Goreu, Miss Eluned Davies. I rhai o dan 12 oed: Rhanwyd y wobr flaenaf rhwng Rosie Phillips a Blodwen Thomas; yr ail wobr i Dinah Hicks. Deuawd i rai o dan 16 oed: Y wobr Baenaf i Rosie Phillips a Dinah Hicks, a'r ail i May a Blodwen Thomas. Unawd baritone: Y goreu, Robert Parry. Unawd tenor, Mr. Griff Williams. Unawd soprano, Miss Esther A. Davies ydoedd y goreu. Y prif ddarn: Dyfarnwyd v wobr i Mr Llew Roberts a'i gyfeillion. Am y prize bag goreu, dyfarn- wyd y wobr i Miss Unis Morris. Cyfeil- iwyd gan Mri. Morgan Lewis a Samuel Moses. Cawd eisteddfod ragorol a chys- tadleuaeth frwd ar bob item. Yr ysgrifen- ydd ydoedd Mr Fred Morgan, Park Street, yr hwn sydd yn gweithio yn egniol dros ben dros lwyddiant yr eisteddfod yn nghyd a'r trysorydd, Mr Wm. Henry Lewis, Mountain Road.
ClAddedigaeth Mrs. Rachel…
ClAddedigaeth Mrs. Rachel I Davies. Fel y nodwyd yn y "Darian" ddi- weddaf bu farw y fam ragorol hon yn ei chartref yn 32 Curre Street, Aber- aman. Yr oedd yn chwaer i'r diwedd- ar Mr Herbert Davies, Ynyslwyd, a gedy frawd heblaw ei theulu ei hun, sef Mr Daniel Davies, i alaru ar ei hoi. Dygwyd yr hyn oedd farwol o honi i Gladdfa Gyhoeddus Aherdar, dydd lau, Chwefror 26am. Gwasanaeth- wyd gan ei gweinidog, sef y Parch. \V. T. Francis, Gwawr. Rhoddodd dystiolaeth uchel i'w chvmeriad a'i ffyddlondeb ar hyd y blynyddoedd gyda'r achos fel un a'i hadnabu am lawer o flynyddoedd. Cynorthwyid ef gan y Parchn. J. Griffiths, Cal- faria, a D. Hopkin, B.A., Noddfa; D. Davies, Gwawr, ac Ab Hefin. Ymysg y teulu yr oedd Mrs Ed- munds; Eurfab a'i wraig; Henry Daniel Davies a'i wraig; Mrs Evans, Cwmaman; Mrs Thomas, Brook Street, a Mrs Williams, Gladstone Street, ac yr oedd y perthynasau can- lynol :—Mri. J. Davies a D. Davies, Sunny Bank; Dan Davies, Cwmparc, a'i wraig; Mrs Evans, Caerdydd; Mrs Rosser, Wattstown; W. Griffiths a'i wraig, King Street; R. Nill, King Street; D. T. a J. Ann Nill, King Street; D. T. a J. Ann Davies, King Street; Johnny Davies, Cardiff Road; Evan Jones, Nantgwawr; D. a J. Jones, King Street, a Ilu ereill.
| Abergwynfi.
Abergwynfi. Nos Fercher yn nghapel y Taber- nad M.C., y He hwn, cawsom y pleser o wrandaw ar y gwr enwog, y Parch. Thomas Evans, Cwmbwrla, yn traddodi ei ddarlith benigamp, "Billy Bray." Yr oedd Billy yn un o'r cymer- iadau hynotaf. Dr. Gomer Lewis a ddisgwylid, ond methodd ddod o her- wydd anhwyldeb. Drwg gennym am afiechyd y Dr., a hyderwn a gobeith- iwn ei fod ar wellhad. Cafwyd dar- lith oedd yn werth i bawb ei chlywed. Cadeiriwyd gan y Parch. J. Williams (A.) Elai yr elw tuag at y ddyled yr aethpwyd iddi ynglyn a phorthi y plant a'r teuluoedd anghenus yn ystod y streic. Mae cryn siarad fod gwawr go- baith ar dorri yn hanes ein hardal; mae bron chwe mlynedd ar ddod i ben oddiar pan mae glofa fwyaf y Cwm yn segur. Achosa hyn golled a gofid mawr i bawb sydd wedi ymdrechu byw yma drwy y cyfnod hwn. Dywed- ir wrthym y gwneir yn awr ym- drech fwy i gael y dwy blaid, sef y perchenogion, Cwmni'r Ocean, a'r gweithwyr at eu gilvdd. Mawr obeithiwn y cawn weled pethau etc fel cynt, a chanoedd lawer o'r gweith- wyr sydd heddyw yn gorfod myned o gartref i ennill bywoliaeth i'w teulu- oedd yn cael eu cyflogi yn eu hardal eu hunain. Y boreu hwn daeth y newydd gal- arus i'r lie fod ein chwaer hoff, Mrs Davies, priod anwyl y Parch. B. V. Davies, wedi marw yn yr Ysbytty Abertawe, a hi ond yn 57 oed. Mae ein chwaer wedi bod yn dioeddef ers tua dau fis, a chynghorwyd hi gan ei meddyg, Dr. H. Davies, i fyned o dan "operation," gan fod dolur yn wir beryglus, ac felly gwnacth. Aeth drwy y cyfryw yn bur dda, ond yn mhen dau ddiwrnod, tra o dan y gofal mwyaf medrus yn yr ysbytty, cafwyd arwyddion fod y diwedd yn yr ymyl, a bu farw y boreu hwn, sef Chwefror 27ain, gan adael priod a phedwar o blant mewn hiraeth a cholled fawr ar ei hoi. Bydded i'r Arglwydd i gysuro a diddanu y teulu anwvl vn eu dydd blin.
