Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
Marw Cynberchennog y " Darian."
Marw Cynberchennog y Darian." AC AELOD 0 GOR CARADOG. Bu farw Mr Francis Lynch a fu un- waith yn berchennog y Darian ac yn olygydd iddi, a chladdwyd ef dydd Sadwrn, Chwefror 28ain, ym mynwent eglwys Brongwyn. Yr oedd yn 75 oed. Treuliasai ei flynydd- oedd olaf yng nghymydogaeth Cas- tellnewydd Emlyn. Yr oedd yn gan- wr campus yn ei ddyddiau gore, ac yn aelod blaenllaw o gor enwog Caradog. Bu farw yn ei gartref, Aur- fryn, Beulah, Sir Aberteifi.
I Colofn y Beirdd. I
I Colofn y Beirdd. I Anfoned ein cyfeillion barddol eu cynyrchion i'r Hendre, Pontypridd. Disgwyl Gair o Gartref.-Pennillion swynol iawn. Y maent yn cyffwrdd y galon yn dyner, a theimlwn bang o hir- aeth am Ben wrth eu darllen. Tymor Hau.—Mae y pennillion hyn eto yn doreithiog o brydferthwch y tea- tyn. Dyddiau Mebyd. Gwaith hawdd oedd canu ar y testyn hwn. LIithrig iawn yw y mydriad, a'r Byniadau yn naturiol. Dichon y bydd ambell feirn- iad yn barod i gollfarnu y llinell: Yn dringo'r coed i fyny," ac yn dweyd nas gellid eu dringo i lawr. Ond dyddiau mebyd oedd hi yn adeg y dringo hwnnw. Fendigedig ddydd- iau! Cyfod yn Fore.-Naturiol iawn. Ond mae y gystrawen yn cael cam yn nhryd- edd llinell pob pennill—" Gael gweled," "gael clywed." Newidiwyd y ffurf; a sylwed yr awdwr ar y cyfryw, er mwyn gochel y bai y tro nesaf. Ar Hyd y Nos.—Byddai y pennillion hyn yn anamserol, pe cyhoeddid hwy, bellach, am mai ar gyfer Dydd Gwyl Dewi y maent wedi eu cyfansoddi. Mae ( naw pennill yn ormod i rygymu "ar hyd y nos" trwyddynt. Mae yr iaith yn cael cam yn ami ynddynt, megys: Ond yr iaith hen Walia wiwlan. Heblaw anafu yr iaith, nid yw y chwaeth yn ddigon pur yn y llinellau hyn: I Bechgyn ieuainc iach a gwrol, I Rhowch i fyny chwareu football." Peidiwch a rhoi gormod o dreth ar eich gwynt y tro nesaf, a gofalwch wneud chwareuteg a'r gystrawen. Gellwch wneud gwell gwaith, ddim ond i chwi J fod yn fwy gofalus. Llinellau Llongyfarchiadol, etc., etc. —Mae pennawd fel hwn yn ddigon i ddychrynu yr awen. Ond dyma y pen- nill blaenaf, doed a ddelo Mae Abernant a Merthyr Yn ersyf agos iawn; Mae addysg gyfarwyddwr A meistres ysgol ddawn I Y n ffinio yn dda odiaeth, Paham rhaid cael yn well 1 Ai pleidio Cymdeithasiaeth Wna'r agos fel y pell 1 Ofnaf nas gellir bardd o honoch, am y ¡' flwyddyn bresenol, beth bynag. Syr W. J. T.—Nid yw yr englynion yn deilwng o'r gwrthddrych. Dim ond swn cydseiniaid sydd ynddynt. Nis gwn i beth yw I Tynwyr elusenol." Ae  Ac nid yw dweyd fod dyn yn "doeth ei siol" yn fri mawr iddo. Gallwch wneud II gwell yr englynion hyn ar destyn mwy J distadl o lawer. ) Llongyfnrchiad, etc. Dyma hi eto. Paham na ellid taro ar ryw ffurf i'w osod uwchben llinellau o nodwedd y rhai hyn 1 Mae yn flin genyf orfod bod yn llawdrwm ar waith cyfaill sydd yn fy llongyfarch mor wresog, er fod gwr o'r lie agosaf ato yn dweyd fy mod yn ym- hyfrydu gwneud rynny. Ond rhaid bod yn onest. Mae llinell olaf yr englyn cyntaf yn ail mewn rhagor nag un ys- tyr: Yn y p&n ar ben y p61." Nid yw llinell flaenaf y trydydd englyn I, yn ddifrychau: Chwareuydd o'r gwych oreuon." Nid oes cysgod cynghanedd yn nhryd- edd llinell yr un englyn: Cyfeilydd rhydd, lleddf a lion." Rhowch dro frwy yr Ysgol Farddol eto. Gwaith anhawdd yw barddoni adnoddau sychlyd, ond dylid ymdrechu am gywir- deb celfyddydol. j Tanchwa Senghenydd. Lied ddi- bwynt yw yr englyn. Rhyw syniad rhyfedd geir yn y llinell olaf: II Ym mhair ulyf marwolaeth." Y Cyfriniwr.—Mae amcan lied dda yn I yr englyn hwn. Sillgolli ar ol cydsain j sydd yn andwyo y llinell flaenaf: Gwron cAl gar 'r encilion." Y llinell olaf yn wallus-r heb ei hateb Rhy'r goleu ar ddirgelion." Yn Dy Law. Emynau rhagorol. Gresyn eu cyhoeddi mewn newyddiadur. Mewn cylchgrawn mae eu lie, er iddynt fod yn ddefnyddiol am fwy nag wyth- nos. Dewi Sant.