Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CADW'R WYL. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CADW'R WYL. I Cymrodorion Aberdar. I Nos Wener, Mawrth 6ed, cawsom gyfie i Bbio hynt y Gymdeithas hon, a chydfwynhau a'r aelodau o'r wledd a ddarparesid i gofio Dewi Sant. Tipyn o siom oedd clywed nas gallai Wil Ifan" fod yno o herwydd anhwyldeb. na'r Bonwr Lleufer ychwaith. Ond y mae Cymrodorion Aberdar yn ddigon cyfoethog o dalentau i allu llanw bylch- au fel hyn yn hwylus. Y mae'n amlwg fod y Gyindeithas hon yn ddyledus iawn i'w hysgrifennydd medrus. Iwan Goch. am y graen sydd arni. Efe hefyd. mae'n debyg, oedd yn gyfrifol am y I bembleth y bu llawer o honom ynddi pan wrth y byrddau. Sylwer ar raglen y darpariaethau i'r cylla: Bwydres j y geilw Twan hi, a chynhwysai y pethau I a ganlyn Chwarthorau Eidion, lr- gig Moch, Rhost, Clun Mochyn a Thafod. Tomato a Melged Goch. MeluBion. Pasteiau Surber, Dirgras, Teisennau Caws Egrafal. Ffrwythau amryw. Gludgeiled, Cyffeithfwyd. Bara llwyd a gwyn, ymenyn. Te a choflB." Nid rhyfedd fod rhes o'r fath wedi peri cryn ddyryswch i rai o honom. I Ofer oedd gofyn i'r rhai weinent wrth I y byrddau am ddim oedd yn y rhes. Nis gwyddent beth oedd dim oedd arni ag eithrio "tomato." Weithiau cai un allan ei fod yn gofyn am rywbeth a fwytasai eiaioes mewn anwybodaeth, a phan gynhygid rhywbeth tybiasai iddo fwyta hwnnw o'r blaen. Gofynnai un am y Felged goch a'i lygad ar y jelly. Golwg smala oedd arno pan estynnwyd iddo'r beetroot. Ond beth bynnag am I y fwydrea, aeth y bwyd o'r golwg, a'r Iwan wedi cael llawer o ddifyrrwch. Cliriwyd y byrddau, a gwnaed y lle'n gyfleus i fynd trwy Raglen arall, dan lywyddiaeth y Parch. William Davies. Y peth cyntaf ar hon oedd, Llon- gyfarchiad Swyddol yr Uwch Gwn- stabl." Dechreuodd yn Gymraeg, ond buan y bu raid iddo droi i'r iaith fain. Awgrymasai rhai iddo y dylasai fod yno; yn ei wisg swyddogol a'i gadwynai, ond ofnai y tybiai rhai eisioeB ei fod yn cyagu ynddynt. Teimlai fod deffroad rhyfedd ynglyn a choffa Dewi Sant. Llongyf archai'r ysgolfeistriad ar y y gwaith a welsai yn yr ysgolion y dydd Gwener blaenorol. Manteisiodd yr Uwch GwnBtabl ar y cyfle i alw sylw at y Llyfrgell Genedlaethol. Rhoddai hon gyfle i wneud rhywbeth sylweddol ynglyn a dathliad yr wyl. Yr oedd hon yn ddemocrataidd hollol yn ei ham- can; rhoddai y gwladwr a'r trefwr ar yr un safle. Fel rheol yr oedd gan rai yn y dref fantais fawr ar rai yn byw mewn gwlad i ymgydnabyddu a llyfrau. Gallai pawb yn eu cartref, He bynnag y byddent, gael llyfrau o'r Llyfrgell Gen- edlaethol. C-arai weled pob Cym- deithas Cymrodorion yn cyfrannu rhyw- beth tuag at yr achos hwn. Tystiai mai ei anffawd ac nid ei fai oedd ei anallu i barhau ei araeth yn Gymraeg. Cawd, yn neBaf, done ar y delyn gan y Bonwr Roger Thomas (TelynorCenedl- aethol, 1913). Ar ol hyn dyma'r ysgrif- ennyd,d wedi gyrru'r llywydd i bem- bleth. Daeth ar draws "llwnc destun" "Y Brenin," i'w gynnyg gan y llywydd. j Erbyn iddo edrych o'i gwmpas, nid oedd yno ddim i'w lyncu. 