Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Nodion o'r Mardy. I
Nodion o'r Mardy. I Rhoddodd Methodistiaid Bethania berffofmiad o'r Magic Ruby," dan ar- weiniad medrus Mr John Lewis, ar- weinydd y gan yn y Ile. Cymerwyd rhan ynddo gan Miss Salome Lewis a i Mrs. George Thomas, Mr Evan Hum- J phreys a Mr Robert Lewis, yn fedrus J a deheuig dros ben, a chredwn fod yr anturiaeth wedi troi allan yn well na'r disgwyliad, a chyfeillion Bethania wedi elwa yn dda. Tro Siloa, yr Anibynwyr, oedd nesaf, a chafwyd dau gyngerdd ardderchog fel arfer ganddynt. Eleni cafwyd per- fformiad o'r "Holy City," cantata gyssegredig, ac yr oedd ol llafur i'w weld ar y cor a'r unawdwyr. Mae yr arweinydd, Mr Gwilym Lewis, cyn- ysgoffeistr y Mardy, yn gerddor gwych ei hunan, a dewisa'r gweithiau goreu i'w dysgu. Canwyd unawdau gan Madame Tegwen Lavis, soprano; Madame Thomas, contralto; Mr David Rees a Mr David Harris, ynghyd a'r Misses Beatrice Howells a M. A. Havard. Yr oil o honynt yn perthyn i'r lie. Cafwyd hefyd wasanaeth cerddorfa, y rhai hyny hefyd o'r Mardy a Ferndale. Mae'n wir ddrwg gennym mai dyma y tro diweddaf y bydd i Mr. Gwilym Lewis fod gyda ni fel ein har- weinydd, gan ei fod eisioeB wedi dech- reu ar ei ddyledswyddau fel ysgolfeistr yn Llwynypia. Tro Ebenezer, y Methodistiaid, oedi yn dod yn awr, a chafwyd ychydig o am rywiaeth yma: Gwledd o de a bara brith yn y prynhawn, a chyngerdd yn yr hwyr, pryd y cafwyd gwasanaeth y telynwr medrus Mr John Lewis, Tre- 'banws, a Miss Gwen Williams, o'r un lie, yn canu penillion. Er nad ydyw y ferch fach hon ond tua 12eg oed, y mae yn canu'n swynol dros ben. Caf- wyd adroddiadau gan Mrs. John Lewis, priod y telynwr, ac unawdau gan Mr T. D. Lewis, Mr Robert Williams, Mr. Charles Jones., a Miss Lizziej J. Jones. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan ein hysgol- feistr newydd, Mr Williams. Oobeithio y cawn ei weled yn ami yn ein plith. Cyfarfod i gyflwyno anrhegicn i'n cyn-ysgolfeistr, Mr Gwilym Lewis oedd nesaf. Cynhaliwyd ef yn Xeuadd y Gweithwyr, dan lywyddiaeth Mr H. E. Maltby, agent y gwaith. Yr oedd yn bresenol ar y llwyfan: Y Parch. J. Evans, Bedyddwyr; Parch. J. Hope Evans (A.), Mr Williams, ysgolfeistr; Mr William Lavis (mechanic), Mr. Berry, Cyfarwyddwr Addysg; Dr. Glan- Tille Morris ac ysgrifydd y mudiad, Mr A Evans, Royal Stores, ynghyd a Miss Davies, ysgoIfeiBtres y merched yn y Maerdy. Cafwyd anerchiad gwresog gan y llywydd i agor y cyfarfod. Yna cafwyd gair gan y Parch. Joseph Evans, B. Siaradodd am Mr Lewis fel ysgol- feistr ac fel cymydog. Wedi hyny caf- wyd anerchiad gan Mr Berry mewn cysylltiad a Mr Lewis yn ystod ugain mlynedd o wasanaeth yn y Mardy fel ysgolfeistr, fel cerddor, ac fel arwein- ydd. Dywedodd fod Mr Lewis yn barod i wasanaethu pob enwad yn ddi- wahaniaeth, a thrwy ei barodrwydd i helpu mewn pob achos yr oedd wedi myned yn ddwfn i serchiadau pobl y Mardy. Yr oedd hyny i'w ganfod yn amlwg yn y dorf ddaethai ynghyd, ac yn yr anrhegion gwerthfawr oedd i'w derbyn. Galwyd ar Miss Davies i gyflwyno