—Can ragorol. Gresyn na fuaswn wedi ei hanfon i'r Swyddfa yn gynt, er mwyn iddo fod o wasanaeth i rai o'n cantorion wrth ddathlu Gwyl y Sant. Adgof Uwch Anghot. Rhy ystryd- ebol o lawer yw syniadau y pennillion hyn. Rhaid cael tarawiadau newyddion ar destyn lleol. Ar gerdyn coffadwr- iaethol yn nhai cyfeillion a pherthyn- asau y dylai pethau fel hyn gael eu try- sori. Gwnewch yr un modd a'r pennill Saesneg. Prydferthwch y Cauaf.-Can bert, er y dichon i rai feio am ddweyd Icy du bigfelyn. Ond na ofalwch. Mae fy nghroen i yn ddigon tew, gan nad beth am yr eiddoch chwi. Y Fam a'i Baban Dail.-Can yn llawn o dynerweh. Tawenog, ac R.R.—Mae y bardd o Hafod-y-fan yn deilwng o longyfarch- iad, ac mae ei ateb yntau yn deilwng o'r achlysur. Dos i'r Goleuni, etc., etc. Cerddi tlysion. Diolch i chwi am ganu mor dwt. Y pethau hirion yw y pethau sychaf yn y byd barddol fel rheol. Carnalian.-Englyn lied gymeradwy. Evan Cadwgan.-Ymddengys pedwar pennill o'r. chwech. Nid oedd neb yn adwaen Evan yn well na mi. Ond nid oedd ef heb ei feiau, fel y rhelyw o honom. Y Darian.Caii amserol. Gobeithio y sylweddolir gobeithion y bardd mewn cysylltiad a'i destyn. Blodau'r Grug; Merch y Ougail.- Caneuon tlysion. Gweddi Dros y Glowr. Pwrpasol iawn. A digon tebyg fod y weddi hon wedi dyfod o galon yr awdwr. I'r Swyddfa.-Tawenog; R.R.; D. Bassett; Wm. Bassett; H.I. Eiddil; Dewi Caron W.LI. Cyndal; T. H. Lewis loan Dulais; Ben Davies. Nodiad.Gall y cyfeillion gael eu cynyrchion yn ol o'r "fasged," 08 yr an- fonant lythyrdoll ceiniog yma o fewn pythefnos i gyhoeddiad y ddedfryd ar- nynt. Nis gwn a fydd y math hwn o drugaredd yn dderbyniol, neu beidio. Anfonais gyfansoddiad yn ol i'r awdwr yr wythnos ddiweddaf, ond daeth yma trannoeth drachefn. Ni ddychwel at ei hawdwr Jbyth mwy. ■ ■!
U Dir y Gogledd.I
U Dir y Gogledd. GAN "GLYNDWR." Un o brif destynau siarad ac ys- grifennu y Gogledd yma y dyddiau hyn yw gwaith Cymanfa Gyffredinol y M. C. yn esgymuno Dr. Fraser fel cenhadwr. Brodor o Gaernarfon ydyw Dr. Fraser-ei dad yn hanu o deulu Ysgotaidd, ac yn wr crefyddol iawn. Rai blynyddoedd yn ol yr oedd Dr. Fraser yn swyddog meddygol iechyd Sir Gaernarfon am y gyflog o jQ700 i ^800. Oddeutu pum' mlyn- edd neu lai yn ol, rhoddodd y swydd £ fyny, ac aeth allan yn genhadwr dan y M. C. i Fryniau Lushai, India. Aeth ei wraig gydag ef, a gwr ieuanc o Gaernarfon o'r enw Mr Watkin Roberts. Llafuriodd y tri yn ddiwyd a chydag arddeliad mawr ar Fryniau Lushai. Achos y gwrthdarawiad yd- oedd hyn. Yn Lushai y mae cyfun- drefn yn bodoli a elwi "The Bawi System." Rhyw fath o gyfundrefn gaethol (slavery) ydyw. Os bydd gwr yn nyled rhywun yn y wlad cymerir ef yn gaethwas hyd nes y tal y ddyled. Siaradai Dr. Fraser yn erbyn y drefn hon, gan ddweyd ei bod yn groes i egwyddorion Cristionogol ac, hefyd, i ddeddfau Prydain Fawr. Y canlyniad fu cyffroi brenin y He. Ceisiodd Pwyllgor Cenhadol y M.C. gan Dr. Fraser i weithio yn ddistaw fel y cen- hadon ereill, gan adael i amser, addysg, a dylanwad yr Efengyl wneuthur i ffwrdd a'r Bawi Sys- tern." Gwrthododd y Dr. gydsynio, a daeth adref. Yn awr y mae Pwyllgor y M.C. wedi ei esgymuno. Tebyg y bydd llawer o ysgrifenu ar y mater, a hyny yn fuan iawn. Y mae yr hen air yn ddigon gwir. "Mawrth a ladd, brill a fling." Dyna glywir yn yr ardaloedd hyn, son am farw ac am hebrwng y "diallu wedd- ilhon" i briddellau'r dd),f ryn. Claddwyd chwech o bersonau yng Nghaernarfon yn unig yr wythnos ddiweddaf. Y mwyaf adnabyddus o honynt efallai ydoedd Mr Owen Jones, Idan House, Llanbebjig Road. Yr oedd dros 80 mlwydd oed, a bu yn flaenor yn Beulah (M.C.), Caernar- fon, am amser maith. Fel Owen Jones, Eryri Works," y gelwid ef. Ar un adeg bu yn cadw iard goed fawr a elwid Eryri Works. —Hefyd bu farw Mrs Jones, Mark Lane, priod Mr Thomas Jones, y ddau yn aelodau ;selog yn Salem (A.); Mr R. G. Wil- liams, Newborough Street, yn wr cymharol ieuanc; Sergeant Teggarty (hen filwr), ac Owen Owens, Green- gate Street, efe yn hen. Daeth ei frawd yma o Gwm Rhondda i'w gladdu. Cefais ymgom ag ef, a dyw- ed iddo golli dau fachgen yn Nhanchwa Senghenydd. Dyna ei hanes, "Cysgod angeu, heb drefn."
