Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
GOOD NEWS FOR ABERDARE AND MERTHYR DISTRICTS I I I I In preparation for the Annual Stocktaking at the close 01 their financial year ending March 31st, Bevan & Co., Ltd,, Cardiff, Pontypridd, Swansea, &c. are offering the whole of their vast stocks of everything required for Furnishing throughout regardless of cost! The Special attention of Easter Wedding Couples Is directed to this Immense Sale, which affords them the opportunity of obtaining the Reliable Goods of this well-known Firm greatly under regular- Prices. Delivery Free up to 200 Miles.
I Y Stori.
I Y Stori. LLWYBRAU'R SARFF. Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr." GAN M. H, CHARLES.  GAN M, H, CHARLES. I (Parhad.) 111.) I Un plentyn oedd i Evan ac Ellen I Powell, Troedyrarth, ac yr oedd yr adeg hon yn ddwy ar hugain oed. Yr oedd o daldra rmvy na'r cyffredin, o bryd tywyll, a chnwd o wallt fel y fnos ar ei phen." Yr oedd o ran ei hymddanghosiad allanol yn tebygu cryn lawer i'w thad, ac ofnai rhai ei bod wedi etifeddu llawer iawn o'i wendidau; ond credai ei mam ei bod wedi ei chadw yn berffaith lan oddi- wrth y "Dablen Gartre' Fel y cry- bwyllwyd eisoes, lie hyfryd oedd Pant- ybrenin. Ceid yno ddigonedd o bopeth a allasai cyfoeth ei feddiannu'; ond, ddarllennydd mwyn, fedri di ddychmygu am ardd brydferth yn llwythog o flodau amryliw, ac ol 11aw y garddwr cyfarwydd ar ei holl blanhig- ion; ond och! yn ymlusgo hyd ei llwybrau, ac yn torchi am ei blodau prydferthaf, mae'r sarff wenwynig. Rhywbeth felly oedd Pantybrenin—y sarff wedi cael lie yn y teulu, ac wedi difa glesni ei fywyd ieuanc am gen- edlaethau. Gallasai Evan Powell edrych yn ol i'r gorffennol, a rhifo ymhlith ei hynafiaid lawer I llanc a geneth ieuanc, ie, a chanol oed hefyd, a aethant i'w beddau yn anamserol drwy chwareu a'r ddiod feddwol. Yr oedd anwiredd y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth yn amlwg iawn yn nheulu Panty- brenin. Gwnaeth Elen Powell ymdrech deg i ddifodi'r ddiod o'r tir, ond ychydig, os dim, o gefnogaeth a gafodd o un- rhyw gyfeiriad. Nid oedd neb yn yr eglwys a feiddiai ddweyd gair dros ddirwest. Nid oedd gweinidog yno ar y pryd; yr oedd y trydydd er pan ddaeth Elen i Bantybrenin newydd ymadael, a chredai Elen mai atebiad i'w gweddi oedd ei symudiad. Hir- aetjhai Elen am weled rhywun tebyg i Benjamin Thomas, y cyntaf o'r tri, yn dod yno. Gwasanaethwr ardder- chog i Iesu Grist oedd hwnnw, ond cerddai dir rhv uchel wrth fodd saint Troedyrarth, ac ni fynnent ei ddilyn; am hynny, ceisient ei groeshoelio, ac onid croes a gaiff pob gwir waredwr gan byd? Ond gresyn fod rhai a al- wan! eu hunain yn ganlynwyr yr Oen yn gwneud yr un fath. Pregethai Benjamin Thomas efengyl bur. Pwys- leisiai ar ambell i ras oedd wedi ei adael yn ddisylw hollol yn Nhroedyr- arth; ond ni fynnai'r bobl glywed am eu gwendidau; ac un bore Sul cafodd Benjamin Thomas ddrws ei gapel wedi ei gloi yn ei erbyn. Dyn addfwyn, tyner ydoedd, wedi dysgu dioddef yn amyneddgar. Deallodd yr amgylch- iadau, ac heb wneud un swn, dych- welodd i'w dy yn dawel, gan ysgwyd y llwch oddiar ei draed. Bu'n ffyddlon i'w argyhoeddiad ac i'w Feistr, ac am hynny nid ofnai. Yr oedd eglwys fechan arall o dan ei