iddo dressing bag ar ran yr athrawon a'r athrawesau, a chyfeiriodd yn garedig at y teimladau da oeddynt yn ffynu cydrhwng Mr Lewis a'i gyd- athrawon. Wedi hyny galwyd ar Mr D. L. Williams, yr ysgolfeistr presenol, i gyflwyno i Mr Lewis silver-mounted walking stick ar ran plant yr ysgol. Wedi hyny cyflwynodd y Cynghorwr H. E. MaltJby bwrs o aur, a chyfeiriodd at ein colled fel ardal ar ei ol. Yna galwyd ar Dr. Glanville Morris i gyflwyno iddo anerchiad goreuredig hardd, ar yr hwn yr oedd darlun o'r ysgol y bu yn dal perthynas a hi am ugain mlynedd, darlun o'r Mardy, a dar- lun o Mr Lewis ei hunan. Cafwyd gair gan Mr Lewis ei hunan. Teimlai'n antiodd siarad, a diolchodd yn gynnes i bawb am ei teimladau da. Canwyd penhillion gyda'r delyn gan Miss G. Williams, Trebanws, a Mr. W. D. Evans. organydd Siloa. Y telynwr oedd Mr John Lewis, Trebanos. Dat- ganwyd hefyd gan Madame Clayton Jones, Madame Tegwen Lavis, Mri. Dd Rees, Tom Davies, ac adroddwyd gan Mr Phil Lewis, Ferndale, yn benigamp fel arfer. Canwyd y berdoneg gan Mr Henry Jones. Cafwyd gair gan y Parch. Hope Evans, yn ein hysbysu fod Eglwys Siloa yn bwriadu anrhydeddu Mr Lewis ar ddydd ei chymanfa, sef y 25ain o Fai. Mr Lewis ydyw yr arwein- ydd yn y Gymanfa eleni eto. Wedi talu y diolchiadau arferol, adroddodd Mrs. David Roberts, Meirionfa, benhillion yn llongyfarch Mr Lewis, a therfyn- wyd trwy ganu Duw gadwo ein Tywsog. Drwg iawn gennymglywed fod Mr David Evans wedi cyfarfod a damwain alaethus wrth ei waith fel overman yn No. 2 Mardy. Cawn ar ddeall ei fod wedi tori ei ddwy goes, wedi derbyn niweidiau i'w ben, ac hefyd i'w rannau mewnol. Er y cyfan i gyd, yr ydym yn mawr obeithio y caiff wella yn fuan, ac y cawn ei weled yn mysg ei deulu a'i gyfeillion megis cynt. Sicr genym fod cydymdeimlad pawb o'r ardalwyr gyda'r teulu yn eu profedigaeth chwerw. MEIRIONA. I
Ar Lannau'r Tawe.I
Ar Lannau'r Tawe. I Cynhaliwyd cyngherdd yng Nghapel Hebron, Clydach, nos Sadwrn di- weddaf, yr elw tuag at gynorthwyo y brawd ieuanc David W. Harry, Heol Capel, cyfaill cynnes i mi sydd yn awr wedi dychwelyd adre' ar ol treulio oddeutu saith mis mewn sanatorium yn Yelverton. Dangosodd tyrfa eu cydymdeimlad a'r achos. Cymerwyd rhan yn y rhaglen ddiddorol gan y foneddges Alice Morton, Abercwm- boi, Aberdar, a'r bonwyr Willie Rich- ards, Abertawe; Todd Jones. Tre- herbert; Mog. Morgan, Trealaw; D. C. Thomas, Clydach, a David Wil- liams, Clydach. Diolchaf yn wresog i'r cyfeillion ieuainc am eu hymdrech i drefnu cyngerdd er mwyn achos mor deilwng o gynorthwy. Cynhaliodd Cymdeithas Ddirwestol v Menywod gyfarfod diddorol yn Ysgoldy Carmel, Clydach, prynhawn dydd Iau diweddaf. Llywyddodd y chwaer Mrs Grey Jones. Cafwyd araeth dda gan Sister Church, bon- eddiges o Dreforis. Hefyd canodd y Chwaer Hannah Williams, o Ynys- tawe, yn swynol, a chymerodd y Chwaer Maggie Morgans ran yn y cyfarfod fel cyfeilyddes. Terfynodd Cymdeithas y Bobl leu- ainc Hebron, Clydach, ei thymhor nos lau diweddaf, pan ddarllenwyd dau bapur rhagorol, un gan y brawd John