ICaerdydd.
Caerdydd. Cydymdeimlad. Y mae yn sicr genym fod canoedd o ddar- llenwyr y "Darian" yn cydymdeimlo a'r Prif Athro Edwards, Coleg y Bedyddwyr, yn afiechyd ei ferch ar y maes cenadol yn India. Tra ar ei theithiau yn y wlad eang hono tarawyd hi ag ergyd o'r parlys, gan ddiffrwytho un ochr i'w chorff ac amharu ei lleferydd. Y mae yn awr ar ei ffordd gartref, a'n dymuniad ydyw y ca nerth i gyrhaedd. Y mae wedi bod ar y maes cenhadol am mlynedd. Cathedral Road. Deallwn fod y Parch. Samuel Jonesr B.A., Brynmawr, wedi derbyn galwad i fugeilio yr eglwys hon, fel olynydd i'r Parch. R. R. Roberts. Y mae vn enedigol o Borth, Ceredigion. Medr bregethu yn Saesneg a Chymraeg, a thyn gynuileidfa- oedd mawrion i'w glywed. Yn bresenol deil y swydd o Ysgrifenydd Undeb Ysgol- ion Sabbothol v Methodistiaid yn Sir Fynwy. Cyfarfod Anrhegu. Nos Fercher, wythnos i'r diweddaf, yn Nghapel Miny Street, cyflwynwyd anerch- iad a phwrs yn cynwys swm da o aur i'r Parch. Thomas Hughes, gweinidog parchus Miny Street, ar ben 21 mlwydd o weinid- ogaeth yn yr eglwys. Genedigol o Aber- honddu ydyw, a gweinidogaethodd yn gyn- taf yn Eglwys Annibynol Llansantfraid, Maesyfed. Ar gychwyniad ei waith yn Nghaerdydd nifer yr aelodau oedd 155, ac y maent yn awr yn 316. Yn mhen deng mlynedd wedi iddo gychwyn yma cliriwyd gan yr eglwys £ 900 o ddyled, ac adnewydd- wyd y capel gyda thraul mawr. Am dair blynedd y mae Mr Hughes wedi llanw y swydd bwysig o Ysgrifenydd Undeb yr An- nihynwyr yn Nghymru, ac am y flwyddyn ddyfodol efe yw y dewis-ddyn fel llywydd ar yr undeb parchus hwn. Llywyddwyd ar yr achlysur gan Mr John Thomas, yn cael ei gefnogi gan y Parchn. H. M. Hughes, Ebenezer; Charles Davies, Taber- nael; John Morris, David Evans, yn nghyd a nifer lluosog o weinidogion eglwysi cylch- ynol. Cyflwynwyd yr anerchiad ar ran yr eglwys gan Mr Thomas Thomas, a'r pwrs gan Mrs. Thomas, Llantrisant Street.. I Arolygydd Davies. Dydd Gwener, wythnos i'r diweddaf, anrhegwyd Arolygydd Davies, o Heddlu Dociau y Bute, a ifon ebony gyda phen goreuredig yn nghyda gwlawlen i'w briod gan swyddogion ac aelodau yr heddlu hwn. Cyflwynwyd yr anrhegion gan Colonel Dennis, prif oruchwyliwr Cwmni Reilffordd Caerdydd. Wrth wneud dvwedodd ei fod yn bleser mawr iddo eu bod fel swyddog- ion ac aelodau yn gwneud hyn tra yr oedd y gwrthrych mewn gwaith, yr hyn a ddengys eu bod yn oi edmvgu. Safai Mr. Davies yn uchel iawn yn syniad goruchwyl- iaeth Rheilffordd Caerdydd, a gosodent yn- ddo yr ymddiriedaeth lwyraf. Siaradent hefyd ar ran Ardalydd Bute ac Arglwydd Merthvr. Wrth ddiolch, dvwedodd Mr Davies fod yn dda ganddo am yr ymddir- iedaeth a deimla y dynion ynddo. Diolch- odd iddynt am eu bod wedi meddwl am ei briod. Llywyddwyd ar yr achlysur gan Inspector Bell, yr hwn a ddywedodd fod yr Arolygydd Davies yn ystod y deng mlyn- edd a dreuliodd yn eu plith wedi ceisio' dyrchafu heddlu y Bate yn ngolwg y Cwmni. Bu yn offervn iddynt gael codiad vn eu cvflogau, a 19 niwrnod o wyliau yn fl wyddyn Siaradwyd hefyd gan Ser- geant Bartlett, May a Hughes, etc. Crwys Road. Nos Fercher diweddaf cynhaliwyd eisteddfod yn y capel hwn, pryd y clor- ianwyd yr adroddwyr a/r gweithiau llenyddol gan Mr J. E. Jones (Crum- lyn), awdwr y llithiau Cymreig amserol a da geir yn y "Weekly Mail" bob' wythnos.