ofal, ac wrth honno y glynodd hyd ei fedd, ac erys ei goffadwriaeth yn fendigedig hyd y dydd hwn. Ar ol Benjamin Thomas, daeth Richard Lefi—gwr wrth fodd caloil Evan Powell, ac wrth fodd calon pobl yr "Angel" hefyd. Dyn llawen a charedig, yn adnabod pawb, yn gwm- niwr heb ei fath. Yr oedd ei gof yn orlawn o ystoriau digrif. Ai o dy i dy, craciai "jokes" a'r merched a'r gwragedd, gosodai geiniog yn Haw pob plentyn bach. Yn wir, Jolly Boy" y galwai'r byd ef. Tyrrai'r bobl i'w wrando, a rhoddai yntau rhyw fath o "entertainment" iddynt. Cadwai hwvnt i chwerthin ac wylo bob yn ail, ond hwyliai'n ddigon pell oddiwrth bob dyledswydd. Pregethai i r Iuddewon a'r Groegiaid, ond ni ddywedai air wrth yr eneidiau oedd yn nevvynu o flaen ei wyneb. Yr oedd rjiyw ychydig o wahaniaeth rhwng y byd a'r eglwys pan ddaeth hwn i Droedyrarth, ond tynnodd ef.y mur i lawr, a gwnaeth yr achos yn warth i Gristnogaeth. Treuliai'r rhan fwyaf o'i amser yn yr "Angel," ac yn fyn- ych, fvnych, byddai'r rhy feddw i gerddpd i'w gartref. Llawer gwaith y gwadwyd ef i'w wraig pan yr ai yno i chwilio am dano. Dywedai Mrs Harries nad oedd wedi ei weled ers dyddiau, pan, mewn gwirionedd, gor- weddai'r funud honno yn y parlwr yn rhy feddw i svmud. Yn y diwedd, dechreuodd ei ffryndiau godi eu sodlau yn ei erbyn, a chyn hir profwyd ef yn rhy anheilwng i'w swydd, ac yn fuan ymdreiglodd i'w le ei hun; ond gofynn- ;r..gwaed ami i Iaslanc oddiar ei ddwy- law. Dysgodd hwynt i gerdded yn hyf i ffau y gelyn, a gwaedodd galon- au saint yr Arglwydd. Bu'r amgylch- iadau hyn yn agoriad llygaid i lawer. Dechreuwyd meddwl nad cyfreithlawn y gyfathrach oedd rhvyng "Ty Belial" a "Thy yr Arglwydd," er fod Mrs Harries a'i holl dy yn aelodau yn y capel, ac yn flaenllaw eithriadol ymhopeth. Yr oedd hefyd wedi bod yn athrawes yn yr Ysgol Sul am flynyddau lawer, ac o'i seler hi yn anad neb y caed gwin i gofio am Waed v Ceidwad. Rhyfedd mor dru- garog yw Duw. Ar yr adeg hon yr anfonodd Prif Ddirvvestwr Cymru" gais am gael cynnal cyfarfod dirwestol yng Nghapel Troedyrarth. Y Sul hwnnw, pregeth- ai William John yno—gweinidog ar eglwys heb fod ymhell, ac un oedd wedi brwydro llawer, mewn amser ac allan o amser, dros ddirwest; ac anog- odd hwynt yn daer i ganiatau'r cais, ac y deuai ef yno i'w cynorthwyo. Yr oedd William John wedi bod o gym- aint cynhorthwy iddynt ynghylch eu gweinidog, fel y methent ei wrth- wynebu, a chyhoeddwyd, am y tro cyntaf erioed, gyfarfod dirwestol yng nghapel Troedyrarth. Parodd hyn gryn gynhwrf a siarad yn y gym- dogaeth, a rhoddwyd mwy o ddiod rhad yn yr "Angel" yr wythnosau hynny nag erioed. Ond cafodd llawer enaid weledigaeth glir ar eu cyflyrau y dyddiau hynny; ac yn ddistaw, ond yr- sicr, cerddent allan i'r goleuni. Yr adeg hon hefyd, yr oedd Elen Powell yn troedio bannau ffydd, ac yn gogoneddu Duw. Bu megis yn ym- godymu a'r angel am y fendith am flynyddau lawer, ond pan glywodd gyhoeddi Cwrdd Dirwest yn Nhroedyrarth, gosododd ei Haw ar ei chalon, ac anfonodd saeth weddi tua'r nef, "Yn awr, Arglwydd, y gwn Dy fod yn ateb gweddi." Yr oedd Mrs Harries, yr "Angel," yn brysur iawn y dyddiau hynny. Gwyliai bob un a ddeuai i'r efail, a chymhellai hwynt i fewn i'w thy, i eistedd ychydig wrth y tan, gan fod yr hin yn oe" ac, wrth gwrs, i gael eu barn am y "Cwrdd Dirwest." Peth newydd oedd dirwest a chredai hith- au mai hawdd iawn oedd codi muriau rhagfarn yn ei erbyn. 