Advertising
Altriptciiani. Cough that gave no rest and hurt friaahtfully-Veriols cured it. Y\>"o's Lightning Coj^rh Cure is such a splendid thing that I feel I can never i raise it enough." So says Mrs. Daintree, IIf Tho Cellars, Grosvtnoi-road, Altrinchain. •le continues: "Mine was a hacking, tear- ing couurh, that gave no rost, and hurt frightfiJiy. When it started there was no getting ;t, to leave uff: I coughed till my 'o1e body ached with the strain. I dreaded to cough at all, and nothing reo lieved me. However, atter montbrf of -nCering, I got Veno's Lightning Cough Cine, and what a relief! I felt better after he first dose or two, and soon was cured rn'uplete'.y. I cannot imagine anything be::r_: quicker." Awarded Grand Prix and Gold Madal, !nh;rnr.{ional Health Exhibitirn, Paris, 1910.  ? J Fop Coughs and Colds, _2' Bronchitis, Asthma, ??J??I?THCB x Influenza, Catarrh, and all Chest and Lung Per Bottle. Troubles In old or young. Tjoxoer Sieeji j'hr surest end speediest remedy VIJ 3t 2/9 known. VENOMS ???'NC V COUGH CURE L
Ferndale.I
Ferndale. Chwefror 2iain yn Festri Penuel (M.C.), cafwyd dadl rhyng-gym- deithasol Sion, Pontygwaith, a Phenuel, Ferndale. "A yw y pwlpud yn colli ei ddylanwad?" oedd y 1 cwestiwn. Cymerwyd yr ochr gadarn- haol gan Mr D. G. Williams, B.A., a Mr G. Rees, B.A., Pontygwaith, a'r ochr nacaol gan Mr W. Lewis a Mr Tom Jenkins, Penuel. Cafwyd dadl feistrolgar o'r ddeutu, ac mewn ysbryd teilwng. Bu yr oil yn ych- wanegiad gwybodaeth i ni. Yn credu fod y pwlpud yn colli ei ddylanwad yr oedd Mri D. J. Davies, ysgolfeistr, a D. Williams, Pontygwaith. Cefnogid yr ochr arall gan Mri J. Lodwick Evans, J. T. Davies, Jonah Howells, W. Pickering, J. Thomas, John Evans Robert Jones, yr oil o Penuel. Atebwyd y gwrth-ddadleuon gan y prif-ddadlcuwyr. Llywyddwyd gan Mr John Edwards, Ty Capel. Dech- reuwyd y cyfarfod drwy ddarllen a gweddio gan Mr Robert Jones, Pen- uel, a chadwyd yng nghywair y weddi i'r diwedd. Yr oedd yn bres- ennol y Parchn. W. Williams, Pontygwaith, a B. Watkins; diolch- odd yr olaf i frodyr Pontygwaith am eu llafur a'u presenoldeb. Llawenydd fydd gan luaws cy- feillion y brawd hynaws a gwasan- aethgar, Mr John Thomas, Gilfach House, ddeall ei fod yn parhau i wella o'i afiechyd blin. Y mae erbyn hyn yn alluog i godi o'i ystafell wely i blith ei deulu, ac yn niraethu am fyned un waith eto i blith ei frodyr a'i chwiorydd ym Mhenuel, lie y mae wedi arwain y gan, yn flaenor, ac ys-' grifenydd yr eglwys. Bydd yn llaw- enydd gan yr holl eglwys ei weled eto yn eu plith. Blin iawn oedd genyf finnau ddeall yn ol ysgrif yr hynaws Eos Hafod yn y Darian ddiweddaf am gystudd y cyfaill caredig a'r brawd llafurus, Mr Ben Devonald, Ton. Gallaf ategu yn rhwydd yr oil a ddywed yr Eos am dano. Y mae Mr Devonald yn fon- eddwr yn ystyr uchaf y gair. Teiml- ais droion mai caffaeliad mawr oedd ei