H. Davies, ysgolfeistr. Glais, a'r Hall gan y çhwaer Emily Morgan, ysgolfeistres, Clydach, ar y testynau, "Cipoleuni ar Fywyd y Planhigyn (A Glimpse of Plant Life) ac Oliver Goldsmith." Llywyddodd y Parch. D. Eiddig Jones, a siaradodd y brodyr W. Rees, D. Jones, P. Morgan, D. T. Richards, ac A. Morgan ychydig eiriau priodot yn ystod y cyfarfod. Clywaf fod y Parch. J. M. Wil- liams, gweinidog Carmel, Clydach, wedi penderfynu derbyn yr alwad gafodd yn ddiweddar i fugeilio eglwysi Penygroes a Llanelly, Sir Gaernarfon. Rhoddodd ar ddeall i'w gynulleidfa y nos Sul o'r blaen ei fod yn ymadael a Chlydach mewn tri mis. Darllenodd y chwaer Mrs Grey- Jones a'r brawd William J. Roderick bapurau rhagorol, y naill ar "Gym- eriacL" a'r llall ar Y r Eisteddlod" mewn cyfarfod lluosog yn Ysgoldy Calfaria, Clydach, nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf. Llywyddodd y Parch. T. Valentine Evans. Can swynol gafwyd gan y chwaer Miriam Stephens. Cynhaliwyd cyfarfod o wiedd a ch&n er dathlu Gwyl Dewi yn Ysgoldy Car- mel, Clydach, nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf. Llywyddodd y Parch. J. M. Williams, gweinidog, a chymerodd nifer o fechgyn a merched ieuainc ran yn y rhaglen. Ar ol treulio rhyw bedwar mis o wyliau yng Nghymru, ymadawodd fy hen gyfaill Arthur Davies, Bryn- amlwg, Clydach, a'r gymydogaeth boreu dydd Mawrth diweddaf. Cefnodd ar Gwmtawe am Orllewin Affrica. Hwyliodd o Lerpwl pryn- hawn dydd Mercher. Mae wedi gwas- anaethu tair blynedd yn Affrica o'r blaen, a dymunaf bob llwyddiant iddo. Cadwyd Gwyl Ddewi mewn ffordd ddymunol iawn dydd Llun yr wythnos ddiweddaf gan blant bychain ysgol ddyddiol Clydach, o dan arweiniad y fonesig ieuanc Emily Morgan, ysgol- feistres. Aeth y plant trwy raglen wladgarol a diddorol. Credaf fod dyfodol disglaer ar wawrio i Gymru, oherwydd fod plant y genedl yn awr yn cael eu codi i fyny yng nghym- deithas pethau eu gwlad. Cynhaliwyd y nawfed giniaw Wyl Ddewi yng N gwesty y Glowyr, Tre- banos, nos Lun yr wythnos ddiweddaf. Diolch i ddarpariad Mr a Mrs Wil- liam Jenkins, gwestywr a'r westy- wraig, cawd gwledd neillduol o dda. Llywyddodd y Bonheddwr Evan Lewis. M. E., Glais. Daethai tua 80 ynghyd. Dafydd Roderick, o Glydach, gynhygiodd y prif lwncdestun, Dewi Sant, mewn araith hyawdl a gwladgar. Credaf er hynny mai gwell fyddai cadw coffa Dewi Sant allan o'r tafarn- dai. Nid cydnaws a choffa Dewi yw awyrgylch y lie. Daeth y ffair ar ei thro i Glydach yr wythnos ddiweddaf, ond ofer ydyw galw ffair ar bebyll gyn lleied mewn nifer a gwasanaeth. Yr unig beth o werth ynglyn a'r ffair haner-blynyddol hon ydyw'r fasnach wlanen. Gallem fyw heb y cwbl arall oedd yno. LLEW. I
Ton, Ystrad, Rhondda. I
Ton, Ystrad, Rhondda. I Llwyddiant Bachgen o Aberdar. I Llongyfarchwn Mr. Ivor Jones, mab hynaf Mr a Mrs. T. G. Jones, clerc dir- prwyol Cyngor y Rhondda, ar ei ffawd ym myned trwy Matriculation Prif Ys- gol Llundain yn y dosbarth cyntaf. Y mae Mr Jones yn bresennol yn efrydu yn Ysgol y Sir, Towyn, Meirionydd. Llwyddiant iddo i fyned rhagddo.
Treforis. !
