Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Nodion o'r Mardy. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o'r Mardy. I Rhoddodd Methodistiaid Bethania berffofmiad o'r Magic Ruby," dan ar- weiniad medrus Mr John Lewis, ar- weinydd y gan yn y Ile. Cymerwyd rhan ynddo gan Miss Salome Lewis a i Mrs. George Thomas, Mr Evan Hum- J phreys a Mr Robert Lewis, yn fedrus J a deheuig dros ben, a chredwn fod yr anturiaeth wedi troi allan yn well na'r disgwyliad, a chyfeillion Bethania wedi elwa yn dda. Tro Siloa, yr Anibynwyr, oedd nesaf, a chafwyd dau gyngerdd ardderchog fel arfer ganddynt. Eleni cafwyd per- fformiad o'r "Holy City," cantata gyssegredig, ac yr oedd ol llafur i'w weld ar y cor a'r unawdwyr. Mae yr arweinydd, Mr Gwilym Lewis, cyn- ysgoffeistr y Mardy, yn gerddor gwych ei hunan, a dewisa'r gweithiau goreu i'w dysgu. Canwyd unawdau gan Madame Tegwen Lavis, soprano; Madame Thomas, contralto; Mr David Rees a Mr David Harris, ynghyd a'r Misses Beatrice Howells a M. A. Havard. Yr oil o honynt yn perthyn i'r lie. Cafwyd hefyd wasanaeth cerddorfa, y rhai hyny hefyd o'r Mardy a Ferndale. Mae'n wir ddrwg gennym mai dyma y tro diweddaf y bydd i Mr. Gwilym Lewis fod gyda ni fel ein har- weinydd, gan ei fod eisioeB wedi dech- reu ar ei ddyledswyddau fel ysgolfeistr yn Llwynypia. Tro Ebenezer, y Methodistiaid, oedi yn dod yn awr, a chafwyd ychydig o am rywiaeth yma: Gwledd o de a bara brith yn y prynhawn, a chyngerdd yn yr hwyr, pryd y cafwyd gwasanaeth y telynwr medrus Mr John Lewis, Tre- 'banws, a Miss Gwen Williams, o'r un lie, yn canu penillion. Er nad ydyw y ferch fach hon ond tua 12eg oed, y mae yn canu'n swynol dros ben. Caf- wyd adroddiadau gan Mrs. John Lewis, priod y telynwr, ac unawdau gan Mr T. D. Lewis, Mr Robert Williams, Mr. Charles Jones., a Miss Lizziej J. Jones. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan ein hysgol- feistr newydd, Mr Williams. Oobeithio y cawn ei weled yn ami yn ein plith. Cyfarfod i gyflwyno anrhegicn i'n cyn-ysgolfeistr, Mr Gwilym Lewis oedd nesaf. Cynhaliwyd ef yn Xeuadd y Gweithwyr, dan lywyddiaeth Mr H. E. Maltby, agent y gwaith. Yr oedd yn bresenol ar y llwyfan: Y Parch. J. Evans, Bedyddwyr; Parch. J. Hope Evans (A.), Mr Williams, ysgolfeistr; Mr William Lavis (mechanic), Mr. Berry, Cyfarwyddwr Addysg; Dr. Glan- Tille Morris ac ysgrifydd y mudiad, Mr A Evans, Royal Stores, ynghyd a Miss Davies, ysgoIfeiBtres y merched yn y Maerdy. Cafwyd anerchiad gwresog gan y llywydd i agor y cyfarfod. Yna cafwyd gair gan y Parch. Joseph Evans, B. Siaradodd am Mr Lewis fel ysgol- feistr ac fel cymydog. Wedi hyny caf- wyd anerchiad gan Mr Berry mewn cysylltiad a Mr Lewis yn ystod ugain mlynedd o wasanaeth yn y Mardy fel ysgolfeistr, fel cerddor, ac fel arwein- ydd. Dywedodd fod Mr Lewis yn barod i wasanaethu pob enwad yn ddi- wahaniaeth, a thrwy ei barodrwydd i helpu mewn pob achos yr oedd wedi myned yn ddwfn i serchiadau pobl y Mardy. Yr oedd hyny i'w ganfod yn amlwg yn y dorf ddaethai ynghyd, ac yn yr anrhegion gwerthfawr oedd i'w derbyn. Galwyd ar Miss Davies i gyflwyno iddo dressing bag ar ran yr athrawon a'r athrawesau, a chyfeiriodd yn garedig at y teimladau da oeddynt yn ffynu cydrhwng Mr Lewis a'i gyd- athrawon. Wedi hyny galwyd ar Mr D. L. Williams, yr ysgolfeistr presenol, i gyflwyno i Mr Lewis silver-mounted walking stick ar ran plant yr ysgol. Wedi hyny cyflwynodd y Cynghorwr H. E. MaltJby bwrs o aur, a chyfeiriodd at ein colled fel ardal ar ei ol. Yna galwyd ar Dr. Glanville Morris i gyflwyno iddo anerchiad goreuredig hardd, ar yr hwn yr oedd darlun o'r ysgol y bu yn dal perthynas a hi am ugain mlynedd, darlun o'r Mardy, a dar- lun o Mr Lewis ei hunan. Cafwyd gair gan Mr Lewis ei hunan. Teimlai'n antiodd siarad, a diolchodd yn gynnes i bawb am ei teimladau da. Canwyd penhillion gyda'r delyn gan Miss G. Williams, Trebanws, a Mr. W. D. Evans. organydd Siloa. Y telynwr oedd Mr John Lewis, Trebanos. Dat- ganwyd hefyd gan Madame Clayton Jones, Madame Tegwen Lavis, Mri. Dd Rees, Tom Davies, ac adroddwyd gan Mr Phil Lewis, Ferndale, yn benigamp fel arfer. Canwyd y berdoneg gan Mr Henry Jones. Cafwyd gair gan y Parch. Hope Evans, yn ein hysbysu fod Eglwys Siloa yn bwriadu anrhydeddu Mr Lewis ar ddydd ei chymanfa, sef y 25ain o Fai. Mr Lewis ydyw yr arwein- ydd yn y Gymanfa eleni eto. Wedi talu y diolchiadau arferol, adroddodd Mrs. David Roberts, Meirionfa, benhillion yn llongyfarch Mr Lewis, a therfyn- wyd trwy ganu Duw gadwo ein Tywsog. Drwg iawn gennymglywed fod Mr David Evans wedi cyfarfod a damwain alaethus wrth ei waith fel overman yn No. 2 Mardy. Cawn ar ddeall ei fod wedi tori ei ddwy goes, wedi derbyn niweidiau i'w ben, ac hefyd i'w rannau mewnol. Er y cyfan i gyd, yr ydym yn mawr obeithio y caiff wella yn fuan, ac y cawn ei weled yn mysg ei deulu a'i gyfeillion megis cynt. Sicr genym fod cydymdeimlad pawb o'r ardalwyr gyda'r teulu yn eu profedigaeth chwerw. MEIRIONA. I

Ar Lannau'r Tawe.I

Ton, Ystrad, Rhondda. I

Treforis. !

Nodion Min y Ffordd. I

Llansamlet.I

Dioddef wrth Fwyta. I

Colofn y Beirdd. I

[No title]