'Does dim angen cwrdd o'r fath arnom ni. Mae'r wlad yn wahanol iawn i'r trefydd a'r gweithfeydd. Mae eisieu Cwrdd Dirwest yno, feallai. Beth yw'r dwli yna wnaethoch chi neithiwr, Evan Powell?" meddai Mrs Harries bore Llun. "Peidiwch gwyllti dim, Mrs Harries fach, 'does dim perygl. Yr wyf fi wedi clywed son am ddirwest er pan oedd- wn yn ieuanc iawn, a 'run fath wyf fi'n gweled pethau o hyd. Mae Elen, wyddoch, yn son am ddirwest byth a hefyd, ond lol i gyd yw e,-i'r wal y mae pethau fel yna yn mynd o hyd." "Beth mae Ann chi'n feddwl am y cwrdd? Fe glywais i fod rhai o'r merched a rhai o'r bechgyn hefyd yn mynd i "signo" dirwest yn y cwrdd. Wn i ddin. pwy ddywedodd wrthyf fod Ann chi'n un sy'n mynd i signo." Nonsens, Mrs Harries fach, na, chaiff Ann ni ddim signo. Chredai i ddim fod Ann yn llwyrymwrthod ag ef,' er fod ei mam wedi poeni'r plen- tyn ar hyd ei hoes a rhyw hen gati- cisms a chwestiynau diangenrhaid. Mae Ann yn fwy "free o iawer na'i mam, a pha niwed, yn enw'r anwyl, a wna tipyn o 'dablen gartre' i neb? Ond dyma Ann yn dod." "A gaf fi agoriad y capel, Mrs Harries? Mae pobi o'r dref wedi dod i fyny, ac y maent am ei weled." "Dyma'r agoriad, Miss Powell. Dewch i fewn yma wedyn, mae eisieu arna siarad gair a chi." "O'r gore, dof yn ol yn union." "Dyna ferch smart yw Ann chi wedi dod. Hawyr bach, allwn feddwl taw rhyw bum neu chwe mlynedd sydd oddiar pan ddaeth Mrs Powell y ffordd hon gyntaf. Ond ychydig bach iawn i ni 'n weld o Mrs Powell. Gallwn feddwl, yn wir, fod arni ofn dod dros y trothwy hwn. 0 ddaw Elen ddim dros y troth- wy hwn hefyd, os nad aiff yn galed iawn arni. Yn wir, 'rwy'n cael tra- fferth anghyffredin gyda dirwest Elen. Gwyddoch chi beth—sangu'th hi ddim y tu fewn i'r un ty tafarn yn y dref ar ddydd marchnad nac un dydd arall; a chan ein bod wedi arfer erioed osod i fyny yn y Black Horse," mae'n anghyfleus iawn, ond mae wedi dal yn gyndyn i'w hargy- hoeddiad. "Yr own, i'n meddwl, wir, fod tip,, n o stamp yn Mrs Powell, ond feddyl- iais i ddim ei bod mo: ffol a hyna, hefyd, oblegid mae'n rhaid gosod i fyny yn rhvwle." Mae'r "Temperance lioto" wedi adeiladu stabl neu ddwy, mae'n debvg, ac eisieu mynd yno sydd ar Elen, ond i newidia i ddim mwy i blesio neb. Wei, mae'n rhaid i fi fynd, Mrs I Harries." "I Harries. J H Na, yn wir, ewcn chi ddim allan yn awr heb gwpaned o de, mae bron yn barod 'nawr. Dewch i'r parlwr bach, fe ddaw Mrs Powell yma'n union. Odi'r stori glywais i heddyw yn wir ?" "Beth yw honno?" I "Mae pawb yn gwybod erbyn hyn fod mab y Dderwen Fawr bron ffoli am Miss Powell, ond clywais heddyw ei bod hi wedi ei wrthod yn bendant. Mae yn drueni hefyd, oblegid y mae cvfoeth mawr yn y Dderwen, a buasai uno'r ddau hen le yn hapus iawn." 'Does dim byd gen i ddweyd ar y mater. 'Rwyf fi a John Rees y Dder- wen Fawr yn gyfeillion erioed, ond clywais Elen yn dweyd iddi weld Rich- ard y mab yn dod gartref o'r Dre wedi yfed ar y mwyaf." "Dyna fe, Evan Powell, gwaith y fam vw'r cwbl. Dirwest sydd wrth wraidd yna eto. Bydd yn rhaid i Miss Powell gael dirwestwr cyn y bydd wrth fodd Mrs Powell." (I barhau.)