gymdeithas. Teimlwn yn well mewn meddwl ac ysbryd ar ol bod yn ei gwmni. Y mae yn un o'r brodyr goreu y daethum i gysylltiad ag ef. Der- bynied fy nghydymdeimlad llwyraf. Dymunaf iddo adTeriad llwyr a buan. Chwefror ged cafwyd dadl ddyddor- ol yng nghymdeithas ddadleuol Tre- rhondda ar y cwestiwn, "A ddylid trethu hen lanciau?" Dadleuwyd dros eu traethu'n drwm gan Miss C. H. Jones; yn erbyn gan Mr Martin Davies. Rhoddodd y llywydd, Mr Samuel Evans, y cwestiwn i bleidlais, a chafwyd mwyafrif yn erbyn eu trethu. Cafwyd unawd rhagorol gan Miss Violet Nicholas. I Chwefror y 24ain yn y Workmen's Hall rhoddodd Cymdeithas Ddram- odol Tylorstown berfformiad o'r ddrama, "Beddau'r Prophwydi." Caf- wyd perfformiad campus, a'r oil o'r cymeriadau yn cael eu dangos yn naturiol a byw, yn arbenig Robert Williams, Gwr yr Ysgellog Fawr; Hugh Bennett, Elin, Ann, Morwyn yr Ysgellog; Parch. A. Evans, gweini- dog Siloh, ac Emrys. Cawsem ber- fformiad mwy meistrolgar gan Emrys pe byddai ei lais yn gryfach a'i fyneg- iant yn fwy clir, ond yr oedd yn rhagorol ar y cyfan. Canwyd unawd gan Mr D. Davies, a deuawd gan y llywydd, Parch. Rowland Hughes, B.A., B.D., a Mr D. Davies, Tylors- town. Daeth cynulliad Iluosog yn nghyd. Yr oedd yr elw yn myned at drysorfa y Ddarllenfa Genedlaethol. Blin genym gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth Mrs Minnie Evans, gwraig Mr Dan Evans, 4 Graig Terrace, yn 27 oed. Yn gynar y flwyddyn flaenorol aeth allan i Aws- tralia, lie yr oedd ei phriod er ys chwe mis. Cafodd fordaith arw, ac wedi cyrhaedd daeth i ddeall nad oedd yr hinsawdd yn ateb i'w chyfan- soddiad, a phenderfynodd ddychwelyd Cafodd fordaith arw eilwaith, ac nid hir y bu nad oedd ar wely cystudd. Hunodd Chwefror 14eg, a chladdwyd hi ar y igeg yn y gladdfa leol. Yr oedd yn chwaer addfwyn ac yn aelod dychlynaidd o eglwys Trerhondda (A.). Gwasanaethwyd gan ei gwein- idog, y Parch. G. Penrith Thomas.
Cystadleuaeth y Ddrama ynI…
Cystadleuaeth y Ddrama yn I Aberdar. I Daw y Drama yn gyfran bwysig o fywyd ein cenedl heddyw. Diolch i symbvliad Arglwydd de Walden a'r Eisteddfod Gen- edlaethol. Yr oedd disgwyliad am ym- ddangosiad Cwmni Dramodol Aherdar yn nrama "Y Streic" nos lau diweddaf. Cymerodd y Cwmni safle amlwg gyda v ddrama gyffrous hon. Ni chawsom ein siomi nos lau. Yn ddiamheuol dyma y perfformiad perffeithiaf eto. Cynwysa y Cwmni nifer o dalentau dysglair, ac vn naturiol maent yn gymharol gydbwys, er rhaid i mi ddweyd fod y golygfeydd lie yr oedd Mafis, Mrs. Wynn a Mari Huw a I Gwen yn angherddol o feistrolgar. Por- treadir serch, twyll, dialedd, creulondeb, galar, gwallgofrw.vdd, a phurdeb cvmeriad yn y ddrama. Ystofir nifer o olvgfeydd hawlia ddawn oreu y chwareuydd profedig. Deongla y ddrama yr amgylchiadan sydd yn gwneyd streic yn dorcalonus, gyda gwers amlwg ynddi. [Hhaid gadael y gweddill tan yr wythnos nesaf .]
IAr Lannau'r Tawe.