Treforis. Dr. Griffith John. I Bore Llun, Mawrth 2, cynhaliwyd cyf- arfod yn Ysgoldy'r Merched, Pentre- poeth, i ddadorchuddio darlun gwych o'r diweddar genhadwr enwog Dr. Griffith John. Anrhegwyd yr ysgol a'r darlun gan y foneddiges hael a char- edig, Mrs. H. D. Williams, Treforis (Gwarcheidwraig). Cafwyd canu ac adrodd ac ami i berfformiad bach tlws gan y plant. Mor fraf yw byd y plant heddyw, ac mor wych ydyw arnynt wrth yr hyn ydoedd gynt a ni yr ysgolia. Gwnawd y gwaith o ddadorchuddio'r darlun hardd gan y Parch. D. Picton Evans, M.A., a rhoddodd nodiadau gwerthfawr i ni ar fywyd y cenhadwr byd-enwog. Diolchwyd yn gynnes i Mrs. Williams am rodd mor werthfawr i ysgol y plant gan y Parchn. D. E. Thomas (Bethania) a M. G. Dawkins (Carmel). Llywyddwyd gan W. Sal- mon (Horeb). Dygwyl Dewi. I Ni chafodd dydd Sant y Cymry ei ddathlu yn gynhesach na gwell mi gredaf yn un man yn y Dywysogaeth nag yn Nhreforis. Gwelsom nodiadau am Carmal a Horeb. Dechreuwyd y dathlu yn y lie cyntaf trwy gwpanaid gre' gynnes o de. Yn yr hwyr cynhal- iwyd cyngerdd. Cafwyd adroddiadau a chanu yn llawn gwladgarwch brwd. Hyfryd oedd gwrando'r plant yn canu hen alawon Cymreig. Mr John Hop- kins, Plagmarl, roddodd i ni eleni hanes Dewi Sant. Anerchiad cryno a thaclus, a'i ddweyd yn dda. Diolchwyd i Mr Hopkins a'r lleill. ac hefyd l Mrs. David Harris am lywyddu, gan y gwein- idog (Parch. M. G. Dawkins) eiliwyd a chefnogwyd gan Meistri M. R. Jones (Penbryn) a W. J. Williams. Cynhaliodd yr eglwys uchod gyfar- fodydd chwarterol ei Hysgol Sul y Sab- bath diweddaf. I Horeb. I Cynhaliwyd cyfarfod godidog yn y capel uchod i ddathlu Dygwyl Dewi. Llywyddwyd gan Mr J. Thomas. Siar- adwyd gan y Parch. W. Salmon Mr J. Thomas a Mr W. Davies (ysgolfeistr). Cafwyd darnau gan y cor, dan arwein- iad Mr S. Shipton. Cymerwyd rhan hefyd mewn adrodd a chanu gan Mrs. D. Jones a Mrs. Thomas, Misses Olwen Salmon, E. Thompson, Wyn a A. F. Davies, Meistri E. Evans a L. Hill. Masnachu ar y Sabbath. I Nos Fercher, yn Festri'r Tabernacl, cynhaliwyd pwyllgor yn cynwys cyn- rychiolaeth gref o Eglwysi Rhydd ein tref i ystyried y mater o geisio atal masnachu ar y Sabbath. Siaradwyd yn nglyn a dysgu a goleuo y plant a'r bobl ieuainc yn yr Ysgolion Sul ar y mater o gadw yn Sanctaidd y dydd Sab- bath. Dewiswyd hefyd rai i drefnu ar gyfer cynnal cyfarfod o'r holl eglwysi i wneud gwrthdystiad cryf yn erbyn gwneud un math o fasnach, ac mor bell ag y gellir mor lleied o waith ag sydd bosibl ar Ddydd yr Arglwydd. Paroh. W. Emlyn Jones. I Blin genym hysbysu fod yr Anwyl Em- lyn Jones, hybarch weinidog y Taber- nacl, yn parhau yn wael ei iechyd. Am droB y 40ain mlynedd hyn y bu ef yn weinidog ac arweinydd yn ein tref. Yng Nghartref-Ysbytty Dr. Brook yn Abertawe y mae ar hyn o bryd yn aros gweithred law-feddygol, ac o dan yr am- gylchiadau y mae gystal ag y gellir dis- gwyl ei fod. Gweddi Treforis yw iddo gael adferiad llwyr a buan, ac hefyd i ni gael ei gadw yn ein mysg afcn lawer blwyddyn eto. = GOH. I
Nodion Min y Ffordd. I