I. Taith i Lydaw. I
I Taith i Lydaw. I I GAN "GLANLLYW." I (Parhad.) I Aem heibio i Sant Servan ar y chwith. Nid oes ond genau'r harbwr a'i gwahana oddiwrth Sant Malo. Mae'n dref hynafol. Bodola er tymor y Rhufeiniaid. Ei hen enw meddir yd- oedd Alethum. Ceir adsain o hono yng nghapel presenol Sant Pedr o Aleth. Gwelir olion a rhai gweddill- ion o'r hen furiau hyd eto. Gwelodd lawer tro ar fyd. Difrodwyd hi gan lifogydd a mor-ladron droion, ond cadwodd yn fyw drwy'r cyfan ac erbyn hyn, rhifa ei phoblogaeth tua deuddeg mil. Mae yno Goleg brâf, Eglwys Gadeiriol hynafol, a Thwr Solidor, anferth ei faint, y tri hyn a'r mwyaf hynod o honynt ydyw'r twr. Adeiladwyd ef yn y bedwaredd gan- rif ar ddeg. Saif ymhell allan ar y creigiau ar aber y Rans. Tryfalog ydyw o ran ffurf. Gwrthsafodd lawer rhuthr ac ymosodiad, ond nid ydyw yn debig y medrai wrth sefyll ym- osodiadau milwrol y dyddiau pre- sennol. Erys yn gofadail o allu a medr peiriannol yr oes o'r tflaen. Wedi gadael Sant Scrvan felly ar y chwith, caem ein hunain yn Aber y Rans. Gellir mordwyo honno mor bell i fyny a Dinam pan fyddo'r llanw i mewn. Rhedir llongau bvchain yn ddyddiol i fyny yno pan fyddo'n gyfleus. Dyma'r bleserdaith hvyaf ddyddorol a phoblogaidd o'r oil. Eir i'r lan drwy ddyff ryn, weithiau'n gul a phryd arall yn llydan, weithiau a'r creigiau'n ymgrogi uwchben, a phryd arall y llechweddi'n llawn coed yn disgyn i fin yr afon. Weithiau eir heibio i balas hardd a chadarn; bryd arall gwelir ami i fwthyn llwm diaddurn yn britho'r bronnydd. Nid i fyny'r afon ydoedd cwrs oin bad ni heddyw, ond yn groes iddi i Dinard. Lie rhyfeddol o ffasiynol ydyw hwnnw. Dywedir mai Ameri- caniaid a Saeson ydyw mwyatrif yr ymwelwyr yno. l\Iae'r tai yn bryd- ferthach nag yn San Malo a San Servan, er nad oes golwg cyn gadarn- ed a sicred arnynt. Nid wrth yr olwg mac barnu bob amser. Nid aur yw popeth sy'n disgleirio ac nid comfforddus ydyw'r hyn enilla'r llygad wastad. Gwnawd pob dyfais i ddifyru'r bob!. Ceir y "casino" sydd fel y tlodion bob amser ac ymhob lie o'r natur hwn yn Ffrainc. Trueni fod yn rhaid i ddyn wrth ymddifyru i'r difyrwch gymeryd ffurfiau berant gymaint o drafferth yn ol Haw. Ceir pob math o chwareuon mewn He fel hwn, heblaw canu ac adrodd a phob rhialtwch. Y drwg yn nis boddlonir ar chware heb hapchware lawer hefyd. Bu natur yn hael i Dinard a'i ham- gylchoedd. Saif ar lecyn coeo^fg hyfryd. Golchir ei thraeth gan for cyn lased ar glaswellt bron. Nis cofiaf i mi weld lliw prydferthach ar y dwfr yn unman erioed. Mae'n debig mai gwyrdd ydyw'r gair fuasai'r gwyddon a'r athronydd meddyliol yn ddefnyddio i'w ddesgrifio, ond nis i gwyddai'r hen Gymro am hwnnw. • Glas ydoedd ei bopeth ef, gwellt-glas, awyr-las, asur las, dail glas, a mor glas. Felly y siarada'r bardd a'r Cymro cyffredin eto, a gwell gennym ninnau fod fel un o honynt hwy na dilyn y gwyddon a'r athronydd. Traeth glas sydd yn Dinard. Ceir ymdrochle hyfryd yno, a