I Ar Lannau'r Tawe. Cynhaliwyd Eisteddfod i ddathlu Gwyl Dewi yn Ysgoldy Hebron, Clydach, nos Sadwrn diweddaf. Llywyddodd John H. Owen, Disgwylfa. Cafwyd cynhulliad llu- osog a chystadleuaeth ragorol. Mewn cyfarfod yn Neuadd Mond, Clydach, nos lau diweddaf, anrhegwyd Dr. C. Langer, prif oruchwiliwr y gwaith, a'i deulu, ag annerchiad hardd am eu cared- igrwydd tuag at blant y gweithwyr. I Llywyddodd Mr. James Mulcahy, a chaf- wyd areithiau gan amryw. Aeth y parti I gwrywaidd, y Seindorf Arian, a niter o gantorion trwy raglen ddiddorol. Cynhaliodd Cymdeithas Bysgotwyr I Clydach a'r Cylch ei chyfarfod blynyddol yn y Neuadd Gyhoeddus nos lau diwedd- af. Llywyddodd Mr Tom Jones, a phenod- wyd swyddogion newydd am y flwyddyn. Pleserus ydyw sylwi fod y Gymdeithas hon mewn cytlwr llewyrchus. Cwrddodd Cynghor Plwyf Rhyndvvy- clydach yn Ysgoldy Twynybedw, Clydach, nos lau diweddaf. Llywyddodd y Cyng- horwr Richard Thomas. Yn ystod y cyt- arfod penodwyd y Cynghorwyr Daniel Williams (Cathylid), William Bowen (Tre- banos), a Richard Thomas (Clydach) yn oruchwilwyr yr ysgolion am y flwyddyn. Cynhaliwyd cyfarfod diddorol yn Ys- goldy Hebron, Clydach, nos lau diweddaf. Llywyddodd y Parch. D. Eiddig Jones, gweinidog, a chymerwyd rhan gan D. O. Deer, E. Thomas, T. P. Williams, J.. L. Jenkins, a D. T. Richards. Darllenodd y chwaer Mrs. D. Roderick bapur gwerthfawr ar y testun, W. R. James, y Cenhadwr," mewn cyfarfod gyn- haliwyd yn Ysgoldy Calfaria, Clydach, nos Fercher diweddaf. Llywyddwyd gan y Parch. T. Valentine Evans, gweinidog, a chanodd y chwaer Mrs. D. James yn swynol. Cynhaliodd Cymdeithas Feiblaidd Clyd- ach a'r Cylch ei chyfarfod blynyddol yn y Neuadd Gyhoeddus nos Fawrth, yr wyth- nos ddiweddaf. Llywyddodd y Bonedd- wr W. J. Percy Player, a chafwyd areith- iau hyawdl a gwerthfawr gan y llywydd a'r Parchedigion R. A. Raynes, Goruch- wiliwr Cartrefol Cymdeithas Feiblaidd Brydeinaidd a Thramor, a D. Eurof Wal- ters, M.A., B.D., cynrychiolydd y Gym- deithas yng Nghymru. Darllenodd y Parch. D. Eiddig Jones, ysgrifenydd, adroddiad o'r tanysgrifiadau am y flwyddyn, a dangosodd fod Clydach wedi cyfrannu y swm o JE22 18s. lle., ac Ynys- tawe C4 16s. 3c. Anfonwyd cyfran o £ 27 i Drysorfa'r Gymdeithas. Darlithiodd y Parch. T. Valentine ar y testun diddorol, Rhai o nodweddion y Pwlpud Cymraeg," mewn cyfarfod gyn- haliwyd yn Ysgoldy Wesley, Clydach, nos Lun yr wythnos ddiweddaf. Llywydd- odd y Parch. S. Cutting (gweinidog). I Traddododd Mr. Evans ei ddarlith via Saesneg, a chafodd bleidlais o ddiolchgar- weh am ei ymdrech ardderchog. LLEW. [Tybiodd y Gol. mai gwell oedd peidio newid y frawddeg olaf.—Gol.]
I Bwrdd y Golygydd.
I Bwrdd y Golygydd. Colofn y Bobl Ieuainc. 0 herwydd amider adroddiadau Gwyl Ddewi, rhaid cadw'r golofn hon yn ol. Yr wythnos nesaf ceir beirniadaeth Dyfnallt ar y eyfansoddiadau anfonwyd i'r gystadleu- aeth. Anfoned y buddugol ei enw a'i gyfeiriad i ni. Mae amryw bethau gwerthfawr mewn llaw. Cofied ein gohebwyr fod y "Darian" yn mynd i'r wasg boreu dydd Mawrth, ac nas gellir cael rhyw lawer o'r hyn ddaw i law y boreu hwnnw i fewn iddi.
ISeven Sisters -a'r Cylch.…
I Seven Sisters a'r Cylch. I Achoswyd cryn gyffro yn y Seven nos Lun diweddaf trwy i ferch fechan, 12 oed o Brynycae, fethu dychwelyd o'r ysgol fel arfer. Wedi bod yn chwilio yn ddyfal am dani drwy y nos, cafwyd hyd iddi bedwar o'r gloch boreu dranoeth ar fynydd y Drum heb fod fawr gwaeth o'i hantur- iaeth. Mae y Bedyddwyr Seisnig wedi cael darn o dir ar Ynysdawly, eiddo y Cynghorwr Richard Davies, lie y maent yn bwriadu adeiladu capel newydd yn y dyfodol agos. Gwnaeth- pnt apel dro ar ol tro am le ar dir Mr E. Evans Bevan, am y byddai yn fwy cyfleus, ond ofer fu ei cais. Diolch am le i nesu hwnt. Nos Sadwrn yn Siloh, Pantyffordd, I traddodwyd darlith ar yr Enwog Edward Mathews o'r Ewenni a'i Amserau gan y Parch. Isaac Thomas, Ferryside. Cymerwyd y gadair gan Mr. D. W. Thomas, M. E., Seven Sisters. Cafwyd darlith I o'r fath oreu, cynhulliad lluosag, a phawb wedi eu boddloni. Dydd Sul yn Salem y Crynant cynhaliwyd Cymanfa Ganu Undebol Flynyddol. Arweiniwyd gan Pro- ffeswr David Evans, Caerdydd. Gor- lanwyd yr adeilad ymhob oedfa,, a chafwyd canu ardderchog, a rhoddodd y Proffeswr ganmoliaeth i waith yr arweinwyr lleol.