Nodion Min y Ffordd. I GAN EOS RAFOD. I Diwedd yr wythnos ddiweddaf cyn- haliwyd dwy gyngherdd yn nghapel y Tabernacl Seisnig (B.), Ystrad, Rhon- dda. Perfformiwyd y gantawd, "The Crown of the Year (" Coron y Flwyddyn ") gan y Gobeithlu. Mr Jas. Lloyd Evans oedd yr arweinydd, a chwareuwyd y berdoneg gan Miss 01- wen Evans, Ystrad, a llanwyd y gadair lywyddol gan Miss Mason, Gelli, nos Iau, a hwyr Sadwrn gan Mr U. 1l. Ed- wards. Dilynwyd y perfformiad a phrwygraipht amrywiol-talentau lleol yn cymeryd rhan. Cafwyd canu da, a gwrandawodd cynhulliadau astud gyda bias. Dydd Gwyl Dewi cynhaliwyd cyfar- fod cystadleuol yn Festri Capel Bod- ringallt, y Parch. T. D. Jones, y gwein- idog, yn Ilywyddu. Beirniad y canu oedd Mr Wm. Williams (Alaw Machno), a'r gwaith celfyddydol, Mrs. Jones, Bodringallt Villa, a Miss Ada Thomas, Ton. Neillduwyd y cyfarfod i blant, ac yr oedd o dan nawdd Cymreigyddion y cylch. Daeth cynulliad deallus yn nghyd, a chafwyd hwyl ar glywed meddwl yr hyn oedd ar yr hysbyslen, sef "Dygwyl Dewi'r Plant." Yr ys- grifenydd Ileol oedd Mr Jonathan Thomas, Bryn Terrace. Clywais i amryw fwynhau awelon iachus ac adfywiol y mynydd dechreu yr wythnos. Cymerasant fantais ar y nawnddydd dathlu cof Sant Dewi. Rhwng y golygfeydd a thrydar adar cafwyd oriau adfywiol i gorph a meddwl. Os am iechyd i'r mynydd am dro yn awr ac eilwaith wna help i sicr- hau hyny yn ddiamheuol. Cynygir gwobrwyon yn achlysurol am y casgliad goreu o flodau y maes yn ogystal a'r lawnt. Mae hyn yn gloewi y meddwl i weled gwerth ar bethau wna bywyd yn felusach i'w dreulio. Der- bynia plant wersi ar waith Natur yn y cyfeiriad tra diddorol hwn. Eglurir eu cyfansoddiad a diben eu tyfiant. Parodd ystyr "Y Ddraig Goch" lawer o drafferth i rai wybod beth feddylia. Clywais un yn dyweud iddi fod mewn gwrthryfel a'r 'Ddraig Wen,' ond mai y blaenaf fuddugoliaethodd. Gan nad beth am y dybiaeth hon, byddai'n wybodaeth cael eglurhad cyflawn ar y ddiareb adnabyddus, "Y Ddraig Goch a ddyrry gychwyn." Hy- derwn y cawn hyn. Cyffyrddwyd fi gan sylw wnaeth bon- eddwr o ddysg a dylanwad y dydd o'r blaen. Awgrymodd fod Gobeithluoedd yn gwneud daioni i ledaeniad sobrwydd. Hyn yw fy mhrofiad er's blynyddau lawer. Mae arfer plant i ddysgu pen- hillion chwaethus ac addysgiadol, ac wedi eu priodi a cherddoriaeth briodol o dan rwymau i adael argraph bur ar eu meddyliau. Agorwyd ysgol ddyddiol newydd Craig-yr-Eos dydd Llun diweddaf. Y prif athraw a'r athrawesau ydynt: A.dran y bechgyn, Mr John Rowland Jones merched, Miss C. Morgan, Tony- pandy; babanod, Mrs. Davies. Olyn- ydd Mr Jones yn Williamstown fydd Mr Tom Jones, Dunraven, Treherbert; a chymer Mr Gwilym Ithel Thomas, mab Mr Wm. Thomas, yr arweinydd brein- iol, Treorchy, ei le yntau; a Mrs. Har- ries, gweddw y diweddar Barch. T. Harries, Ficer Llanwyno, i lanw y cylch wnaed gan Miss Morgan. Mrs. Hop- kins yw prif athrawes Ysgol Bajbanod (Infants) Williamstown. Maent yn athrawon ac athrawesau adnabyddus, ac wedi llafurio yn eu cylchoedd PWYSlg a defnyddiol am hir flynyddau yn ngwa8anaeth Cynghor Dosbarthol y Rhondda. Gobeithiwn y gwna y rhieni yn fawr o'r cyfleusderau estynir iddynt a'u plant.
Llansamlet.I
Llansamlet. I Nos Fercher diweddaf, Mawrth 4, 1914, cyfarfu Cyngor Plwyf Llansamlet yn Ysgoldy Peniel Green. Ar ol gorffen y pethau rhagarweiniol arferol, hysbys- odd y Cynghorwr Jos. Weaver fod gweithwyr y Cwm a Bonymaen yn cael trafferth dirfawr wrth geisio myn'd at eu gorchwylion, o herwydd fod Cwmni Ffordd Haiarn y Midland yn gadael try-piau yn groes i'r llwybr arweinia i'r gweithau ar yr ochr arall i'r llinell. —Cadarnhawyd hyn gan y Cynghorwyr T. J. Bodycombe a Benj. Jenkins.