gallem fedd- wl y dalia'r boblogaeth fantais ar hynny gan amled yr ymdrochwyr y dydd hwnnw. Yn ymyl Dinard mae ST. ENOGAT. Braidd na ddywedwn mai'r un yw'r ddau le. Cysylltir hwy yn ami, Dinard- St. Enogat, fel y gwneir weithiau yng Nghymru yn y dyddiau mursenaidd hyn gyda theulu afrifed Jones. Ys- j grifennir Williams- Jones, Wright- Jones, Spilman-Jones, ac yn ddiwedd- af oil i goroni'r cyfan Hyphen-Jones. Felly gwneir a Dinard a Sant Enogat. Rhoir hyphen rhyngddynt. Cysylltir hwy mewn ffyrdd eraill hefyd. Ceir ffordd haiarn" ysgafn yn rhedeg o'r naill i'r Hall ac ymhellach i Sant Lunaire a Sant Briac. Gwelir mai gwlad y seintiau ydyw Llydaw. Eu henwau hwy sydd ar y trefydd a'r pentrefydd. Dengys hynny mai hwy ydyw gwir berchenogion y wlad, neu feallai v dylwn ddweyd mai cyfoeth pennaf y wlad ydyw eu seintiau. Yn ddidadl gwnaeth bob un o honynt ei waith yn ei le a'i ddull ei hun. Pwy all fesur y llafur hwnnw heddyw? Nid oes fesur na deongli arno hyd y bore y gwneir popeth cudd yn eglur, ac y rhoddir i bob un yn ol ei weithred. Hyd hynny rhaid derbyn llais tradd- odiad ar werth a gwasanaeth llawer sant. Yr anfantais ydyw yr elwa llawer yn eu cysgod. Dyna berigl mawr, braidd na ddywedem, pechod mawr Llydaw hedyw. Pan a gwlad i fyw ar ei gorphenfcl yn unig, nid da ei phresennol. Pan y sonia gyda baldordd barhaus am y seintiau lawer fu iddi, arwydd o brinder seintiau yr awrhon ydyw hynny. "Newidiodd Cymru er's hen amser "sant" am "llan." Troisant oddi- wrth y dyn at ei waith, oddiwrth y perchenog at ei berchenogaeth. Ai mantais fu hynny iddi, nis gwn, ond sicr ddigon gennyf i hynny fod yn lies mewn rhai cyfeiriadau. Rhowd pwyslais ar fywyd ac nid ar ehw, ar waith ac nid ar honiad. Bu'r awyr- gylch felly yn gydnaws i fagu seintiau vmhob oes a meithrin duwiolion ymhob ardal. Rhaid gadael y saint a thalu sylw i'r tren sydd ar gychwyn i'w tir- iogactliau. Treti tebig i'r hwn a yn ol a blaen o Abertawe i'r Mwmwls ydyw, ond ei fod yn ysgwyd mwy. Dilyna'r heolydd y rhan amlaf o'r ffordd, ond rai prydiau tyr yn sydyn dros y meusydd fel pe wedi blino ar fynd o amgylch ogylch, ond ni raid ofni. Nis rhed yn wyllt. Ai union ai wmpasog ei gwrs, ni frysia. Cymer ei amser vn hamddenol fel hen bererin profiadol. Adgofia ni o lawer stori a ddvwedid gynt am y ffordd 'haiarn o Bencader i Aberystwyth. Ai y tren cyn araftd nes y tyngai hen wraig ar ei ffordd i'r farchnad nad esgynai iddo am fod arni frys i gyrhaedd pen ei thaith. Awd felly yn araf ac yn hamddenol drwy Sant Enogat i Sant Lunaire a Sant Briac. Saif Sant Enogat mewn man manteisiol iawn ar lecyn pryd- ferth a chreigiau anferth ysgythrog gerllaw rydd fawredd a ramantrwydd iddo. Gorwedd Sant Lunaire ar lech- wedd esmwyth gyda'r mor agored o'i flaen a thraeth o raian wrth ei draed. Ymheula Sant Briac mewn tawelwch breuddwydiol wrth edrych allan ar y creigiau gwyllt yn ymestyn hyd Cap Trehel ar y naill law, a'r weilgi wylofus ar y llaw arall, yn