——————————- ! .Llwyddiant…
——————————- Llwyddiant Eisteddfodol. I Yn Eisteddfod y Cymmer (Porth) y I Sadwrn diweddaf, enillodd Cor Plant Ysgol I' Cymmer, Glyncorrwg, o dan arweiniad Mr J. Rees Jones, ei chweched buddugoliaeth olynol gyda chymeradwvaeth mawr. Cvfrifir y cor hwn bellach yn un o oreuon y Deheudir. Llongyfarclr.vn Mr Jones yn galonnog.
[No title]
Am bob math o Argraff waith ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r 'Darian," 19 Cardiff Street, Aberdar.
i Cymrodorion Aberdar.
Cymrodorion Aberdar. Cyfarfod cysurus, llawen, a hynod gartrefol oedd cyfarfod diweddaf V Cymrodorion, sef nos Wener, Chwef- ror 20. Hysbyswyd taw y Bard" Coronog yn y Fenni anrhvdeddif eleni fel ymwelydd gwahoddedig Y Gymdeithas. Nid i gyfoethogion yr estynir y gwahoddiad ond i Gymry enwog. Ystyrir y Parch. William Evans yn un o Gymry ieuainc gO" beithiol y dydd. Ceisiai y Gymdeithas gael Brynfab, ond ni allai oherwydd amgylchiadau teuluol yn benaf gytunO y tro hwn. Felly boddlonir ar un ym" welydd. Talwyd diolch gwresog i'r chwior- ydd am eu gwasanaeth ardderchog nos y roesaw. Wedi hyn cafwyd cyfraniad y Chwaer S. A. Edwards, sef papyr byr ar "Lewis Griffiths." Ni foddlona Cymrodorion Aberdar ar wybod am Gymry mawr tuallan i'r plwyf, ond gofalant bod coffa am yf hen ragorolion wasanaethasant gym- deithas yn eu dydd, gan estyn i Gymry heddyw etifeddiaeth decach na gaws- ant hwy. Brodyr enwog oedd y teulu Gruffydd fel y profa y disgynyddion. Meddyg o fri ydyw y Meddyg Gruffydd yng N ghlafdy Caerdydd, ac y mae ei chwaer, Miss Jennie Gruffydd, y Poplars, yn hyspys fel athrawes ddysgedig, sef nai a nith y gwrthrych, plant y brawd Evan. Feddai Cymru ddim rhy o fath y brawd enwog Dan fel beirniad cerddorol. Bu ganddo lawer yn y Cor Mawr, fel cynorthwywr llaw dde, Brenin Arweinwyr Cymru. Bech- gyn Aberdar oeddynt na ymadawsant a'r lie. Ond crefyddwr a chymdeithas- wr oedd Lewis Gruffydd gysegrodd oes i grefydd a dirwest. Lletyai weinidogion a blaenoriaid cymdeithas. Ni chyfyngai ei lafur o fewn muriau, eithr anturiai allan i'r awyr agored. Efe ofalai am y cyhoeddiadau ym Methania. Ei ateb ffraeth i gwyn ei fod yn cipio y dawn goreu fel na allai rhai lleoedd gael dim tebyg i'r hyn fwynhau pobl Bethania, oedd taw yn y wlad y corddent, ac mai yn y dref y bwyteid yr ymenyn. Tad oedd i ddynion ieuainc, ac un hynod graff i weled yr hyn oedd mewn dyn ieuanc. Fel un o'r colofnau crefyddol yr ad- waenai pawb Lewis Gruffydd, a Iley- gwr gysegrodd oes i fod yn ddefnydd- iol. Amlinellodd y chwaer y cymeriad yn hynod ffyddlon, a thraddododd ei lien yn naturiol ac eglur. "Huw Morus."—Bardd llawen gyf- enwai Mr. Timothy Davies, B.A., wrthrych ei svlwadaeth. Yn debyg i Gymry yr ail ganrif ar bymtheg teyrngarol i'r earn oedd Huw Morus, Pont-y-meibion. Cyfoeswyr ag ef oedd Ficer Pritchard, Dr Parry, | Richard Davies o Fallwyd, a Row- land Fychan. Ond er hyfed oedd fel dinesydd teyrngarol, ni chuddiai ei deyrngarwch ei drem ar wirionedd a dyledswydd. Bernir iddo gael ysgol, a gwyddis y cytuna pob un cyfarwydd a'i weithiau ei fod yn Fardd Natur. Yn 01 yr hyn fynega Gwallter Mechain am dano, treuliai ei ddyfalwch yn fwy j i nyddu cynghanedd a chanu nag i amaethu. Tra chlogyrnaidd ydyw | rhai o'i linellau, eto ceidw berseinedd. Gellir dewis amryw linellau fyddent yn ddiarhebion canmoladwy. Ceir ef yn Gymreigydd da. Dengys ei fod yn dra hyddysg yn yr Ysgrythyrau. Yn eu ganeuon serch y