—Ym- driniwyd a'r mater am beth amser, a barn y Cyngor oedd, gan fod y rhan yna yn nhiriogaeth Cyngor Tref Aber- tawe, mai gwell fyddai i'r Cynghorwyr lleol siarad a chynrychiolwyr yr East Ward i gael' gwel'd a allent hwy wneud rhywbeth. Yna darllenwyd llythyr dderbyniwyd oddiwrth Gwmni y Midland Railway yti hysbysu y Cyngor fod arnynt eisieu y tir hwnnw ym Mheniel Green sydd yn eiddo y plwyfolion, er gwneud eu Rheil- ffordd newydd i'r King's Dock, Aber- tawe. Mesura y tir oddeutu naw perc, a chan ei fod ar ochr yr heol fawr, yn gwynebu pedair heol, ac yn fan hynod o gyfleus, y mae o werth amhrisiadwy, a cholled i'r plwyf yw fod deddf yn gor- fodi y Cyngor i'w werthu. Ar ol peth rhydd-ymddiddan cynhygiodd y Cyng- horwr Aneuryn Rees, Glais, fod y Cyngor yn gofyn hyn a hyn am y llecyn (nododd swm uchel fel ag i ddiogelu buddiannau y plwyfolion) ac eiliwyd ef gan y Cynghorwr Wm. John.—Cyn- hygiodd yCynghorwr Weaver, ac eil- iwyd ef gan Cynghorwr James Morris, Birchgrove, fod y pris i'w benderfynu gan bwyllgor by chan ynghyd a chyf- reithiwr.—Cariodd y gwelliant, ac ap- pwyntiwyd yr aelodau canlynol ar y pwyllgor: Y Cadeirydd (Mr D. Gre- gory), Mri. Joseph Weaver, T. J. Body- combe, a James Morris, i gydweithredu a'r cyfreithiwr (Mr Saunders Griffiths, Llansamlet) Wedi hyn, ceisiodd Cadeirydd y Foot- paths Committee (Mr Thos. Morgan) awdurdod i adgyweirio y droedffordd o'r Trallwn i'r Orsaf; hefyd adgyweirio troed-ffyrdd ereill.Cynhyrfodd y cais hwn y Cynghorwr James Morris i'w waelodion. Aeth fel mynydd tanllyd; agorodd ei enau, daeth y lava allan a gofynai a lief uchel-Paham nad oedd y Cadeirydd wedi galw y pwyllgor ynghyd at y pwrpas 7 Nid oedd y cadeirydd wedi galw y pwyllgor ynghyd er's misoedd lawer; a oedd y gwaith i fod yn nwylaw y cadeirydd yn unig, a thrwy hynny i bethau fynd yn anniben 1 "NR" gwaeddai Mr Morris "Na ad- seiniai y Cyngor. Felly, yng ngwyneb y rhyferthwy hyn rhaid i Mr. Morgan alw ei bwyllgor bach ynghyd cyn y ca awdurdod i adgyweirio y troedffyrdd. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Cynghorwr David Evans, Pwll-y-Cwm, yn ei gystudd. Boreu Mercher, Mawrth 4, bu Mr J. E. Pughe Jones, Archwiliwr y bwrdd Llywodraeth Lleol, yn archwilio cyfrifon Plwyf Llansamlet. Ymddanghosodd yr overseers canlynol o'i flaen: IT enadur J. Jordan, Parcyderi Mri. C. B. Grif- fiths, Bonymaen, ac Aneuryn Rees, Clais; hefyd. Mr Meredydd Rees, poor rate collector, a Mr T. T. Rees, assist- ant overseer. Gwnaeth yr archwiliwr lawer o sylwadau buddiol ar y cyfrifon. a dywedai fod y cwbl yn eithaf cywir, oddieithr y man daliadau i'r rate col- lector a'r assistant overseer. Ni wnai ganiatau talu unrhyw arian i'r assist- ant overseer ar wahan i'w gyflog, oher- wydd fod cofnodiad y Cyngor Plwyf yn dweyd yn bendant mai y gyflog yw £100, i gynnwys popeth, felly ni chyd- syniai a thalu am y gwaith o gyhoeddi rate notices, etc. Tystiai ei fod yn ben- derfynol o ddodi ei droed lawr ar y man daliadau, gan nas gallasai y treth- dalwyr fyth ddyfod i wybod beth mae swyddogion yn gostio iddynt os goddefir taliadau bychain i chwyddo cyflogau. Awgrymai hefyd mai budd- iol fyddai i'r Cyngor Plwyf ddeffinio yn fanwl ddyledswyddau y disgwylir i'r assistant overseer eu cyflawni, rhag iddynt orlapio y rhai hynny gyflawnir gan y poor rate collector, gan fod y ddeddf yn rhwymo y poor rate collector i wneud popeth ynglyn a chasgliad y poor rate. MELANOCHIAD. I
Dioddef wrth Fwyta. I