0 barch i'r Brenin safodd pawb ar eu traed. Yna caed can, Rhosyn yr Haf," gan y Fonesig Megan Davies, a Miss Gwladys Phillips wrth y piano. Ymgymerodd y Parch. T. Eli Evans, Soar, a chynnyg llwne-destun Dewi Sant yn absenoldeb Bardd Coronog y Fenni. Er mai byr rybydd a gawsai, cafwyd ganddo sylwadau gweuthfawr. Llawenychai fod gan Gymru Sant v gellid ei gofio yn y cysegr. Tyfai Dewi o hyd yn nychymyg y genedl. Delfryd Cymru Fydd ydyw, ac nid delfryd Cymru Fu. Dylanwad dynnai bobl at eu gilydd a pheri iddynt anghofio eu Swahaniaethau oedd dylanwad Gwyl Ddewi, ynghyda meithrin diwylliant y genedl a phuro ei moes. Gwnai poblog- rwydd yr wyl hefyd lawer tuag at ddio- gelu'r Gymraeg. Meithrinid cenedlgar-l wch yn yr ysgolion. Yr oedd Seisnig- eiddiweh Aberdar i'w briodoli i'r main- ac nid i'r tadau. Nis gellid cofio Dewi'n iawn heb i hynny feithrin ynom ysbryd hunan-aberth er mwyn y pethau a berthynent i fuddiant y genedl. Galwyd yn nesaf am anerchiadau'r beirdd, ond hwyrfrydig iawn oeddent i fynd ymlaen, a bu raid cael tone ar y delyn i'w deffro. Pan ddistawodd y delyn yr oedd Ab Hevin, Ogwen, a j George Powell yn barod a chryn lawer o ddoniolwch yn eu pilliau. Ar eu hoi hwy cododd Gwyddonwy, a darllenodd englyn oedd a chryn lawer o arogl brwmstan ar ei linell olaf. Ni chododd yr un bardd ar ei ol ef. Methem a deall yn awr pwy oedd i gynnyg 'llwnc-destyn Sefydliadau Addysg Cymru." Adwaenem yr Hybarch fonheddwr R. J. Jones, M.A., ond pwy oedd yr A.C.—Athraw Cerddoriaeth o'r un enw ? Pan welsom yr M.A. yn codi deallem mai un o driciau'r Iwan oedd hyn eto. Dy- wedai'r Parch. R. J. Jones y dylid cadw delfryd yn y golwg. Llawenychai wrth weled delfryd Dewi Sant yn dod yn amIwg- Gyda golwg ar' sefydhadau addysg, ei dri phen oedd: (1) Y coed a r cerrig (2) yr athraw (3) Y plent3,-n- Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng j a ??"S y palasdau pres- rhwZonl^ Tzu Z fwt vJ; N R,u lle cynheKd  u ?  yCuL nor oe cryn wahan- Ysgol'*On gynt. Yr oedd cryn wahan- iaeth h,,fyd rhwng yr attrawo'' yn awr adeg £ Wedi meth" gyd,L phopeth ^Sr y athrawon, a,c efallai vvdi'diota gorrnod i Sael y. Y plentyn Oedd lb  f dl' d cano wynt sefydliadau addysg. Dy,1d  I co 0 am y plentyn o'r dechreu i'r diwedd. Ofnai iddo gael cam mawr yn yr hen fwthyn- nod. Yn yr ysgolion gramadegol nid oedd y delfryd iawn yn y dull o gyfrannu addysg. Rhoddid gormod o bwys ar y Lladin. a chwrddid