mae yn gwastraff u llawer o ansoddeiriau, ac nid ydyw ei ddetholiad o destynau bob amser yn chwaethus. Gwariai fwy lawer na gynilai, ac y mae yn brofiadol o'r gyfeddach. Carai yn angherddol, ond er cymaint garodd a chynifer gwrth- rychau ei serch fel Dafydd ap Gwilym wastraffai ei gywyddau gwin ar y rhyw deg; bu farw yn ddibriod. Nis gallai fod wedi byw yn hynod o wael gan iddo farw yn fab wyth deg a saith oed. Ceir Huw Morus yn defnyddio geiriau Saesneg yn eofn, a honai y darllenydd nad teg ydyw bod yn rhy geidwadol yn hyn, gan fod llawer o eiriau ystyrir heddyw yn ddiamheuol yn eiddo y Saes yn ddim ond yr hyn a fabwysiadwyd o'r Gym- raeg Wedi ystyried yr oes a'r am- gylchiadau yn bwyllus rhoddai Mr Davies i Huw Morus y lie uchaf fel bardd ei oes. Profai y rhydd-ymddiddan i Mr Davies beri dyddordeb mawr yn y papyr, gan i'r cyfryw gymeryd rhan fywiog a rhoddi mynegiant rhydd i'w barn, sef, y Llywydd, y cyn-lywydd- ion (y Parch.) R. J. Jones, (y Parch.) Richard Williams, Nevern, Ogwen, J y Drysores, yr Uwch Gwnstabl, y J Cynghorwr George Powell a'r | Parchn. D. Basett a John Lewis. 1 Gyda rhoddi sylwadaeth ar y ddau i gyfraniad ymholai y cyn-lywydd John Gruffydd am ferch enwog o Aberdar oedd ar goll. Gan mai o ddau i drt chanmlvnedd yn ol yr oedd mewn bri, anhawdd cael o hyd iddi. Eto cenid y dyddiau hyny am y Ferch o Aber- dar. Dyma faeth i hynafieithydd chwilfrydus. Cafwyd gan y Cynghorwr Powell feirniadaeth lem ar y beirdd ieuainc newydd, ac yn ddios geill yr Is-lywydd Powell dystio fod Abraham yn dad iddo am ei fod yn Iconoclast o ewyll- ys. Yn ei atebiad profai y darllenydd | y gallai oddef beirniadaeth yn llaweflf felly y terfynwyd cyfarfod barhaod o'i ddechreu i'w ddiwedd vn y "Cy\v' M air lion." -< Printed and Published for the Propf j ietors, The Tarian Publishing Co.. Ltd by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street- Aberdare, in the County of Glamorgao,
Cadw'r Wyl ... Y Cymry yn…
CADW'R WYL. (Parhad o Tudalen 5.) Caerdydd. Gwyl Dewi 1914. I gychwyn rhestr o gyfarfodydd cy- hoeddus i ddathlu Gwyl Dewi Sant yn y ddinas hon cafwyd cyngerdd yn Neu- add y Pare, pryd yr ymgynullodd 500 o blant bychain trwsiadus i ddatganu darnau Cymraeg dan arweiniad Mr Roderick Williams, gyda Mr W. T. Price yn cyfeilio. Llywyddwyd ar yr achlysur gan Arglwydd Pontypridd. Arweinwyr y gwahanol adranau i'w paratoi ar gyfer yr wyl oeddynt: Meistri W. T. Lewis, Ysgolion Pembroke Ter- race, Tabernael, Ebenezer, a Bethel; Mr E. D. Rees, ysgolion Minny Street, Heol y Crwys, Salem, Roath, Cangen y Tabernacl; Mr Gwilym Price, ysgolion Ainon, Splott, Jerusalem, a Bethlehem Arolygydd J. R. Wallis-J amea, ysgolion Salem, Canton, a Severn Road; Ir. Enoch Thomas, Mount Stuart Square, Siloam a Bethania, Docks. Datganwyd unawdau gan Mr Harry Morgan, Miss Nana Lewis, Mr Talbot Thomas, a Miss Edyth Jones. Rhwng y ddwy adran i'r gyngerdd cafwyd anerchiadau gan Ar- glwydd Pontypridd, yr Arglwydd Faer, a Mr H. Price (H.M.I.S.). Yr oedd datganiadau y plant yn ardderchog, a gorfodwyd hwy i ganu amryw o'r darnau yr ail waith, er fod y rhaglen mor faith. Y mae y pwyllgor i'w llongyfarch ar y llwyddiant mawr, a chynhulliad cynifer o Gymry gwladgarol. Llywydd y pwyll- gor ydoedd Mr T. J. Williams; trysor- ydd, Mr Evan Jones ysgrifenydd Mr T. Lloyd, 27 Beauchamp Street. Eglwys Dewi Sant. Bore dydd Sul diweddaf cafwyd gwasanaeth neillduol er dathlu yr Wyl Gymreig, pryd y rhoddodd