Dioddef wrth Fwyta. I TABLEDI DR. CASSELL I Yn Llwyr Wella Diffyg Traul Gieuol I Prawf yr hanes anarferol a ganlyn unwaith eto y gall Tabledi Dr. Cassell adfer nerth a iechyd i ddynion, a menywod sy'n dioddef oddiwrth ddiffyg traul, a gwendid gieuol. Dywedai Mrs Eliza- beth Hammond, o Lanhennock, Caer- lleon, ger Casnew- ydd, Mynwy, wrth siarad ag ymholydd yn ddiweddar: Gwell- haodd Tabledi Dr. Cassell fi pan oeddwn wedi difa nes nad oeddwn ddim ond cysgod, ac mor ddi- nerth fel o'r braidd Mrs. Elizabeth Hammond. y gallwn symud. Aeth hyn ymlaen am naw mlynedd, er i mi fod gyda doctor- iaid ac mewn ysbyty. Nid oeddwn byth yn rhydd oddiwrth diffyg traul, a hwnnw mor llym fel yr ofnwn fwyd. Achosai pojb tamaid a fwytawn boen arteithiol yn fy nghest hyd nes y taflwn y cwbl i fyny. Wrth gwrs yr oeddwn yn difa. ymaith. Arferwn orwedd yn llwyr luddedig ar esmwyth-fainc am oriau. Yr oedd cur ofnadwy yn fy mhen, ac nis gallwn gysgu'r nos. Tybiwn fod y gwely'n siglo o danaf. Yr oeddwn yn rhwym iawn hefyd. Yr oeddwn yn barod i waeddu, a theimlwn yn sicr fod fy niwedd yn agos. Tua thri mis yn ol mynnodd cyfaill i mi rai o Dabledi Dr. Cassell, ac ar y dogn cyntaf gwellais yn raddol. Yr wyf heddyw mor iach a chryf ag y bum erioed. Y mae gwellhad ar ol gwellhad, hyd yn oed yn yr achosion mwyaf eithafol, wedi profi mai Tabledi Dr. Cassell yw y j feddyginiaeth sicraf a ddyfeisiwyd at Fethiant y Nerves, Tlodi Gwaed, Gwendid, Diffyg Cwsg, Poen Giau, Curiad y Galon, Afreoleiddiwch y Stumog a'r Arennau, Gwendid Plant, Parlysiad y Cefn a'r Giau, Dihysbydd- iad Cyffredinol o Nerth y Corff, Lludded yr Ymenydd, a phob math ar fethiant yn y cyflwr. Anfoner 2g. heddyw i Dr. Cassell's Co., Ltd., 418 Chester Road, Manchester, am sampl rhad. Gwerthir y Tabledi gan yr holl Fferyllwyr am lOic., Is. lie., a 2s. 9c.—y maent olaf yw y rhataf yn y diwedd. fru. L"
Colofn y Beirdd. I
Colofn y Beirdd. I Anfoned ein cyfeillion barddol eu I cynyrchion i'r Hendre, I Pontypridd. I
[No title]
TELYNEGION. I Y Cwmwl. I Crwydryn yr eangder Wyt ti, gwmwl glan, Droion mae dy wynder Fel yr eira man. Harddwch y wybremiau Pan mae'th wedd yn wyn, Daw dy ogoniana II Lawr i wyneb llyn. Beunydd ar dy ymdaith Er heb ffyrdd tiweli Ben, Tefli dlws amrywiaeth Fryar lesni nen. Prydferth yw'th ymylon, Pan mae'r haul o'th ol, Yna daw cysgodion Lawr i wyneb dol. Parod wyt i wgu, Er yn gwmwl hedd, Pan daw gwlaw i'th lethu Daw'th fygythiol wedd. Ond nid hir y ceidw Drem dy wedd yn gas, Buan try yn elw Dros y dyffryn bras. Wyli dros y dolydd Yn y gawod w law, Y na iraidd gynydd Welir maes o law. Wedi colli'r dagrau— 'Doi yn wyn o hyd, Digon gwyn i'r Mcichiau Ynot adael byd. Y Dyffryn. I Ddyff ryii, eartref tlysni, 'Rwyt yn llawn o SAA-yn, Ynot tyf y lili N'wylaidd rhwng y brwyn. Bonan mewn mawrhydi, Megis gwvlwyr net, Sy'n dy ddiogeli Hhag ystorom gref. Gwisgi mewn prydi'erthwch Yn ngwyrddlesni hardd, Blodau yn eu tegweh Ar dy wyneh chwardd. Gerddi yn eu hir-dwf, Llnniaetli yn mhob llwyn, Meusydd yn eu llawndwf, Blvg dan aw el fwyn. Adsain cor asgellog Lwyr wefreiddia'th fro, Bendith yw i ddiog Ddod i'w glyw am dro. Gwyn yw'th hafaidd forau Cyn i chwys y nos, y Megis dysglaer berlau Adael gruddiau'r rhos. Heddwch yn y dyffryn, Medd y gornant fach, Wedi golchi'r dibyn Ar dy lechwedd iach. Tawel yr ymlwybra Pan y daw trwy'r brwyn, Fel pe ar ei heitha 'N disychedu'r wyn. Drwy dy froydd breieion, Lloergan uwch fy mhen, Carwn tyned droion Pan yng nghwmni Gwen. Gwenaist yn y perthi, Drwy y blodau gwyn; R'heiny vn arogli Er eu bod bod mewn glyn. Gorlawn o gyfaredd Wyt ti, ddyffryn glan, Ffrydlif o gynghanedd Ddaw o'th swynol gan.. Pan y dwys fyfyriaf, Daw adgofion fyrdd Am hen fwth anwylaf Yn y dyffryn gwyrdd. Y Lloer. 