costrelu ei ddagrau mewn cwmwl o dawch i'w dde'fnynnu'r dvner a chawod es- mwyth neu i'w dywallt yn wyllt mewn storm gerth maes o law, tra nytha ei hun yng nghysgod y llwyni. Nid oes cvmaint o wychder yn y lleoedd hyn ag sydd yn Dinard, ond i'r llesg a'r blinedig maent yn orphwysfaoedd hyfryd. Nid oes eu gwell am hynny ar yr arfordir i gyd. Ar gyfrif hynny meddent swyn a chyfaredd anghyffre- din y prynhawn hwn. Denent ni i aros yn hwy, ond er eu swyned, rhaid yd- oedd gadael cwmni'r meudwy Briac y Sant, Lunaire, a'r Esgob Enogat, gyda'u eglwysi hynafol a'u beddfaen dyddorol. Dywedir adeiladu hen eglwys Sant Lunaire yn yr unfed- ganrif-ar-ddeg, ac fod careg fedd y sant yno oddiar y drydedd ganrif-ar- ddeg. Ar gyfrif hynny gwneir perer- indodau yma gan rai o'r ffyddloniaid. Nid pererinion felly oeddem ni, ac felly nid aroswyd yn hir. Cerddwyd yn ol yn bwyllog a phleserus i Dina?d, ond prysurwyd oddiyno i'r llong gan fod arwyddion storm. Cwyd storm- ydd yn sydyn iawn yma. Yn hynny tebygir i For Galilea neu lyn uchel yng ngheseil y mynyddau neu'r mor o gwmpas Creta. Bernir rpai awelon y mor yn ceisio toddi i awyr desog v tir sy'n cyfrif am hyn. Beth bynnag am hynny daeth yr ystorm yn sydyn arnom ym min yr hwyr hwnnw, ond ymladdwyd hi, concrwvd y tonnau, a daethom i'r lan yn ddiangol. (I 'w barhau.)
Advertising
t ) t ) RP????!SWT??*??*?'?*?? 1I Ludded  ^an y Hethir eich cyfansoddiad j gan bryder neu or-waith-pan 1 f M mae eich ynni yn brin pan y t teimlwch rywsut"—panymae'cn P" nerfau yn flinedig-pan y blinir !B? chwi gan yrymdrechleiaf—yrydych tt? ?? EWf ir mewn cyflwr o ludded. Mae'ch cyfansoddiad fel y blodeuyn yn gwywo gan brinder dwr. Ac ya JUH union fel yr adnewydda'r dwr y W blodeuyn gwywedig-felly y rhydd W J 'Wincarnis' fywyd newydd i gyfan- L ? ? 1 tt soddiad Uuddedlg. Gallwch ei N deimlo yn llanw eich holl gorff gydad iechyd newydd-nerth newydd-ynni newydd a bywydd newydd-hyd yn oed oddiwrth y glasaid cyntaf. ttttttt Dechreuwch lod yn lach tjtjtjt YN RHAD A Anfonwch am brawf-gostrel yn rhad o Win- carnis' nid yn unig cael ei flas, ond digon I wneud lies i chwi. Amgauer tri stamp ceinioC dalu 'rcludiad). COLEMAN" CO.. LTD.. W. 140. Wincarnis Works. Norwich. "Gwln y Bywyd" Cymeradwyir gan dros 10,000 ° Feddygon. EORGES t&?LE???HLMn?J?' Jm I PILLS MIRACULOUS EFFECTS! I have;sufifered from Pile and Gravel-for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF I I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, f THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. 'I, George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2.-George's Gravel Pills (label las) No. 3.-3eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Pelerii Byd-glodus hyn yo mhob man, mewn Blychau a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Gochelwch Dwyllwyi* I-Gofynweh yu eglur am ",George's Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, M.R.P.S., HIRWAIN, ABERDARE. 4