yr Arglwydd Faer, Henadurwyr, a Chyngorwyr y Ddinas, ymweliad swyddogol. Pregeth- wyd ar yr achlysur gan y Parch. D. Bankes-Williams, Cwmafon, yn Gym- raeg a Seisnig ar destyn o adnod gyntaf yn y 4yd benod o'r cyntaf Corinthiaid. Awd trwy y gwasanaeth cyhoeddus gan y Parch. D. Fisher, y Ficer. Pontycymmer. r el arfer, y ddrama yw prif nodwedd yr wyl yma. Cafwyd y tro hwn "Feddau'r Proffwydi" yr Athro W. J. Gruffydd, Caerdydd. Hon yw y pedwerydd ddrama 1911, Owain Glyndwr," gan Pedr Hir; 1912, Rhys Lewis," gan Daniel Owen; 1913, "Drama '68," gan O. T. Jones. Gwnaeth y cwmni eu gwaith yn dda. Cawsom bortread grymus. Nid oedd wedd adroddiad yn yr un, ond yr ymddiddan a'r actio yn fyw. Codwyd y gynulleidfa fawr x deimladau dwys a chollwyd dagrau'n Ili. Ni fuasai yn deg enwi rhai heb eu henwi oil. Gwnaethant eu gwaith yn dra ragorol er fod pedwar o'r hen gwmni wedi ym- adael oddiar y Ilynedd, sef W. J. Thomas, B.A., i Pontardawe, a Miss Hettie Morris, B.A., i Ysgol Castell Cyfarthfa, ond cymaint ei cariad atom fel yr oeddynt gyda ni yn cyfranogi o'r wledd, a da oedd genym eu gweled. Aethai T. Davies, B.A., Llan- gollen, a Nath Watkins, "Will Bryan" yn Iowa, Amerig-y pellder yn ormod i fod yn y cnawd, ond sicr eu bod yma yn yr yspryd. Peth pwysig gyda'r ddrama yn y cwm poblog hwn yw fod yr eglwysi yn rhoddi e,-i cefnogaeth mor gryf. Cafwyd y delyn a chanu penillion. Telynwr, Mr D. T. Thomas, Abergwynfi. Chwareuodd am- ryw alawon; mae ganddo delyn hardd. Edrychai i mi fel glowr ieuanc. Gobeithio cymer gweithwyr ieuainc y cymoedd at ddysgu chwareu'r delyn. Mae ganddynt fanteision braf i hyny. Cyfeilyddes, Miss Bessie Rogers. Canwyr: E. Powell, Miss Annie Davies, Vivian Morgan, W. T. Hengoed. Cadeirydd, Mr W. J. Morgan, M.E., Blaengarw. Cafwyd gair gan y Parch. W. Saunders, C.C., yr hwn sydd a'l ysgwydd yn dyn gyda phob mudiad daionus. Wele enwau y Cwmni:—Robert Wil- liams, gwr y Sgellog Fawr, Mr. 1. C. Roberts; Emrys, ei fab, Mr. George Wat- kins; y Parch. Azariah Evans, gweinidog Siloh, Llanddyfi, Mr J. J. Morgan, B.A.; Blaenoriaid -Siloh Huw Bennett, y Gelli, Mr J. D. Owen; Dafydd Dafis y Siop, Mr. E. J. Saunders, B.A.; Mr. Humphreys, yr Ysgol, Mr. Willie Watkins; William Pritchard, London House, Mr E. J. Evans. .John Vaughan, gwr yr Hafod, Mr W. Ll. Rees, B.Sc.; Roberts, Plisman, Mr J. Mor- gan Owen; Alexander McLagan, Cipar, Mr. Trevor Hughes; Elis Parry, Meistr y Tloty yn Nhre'rcaerau, Mr. David John; James Wynne, Ystiward Tir, Mr. E. J. Rowland, M.A.; Twm Huws, un o'r Tlodion yn y Tloty, Mr. Christie Harris; Un arall o'r Tlodion, Mr. David J. Mor- gan Porthor y Tloty, Mr. Willie Watkins Mali Owen, mam Robert Williams, Miss S. J. Howell; Elen Williams, gwraig Robert Williams, Mrs. Cyrlais Williams; Agnes Vaughan, merch yr Hafod, Miss O. Rogers, B.A.; Ann, morwyn y Sgellog Fawr, Miss C. Howell; Mari, morwyn y Tloty, Miss M. E. Davies; Meistres y Tloty, Miss S. J. Howell; Amryw Dlodion, Miss C. Bowen, Miss F. Morris, Mr E. J. Rowland. Yr ydym yn rhanu Gwyl Dewi i dair rhan. Tua canol y mis bydd Eisteddfod Gymraeg i'r plant, a diwedd y mis gwledd i'r corph. Cafwyd papur ardderchog nos Wener, yr 20fed, gan Mr Philip Davies, P.D.P. Daeth i lanw bwlch ar vchydig rybydd. Cawsom y papur ddarllenodd i Gymrodor- ion Castell Nedd ychydig fisoedd yn ol ar yr A,Eisteddfod." Cawsom le braf. Llywydd- wyd gan Mr Dafydd Thomas, a siaradodd amrvw o'r brodyr. 'BERDAR BACH.