0 belen hardd, arianaidd, A'th Iwybrau yn y nen, Wyt hynod dlos genhades nos, A'th lewyrch uwch fy mhen. Pan gilia gwawl yr heulwen Gan wrido'r gorwel pell, Daw'th wyneb di yn nosawi fri I ddilya ol dy "well." 4for deg yw'th wel'd yn codi Trwy'r deilios yn y coed, Genhades hedd, yn lion dy wedd Pan fyddi mewn llawn oed. Trwy dduwch nos gaddugawl, Daw'th lewyrchiadau clir, I lonni pant a gloewi nant, A mwyniant dros y tir. Edrychi mor urddasol Dros donnau geirwon aig, Nes gwel y gwyr y ffordd yn giir Rhag cribau erch y graig. Os awn am dro i'r llynnoedd Ar hyd wastadedd hedd, Heb grychni ton, cawn yma'n lion Dy ddelw ar eu gwedd. Pan weni ar y barug, Daw'n addurn, er yn oer, Fe dry ei liw, fel anian byw Dan lewyrchiadau'r lloer. o belen ddysglaer hawddgar, Ter lusern wyt mewn nos, Sawl crw,ydryn blin, pan ar ei fin Aehubaist rhag y ffoe. Y LII. Rwyfus for, paham na chysgi? Ar dy wely 'rwyt o hyd, P'am yr wyt yn aflonyddu Fel y gwnei, er dechreu'r byd? Llanw, llanw trai a llanw,— Beth yw hyn sydd genyt ti ? Yn dy hedd, ac yn dy ferw, 'Rwyt yn mhell o'n deall ni. D'wed y gragen ar dy draethell Beth cyfrinion yn ei hiaith, D'wed yn groew heb ei chymhell Fod dy stori di yn faith. Dyfnder ar ol dyfnder waedda, Wedi un, daw arall ddor,— Nid oes dyn, ond Duw a fedra Ddeall gyfrinachau'r mor. Cartref holl lifogydd mawrion A rhaiadrau ydwyt ti,— D'wed y gornant fach a'r afon Ar eu teithiau,—" mor i ni." Yn echryslawn rhwysg y donnau Gwelwn fawredd ar ei sedd, Yn rhoi her i fyrdd o oesau I wneyd olion ar dy wedd. Treigla li ardderchog Yn y lleddf a'r lion, Canwn wrth dy farchog, Am fod Duw mewn ton. Cilfynydd. T. ISAAC. "Y DARIAN." Boed urddas ar y Darian Fel yn y dyddiau gynt, Ei 'stori fyw fo'n hofran Ar edyn am y gwynt; Ei neges fyth fo codi Y werin ar ei thraed, .Ac arUwys ei goleuni Ar lwybrau'r trais a gwaed. Sirioled ei cholofnau Aelwydydd trist ein gwlad, Ucheled bo'i Delfrydau Nes difa twyll a brad; Yn foesgar bo'i hanesion, A gloyw byth fo'i lien, Gwasgared ei gobeithion Dros Iwybrau llwm yr "Hen." Dadleuid hawliau'r werin- A honno'n werin lan, Ei breuddwyd fo'n ddilychwin A moeseg yn ei chan; Amddiffyn fo i'r truan Dan drais a gormes byd, I'r werin byth bydd Darian" A'th nef fo h(-(Id o hyd. Rho hergwd i "gyfalaf A waeda'r wlad a'i draid, Paid gwrando'r "cyfoethocaf," A bod yn fyw i'w gais; Rho glust i angen tlodi PIe hynag gwell ef, Bydd hynny'n wir oleuni A darn o wynfyd nef. Paid Uadd "Prophwydi'r gole," Mae hynny'n ladd y gwir, Ond cofia ddod a'r gore O hyd i harddu'r tir; Gwel ddyn yng ngole'r nefoedd Beth bynag fyddo'i liw, Am drais y byd mae gwisgoedd Sy'n gwneud calonau'n friw.. O'th gyich mae gwerin Cymru A'i lien a'i barddas fyw, Os gelli cofia'i charu Er codi dynolryw; Dal ar dy euraidd gyfle- Llysg lyffetheiriau trais, Mae'n bryd i'r byd gael gole— Gwrandewir ar dy lais. Fy NgM aiia Cofia dithau Yng nghanol niirir Sais, Fod gan dy blant eu hawliau, A'th "Darian" dd'wed eu cais; Rho ole ar eu llwybrau, Cei barch wrth garu' r gwir, Bydd ffyddlon i'w heneidiau Gwel waed yn cochi'th dir. Gadlys, Aberdare. D. BASSETT. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Oo., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street. Aberdare, in the County of Glamorgan.