a dynion oedd yn torri cerrig ar y ffordd yn medru adrodd yr hie, haec, hoc." Ofnai gydag golwg ar 90 y cant oedd yn dysgu LIadin eu bod yn anghofio'r cwbl cyn pen deng mlynedd. Syniad Herbert Spencer am addysg oedd- paratoad ar gyfer sicrhau bywyd cyflawn. Ofnai fod yr ysgolion ymhell o Iwyddo i I' sylwed^oli y syniad hwn. Eto yr oedd addysg yn gwella a'r wlad yn fwy ai- wylliedig. Dylid rhoddi ei Ie i chwareu yn addysg y plant. Dywedai un bon- heddwr. fod brwydr Waterloo wedi ei hennill ar chwareu-faes Eton. Cam- gymerai rhieni yn fawr wrth dybied mai pentyrru gwybodaeth oedd addysg. Rhaid cofio nas gellir llanw potel yn gynt nag y caniata'r gwddf. Rhaid i'r athraw hefyd ystyried hyn, ac arfer amynedd i dynnu allan adnoddaii'r plentyn. Dylid gofalu am gorff y plen- tyn, ei lygaid, ei ddwylaw, a'i ddysgu i wneud defnydd o'r cwbl. Yr athrawes bwysicaf oedd y fam. Hi ddysgai'r' pletyn i sylwi, i gerdded, i siarad ac i feddwl. Nid oedd addysg ond par- hau'r gwaith a ddechreuasai'r fam. Llawenydd nid bychan i ni oedd gwrando ar ein hen athraw, a'i weled yn edrych mor dda. Yn nesaf, daeth tair hen wraig fach i'r golwg o wlad y tylwyth teg, a'u enwau oedd Dorothy Evans, Myfannwy a Megan Williams, i ganu penhillion gyda'r delyn,. a chawd hwyl anarferol. Yna atebodd y I Cynghorwr George Powell ar ran Sefydliadau Addysg, a I gwnaeth sylwadau oeddent yn werth eu croniclo, ond mae'r gofod yn rhy I brin. Cafwyd can wefreiddiol gan Gwilym Wyn. Groesawyd yr Ymwelwyr gan y Parch. T. Jones, Ciwrad. Methai llawer a deall beth oedd yr M.C. oedd wrth ei enw ar y rhaglen. Mynnai un mai Methodist Calfinaidd, ac un arall mai Master of the Ceremonies ydoedd. Gwaith Iwan Goch eto'n bur debyg. Beth bynhag, estynnwyd groesaw cyn- nes i'r ymwelwyr, ac atebwyd gan Olygydd y Darian." Llongyfarchodd y llywydd ddau o hen aelodau y Gymdeithas ar ddyrchafiad a ddaeth i'w rhan, sef Dr. Green, Ficer Aberdar, i Ddeoniaeth Mynwy, a'r Parch. J. M. Jones yn Athro Hanes ym Mala-Bangor, a datganai golled y Gym- deithas ar eu hoi. Atebwyd ef gan loan Gruffydd. Canodd Ab Hevin y "Tepot Bach Du mor dda nes bu raid iddo ganu eilwaith. GaJwyd sylw at bresen- oldeb Mr R. Davies, tadcu Wil Ifan," a ddaethai yno gan feddwl clywed anerchiad ei wyr. Cawsid llythyrrau oddiwrth Igri. Edward James ac Edgar Jones yn dat. gan eu gofid nas gallent fod yno. Yr olaf wedi ysgrifennu yn Saesneg, a dylasai Mr. Keir Hardie gael gwybod hyn. Cafwyd cyfarfod difyr ac adeil- adol. Gwnaeth y llywydd ei waith yn ddeheulg a doniol, ac heb fwyta'r amser I fel y gwneir gan rai. UN OEDD YNO. I

Yn Aberaman.I

Cymreigyddion yr Ystrad.

Ton, Ystrad.;_I <

I COLOFN Y BOBL IEUAINC.

Bwrdd y Golygydd. I ---

Pontycymmer.I

Advertising